Care home visiting pods: access to the Hardship Fund - criteria / Hawl i arian o’r Gronfa Galedi ar gyfer podiau ymweld â chartrefi gofal - meini prawf

https://content.govdelivery.com/accounts/UKWALES_CSSIW_INT/bulletins/2b795fe

Care Inspectorate Wales
twitter

@care_wales

website

Gwefan / Website

youtube

YouTube

email

E-bost / Email

twitter

@arolygu_gofal

facebook

Cymraeg / Saesneg

Anfonwyd ar ran Llywodraeth Cymru / Sent on behalf of Welsh Government

Saesneg yn isod / English below

At: Reolwyr Cofrestredig ac Unigolion Cyfrifol (Gwasanaethau Cartrefi Gofal i Oedolion)

Welsh Government logo

14 Ionawr 2021       

                                                     

Annwyl Gyfeillion

Ysgrifennodd Albert Heaney, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Cymru atoch ar 15 Rhagfyr 2020 (amgaeir y llythyr) yn amlinellu bod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu hyd at £1 miliwn o gyllid yn y flwyddyn ariannol hon (2020-21) i alluogi darparwyr i hawlio ad-daliad o'r Gronfa Caledi Llywodraeth Leol mewn perthynas â'r podiau ymweld sydd wedi'u llogi’n uniongyrchol gan y darparwr o dan y cynllun peilot ers 23 Tachwedd.

Yn dilyn y cyhoeddiad ar 19 Rhagfyr 2020 a’r symud i gyfyngiadau lefel rhybudd 4, mae'r cyngor iechyd y cyhoedd ynghylch manyleb y podiau ymweld wedi newid. Er mwyn gwneud y podiau'n addas i ddarparu ar gyfer ymweliadau o dan lefel rhybudd 4 (yn ogystal â'r hyn sydd yn y fanyleb a amlinellwyd yn y llythyr dyddiedig 15 Rhagfyr), bydd rhaid bod ganddynt:

  • Ddwy fynedfa allanol ar wahân – un ar gyfer yr ymwelydd ac un ar gyfer preswylwyr
  • Sgrin sefydlog o wal i wal ac o’r llawr i'r nenfwd, sy'n caniatáu i unigolion weld yn glir ond sy'n rhwystr corfforol llwyr rhwng ymwelydd a phreswylydd. Bydd y ddwy ardal ar wahân ac yn hunangynhwysol, gyda mynedfeydd ar wahân (a mynedfa i’r ymwelydd yn uniongyrchol o'r tu allan) ac ni fyddant yn caniatáu cyfnewid aer o'r naill ochr i'r llall

Gan fod y cyngor hwn wedi’i ddiweddaru disgwyliwn i bob pod ymweld newydd sy’n cael ei logi gan gartrefi, yr hawlir costau ar ei gyfer, gydymffurfio â’r gofynion diwygiedig uchod.

Rydym yn deall y bydd angen ichi, o bosibl, drefnu i addasiadau gael eu gwneud i'r podiau ymweld gwreiddiol yr ydych wedi’u wedi’u trefnu, i fodloni'r safonau newydd hyn ac i sicrhau y gall ymweliadau barhau'n ddiogel o dan lefel rhybudd 4. Felly, rydym yn ysgrifennu i gadarnhau y gellir defnyddio'r Gronfa Caledi Llywodraeth Leol i ariannu'r mathau hyn o addasiadau.

Er mai dwy fynedfa allanol ar wahân yw’r opsiwn mwyaf diogel, rydym yn cydnabod efallai na fydd yn ymarferol ym mhob achos i dorri mynedfa arall i bodiau sy’n bodoli eisoes. Felly, ar gyfer podiau sydd ag un fynedfa yn unig a logwyd eisoes rydym yn fodlon iddynt gael eu haddasu i gynnwys sgrin sefydlog o’r llawr i’r nenfwd gyda drws mewnol, yn hytrach na darparu mynedfa allanol ar wahân. Fodd bynnag, dylai asesiadau risg ragnodi’n glir sut y rheolir mynediad i’r podiau, er mwyn sicrhau bod ymwelwyr ac unigolion sy’n byw yn y cartref yn cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr wrth gael mynediad i’r pod.

Rydym hefyd yn ysgrifennu i egluro’r safbwynt ynghylch profi ymwelwyr. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau y dylai pob ymwelydd gael prawf llif unffordd cyn ymweld gan ddefnyddio pod ymweld.

Mae’r arian ar gael ar sail y cyntaf i'r felin hyd nes y bydd yr holl arian wedi’i ddyrannu.

 

Ffurflen hawlio

Ffurflen cais

 

Rhaid i ddarparwr sy'n dymuno gwneud hawliad lenwi'r ffurflen a ddiweddarwyd ar ddiwedd y llythyr a'i chyflwyno i Lywodraeth Cymru drwy e-bost i flwch post PeilotPodiauYmweldLlC@llyw.cymru cyn gynted â phosibl ac erbyn dydd Gwener 26 Chwefror.

Yn olaf, hoffem hefyd bwysleisio pwysigrwydd sefydlu systemau ariannol, systemau risg a systemau rheoli priodol cyn caffael unrhyw nwyddau neu wasanaethau gan drydydd partïon, gan gynnwys mewn perthynas â llogi podiau ymweld o dan y cynllun hwn.


 

 

To: Registered Managers and Responsible Individuals (Adult Care Home Services)

Welsh Government logo

 

14 January 2021   

Dear Colleagues,

Albert Heaney, Deputy Director General, Welsh Government wrote to you on 15 December 2020 (letter attached) outlining that the Welsh Government has allocated up to £1 million funding in this financial year (2020-21) to enable providers to claim reimbursement from the Local Government Hardship Fund in relation to the visiting pods which have been hired directly by the provider under the pilot scheme from 23 November.

Following the announcement on 19 December 2020 and move into Alert Level 4 restrictions, the public health advice around the specification for the visiting pods has subsequently changed. To make pods suitable to accommodate visiting under Alert Level 4 they will also require (in addition to the specification outlined in the 15 December letter):

  • Two separate external entrances – one for the visitor and one for residents;
  • A wall to wall and floor to ceiling fixed screen which allows clear visibility but forms a complete physical barrier between visitor and resident, where the two areas are separate and self-contained with separate entrances (with the visitor entrance direct from the outside) and which does not allow the exchange of air from one side to another.

As a result of this updated advice we expect all new visitor pods hired by homes for which costs are being claimed for, to meet the revised specification above.

We understand that you may need to arrange for adaptations to be made to the original visiting pods you have sourced, to meet these new standards and to ensure visiting can safely continue under Alert Level 4.  We are therefore writing to confirm that that Local Government Hardship Fund can be used to fund these types of adaptions.

While two separate external entrances does represent the most secure option, we recognise that cutting an additional entrance into existing pods may not be practical in some cases.  Therefore, for existing single entrance pods that have been hired we are content for these to be modified to incorporate a fixed floor to ceiling screen with an internal door, rather than adding a separate external entrance.  However, risk assessments should clearly specify how access to the pods will be managed, to ensure visitors and people living at the home maintain 2 meter social distancing when entering the pod.

We are also writing to clarify the position on visitor testing.  Public Health Wales has confirmed that all visitors should be receive a lateral flow test before a visit within a visiting pod.

Access to the funds remains on a first come first served basis until all funds are allocated. 

 

Form

Claim form

 

Providers wishing to make a claim for such an adaption must complete the updated form at the end of the letter and submit it to the Welsh Government via email to WGVisitingPodPilot@gov.wales mailbox as soon as possible and by Friday 26 February.

Finally we also wish to highlight the importance of having appropriate financial, risk and control systems in place before procuring any goods or services from third parties, including in respect of the hire of visiting pods under this scheme.


Hawlfraint y Goron / Copyright © 2021 Arolygiaeth Gofal Cymru / Care Inspectorate Wales. Cedwir pob hawl / All rights reserved.

Help  |  Cysylltwch â ni / Contact Us