eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 5 Gorffennaf 2016 (Rhifyn 465)

5 Gorffennaf 2016 • Rhifyn 465

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

classroomtest 1

Canlyniadau’r Profion Cenedlaethol

Mae canlyniadau Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol 2016 ar gael nawr i ysgolion uwchradd, ysgolion canol ac ysgolion arbennig eu lawrlwytho.

Tests130130 9

Adrodd ar Ganlyniadau’r Profion Cenedlaethol

Mae’r dogfennau a fydd ar gael i esbonio canlyniadau’r Profion Cenedlaethol, gan gynnwys y tablau “Cyfrifo Sgoriau Dysgwyr”, templed Taflen Canlyniadau’r Disgyblion a chyfrifiannell oedran, ar gael nawr ar wefan Dysgu Cymru.

NRNTExplainer

Dadansoddi canlyniadau’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol – canllaw wedi’i animeiddio ar gyfer rhieni/gofalwyr

Rydyn ni wedi cynhyrchu ffilm fer wedi’i hanimeiddio fel canllaw i rieni/gofalwyr i esbonio adroddiadau’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol. Bydd dolen i’r ffilm yn cael ei chynnwys ar daflen canlyniadau’r disgyblion ond mae’n bosib hefyd y byddwch am ei rhoi ar wefan eich ysgol.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Profion Cenedlaethol 2017

Mae dyddiadau Profion Cenedlaethol 2017 wedi’u pennu fel a ganlyn:

  • Ysgolion Uwchradd: 26 Ebrill – 10 Mai 2017
  • Ysgolion Cynradd: 3 – 10 Mai 2017
  • Ysgolion Canol: 26 Ebrill – 10 Mai 2017

Datganiad Ysgrifenedig - Dyddiadau tymhorau ysgol 2017/18

Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

‘Cafodd hysbysiadau eu cyflwyno gan bob un o’r 22 o awdurdodau lleol i ddweud pa ddyddiadau y maent yn cynnig eu pennu ar gyfer 2017/18. Hefyd daeth gwybodaeth i law ar ran 127 o ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig, sef cynnydd sylweddol ar yr 81 y daeth gwybodaeth i law ar eu rhan y flwyddyn gynt...’

'Sut oedd yr Ysgol heddiw?' Canllaw i rieni a gofalwyr ysgolion uwchradd wedi’i ddiwygio!

Caiff pob ysgol uwchradd gopïau cyfeirnod yr wythnos hon.  Lanlwythwch y PDF neu rhannwch y dolen iddo ar wefan eich ysgol a’i rannu yn eich cyfathrebiadau.  Mae’r canllaw i rieni a gofalwyr yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol sy’n berthnasol i’r lleoliad ysgol ac mae hefyd yn rhoi syniadau i rieni a gofalwyr am sut i helpu eu plant a ble ac egluro sut caiff datblygiad ei fesur a’i adrodd. Os hoffech fwy o gopïau caled Cymraeg a Saesneg cysylltwch â epscomms@cymru.gsi.gov.uk

Cronfa Cymorth Addysg 2017-18 Y Weinyddiaeth Amddiffyn – ar agor bellach  (Saesneg yn unig)

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gwahodd ceisiadau am 2017-18 gan ysgolion â phlant gwasanaeth y mae eu rhieni sy’n symudedd yn aml ac adleoli.  Y dyddiad cau am ceisiadau yw 30 Medi 2016.  Hon yw'r flwyddyn olaf y gronfa sydd yn agored i bob ysgol a gynhelir ar draws y DU.

Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) - Crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad

Mae’r Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig i gyhoeddi bod y crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad bellach ar gael. Darllenwch y datganiad yma

Ymgynghori - Ffïoedd cofrestru ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru (2017)

Cynigion ar gyfer modelau ffïoedd cofrestru i’w defnyddio gan Gyngor y Gweithlu Addysg o 1 Ebrill 2017 ymlaen.

Newidiadau i fframwaith deddfwriaethol llywodraethu ysgolion

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynigion i roi hyblygrwydd i gyrff llywodraethu benodi llywodraethwyr sydd â sgiliau y mae eu hangen i fod yn effeithiol ac i bennu eu cyfansoddiad i ddiwallu eu hanghenion penodol.  ‘Mae cyrff llywodraethu ysgolion yn rhan hanfodol o lwyddiant ein hysgolion. Y nhw sy'n gosod y trywydd ar gyfer yr ysgol, ac yn dwyn y pennaeth i gyfrif am berfformiad addysgol ac ariannol yr ysgol...’ Datganiad Ysgrifenedig - Newidiadau i fframwaith deddfwriaethol llywodraethu ysgolion a Datganiad i'r wasg

Arolwg Dysg – helpwch ni i wella'r ffordd rydyn ni'n cyfathrebu â chi!

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi gweld cynnydd enfawr yn y nifer sydd wedi tanysgrifio i'n e-gylchlythyrau, felly roedden ni'n meddwl y byddai'n gyfle gwych i ni gasglu eich barn o ran sut gallwn ni wella'r cylchlythyr.  Rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n darparu'r wybodaeth iawn, yn y fformat gorau, ar yr adeg gywir. Cymerwch funud neu ddwy i gwblhau ein harolwg. Mae'n ddienw ac mae'ch adborth yn bwysig iawn i ni.

Y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu penodi Cadeirydd ac aelodau newydd i drydydd tymor y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol

Os oes ddiddordeb gennych mewn gwneud cais, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth drwy wefan www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch gyda’n Desg Gymorth Cyd-wasanaethau ar 029 2082 5454 neu drwy e-bostio DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk

Y Gronfa Gwella Ansawdd 2015-16

Drwy ein rhaglen Buddsoddi mewn Ansawdd cynigiwyd arian i helpu darparwyr dysgu seiliedig ar waith i gydweithio ar brosiectau sy’n anelu at wella ansawdd addysgu a dysgu. Mae’r adnoddau a’r adroddiadau terfynol bellach ar gael ar Dysgu Cymru.

ADNODDAU / CYSTADLAETHAU

Adnoddau Rhestr Chwarae Hun-luniau a Secstio Newydd – Nawr ar gael ar Hwb. 

Mae adnoddau newydd nawr ar gael ar Hwb ar gyfer athrawon cynradd ac uwchradd ac i ddysgwyr.  Mae’r adnoddau yn caniatáu trafodaethau am faterion diogelu o amgylch Hun-luniau a Secstio.  Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

hwb

Adnoddau Euro 2016

Mae pencampwriaeth Ewro 2016 wedi bod yn llwyddiant mawr i Gymru. Gallwch fanteisio ar y cyffro yn eich ystafell ddosbarth wrth ddefnyddio ein dewis o adnoddau ar thema pêl-droed ar Hwb.

NEWYDD: Digwyddiadau diweddaru rhanbarthol 360 Degree Safe Cymru

Cynhelir digwyddiadau rhanbarthol 360 safe Cymru ledled Cymru ym mis Medi. Bydd y digwyddiadau hyn yn canolbwyntio ar y nodweddion rydym wedi’u diweddaru ar gyfer yr adnodd e-Ddiogelwch hwn i ysgolion. Dyddiadau: 26 – 29 Medi yng Nghasnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerfyrddin a Chonwy. Archebwch nawr!

Blogio yn Hwb+

Ydych chi'n cynllunio taith ysgol y tymor hwn? Beth am annog eich disgyblion i ddefnyddio Hwb+ i flogio am eu profiadau?

Gall disgyblion ysgrifennu blogiau a'u postio ar wefan gyhoeddus Hwb+ eich ysgol, er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'w rhieni am yr hyn y maent wedi bod yn ei wneud. Neu, gellir postio blogiau ar safleoedd dosbarth, pwnc neu flwyddyn yn Hwb+ a'u defnyddio fel pwyntiau trafod pan fyddwch yn dychwelyd i'r dosbarth. I gael rhagor o syniadau ar ddefnyddio blogiau, ewch i dudalennau cymorth Hwb+ yn

newyddion arall

Ydych chi’n meddwl am sut i wreiddio’r fframwaith Sgiliau Ehangach neu Cymhwysder Digidol yn eich dysgu?

Mae’r British Council yn cynnig 2 cwrs Datblygiad Proffesiynol ar draws Gymru: Addysgu Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau a Cymhwysder Digidol. Maent ar gael yng Nghymraeg neu Saesneg, a bydd athrawon sy’n cymryd rhan yn gallu ceisio am £3,000 i gymryd rhan mewn teithiau astudio rhyngwladol.  Ymrestrwch am gyrsiau Hydref yma

Tueddiadau Iaith Cymru – ymchwil mewn i addysgu ieithoedd tramor modern

Mae British Council Cymru a’r Ymddiriedolaeth Datblygu Addysg wedi cyhoeddi ail arolwg cenedlaethol ar addysgu ieithoedd tramor modern mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru - Tueddiadau Iaith Cymru 2016.

E-bwletin Llywodraethwyr Cymru - Mehefin 2016

Rydym yn gobeithio y bydd yr e-fwletin diweddaraf gan Lywodraethwyr Cymru o ddiddordeb i chi ac yn addysgiadol.  Mae yna tua 21,500 o lywodraethwyr yng Nghymru, fe fyddai’n dda o beth meddwl bod pob llywodraethwr ar ein rhestr bostio, felly lledaenwch y neges ymysg eich cydweithwyr …!  Ymunwch â’r rhestr bostio trwy’r http://eepurl.com/bz3m4T

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant ôl-11 yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

dysgu.cymru.gov.uk

hwb.wales.gov.uk

llyw.cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym