|
National Food Crime Unit (NFCU) industry update: November 2025 |
|
Dear Subscriber,
Welcome to our latest industry update, where we:
- highlight the key risks and issues that may be impacting the food industry
- share best practice to strengthen the industry’s response to food crime
- tell you about our ongoing work
In this edition:
You can contact our Prevention team to feedback, raise a concern or possibly contribute to a future update.
Labelling defrosted meat
Concerns have been raised about defrosted poultry products being refrozen, then incorrectly labelled. This not only constitutes food fraud but also affects product shelf life and raises food safety concerns.
Keeping consumers informed and protected is at the heart of food labelling regulations. If your business handles meat products, it’s essential to understand the legal requirements for labelling defrosted meat under UK law.
Under Regulation (EU) No 1169/2011 (retained in UK law) and Regulation (EC) No 853/2004, defrosted meat must be clearly labelled as “defrosted” but there are a few exceptions.
You must label defrosted meat as “defrosted” unless:
- it’s used as an ingredient in a final product (e.g. cooked meals)
- the defrosting process does not affect the safety or quality of the meat
The term “defrosted” must be:
- visible and easy to read
- indelible (not easily removed or smudged)
- placed near the product name to avoid misleading consumers
This ensures clarity and helps customers make informed choices.
Traceability requirements
Food business operators are also required to keep detailed records, including the:
- original freezing date
- defrosting date
- method and conditions of defrosting
These records support food safety and are crucial during inspections or in the event of a product recall.
Accurate labelling builds consumer trust, ensures regulatory compliance, and protects your business from enforcement action. It’s not just about ticking boxes, it’s about upholding food integrity.
For more information, please see our labelling guidance.
|
|
|
Report a food crime
Food Crime Confidential: 0800 028 11 80 (0207 276 8787 for non-UK mobiles and calls).
Email: foodcrime@food.gov.uk
|
|
Operation OPSON highlights emerging risks
Operation OPSON, a coordinated international initiative targeting food fraud, continues to play a vital role in protecting consumers and ensuring food authenticity across the UK. In collaboration with local authorities in England and Wales, and District Councils in Northern Ireland, we carry out a range of targeted monitoring activities, including sampling under Operation OPSON, and assess food to be generally safe and authentic.
This year’s OPSON sampling revealed specific concerns in certain product categories - particularly herbs, spices and extra virgin olive oil. Although these findings are important, the survey was targeted, meaning the results are not considered representative of the overall food landscape.
In some cases, sampling identified undeclared allergens on product labels, which could pose a serious food safety risk. Where such risks were found, our partners acted swiftly with the Food Standards Agency to protect public health and remove affected products from sale.
We remain vigilant against food fraud and continue to work closely with local authorities and industry partners to ensure food businesses uphold their responsibilities. Our shared goal is clear: to maintain high standards so that consumers can trust the safety and authenticity of the food they buy.
|
|
|
Food Fraud Resilience Self-Assessment tool
Our tool has been designed to support food businesses in identifying the risk to their business from food crime, and outline steps that they can take to mitigate those risks.
The NFCU’s Prevention team offer an in-depth fraud resilience assessment. Following the completion of the self-assessment tool. The team can provide an assessment which aims to:
- identify the risk level an organisation has to fraud
- get people within an organisation thinking about fraud resilience and how it is approached
- help and assist the food industry in building resilience to food fraud
If you are interested in this, please contact NFCU.prevention@food.gov.uk
|
|
Horizon scanning
This section provides a snapshot of emerging risks and market disruptions across food commodities.
Cinnamon
FoodSafetyNews.com and the Food Authenticity Network report that a European market analysis of cinnamon revealed fraud and potential safety concerns. Key issues include the substitution of more expensive Ceylon cinnamon with cheaper Cassia, and the risk of contamination with lead, coumarin, and sulphur. Over 66% of the 104 samples tested across 13 countries failed to meet international standards or EU food safety laws.
|
Moroccan avocados
Walaw reports on Moroccan avocados crops suffering from heatwave damage and earlier cold/rain during flowering have cut expected volumes by up to 50%.
|
Get in touch with feedback or requests for content
Do you have any thoughts or suggestions about how we could improve our newsletter? If so, we want to hear from you!
If you have any feedback, please let us know at NFCU.Prevention@food.gov.uk
|
|
|
Do you need to read our previous newsletter?
|
|
Subscribe to this newsletter and others
If this email was forwarded to you, you can subscribe below and get future newsletters delivered direct to your inbox.
Update your subscriptions, modify your password or email address, or stop subscriptions at any time on your Subscriber preferences page. You will need to use your email address to log in. If you have questions or problems with the subscription service, please visit subscriberhelp.govdelivery.com.
This service is provided to you at no charge by UK Food Standards Agency.
|
|
Diweddariad yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) i’r diwydiant: Tachwedd 2025 |
|
Annwyl Danysgrifiwr,
Croeso i’n diweddariad rheolaidd i’r diwydiant, lle rydym yn:
- tynnu sylw at y prif risgiau a phroblemau a allai fod yn effeithio ar y diwydiant bwyd
- rhannu arferion gorau er mwyn cryfhau ymateb y diwydiant i droseddau bwyd
- rhoi gwybod i chi am ein gwaith parhaus
Yn y rhifyn hwn:
Gallwch gysylltu â’n Tîm Atal i roi adborth, codi pryder neu gyfrannu at ddiweddariad yn y dyfodol.
|
|
Labelu cig wedi’i ddadmer
Mae pryderon ynghylch cynhyrchion dofednod yn cael eu dadmer cyn iddynt gael eu hail-rewi a’u labelu’n anghywir, sydd nid yn unig yn gyfystyr â thwyll bwyd ond sydd hefyd yn effeithio ar oes silff cynnyrch. Mae’r camlabelu hwn yn codi pryderon ynghylch diogelwch bwyd.
Mae rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ddefnyddwyr a’u diogelu wrth wraidd rheoliadau labelu bwyd. Os yw eich busnes yn trin cynhyrchion cig, mae’n hanfodol deall y gofynion cyfreithiol ar gyfer labelu cig wedi’i ddadmer o dan gyfraith y DU.
O dan Reoliad (UE) Rhif 1169/2011 (a ddargedwir yng nghyfraith y DU) a Rheoliad (CE) Rhif 853/2004, rhaid labelu cig wedi’i ddadmer yn glir fel “wedi’i ddadmer”/“defrosted” –ond mae yna ychydig o eithriadau.
Rhaid i chi labelu cig wedi’i ddadmer fel “wedi’i ddadmer” oni bai bod y canlynol yn wir:
- mae’r cig yn cael ei ddefnyddio fel cynhwysyn mewn cynnyrch terfynol (er enghraifft, prydau wedi’u coginio)
- nid yw’r broses ddadmer yn effeithio ar ddiogelwch nac ansawdd y cig
Rhaid i’r term “wedi’i ddadmer” fod:
- yn weladwy a hawdd ei ddarllen
- yn annileadwy (ddim yn hawdd ei dynnu na’i smwtsio)
- wedi’i osod ger enw’r cynnyrch i osgoi camarwain defnyddwyr
Mae hyn yn sicrhau eglurder ac yn helpu cwsmeriaid i wneud dewisiadau gwybodus.
Gofynion olrheiniadwyedd
Mae’n ofynnol i weithredwyr busnesau bwyd hefyd gadw cofnodion manwl, gan gynnwys y:
- dyddiad rhewi gwreiddiol
- dyddiad dadmer
- dull ac amodau dadmer
Mae’r cofnodion hyn yn cefnogi diogelwch bwyd ac maent yn hanfodol yn ystod arolygiadau neu os bydd cynnyrch yn cael ei alw’n ôl.
Mae labelu cywir yn meithrin ymddiriedaeth defnyddwyr, yn sicrhau cydymffurfiaeth reoleiddiol, ac yn diogelu eich busnes rhag camau gorfodi. Nid dim ond mater o dicio blychau yw hi, mae’n ymwneud â chynnal uniondeb bwyd.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau labelu.
|
|
|
Rhoi gwybod am drosedd bwyd
Trechu Troseddau Bwyd yn Gyfrinachol: 0800 028 1180 (0207 276 8787 ar gyfer ffonau symudol a galwadau nad ydynt yn dod o’r DU).
E-bost: foodcrime@food.gov.uk
|
|
Ymgyrch OPSON yn tynnu sylw at risgiau sy’n dod i’r amlwg
Mae ymgyrch OPSON, menter ryngwladol gydlynol sy’n targedu twyll bwyd, yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu defnyddwyr a sicrhau dilysrwydd bwyd ledled y DU. Mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, a Chynghorau Dosbarth yng Ngogledd Iwerddon, rydym yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau monitro targededig, gan gynnwys samplu o dan ymgyrch OPSON, ac yn asesu bod bwyd yn ddiogel ac yn ddilys yn gyffredinol.
Dangosodd y gwaith samplu a wnaed eleni o dan ymgyrch OPSON bryderon penodol mewn rhai categorïau cynnyrch – yn enwedig perlysiau, sbeisys ac olew olewydd tra phur (‘extra virgin’) ychwanegol. Er bod y canfyddiadau hyn yn bwysig, roedd yr arolwg wedi’i dargedu, sy’n golygu nad ystyrir bod y canlyniadau’n gynrychioliadol o’r dirwedd fwyd gyffredinol.
Mewn rhai achosion, dangosodd gwaith samplu alergenau heb eu datgan ar labeli cynhyrchion, a allai beri risg ddifrifol i ddiogelwch bwyd. Lle canfuwyd risgiau o’r fath, gweithredodd ein partneriaid yn gyflym gyda’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) i ddiogelu iechyd y cyhoedd a thynnu cynhyrchion yr effeithiwyd arnynt oddi ar y farchnad.
Rydym yn parhau i fod yn wyliadwrus yn erbyn twyll bwyd ac yn parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid yn y diwydiant i sicrhau bod busnesau bwyd yn cyflawni eu cyfrifoldebau. Mae ein nod cyffredin yn glir: cynnal safonau uchel fel y gall defnyddwyr ymddiried yn niogelwch a dilysrwydd y bwyd maen nhw’n ei brynu.
|
|
|
Adnodd Hunanasesu Gwytnwch yn erbyn Twyll Bwyd
Nod ein hadnodd yw cefnogi busnesau bwyd i nodi’r risg y mae troseddau bwyd yn ei pheri i’w busnes ac mae’n amlinellu camau y gallant eu cymryd i liniaru’r risg honno.
Mae Tîm Atal yr NFCU yn parhau i gynnig asesiad manwl o wydnwch yn erbyn twyll. Ar ôl cwblhau’r adnodd hunanasesu, gall y tîm ddarparu asesiad sydd â’r bwriad o:
- nodi lefel y risg sydd gan sefydliad i dwyll
- annog pobl o fewn sefydliadau i feddwl am wydnwch yn erbyn twyll a sut y dylid ymdrin â hyn
- helpu a chynorthwyo’r diwydiant bwyd i feithrin gwydnwch yn erbyn twyll bwyd
Os oes gennych ddiddordeb yn hyn, cysylltwch ag NFCU.prevention@food.gov.uk
|
|
Sganio’r gorwel
Isod, mae crynodeb o’r hyn y mae ein gwaith sganio’r gorwel wedi’i ganfod. Gobeithiwn y bydd hyn o ddefnydd i chi wrth i ni weithio gyda’n gilydd i atal twyll bwyd.
|
|
Afocados Moroco
Mae Walaw yn adrodd am gnydau afocados Moroco sy’n dioddef o ddifrod tonnau gwres, ac mae’n nodi ymhellach fod oerfel/glaw cynharach yn ystod y cyfnod blodeuo wedi lleihau’r cyfeintiau disgwyliedig hyd at 50%.
|
Cnau cyll (‘hazelnuts’)
Mae Commodity-board.com yn adrodd am gnau cyll Twrcaidd, gan nodi y bu gostyngiad o 22% yn yr allbwn oherwydd rhew yn y gwanwyn, gan arwain at gynnydd mewn prisiau o 35%, gan effeithio ar y cyflenwad byd-eang. Gall prynwyr yn y DU wynebu costau uwch neu risgiau amnewid mewn cynhyrchion sy’n defnyddio cnau cyll.
|
Cysylltwch â ni gydag adborth neu geisiadau am gynnwys
Oes gennych chi unrhyw syniadau neu awgrymiadau am ffyrdd o wella ein cylchlythyr? Os oes, hoffem glywed gennych chi!
Os oes gennych chi unrhyw adborth, rhowch wybod i ni yn NFCU.Prevention@food.gov.uk
|
|
|
Oes angen i chi ddarllen ein cylchlythyr blaenorol?
|
|
Tanysgrifiwch i'r cylchlythyr hwn a chylchlythyrau eraill
Os anfonwyd yr e-bost hwn ymlaen atoch, gallwch danysgrifio isod a chael cylchlythyrau yn y dyfodol yn syth i’ch mewnflwch.
Gallwch ddiweddaru eich tanysgrifiadau, addasu eich cyfrinair neu gyfeiriad e-bost, neu stopio tanysgrifiadau unrhyw bryd ar eich tudalen dewisiadau Tanysgrifiwr. Bydd angen i chi ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost i fewngofnodi. Os oes gennych gwestiynau neu broblemau gyda’r gwasanaeth tanysgrifio, ewch i subscriberhelp.govdelivery.com.
Darperir y gwasanaeth hwn i chi am ddim gan Asiantaeth Safonau Bwyd y Deyrnas Unedig.
|
|
|
|
|