|
National Food Crime Unit (NFCU) industry update: July 2025 |
|
Dear Subscriber,
Welcome to our latest industry update, where we:
- highlight the key risks and issues that may be impacting the food industry
- share best practice to strengthen the industry’s response to food crime
- tell you about our ongoing work
In this edition:
Contact our Prevention team to feedback, raise a concern or possibly contribute to a future update.
|
|
Industry Alert
Food businesses are advised to be alert following the identification of adulterated saffron on the UK market.
Recent sampling has revealed instances of saffron being adulterated with synthetic colourants, in breach of Regulation (EC) No 1333/2008. Additionally, some products have been found to misrepresent their grade (I, II or III) on packaging, due to lower than required levels of colouring strength – measured as Crocin content – falling below the required thresholds. Investigations into these non-compliant samples are ongoing both in the UK and internationally.
|
|
Illegal Slaughter
We have recently received reports of illegal slaughter of livestock. With a potential rise in home butchery during this time of year, it is important that all slaughter practices comply with Food Standards Agency regulations on safe and legal slaughter.
- At home, slaughter of livestock is only legal if it is for your own consumption. The process must still adhere to strict animal welfare and hygiene laws.
- Meat from animals slaughtered on a farm or holding must not be sold, shared or distributed.
- Improper slaughter poses health risks due to lack of inspection and increased risk of contamination and food borne illnesses.
The safest way to consume meat is through approved establishments, where all animals and birds presented for slaughter receive ante- and post-mortem inspections. These inspections are vital to ensuring food safety and animal welfare.
A full list of cutting plants and slaughterhouses approved to handle, prepare or produce products of animal origin – under requirements of assimilated Regulation (EC) No 853/2004 for England and Wales, and Regulation (EC) No 853/2004 for Northern Ireland – can be found here.
If you are offered meat from what appears to be unapproved premises – for example, if it is presented in black bags or carrier bags, sold directly from vehicles, or offered in informal settings such as social gatherings – please report your concerns to the NFCU.
|
|
|
Report a food crime
Food Crime Confidential: 0800 028 11 80 (0207 276 8787 for non-UK mobiles and calls).
Email: foodcrime@food.gov.uk
|
|
Failure to prevent fraud legislation: what your business needs to know
A new corporate offence 'failure to prevent fraud', will come into force on 1 September 2025 under the Economic Crime and Corporate Transparency Act. This marks a significant shift in UK legislation, meaning large organisations can be held criminally liable if a person associated with the business commits a specified fraud offence intending to benefit the organisation or its clients.
The offence applies to organisations meeting at least two of the following criteria:
- More than 250 employees
- More than £36 million turnover
- More than £18 million in assets
Small and medium sized businesses will be exempt, but can be scrutinised under other fraud and corporate liability laws. To protect your business and comply, you must:
- Assess fraud risk across all departments.
- Implement reasonable procedures to prevent fraud. These should be tailored to your business and proportionate to the risk.
- Train staff on recognising and reporting fraudulent activities.
- Monitor and update internal controls regularly.
If you fail to comply, your business could be faced with unlimited fines, along with reputational damage and further scrutiny.
|
|
|
Food Fraud Resilience Self-Assessment tool
Our tool has been designed to support food businesses in identifying the risk to their business from food crime, and outline steps that they can take to mitigate those risks.
The NFCU’s Prevention team offer an in-depth fraud resilience assessment. Following the completion of the self-assessment tool. The team can provide an assessment which aims to:
- identify the risk level an organisation has to fraud
- get people within an organisation thinking about fraud resilience and how it is approached
- help and assist the food industry in building resilience to food fraud
If you are interested in this, please contact NFCU.prevention@food.gov.uk
|
|
Horizon Scanning
Below is a summary of our findings. We hope you find this useful to help us work together to prevent food fraud.
Arabica and robusta coffee price increases
According to a CropGPT article, global coffee markets remained under pressure in June 2025 due to robust supply expectations from Brazil and Vietnam, despite weather-related concerns in Colombia. However, global ending stocks are expected to fall by 6.6%, reaching a 25-year low of 20.87 million bags, a reflection of ongoing structural tightness.
|
Get in touch with feedback or requests for content
Do you have any thoughts or suggestions about how we could improve our newsletter? If so, we want to hear from you!
If you have any feedback, please let us know at NFCU.Prevention@food.gov.uk
|
|
|
Do you need to read our previous newsletter?
|
|
Subscribe to this newsletter and others
If this email was forwarded to you, you can subscribe below and get future newsletters delivered direct to your inbox.
Update your subscriptions, modify your password or email address, or stop subscriptions at any time on your Subscriber preferences page. You will need to use your email address to log in. If you have questions or problems with the subscription service, please visit subscriberhelp.govdelivery.com.
This service is provided to you at no charge by UK Food Standards Agency.
|
|
Diweddariad yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) i’r diwydiant: mis Gorffennaf 2025 |
|
Annwyl Danysgrifiwr,
Croeso i’n diweddariad rheolaidd i’r diwydiant, lle rydym yn:
- tynnu sylw at y prif risgiau a phroblemau a allai fod yn effeithio ar y diwydiant bwyd
- rhannu arferion gorau er mwyn cryfhau ymateb y diwydiant i droseddau bwyd
- rhoi gwybod i chi am ein gwaith parhaus
Yn y rhifyn hwn:
Gallwch gysylltu â’n Tîm Atal i roi adborth, codi pryder neu gyfrannu at ddiweddariad yn y dyfodol.
|
|
Rhybudd i’r Diwydiant
Cynghorir busnesau bwyd i fod yn wyliadwrus ar ôl dod o hyd i saffrwm wedi’i ddifwyno ar farchnad y DU.
Mae gwaith samplu diweddar wedi datgelu achosion o saffrwm wedi’i ddifwyno â lliwiau synthetig, a hynny’n groes i Reoliad (CE) Rhif 1333/2008. Yn ogystal, canfuwyd bod rhai cynhyrchion yn camgyfleu eu gradd (I, II neu III) ar y deunydd pecynnu, a hynny oherwydd lefelau cryfder lliw is na’r gofyniad – wedi’u mesur fel cynnwys Crocin – sy’n disgyn islaw’r trothwyon gofynnol. Mae ymchwiliadau i’r samplau hyn nad ydynt yn cydymffurfio yn parhau yn y DU ac yn rhyngwladol.
|
|
Lladd da byw yn anghyfreithlon
Yn ddiweddar, rydym wedi cael gwybod am achosion o ladd da byw yn anghyfreithlon. Gyda chynnydd posib mewn cigyddiaeth gartref yn ystod yr adeg hon o’r flwyddyn, mae’n bwysig bod arferion lladd yn cydymffurfio â rheoliadau’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar ladd diogel a chyfreithlon.
- Dim ond os yw’r cig ar gyfer eich defnydd eich hun y mae’n gyfreithlon lladd da byw gartref. Mae’n rhaid i’r broses barhau i gydymffurfio â deddfau llym o ran lles anifeiliaid a hylendid.
- Ni ddylid gwerthu, rhannu na dosbarthu cig o anifeiliaid a laddwyd ar fferm neu ddaliad.
- Mae lladd amhriodol yn peri risgiau iechyd oherwydd diffyg arolygu a risg uwch o halogiad a salwch a gludir gan fwyd.
Y ffordd fwyaf diogel o fwyta cig yw trwy sefydliadau cymeradwy, lle mae pob anifail ac aderyn a gyflwynir i’w lladd yn destun arolygiadau cyn ac ar ôl eu lladd. Mae’r arolygiadau hyn yn hanfodol i sicrhau diogelwch bwyd a lles anifeiliaid.
Mae rhestr lawn o ffatrïoedd torri a lladd-dai sydd wedi’u cymeradwyo i drin, paratoi neu gynhyrchu cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid – o dan ofynion Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif 853/2004 ar gyfer Cymru a Lloegr, a Rheoliad (CE) Rhif 853/2004 ar gyfer Gogledd Iwerddon – ar gael yma.
Os cynigir cig i chi o safle anghymeradwy posib – er enghraifft, os yw’n cael ei gyflwyno mewn bagiau du neu fagiau siopa, ei werthu’n uniongyrchol o gerbydau, neu ei gynnig mewn lleoliadau anffurfiol fel digwyddiadau cymdeithasol – rhannwch eich pryderon â’r NFCU.
|
|
|
Rhoi gwybod am drosedd bwyd
Trechu Troseddau Bwyd yn Gyfrinachol: 0800 028 1180 (0207 276 8787 ar gyfer ffonau symudol a galwadau nad ydynt yn dod o’r DU).
E-bost: foodcrime@food.gov.uk
|
|
Methiant i atal deddfwriaeth twyll: yr hyn y mae angen i’ch busnes ei wybod
Bydd trosedd corfforaethol newydd, ‘methiant i atal twyll’, yn dod i rym ar 1 Medi 2025 o dan y Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol. Mae hyn yn nodi newid sylweddol yn neddfwriaeth y DU, sy’n golygu y gall sefydliadau mawr fod yn atebol yn droseddol os yw person sy’n gysylltiedig â’r busnes yn cyflawni trosedd twyll penodol er budd y sefydliad neu ei gleientiaid.
Mae’r trosedd yn gymwys i sefydliadau sy’n bodloni o leiaf ddau o’r meini prawf canlynol:
- mwy na 250 o weithwyr
- trosiant o fwy na £36 miliwn
- dros £18 miliwn mewn asedau
Bydd busnesau bach a chanolig wedi’u heithrio, ond gallant fod yn destun craffu o dan gyfreithiau eraill sy’n ymwneud â thwyll ac atebolrwydd corfforaethol. Er mwyn diogelu eich busnes a chydymffurfio, mae’n rhaid i chi:
- asesu’r risg o dwyll ar draws pob adran
- rhoi gweithdrefnau rhesymol ar waith i atal twyll. Dylai’r rhain gael eu teilwra i’ch busnes a bod yn gymesur â’r risg
- hyfforddi staff ar adnabod ac adrodd am weithgareddau twyllodrus
- monitro a diweddaru mesurau rheoli mewnol yn rheolaidd
Os na fyddwch yn cydymffurfio, gallai eich busnes wynebu dirwyon diderfyn, ynghyd â niwed i’ch enw da a chraffu pellach.
Os hoffech chi gael help i asesu’r risg o dwyll i’ch busnes bwyd, cysylltwch â’r tîm Atal i drafod cymryd rhan mewn asesiad manwl ar wydnwch yn erbyn twyll.
|
|
|
Adnodd Hunanasesu Gwytnwch yn erbyn Twyll Bwyd
Nod ein hadnodd yw cefnogi busnesau bwyd i nodi’r risg y mae troseddau bwyd yn ei pheri i’w busnes ac mae’n amlinellu camau y gallant eu cymryd i liniaru’r risg honno.
Mae Tîm Atal yr NFCU yn parhau i gynnig asesiad manwl o wydnwch yn erbyn twyll. Ar ôl cwblhau’r adnodd hunanasesu, gall y tîm ddarparu asesiad sydd â’r bwriad o:
- nodi lefel y risg sydd gan sefydliad i dwyll
- annog pobl o fewn sefydliadau i feddwl am wydnwch yn erbyn twyll a sut y dylid ymdrin â hyn
- helpu a chynorthwyo’r diwydiant bwyd i feithrin gwydnwch yn erbyn twyll bwyd
Os oes gennych ddiddordeb yn hyn, cysylltwch ag NFCU.prevention@food.gov.uk
|
|
Sganio’r gorwel
Gweler isod grynodeb o’n canfyddiadau. Gobeithiwn y bydd hyn o ddefnydd i chi wrth i ni weithio gyda’n gilydd i atal twyll bwyd.
Cynnydd mewn prisiau coffi arabica a choffi robusta
Yn ôl erthygl CropGPT, roedd marchnadoedd coffi byd-eang yn parhau i fod dan bwysau ym mis Mehefin 2025 oherwydd disgwyliadau cyflenwi cadarn o Frasil a Fietnam, er gwaethaf pryderon am y tywydd yng Ngholombia. Fodd bynnag, disgwylir i stociau terfynol byd-eang ostwng 6.6%, gan gyrraedd y lefel isaf mewn 25 mlynedd o 20.87 miliwn o fagiau, sy’n adlewyrchu’r tyndra strwythurol parhaus.
|
Cysylltwch â ni gydag adborth neu geisiadau am gynnwys
Oes gennych chi unrhyw syniadau neu awgrymiadau am ffyrdd o wella ein cylchlythyr? Os oes, hoffem glywed gennych chi!
Os oes gennych chi unrhyw adborth, rhowch wybod i ni yn NFCU.Prevention@food.gov.uk
|
|
|
Oes angen i chi ddarllen ein cylchlythyr blaenorol?
|
|
Tanysgrifiwch i'r cylchlythyr hwn a chylchlythyrau eraill
Os anfonwyd yr e-bost hwn ymlaen atoch, gallwch danysgrifio isod a chael cylchlythyrau yn y dyfodol yn syth i’ch mewnflwch.
Gallwch ddiweddaru eich tanysgrifiadau, addasu eich cyfrinair neu gyfeiriad e-bost, neu stopio tanysgrifiadau unrhyw bryd ar eich tudalen dewisiadau Tanysgrifiwr. Bydd angen i chi ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost i fewngofnodi. Os oes gennych gwestiynau neu broblemau gyda’r gwasanaeth tanysgrifio, ewch i subscriberhelp.govdelivery.com.
Darperir y gwasanaeth hwn i chi am ddim gan Asiantaeth Safonau Bwyd y Deyrnas Unedig.
|
|
|
|
|