Newyddion y sector adeiladu – rhifyn 5 - Medi 2015

Newyddion y sector Adeiladu

=============
Adeiladu

Rhifyn 5, Medi 2015

=============
zip

Cynlluniau Ehangu Zip Clip

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i adeiladu ffatri newydd gwerth £2m i Zip Clip yn y Trallwng er mwyn helpu’r cwmni i ehangu wedi iddo ennill nifer o gontractau newydd.

Pan lansiwyd y cwmni yn 2004 roedd yn cyflogi tri pherson, ond mae bellach yn gyflenwr byd-eang sy’n allforio i 22 o wledydd. Rhagwelir y bydd gwerthiant y cwmni’n dyblu o ran swm a gwerth erbyn 2017, gyda nifer y swyddi yn cynyddu o 32 i dros 50 erbyn 2017 a 70 erbyn 2020. Darllenwch fwy.

Gwrandewch ar Zip-Clip yn trafod y cymorth a gawsant gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn peiriannau newydd i greu cynnyrch mwy arloesol ac ymuno â marchnadoedd newydd.

Darlun: Y Prif Swyddog  Gweithredol Steve Goldsworthy yn annerch cyfarfod yn Llysgenhadaeth Prydain, Tokyo

=============
minister

Gweinidog yn agor canolfan hyfforddiant adeiladu newydd ar yr A465

Mae cyfleuster hyfforddi a chanolfan ymwelwyr newydd wedi agor ar gynllun deuloli yr A465 ffordd Blaenau’r Cymoedd gyda’r nod o ddenu rhagor i weithio yn y diwydiant adeiladu.

Sefydlwyd y cyfleuster newydd i gyd-fynd ag ail ran Cynllun Deuoli’r A465, Ffordd Blaenau’r Cymoedd, rhwng Gilwern a Brynmawr. Cwmni Costain Ltd yw’r contractwyr sy’n rheoli’r cynllun, a Llywodraeth Cymru sydd wedi darparu’r cyllid.

Darllen mwy.

=============
chimney

Adeiladu i’r dyfodol gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru

Mae cwmni ym Mhont-y-pŵl sy'n gwneud cynhyrchion adeiladu ac a ddioddefodd tân mawr flwyddyn yn ôl yn bwriadu creu 31 o swyddi newydd a diogelu 12 o swyddi eraill drwy fenter newydd i ehangu’r cwmni, diolch i gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

Bydd Brick Fabrication Ltd., sy’n gwneud simneiau plastig sydd wedi’u gorchuddio gan friciau a’u hatgyfnerthu gan wydr ar gyfer adeiladwyr tai o'r radd flaenaf yn y DU, yn buddsoddi £790,000 mewn cyfleuster cynhyrchu yn y dref yn Nhorfaen.

Darllen mwy.

=============
du

DU Construction yn llwyddo gyda help Llywodraeth Cymru

Mae buddsoddi mewn canolfan a phencadlys mewn safle strategol a phriodol yn Ardal Fenter Ynys Môn wedi talu ar ei ganfed i DU Construction Ltd sy’n ennill contractau newydd ac yn creu swyddi.

Cafodd buddsoddiad DU Construction o £470,000 ei gefnogi gan £210,000 gan Gronfa Twf Economaidd Llywodraeth Cymru. Mae hyn wedi galluogi’r cwmni i ehangu a symud ei swyddfeydd o Gaerwen i Barc Busnes Penrhos yng Nghaergybi.

Darllen mwy.

=============
coatech

Cwmni lloriau arbenigol yn ehangu gyda chymorth Cronfa Twf Economaidd Cymru

Mae cwmni o Ogledd Cymru sy’n gosod lloriau resin i gleientiaid ledled y Du – gan gynnwys y London Eye a Chwrs Rasio Aintree - ac sydd wedi ennill sawl gwobr, wedi ehangu i adeilad i ateb y galw cynyddol am ei wasanaethau.

Cafodd y buddsoddiad mewn safle newydd a pheiriannau gan Coatech Ltd ei gefnogi gan grant o Gronfa Twf Economaidd Llywodraeth Cymru i helpu i sicrhau fod y cwmni’n fwy cystadleuol, ac i greu chwech o swyddi newydd a diogelu dwy swydd arall.

Darllen mwy.

=============
CITB

Y diweddaraf am Dyfodol Adeiladu Cymru

Mae’r fenter ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a’r CITB, Dyfodol Adeiladu Cymru (CFW), yn parhau i ddarparu cymorth gwerthfawr i’r diwydiant, trwy gynnal digwyddiadau, datblygu’r gadwyn gyflenwi, cymorth unigol a hyfforddiant Arweinyddiaeth a Rheoli.  Cewch chi a’ch cwmni adeiladu gymhorthdal llawn ar gyfer pob cymorth.  Bydd y cyrsiau nesaf ar gyfer yr elfen Arweinyddiaeth a Rheoli o dan arweiniad Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn dechrau yn ystod yr Hydref.  Gwybod mwy a sut i wneud cais.

Ewch i wefan Dyfodol Adeiladu Cymru i ddod i wybod mwy am y cymorth sydd ar gael i’ch busnes; digwyddiadau sy’n cael eu cynnal, a newyddion o’r diwydiant; gan dynnu sylw at y prif gyfleoedd ar gyfer eich busnes adeiladu - cofrestru i sicrhau eich bod yn gwybod y newyddion diweddaraf. 

Cewch wybod yma sut y mae un cwmni eisoes wedi elwa o gymorth Dyfodol Adeiladu Cymru.

Ffynhonnell y darlun: CITB

=============
parc adfer

Cyfleoedd yn y Gadwyn Gyflenwi i Barc Adfer

Mae busnesau sydd â diddordeb yn y cyfleoedd o fewn y gadwyn gyflenwi sy’n cael eu darparu gan Parc Adfer yn cael eu gwahodd i sesiwn Cyfarfod y Prynwr.  Cynhelir y digwyddiad, fydd yn canolbwyntio ar y ganolfan adfer ynni newydd yn y Gogledd yng Ngholeg Cambria ar 20 Hydref.  Mae ganddynt ddiddordeb mewn  amrywiol ddeunyddiau a diwydiannau.  Cewch wybod mwy yma a cewch gofrestru eich diddordeb i fod yn bresennol yn y digwyddiad yma.

Darlun: gan artist o Ganolfan Adfer Ynni Parc Adfer

=============
land

Gwerthu tir yn arwain y ffordd ar gyfer datblygiad defnydd cymysg gwerth £100 miliwn yn Ardal Fenter Canol Caerdydd

Mae Llywodraeth Cymru a chwmni JR Smart, datblygwyr blaengar o Gaerdydd, wedi cwblhau’r gwaith o gyfnewid contractau ar dir yng nghalon Ardal Fenter Canol Caerdydd. Mae hyn yn paratoi’r ffordd ar gyfer datblygiad defnydd cymysg nodedig a llewyrchus newydd gwerth £100 miliwn. Bydd y datblygiad hwn yn cynnwys swyddfeydd, gwesty ac eiddo preswyl.

Bydd y datblygiad arfaethedig 250,000 o droedfeddi sgwâr dan yr enw Stryd Ioan – Sgwâr Callaghan yn creu oddeutu 100 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu. Wedi i’r gwaith datblygu ddod i ben, bydd modd cynnal/creu oddeutu 1000 o swyddi. Darllen mwy.

=============
SA1

Datblygiad newydd gwerth £8 miliwn wedi’i drefnu ar gyfer SA1 Glannau Abertawe

Mae Waterstone Homes o Ben-y-bont ar Ogwr wedi llofnodi contractau gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygiad newydd mawreddog gwerth £8 miliwn yn SA1 Glannau Abertawe.

 Mae Waterstone wedi cael caniatâd cynllunio i adeiladu datblygiad ansawdd uchel sy’n cynnwys 25 o fflatiau dros bedwar llawr uwchben safle 8,000 troedfedd sgwâr âr gyfer siopau/cyfleusterau hamdden sydd â lle i fwytai awyr agored hefyd. 

Rhagwelir y bydd y datblygiad yn creu ac yn cefnogi 220 o swyddi ac yn creu dros £22 miliwn i’r economi.

Darllen mwy.

=============
st davids

Goreuon Adeiladu Cymru

Ydych chi'n nabod y bobl eithriadol yn y byd Adeiladu? Y bobl sy’n cyflawni pethau rhyfeddol ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn? Os ydych dyma'ch cyfle i'w cyflwyno ar gyfer Gwobrau Dewi Sant y nodau o anrhydedd uchaf a roddir gan Lywodraeth Cymru i unigolion a thimau rhagorol sy'n haeddu cydnabyddiaeth genedlaethol. Rydym yn arbennig o awyddus bod llwyddiannau ac ysgogwyr a chynhyrfwyr mwyaf y sector Adeiladu  yn cael eu hystyried ar gyfer y Gwobrau Dewi Sant am Fenter ac Arloesedd a Thechnoleg eleni. Mae 7 Gwobr arall ar gyfer Dewrder, Diwylliant, Dinasyddiaeth, Rhyngwladol, Chwaraeon ac i Berson ifanc yn ogystal â Gwobr Arbennig y Prif Weinidog.

Dyma’r amser i fynd amdani  - gallwch enwebu ar-lein yn unig yma hyd at 27ain Hydref 2015.

=============

Affresol yn targedu marchnadoedd newydd ar gyfer ‘concrit’ plastig ac yn ehangu gyda help Llywodraeth Cymru

Mae cwmni o Abertawe sydd wedi datblygu concrit synthetig unigryw yn arallgyfeirio i farchnadoedd newydd ac yn buddsoddi £850,000 er mwyn ehangu’r busnes a chreu 64 o swyddi newydd.

Gyda £245,000 o gyllid busnes gan Lywodraeth Cymru, mae Affresol yn moderneiddio ei gyfleusterau ym Mharc Busnes Gorllewin Abertawe ac yn adeiladu llinell gynhyrchu awtomatig newydd fodern iawn.  Yn ogystal â chreu 64 o swyddi newydd dros y tair blynedd nesaf, bydd y buddsoddiad yn diogelu’r ddwy swydd ar bymtheg sydd eisoes yn bodoli. Darllen mwy.

=============

Dim ond cysylltu â BOSS sydd angen os ydych yn fusnes sy’n chwilio am gyngor

Mae  gwasanaeth cymorth busnes newydd ar-lein wedi’i lansio gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cymorth Busnes Cymru ar gael i bob entrepreneur a  busnes ar unrhyw adeg ac ar unrhyw bryd. 

Mae’r Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS) wedi’i gynllunio i drawsnewid cymorth ar-lein ac ategu dysgu wyneb yn wyneb. Darllen mwy.

=============

Diwrnod menywod mewn peirianneg yng Nghymru

Clywodd cynulleidfa yng Nghaerdydd hanesion gan fenywod mewn swyddi uwch ym maes adeiladu a pheirianneg, mewn digwyddiad i ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Menywod mewn Peirianneg.  Bwriad y digwyddiad gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil: Cymru, a’i noddi gan Lywodraeth Cymru ac ABC Electrification oedd ysbrydoli menywod ifanc a helpu’r diwydiant i fynd i’r afael â’r rhwystrau i ddenu a chadw rhagor o fenywod.  Darllenwch fwy a gweld y ddarlith, gan gynnwys y brif araith gan Julie James AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg.

=============

Diogelu a rheoli amgylchedd hanesyddol Cymru

Ydych chi’n rheoli neu yn adfer henebion rhestredig?  Cafodd Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) ei gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 1 Mai 2015, gyda’r nod o ddiogelu yr amgylchedd adeiledig hanesyddol a’r tirwedd.  Darllenwch yma sut y gallwch gymeryd rhan.

=============

Fframwaith Gweithgor Cyfalaf Ysgolion De-ddwyrain Cymru (SEWSCAP)

Cynhaliwyd digwyddiad i lansio Fframwaith SEWSCAP2 ar 7 Gorffennaf 2015, gyda dros 70 o gontractwyr a chleientiaid yn cyfrannu at y ffordd ymlaen ar gyfer y fframwaith newydd.

Cafodd yr ail iteriad hwn o’r trefniant adeiladu cydweithredol llwyddiannus ei ddyfarnu ar Mai 1.  Mae’n rhoi llwybr ar gyfer gweithgareddau adeiladu mewn ysgolion ac adeiladau cyhoeddus eraill i awdurdodau sy’n cymeryd rhan yn y cynllun yn y De a’r Canolbarth. 

Mae 19 o gontractwyr o amrywiol faint a gallu ar y fframwaith, gan gynnwys nifer o gontractwyr o Gymru a chonsortia lleol. 

Am ragor o wybodaeth anfonwch ebost at Dîm Rheoli’r Fframwaith.

=============

Venturefest Wales, Stadiwm Swalec, Caerdydd, 29 Medi 2015

Digwyddiad un diwrnod am ddim yw Venturefest Wales, yng nghanol Caerdydd, sy’n rhoi cymysgedd o weithdai a thrafodaethau rhyngweithiol, siaradwyr fydd yn ysbrydoli a sesiynau unigol gydag arbenigwyr a mentoriaid.

Edrychwch ar yr hyn sy’n cael ei gynnig, y siaradwyr, yr Arddangosfa Arloesi, ‘Launchpad’ Venturefest a mathau eraill o adloniant – Trefnu eich ymweliad a chofrestru.

=============

Digwyddiad Briffio Deunyddiau ar gyfer Amgylchedd Anodd, Canolfan Gwyddorau Bywyd, Bae Caerdydd – 6 Hydref 2015

Mae Innovate UK yn bwriadu buddsoddi hyd at £2 filiwn mewn astudiaethau ymarferoldeb technegol i edrych ar wella perfformiad deunyddiau mewn amgylcheddau anodd, eithafol ac/neu ymosodol.  Cewch wybod mwy am y digwyddiad a chofrestru yma.

=============

Dilynwch ni ar @WG_economy

Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf a dilynwch adran Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar Twitter.

=============

Os oes gennych ymholiad, ffoniwch +44(0)3000 6 03000 neu cysylltwch â ni yn: Cymorth Busnes.

Am ragor o wybodaeth, ewch at Wefan Busnes Cymru.

Mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru yn cynnig gwasanaeth un stop ar gyfer holl anghenion eich busnes. Mae Llywodraeth Cymru o blaid busnes, ac mae’n cynnig: mynediad at gyllid, pecynnau cymorth amrywiol, cyngor ynghylch masnachu rhyngwladol, cymorth i ganfod lleoliad, datblygu’r gweithlu a sgiliau, a chysylltiadau â rhwydweithiau diwydiannau.

Having trouble viewing this email? View it as a Web page.