|
|
Canlyniadau’r Profion
Cenedlaethol
Mae
canlyniadau Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol 2016 ar gael nawr i ysgolion
uwchradd, ysgolion canol ac ysgolion arbennig eu lawrlwytho.
|
|
|
Mae’r
dogfennau a fydd ar gael i esbonio canlyniadau’r Profion Cenedlaethol, gan
gynnwys y tablau “Cyfrifo Sgoriau Dysgwyr”, templed Taflen Canlyniadau’r
Disgyblion a chyfrifiannell oedran, ar gael nawr ar wefan Dysgu Cymru.
|
|
|
Rydyn ni wedi
cynhyrchu ffilm fer wedi’i hanimeiddio fel canllaw i rieni/gofalwyr i esbonio
adroddiadau’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol. Bydd dolen i’r ffilm yn
cael ei chynnwys ar daflen canlyniadau’r disgyblion ond mae’n bosib hefyd y
byddwch am ei rhoi ar wefan eich ysgol.
|
Profion Cenedlaethol 2017
Mae dyddiadau Profion Cenedlaethol 2017 wedi’u pennu fel a ganlyn:
-
Ysgolion Uwchradd: 26 Ebrill – 10 Mai 2017
-
Ysgolion Cynradd: 3 – 10 Mai 2017
-
Ysgolion Canol: 26 Ebrill – 10 Mai 2017
Kirsty
Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
‘Cafodd hysbysiadau eu cyflwyno gan bob un o’r 22 o
awdurdodau lleol i ddweud pa ddyddiadau y maent yn cynnig eu pennu ar gyfer
2017/18. Hefyd daeth gwybodaeth i law ar ran 127 o ysgolion gwirfoddol a
gynorthwyir ac ysgolion sefydledig, sef cynnydd sylweddol ar yr 81 y daeth
gwybodaeth i law ar eu rhan y flwyddyn gynt...’
Caiff pob ysgol
uwchradd gopïau cyfeirnod yr wythnos hon.
Lanlwythwch y PDF neu rhannwch y dolen iddo ar wefan eich
ysgol a’i rannu yn eich cyfathrebiadau.
Mae’r canllaw i rieni a gofalwyr yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol sy’n
berthnasol i’r lleoliad ysgol ac mae hefyd yn rhoi syniadau i rieni a gofalwyr
am sut i helpu eu plant a ble ac egluro sut caiff datblygiad ei fesur a’i
adrodd. Os hoffech fwy o gopïau caled Cymraeg a Saesneg cysylltwch â epscomms@cymru.gsi.gov.uk
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gwahodd ceisiadau am 2017-18 gan ysgolion â phlant gwasanaeth y mae eu rhieni sy’n symudedd yn aml ac adleoli. Y dyddiad cau am ceisiadau yw 30 Medi 2016. Hon yw'r flwyddyn olaf y gronfa sydd yn agored i bob ysgol a gynhelir ar draws y DU.
Mae’r Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig i gyhoeddi bod y crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad bellach ar gael. Darllenwch y datganiad yma
Cynigion ar gyfer modelau ffïoedd cofrestru i’w defnyddio
gan Gyngor y Gweithlu Addysg o 1 Ebrill 2017 ymlaen.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynigion i roi
hyblygrwydd i gyrff llywodraethu benodi llywodraethwyr sydd â sgiliau y mae eu
hangen i fod yn effeithiol ac i bennu eu cyfansoddiad i ddiwallu eu hanghenion
penodol. ‘Mae cyrff llywodraethu
ysgolion yn rhan hanfodol o lwyddiant ein hysgolion. Y nhw sy'n gosod y trywydd
ar gyfer yr ysgol, ac yn dwyn y pennaeth i gyfrif am berfformiad addysgol ac
ariannol yr ysgol...’ Datganiad
Ysgrifenedig - Newidiadau i fframwaith deddfwriaethol llywodraethu
ysgolion a Datganiad i'r wasg
Dros y flwyddyn ddiwethaf
rydyn ni wedi gweld cynnydd enfawr yn y nifer sydd wedi tanysgrifio i'n
e-gylchlythyrau, felly roedden ni'n meddwl y byddai'n gyfle gwych i ni gasglu
eich barn o ran sut gallwn ni wella'r cylchlythyr. Rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n darparu'r
wybodaeth iawn, yn y fformat gorau, ar yr adeg gywir. Cymerwch funud neu ddwy i
gwblhau ein harolwg. Mae'n ddienw ac mae'ch adborth yn bwysig iawn i ni.
Y Cyngor Dysgu
Digidol Cenedlaethol
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu penodi Cadeirydd ac
aelodau newydd i drydydd tymor y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol
Os oes ddiddordeb gennych mewn gwneud cais, gallwch ddod
o hyd i ragor o wybodaeth drwy wefan www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch gyda’n Desg Gymorth
Cyd-wasanaethau ar 029 2082 5454 neu drwy e-bostio DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk
Y Gronfa Gwella Ansawdd 2015-16
Drwy ein rhaglen Buddsoddi mewn Ansawdd cynigiwyd arian i
helpu darparwyr dysgu seiliedig ar waith i gydweithio ar brosiectau sy’n anelu
at wella ansawdd addysgu a dysgu. Mae’r adnoddau a’r adroddiadau terfynol
bellach ar gael ar Dysgu
Cymru.
Adnoddau Rhestr Chwarae Hun-luniau a Secstio Newydd – Nawr ar
gael ar Hwb.
Mae adnoddau newydd nawr ar gael ar Hwb ar
gyfer athrawon cynradd ac uwchradd ac i ddysgwyr. Mae’r adnoddau yn caniatáu trafodaethau am
faterion diogelu o amgylch Hun-luniau
a Secstio. Cliciwch
yma am ragor o wybodaeth.
Adnoddau Euro 2016
Mae
pencampwriaeth Ewro 2016 wedi bod yn llwyddiant mawr i Gymru. Gallwch fanteisio
ar y cyffro yn eich ystafell ddosbarth wrth ddefnyddio ein dewis o adnoddau ar
thema pêl-droed ar Hwb.
NEWYDD: Digwyddiadau
diweddaru rhanbarthol 360 Degree Safe Cymru
Cynhelir
digwyddiadau rhanbarthol 360 safe Cymru ledled Cymru ym mis Medi. Bydd y digwyddiadau
hyn yn canolbwyntio ar y nodweddion rydym wedi’u diweddaru ar gyfer yr adnodd
e-Ddiogelwch hwn i ysgolion. Dyddiadau: 26 – 29 Medi yng Nghasnewydd,
Pen-y-bont ar Ogwr, Caerfyrddin a Chonwy. Archebwch nawr!
Blogio
yn Hwb+
Ydych chi'n
cynllunio taith ysgol y tymor hwn? Beth am annog eich disgyblion i ddefnyddio
Hwb+ i flogio am eu profiadau?
Gall disgyblion ysgrifennu blogiau a'u postio ar wefan
gyhoeddus Hwb+ eich ysgol, er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'w rhieni am
yr hyn y maent wedi bod yn ei wneud. Neu, gellir postio blogiau ar safleoedd
dosbarth, pwnc neu flwyddyn yn Hwb+ a'u defnyddio fel pwyntiau trafod pan
fyddwch yn dychwelyd i'r dosbarth. I gael rhagor o syniadau ar ddefnyddio
blogiau, ewch i dudalennau cymorth Hwb+ yn
Ydych chi’n
meddwl am sut i wreiddio’r fframwaith Sgiliau Ehangach neu Cymhwysder Digidol
yn eich dysgu?
Mae’r British
Council yn cynnig 2 cwrs Datblygiad Proffesiynol ar draws Gymru: Addysgu Meddwl
yn Feirniadol a Datrys Problemau a Cymhwysder Digidol. Maent ar gael yng
Nghymraeg neu Saesneg, a bydd athrawon sy’n cymryd rhan yn gallu ceisio am
£3,000 i gymryd rhan mewn teithiau astudio rhyngwladol. Ymrestrwch am gyrsiau Hydref yma
Mae British
Council Cymru a’r Ymddiriedolaeth Datblygu Addysg wedi cyhoeddi ail arolwg
cenedlaethol ar addysgu ieithoedd tramor modern mewn ysgolion uwchradd yng
Nghymru - Tueddiadau Iaith Cymru 2016.
Rydym yn
gobeithio y bydd yr e-fwletin diweddaraf gan Lywodraethwyr Cymru o ddiddordeb i
chi ac yn addysgiadol. Mae yna tua 21,500 o lywodraethwyr yng Nghymru, fe
fyddai’n dda o beth meddwl bod pob llywodraethwr ar ein rhestr bostio, felly
lledaenwch y neges ymysg eich cydweithwyr …! Ymunwch â’r rhestr bostio
trwy’r http://eepurl.com/bz3m4T
|