|
1.
Uwchraddio eDendroCymru 2.
Gweminarau
a Chymorthfeydd ar gyfer cyflenwyr eFasnachu Cymru 3.
Ffurflenni
a Hysbysiadau Newydd yr UE ar wefan GwerthwchiGymru 4.
Teitl: Digwyddiad Dysgu ar y Cyd ‘Yn Gweithio
Tuag At Nodau Cymru Gynhaliol’: Ar gyfer Staff Caffael ynghylch Ddeddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol (2015) 5.Rheolwr Cynnyrch
Fel
y gwyddoch, bydd y diweddariad i blatfform eDendroCymru (BravoAdvantage 16) yn
cael ei lansio ar 3 Chwefror 2016. Mae pob diweddariad bellach ar gael ar y
fersiwn brawf lle gallwch weld yr holl welliannau ymlaen llaw (https://etenderwales-prep.bravosolution.co.uk/home.html).
Bydd
y diweddariad yn cynnwys:
- Gwell
rhyngwyneb i wella'r profiad i ddefnyddwyr. Datblygwyd yr edrychiad a'r
ymdeimlad newydd drwy ymgynghori â chwsmeriaid gan ddefnyddio safonau
diweddaraf y diwydiant
- Llywio
drwy ddefnyddio dewislen bar ochr newydd sy'n darparu ffordd syml a chyson
i ddefnyddwyr symud yn uniongyrchol i rannau eraill o'r system – gan
leihau sawl gwaith sydd angen clicio ar gyfer pob cam
- Lleihau
dibyniaeth y system ar raglenigau Java er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth
barhaus â'r safonau gwe sy'n datblygu'n gyson, hynny yw bydd modd i chi
lanlwytho ffeiliau drwy ddefnyddio technoleg 'llusgo a gollwng' a bydd
modd lawrlwytho ffeiliau ar raddfa fawr drwy allforio gan ddefnyddio ffeil
zip
Yn
unol â chyhoeddiad Microsoft yn 2014 (y
byddai cymorth ar gyfer fersiynau pori hŷn yn dod i ben ar 12 Ionawr 2016), ni
fydd modd defnyddio eDendroCymru ar Internet Explorer 8 bellach.
Bydd
BravoSolution yn cynnal sawl gweminarau byw y mis hwn i'ch helpu i fanteisio
i'r eithaf ar BravoAdvantage 16. Byddwch cystal â chwblhau'r ffurflen hon http://more.bravosolution.com/bravoadvantage-16-differences-webinar-sign-up i nodi'ch diddordeb. Ar ôl pennu’r dyddiadau, bydd BravoSolution
yn anfon yr wybodaeth ddiweddaraf ichi ynglŷn â chofrestru.
Os oes gennych unrhyw
gwestiynau, cysylltwch â'ch swyddog arweiniol yn y Gwasanaeth Caffael neu
e-bostiwch eProcurementService@wales.gsi.gov.uk
Mae Basware (Proscerve) yn cynnal
cyfres o weminarau yn 2016 wedi'u llunio'n benodol i gefnogi cymuned gyflenwi'r
sector cyhoeddus yng Nghymru. Cynhelir y gweminarau ddwywaith y mis a byddant
yn codi ymwybyddiaeth o Raglen Newid eFasnachu Cymru ac yn esbonio'r ffordd
orau o ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael. Bydd y gweminar cyntaf yn cael ei
gynnal ar 11 Chwefror 2016.
Hefyd, cynhelir cymorthfeydd mewn nifer
o leoliadau yn ystod 2016 er mwyn sicrhau y gall cyflenwyr fynychu cyfarfodydd
wyneb yn wyneb.
Pen-y-bont ar Ogwr – 15 Chwefror
Aberystwyth - 10 Mawrth
Llandrindod- 9 Mawrth
Bedwas – 19 Ebrill
Llandudno - 10 Mai
Anfonir manylion at gyflenwyr drwy
gyfrwng Gwerthwch i Gymru a Busnes Cymru. Croeso i chi rannu'r wybodaeth hon
â'ch cyflenwyr eich hunan.
Os hoffech gael gwybodaeth bellach,
byddwch cystal â chysylltu â'ch swyddog arweiniol yn y Gwasanaeth Caffael neu
e-bostio eProcurementService@wales.gsi.gov.uk
Yn dilyn ein
herthygl flaenorol ynglŷn â rheoliadau ar gyfer fformat ffurflenni a
hysbysiadau newydd yr EU, sy'n dod i rym ar 3 Rhagfyr 2015, mae Millstream wedi
dweud eu bod yn disgwyl gweld y ffurflenni y'u defnyddir amlaf ar wefan
GwerthwchiGymru ar 25 Ionawr 2016. Y ffurflenni yw:
Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw
Hysbysiad contract
Hysbysiad dyfarnu contract
Hysbysiad am newidiadau neu wybodaeth ychwanegol
Bydd ail gyfres o ffurflenni ar gael ar
29 Chwefror – gallwch weld yr holl fanylion fan hyn https://www.sell2wales.gov.uk/Guides/Guide_Download.aspx?id=8260
Os oes gennych unrhyw ymholiadau,
byddwch cystal â chysylltu â VWPolicy@wales.gsi.gov.uk
Bydd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn
dod i rym ym mis Ebrill 2016. Ar gyfer 44 o gyrff cyhoeddus, bydd angen i
feysydd cyflenwi megis Caffael ddangos eu cyfraniad at y nodau a'r dulliau
gweithio a nodir yn y Ddeddf, ac y’u crynhoir ar dudalen 6 a 7 Yr Hanfodion
atodedig
http://gov.wales/docs/dsjlg/publications/150428-guide-to-the-fg-act-cy.pdf
Wrth ddechrau rhoi'r Ddeddf ar waith, gofynnir
i fusnesau, sefydliadau'r Trydydd Sector a sefydliadau eraill sy'n cyflwyno
ceisiadau am gontractau a grantiau ar gyfer cynnal a datblygu cyfleusterau,
ddangos tystiolaeth o'r ffordd y maent yn gwreiddio datblygu cynaliadwy.
Bydd y digwyddiad yn dangos ichi sut i weithio
tuag at y Nodau Llesiant ac i ddefnyddio'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy yn
Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Hwn yw'r trydydd
digwyddiad mewn cyfres o ddigwyddiadau
am ddim i aelodau Siarter a chyrff eraill. Bydd yn helpu i droi bwriad Deddf
Cenedlaethau'r Dyfodol yn feysydd gweithredu a chyflenwi gwasanaethau.
Bydd cyfrannwr yn cynnwys:
- Melin Homes
- Masnach Deg Cymru
- Ysgol Fusnes Caerdydd
Nodau'r diwrnod yw:
- Nodi'r
cysylltiadau rhwng Caffael a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a'r
cyfleoedd sydd ar gael.
- Rhoi
cymorth i staff caffael ddeall sut y gallant gyfrannu at y Nodau Llesiant a
beth yw goblygiadau'r dulliau gweithio ar gyfer eu proffesiwn.
- Rhannu
enghreifftiau ymarferol o arferion da yng Nghymru
- Rhoi
cymorth i sefydliadau nad ydynt o dan ddyletswydd y Ddeddf weithio'n fwy
effeithiol gyda'r sector cyhoeddus, gan sicrhau bod pob sefydliad yn gweithio'n
gyson tuag at yr un nodau.
I aelodau'r Siarter Datblygu Cynaliadwy y
mae'r digwyddiad am ddim hwn, ond mae ar gael hefyd i sefydliadau eraill.
Byddai'n arbennig o ddefnyddiol i staff caffael y 44 o gyrff cyhoeddus.
Cynhelir gan Cynnal Cymru
Dyddiad: 09/02/16
Amser: 09.30am - 2.30pm
Lleoliad: Ysgol Fusnes Caerdydd.
Archebwch eich lle drwy EventBrite: https://www.eventbrite.co.uk/e/shared-learning-event-on-working-towards-the-goals-of-a-sustainable-wales-for-procurement-staff-on-tickets-20607188656
Mae Cynnal Cymru yn edrych ymlaen at eich
gweld yn y digwyddiad.
Rydym yn dal i weithio ar y cynllun cyflenwi
ac rydym wedi cyhoeddi arolwg i'n helpu i weld yr hyn y dylai'r cynllun cyflenwi
terfynol ei gynnwys. Os nad ydych eisoes
wedi cwblhau'r arolwg, gallwch ei wneud fan hyn https://www.surveymonkey.co.uk/r/5HTLZ7Y
|