Gwerth Cymru Bwletin - Rhifyn 21 - 15 Ionawr 2016

15 Ionawr 2016

Yn y rhifyn hwn

1. Uwchraddio eDendroCymru
2. Gweminarau a Chymorthfeydd ar gyfer cyflenwyr eFasnachu Cymru 
3. Ffurflenni a Hysbysiadau Newydd yr UE ar wefan GwerthwchiGymru
4. Teitl: Digwyddiad Dysgu ar y Cyd ‘Yn Gweithio Tuag At Nodau Cymru Gynhaliol’: Ar gyfer Staff Caffael ynghylch Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015) 
5.Rheolwr Cynnyrch

=============

Uwchraddio eDendroCymru

Fel y gwyddoch, bydd y diweddariad i blatfform eDendroCymru (BravoAdvantage 16) yn cael ei lansio ar 3 Chwefror 2016. Mae pob diweddariad bellach ar gael ar y fersiwn brawf lle gallwch weld yr holl welliannau ymlaen llaw (https://etenderwales-prep.bravosolution.co.uk/home.html).

Bydd y diweddariad yn cynnwys:

  • Gwell rhyngwyneb i wella'r profiad i ddefnyddwyr. Datblygwyd yr edrychiad a'r ymdeimlad newydd drwy ymgynghori â chwsmeriaid gan ddefnyddio safonau diweddaraf y diwydiant
  • Llywio drwy ddefnyddio dewislen bar ochr newydd sy'n darparu ffordd syml a chyson i ddefnyddwyr symud yn uniongyrchol i rannau eraill o'r system – gan leihau sawl gwaith sydd angen clicio ar gyfer pob cam
  • Lleihau dibyniaeth y system ar raglenigau Java er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth barhaus â'r safonau gwe sy'n datblygu'n gyson, hynny yw bydd modd i chi lanlwytho ffeiliau drwy ddefnyddio technoleg 'llusgo a gollwng' a bydd modd lawrlwytho ffeiliau ar raddfa fawr drwy allforio gan ddefnyddio ffeil zip

Yn unol â chyhoeddiad Microsoft  yn 2014 (y byddai cymorth ar gyfer fersiynau pori hŷn yn dod i ben ar 12 Ionawr 2016), ni fydd modd defnyddio eDendroCymru ar Internet Explorer 8 bellach.

Bydd BravoSolution yn cynnal sawl gweminarau byw y mis hwn i'ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar BravoAdvantage 16. Byddwch cystal â chwblhau'r ffurflen hon http://more.bravosolution.com/bravoadvantage-16-differences-webinar-sign-up i nodi'ch diddordeb.  Ar ôl pennu’r dyddiadau, bydd BravoSolution yn anfon yr wybodaeth ddiweddaraf ichi ynglŷn â chofrestru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'ch swyddog arweiniol yn y Gwasanaeth Caffael neu e-bostiwch  eProcurementService@wales.gsi.gov.uk

=============

Gweminarau a Chymorthfeydd ar gyfer cyflenwyr eFasnachu Cymru

Mae Basware (Proscerve) yn cynnal cyfres o weminarau yn 2016 wedi'u llunio'n benodol i gefnogi cymuned gyflenwi'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Cynhelir y gweminarau ddwywaith y mis a byddant yn codi ymwybyddiaeth o Raglen Newid eFasnachu Cymru ac yn esbonio'r ffordd orau o ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael. Bydd y gweminar cyntaf yn cael ei gynnal ar 11 Chwefror 2016.

Hefyd, cynhelir cymorthfeydd mewn nifer o leoliadau yn ystod 2016 er mwyn sicrhau y gall cyflenwyr fynychu cyfarfodydd wyneb yn wyneb.

Pen-y-bont ar Ogwr – 15 Chwefror

Aberystwyth - 10 Mawrth
Llandrindod- 9 Mawrth
Bedwas – 19 Ebrill
Llandudno - 10 Mai

Anfonir manylion at gyflenwyr drwy gyfrwng Gwerthwch i Gymru a Busnes Cymru. Croeso i chi rannu'r wybodaeth hon â'ch cyflenwyr eich hunan.

Os hoffech gael gwybodaeth bellach, byddwch cystal â chysylltu â'ch swyddog arweiniol yn y Gwasanaeth Caffael neu e-bostio eProcurementService@wales.gsi.gov.uk

=============

Ffurflenni a Hysbysiadau Newydd yr UE ar wefan GwerthwchiGymru

Yn dilyn ein herthygl flaenorol ynglŷn â rheoliadau ar gyfer fformat ffurflenni a hysbysiadau newydd yr EU, sy'n dod i rym ar 3 Rhagfyr 2015, mae Millstream wedi dweud eu bod yn disgwyl gweld y ffurflenni y'u defnyddir amlaf ar wefan GwerthwchiGymru ar 25 Ionawr 2016. Y ffurflenni yw:

Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw
Hysbysiad contract
Hysbysiad dyfarnu contract
Hysbysiad am newidiadau neu wybodaeth ychwanegol

Bydd ail gyfres o ffurflenni ar gael ar 29 Chwefror – gallwch weld yr holl fanylion fan hyn https://www.sell2wales.gov.uk/Guides/Guide_Download.aspx?id=8260

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, byddwch cystal â chysylltu â VWPolicy@wales.gsi.gov.uk

=============

Teitl: Digwyddiad Dysgu ar y Cyd ‘Yn Gweithio Tuag At Nodau Cymru Gynhaliol’: Ar gyfer Staff Caffael ynghylch Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015)

Bydd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn dod i rym ym mis Ebrill 2016.  Ar gyfer 44 o gyrff cyhoeddus, bydd angen i feysydd cyflenwi megis Caffael ddangos eu cyfraniad at y nodau a'r dulliau gweithio a nodir yn y Ddeddf, ac y’u crynhoir ar dudalen 6 a 7 Yr Hanfodion atodedig   http://gov.wales/docs/dsjlg/publications/150428-guide-to-the-fg-act-cy.pdf 

Wrth ddechrau rhoi'r Ddeddf ar waith, gofynnir i fusnesau, sefydliadau'r Trydydd Sector a sefydliadau eraill sy'n cyflwyno ceisiadau am gontractau a grantiau ar gyfer cynnal a datblygu cyfleusterau, ddangos tystiolaeth o'r ffordd y maent yn gwreiddio datblygu cynaliadwy.

Bydd y digwyddiad yn dangos ichi sut i weithio tuag at y Nodau Llesiant ac i ddefnyddio'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).  Hwn yw'r trydydd digwyddiad  mewn cyfres o ddigwyddiadau am ddim i aelodau Siarter a chyrff eraill. Bydd yn helpu i droi bwriad Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol yn feysydd gweithredu a chyflenwi gwasanaethau.

Bydd cyfrannwr yn cynnwys:

  • Melin Homes
  • Masnach Deg Cymru
  • Ysgol Fusnes Caerdydd

Nodau'r diwrnod yw:

  • Nodi'r cysylltiadau rhwng Caffael a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a'r cyfleoedd sydd ar gael.
  • Rhoi cymorth i staff caffael ddeall sut y gallant gyfrannu at y Nodau Llesiant a beth yw goblygiadau'r dulliau gweithio ar gyfer eu proffesiwn.
  • Rhannu enghreifftiau ymarferol o arferion da yng Nghymru
  • Rhoi cymorth i sefydliadau nad ydynt o dan ddyletswydd y Ddeddf weithio'n fwy effeithiol gyda'r sector cyhoeddus, gan sicrhau bod pob sefydliad yn gweithio'n gyson tuag at yr un nodau.  

I aelodau'r Siarter Datblygu Cynaliadwy y mae'r digwyddiad am ddim hwn, ond mae ar gael hefyd i sefydliadau eraill. Byddai'n arbennig o ddefnyddiol i staff caffael y 44 o gyrff cyhoeddus.

Cynhelir gan Cynnal Cymru

Dyddiad: 09/02/16

Amser: 09.30am - 2.30pm

Lleoliad: Ysgol Fusnes Caerdydd. 

Archebwch eich lle drwy EventBrite: https://www.eventbrite.co.uk/e/shared-learning-event-on-working-towards-the-goals-of-a-sustainable-wales-for-procurement-staff-on-tickets-20607188656 

Mae Cynnal Cymru yn edrych ymlaen at eich gweld yn y digwyddiad.

=============

Rheolwr Cynnyrch

Rydym yn dal i weithio ar y cynllun cyflenwi ac rydym wedi cyhoeddi arolwg i'n helpu i weld yr hyn y dylai'r cynllun cyflenwi terfynol ei gynnwys.  Os nad ydych eisoes wedi cwblhau'r arolwg, gallwch ei wneud fan hyn https://www.surveymonkey.co.uk/r/5HTLZ7Y

=============
=============