|
National Food Crime Unit (NFCU) industry update: September 2025 |
|
Dear Subscriber,
Welcome to our latest industry update, where we:
- highlight the key risks and issues that may be impacting the food industry
- share best practice to strengthen the industry’s response to food crime
- tell you about our ongoing work
In this edition:
You can contact our Prevention team to feedback, raise a concern or possibly contribute to a future update.
Round up of arrests and sentences
Four men given custodial sentences for diverting meat not fit for human consumption back into the human food chain
The defendants were convicted earlier this year following an investigation by Southwark Council and the Food Standard Agency’s National Food Crime Unit (NFCU), with a judge at the Inner London Crown Court recently handing down custodial sentences.
Read our full news story.
Man pleads guilty to handling stolen goods following NFCU investigation
Following an investigation by the NFCU, a man pleaded guilty to handling stolen goods in a case linked to wider distribution fraud of a substantial amount of poultry.
Read our full news story.
Four arrested on suspicion of rice fraud
An NFCU operation investigating the distribution and sale of basmati rice in counterfeit packaging has resulted in the arrest of four people.
Read our full news story.
|
|
|
Report a food crime
Food Crime Confidential: 0800 028 11 80 (0207 276 8787 for non-UK mobiles and calls).
Email: foodcrime@food.gov.uk
|
|
Illegal pork imports from Bulgaria
In May 2025, Defra issued an OVS Note recognising Bulgaria as free from Classical Swine Fever (CSF), and that, as a result, CSF-related restrictions on imports of fresh porcine and swine meat and porcine and swine meat products from Bulgaria have been lifted. Food businesses are reminded that controls related to African Swine Fever (ASF) remain in place.
We have been informed that during recent local authority inspections, food businesses have directed officers to the above referenced OVS Note, attempting to evidence that they can import any meat /meat products from Bulgaria. This is not the case.
Food businesses importing meat should remember:
-
Regardless of the EU country from which fresh meat is imported, retail food businesses should ask for a copy of the Common Health Entry Document (CHED) from their importer or wholesaler. This document is not typically included with the meat consignment, so it must be requested proactively. Having the CHED readily available helps prevent delays during inspections, especially if local authorities request import or traceability documentation when suspect meat is found on the premises.
- Ensure that all imported meat comes from a reputable exporter who can provide the necessary import documentation. If you are a retail business purchasing from a meat wholesaler, conduct thorough due diligence to verify the legitimacy and compliance of the supplier.
- Given the frequent changes to risk levels, it is highly recommended that you stay up to date by regularly reviewing Defra’s OVS Notes and related guidance. Be sure to read the full guidance to ensure accurate interpretation and correct application.
|
|
|
Food Fraud Resilience Self-Assessment tool
Our tool has been designed to support food businesses in identifying the risk to their business from food crime, and outline steps that they can take to mitigate those risks.
The NFCU’s Prevention team offer an in-depth fraud resilience assessment. Following the completion of the self-assessment tool. The team can provide an assessment which aims to:
- identify the risk level an organisation has to fraud
- get people within an organisation thinking about fraud resilience and how it is approached
- help and assist the food industry in building resilience to food fraud
If you are interested in this, please contact NFCU.prevention@food.gov.uk
|
|
Horizon scanning
Below is a summary of what our horizon scanning has found. We hope you find this useful to help us work together to prevent food fraud.
Get in touch with feedback or requests for content
Do you have any thoughts or suggestions about how we could improve our newsletter? If so, we want to hear from you!
If you have any feedback, please let us know at NFCU.Prevention@food.gov.uk
|
|
|
Do you need to read our previous newsletter?
|
|
Subscribe to this newsletter and others
If this email was forwarded to you, you can subscribe below and get future newsletters delivered direct to your inbox.
Update your subscriptions, modify your password or email address, or stop subscriptions at any time on your Subscriber preferences page. You will need to use your email address to log in. If you have questions or problems with the subscription service, please visit subscriberhelp.govdelivery.com.
This service is provided to you at no charge by UK Food Standards Agency.
|
|
Diweddariad chwarterol yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) i’r diwydiant: Medi 2025 |
|
Annwyl Danysgrifiwr,
Croeso i’n diweddariad rheolaidd i’r diwydiant, lle rydym yn:
- tynnu sylw at y prif risgiau a phroblemau a allai fod yn effeithio ar y diwydiant bwyd
- rhannu arferion gorau er mwyn cryfhau ymateb y diwydiant i droseddau bwyd
- rhoi gwybod i chi am ein gwaith parhaus
Yn y rhifyn hwn:
Gallwch gysylltu â’n Tîm Atal i roi adborth, codi pryder neu gyfrannu at ddiweddariad yn y dyfodol.
Crynodeb o arestiadau a dedfrydau
Pedwar dyn wedi cael dedfrydau o garchar am ddargyfeirio cig nad oedd yn addas i’w fwyta gan bobl yn ôl i’r gadwyn fwyd
Cafodd y diffynyddion eu dyfarnu’n euog yn gynharach eleni yn dilyn ymchwiliad gan Gyngor Southwark ac Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), gyda barnwr yn Llys y Goron Llundain Fewnol yn rhoi dedfrydau o garchar.
Darllenwch ein stori newyddion lawn.
Dyn yn pledio’n euog i drin nwyddau wedi’u dwyn yn dilyn ymchwiliad gan yr NFCU
Yn dilyn ymchwiliad gan yr NFCU, sy’n rhan o’r ASB, plediodd dyn yn euog i drin nwyddau wedi’u dwyn mewn achos yn gysylltiedig â thwyll dosbarthu swm mawr o ddofednod yn ehangach.
Darllenwch ein stori newyddion lawn.
Pedwar wedi’u harestio ar amheuaeth o dwyll reis
Mae ymgyrch NFCU yr ASB sy’n ymchwilio i ddosbarthu a gwerthu reis basmati mewn deunydd pecynnu ffug wedi arwain at arestio pedwar o bobl.
Darllenwch ein stori newyddion lawn.
|
|
|
Rhoi gwybod am drosedd bwyd
Trechu Troseddau Bwyd yn Gyfrinachol: 0800 028 1180 (0207 276 8787 ar gyfer ffonau symudol a galwadau nad ydynt yn dod o’r DU).
E-bost: foodcrime@food.gov.uk
|
|
Mewnforion porc anghyfreithlon o Fwlgaria
Ym mis Mai 2025, cyhoeddodd Defra Nodyn OVS yn cydnabod bod Bwlgaria yn glir o Glwy Clasurol y Moch (CSF), ac, o ganlyniad, fod cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â CSF ar fewnforion cig moch a moch ffres a chynhyrchion cig moch a moch o Fwlgaria wedi’u codi. Atgoffir busnesau bwyd fod rheolaethau sy’n gysylltiedig â Chlwy Affricanaidd y Moch (ASF) yn parhau i fod ar waith.
Rydym wedi cael gwybod, yn ystod arolygiadau awdurdodau lleol diweddar, fod busnesau bwyd wedi cyfeirio swyddogion at y Nodyn OVS y cyfeiriwyd ato uchod, gan geisio dangos eu bod yn gallu mewnforio unrhyw gig/cynhyrchion cig o Fwlgaria. Nid yw hyn yn wir.
Dylai busnesau bwyd sy’n mewnforio cig gofio’r canlynol:
- Waeth o ba wlad yn yr UE y caiff cig ffres ei fewnforio, dylai busnesau bwyd manwerthu ofyn am gopi o’r Ddogfen Mynediad Iechyd Gyffredin (CHED) gan eu mewnforiwr neu gyfanwerthwr. Nid yw’r ddogfen hon fel arfer wedi’i chynnwys gyda’r llwyth cig, felly rhaid gofyn amdani’n rhagweithiol. Mae cael y CHED ar gael yn rhwydd yn helpu i atal oedi yn ystod arolygiadau, yn enwedig os yw awdurdodau lleol yn gofyn am ddogfennaeth mewnforio neu olrheiniadwyedd pan ganfyddir cig amheus ar y safle.
- Gwnewch yn siŵr bod yr holl gig a fewnforir yn dod gan allforiwr ag enw da sy’n gallu darparu’r dogfennau mewnforio angenrheidiol. Os ydych chi’n fusnes manwerthu sy’n prynu gan gyfanwerthwr cig, dylech gynnal gwaith diwydrwydd dyladwy trylwyr i wirio bod y cyflenwr yn ddilys ac yn cydymffurfio.
- O ystyried y newidiadau rheolaidd i lefelau risg, argymhellir yn gryf eich bod yn edrych ar Nodiadau OVS Defra a chanllawiau cysylltiedig yn i gael y diweddaraf. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y canllawiau llawn i sicrhau eich bod yn eu dehongli a’u cymhwyso’n gywir.
|
|
|
Adnodd Hunanasesu Gwytnwch yn erbyn Twyll Bwyd
Nod ein hadnodd yw cefnogi busnesau bwyd i nodi’r risg y mae troseddau bwyd yn ei pheri i’w busnes ac mae’n amlinellu camau y gallant eu cymryd i liniaru’r risg honno.
Mae Tîm Atal yr NFCU yn parhau i gynnig asesiad manwl o wydnwch yn erbyn twyll. Ar ôl cwblhau’r adnodd hunanasesu, gall y tîm ddarparu asesiad sydd â’r bwriad o:
- nodi lefel y risg sydd gan sefydliad i dwyll
- annog pobl o fewn sefydliadau i feddwl am wydnwch yn erbyn twyll a sut y dylid ymdrin â hyn
- helpu a chynorthwyo’r diwydiant bwyd i feithrin gwydnwch yn erbyn twyll bwyd
Os oes gennych ddiddordeb yn hyn, cysylltwch ag NFCU.prevention@food.gov.uk
|
|
Sganio’r gorwel
Isod, mae crynodeb o’r hyn y mae ein gwaith sganio’r gorwel wedi’i ganfod. Gobeithiwn y bydd hyn o ddefnydd i chi wrth i ni weithio gyda’n gilydd i atal twyll bwyd.
|
|
Cysylltwch â ni gydag adborth neu geisiadau am gynnwys
Oes gennych chi unrhyw syniadau neu awgrymiadau am ffyrdd o wella ein cylchlythyr? Os oes, hoffem glywed gennych chi!
Os oes gennych chi unrhyw adborth, rhowch wybod i ni yn NFCU.Prevention@food.gov.uk
|
|
|
Oes angen i chi ddarllen ein cylchlythyr blaenorol?
|
|
Tanysgrifiwch i'r cylchlythyr hwn a chylchlythyrau eraill
Os anfonwyd yr e-bost hwn ymlaen atoch, gallwch danysgrifio isod a chael cylchlythyrau yn y dyfodol yn syth i’ch mewnflwch.
Gallwch ddiweddaru eich tanysgrifiadau, addasu eich cyfrinair neu gyfeiriad e-bost, neu stopio tanysgrifiadau unrhyw bryd ar eich tudalen dewisiadau Tanysgrifiwr. Bydd angen i chi ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost i fewngofnodi. Os oes gennych gwestiynau neu broblemau gyda’r gwasanaeth tanysgrifio, ewch i subscriberhelp.govdelivery.com.
Darperir y gwasanaeth hwn i chi am ddim gan Asiantaeth Safonau Bwyd y Deyrnas Unedig.
|
|
|
|
|