|
National Food Crime Unit (NFCU) industry update: June 2025 |
|
Dear Subscriber,
Welcome to our latest industry update, where we:
- highlight the key risks and issues that may be impacting the food industry
- share best practice to strengthen the industry’s response to food crime
- tell you about our ongoing work
In this edition:
You can contact our Prevention team to feedback, raise a concern or possibly contribute to a future update.
|
|
Report a food crime
Food Crime Confidential: 0800 028 11 80 (0207 276 8787 for non-UK mobiles and calls).
Email: foodcrime@food.gov.uk
|
|
NFCU milestone blog
Andrew Quinn, Head of the National Food Crime Unit has recently published a blog celebrating the milestones of the NFCU as the unit celebrated its tenth year, and the Food Standards Agency (FSA) turning 25. Read the blog here.
|
Safety of raw cow’s drinking milk (RCDM)
Reports have been received of food business operators using unofficial routes via social media to sell RCDM. We would like to remind industry members of the strict regulation surrounding this product to ensure public safety. Both farmers and distributors must adhere to these official requirements set out by the FSA.
Registration is mandatory. All dairy farms must be registered by the FSA before selling RCDM. Selling without registration is illegal and poses health risks to the public. Registered RCDM dairy establishments in the UK can be found here.
A RCDM producer can legally sell their milk to the final consumer in a number of ways, including:
- to a distributor (e.g. a milkman) who is selling directly to the final consumer
- a farm shop within the curtilage of the farm
- a vending machine within the curtilage of the farm
- a bed and breakfast within the curtilage of the farm
- internet sales from the production holding
- from the farm gate
A stall at a farmer’s market is considered an extension of the farm gate, so a stall can sell raw drinking milk to the final consumer. Farmers cannot sell their own RCDM on milk rounds that are run by them. The distribution business needs to be separate from the farm.
It is important to remember that RCDM may carry harmful bacteria, and vulnerable groups such as pregnant women, the elderly, young children and those with weakened immune systems should not consume this type of milk.
If you are producing or selling RCDM in England, Wales, or Northern Ireland please ensure you are comply with the appropriate legal requirements.
- Food Safety and Hygiene (England) Regulations 2013
- Food Hygiene (Wales) Regulations 2006
- Food Hygiene (Northern Ireland) Regulations 2006
Read the business guidance for more information.
|
|
|
Horizon scanning
Below is a summary of our findings. We hope you find this useful to help us work together to prevent food fraud.
Food inflation
The Caterer reports that core menu item costs in the UK hospitality sector have risen sharply. The Office of National Statistics reported that inflation for food and non-alcoholic beverages rose to 3.4% in April from 3% in March. It is expected beef, poultry, potatoes and dairy products will be subjected to further price hikes over the summer, putting UK hospitality businesses under further financial pressure.
The Retail Bulletin reports that food inflation prices have risen for the fourth consecutive month, which it attributes to an uplift in wholesale beef prices, resulting in higher steak prices in supermarkets. The Herald reports on these price increases and notes that food prices have risen to 2.8% higher than this time last year. The Financial Times (article behind paywall) reported that global food prices increased by an annual rate of 7.6% in April, according to the UN Food and Agriculture Organization index, with vegetable oil and dairy products rising by more than 20% year on year.
|
Pistachios
A Food Navigator article focuses on products such as Dubai chocolate driving global pistachio supply shortages and pushing up prices from $7.65 a pound last year to $10.30 this year. The US pistachio supply is particularly impacted, where supply has fallen by 20% over the last 12 months.
|
NFCU at Balmoral Show
On May 14th, Ed McDonald, Regional Intelligence Officer for the National Food Crime Unit (NFCU), attended the Balmoral Show in Northern Ireland to raise awareness of the NFCU's Food Crime Confidential reporting line (tel: 0800 028 1180).
As the largest agricultural event in Northern Ireland, the Balmoral Show draws substantial participation from both industry stakeholders and government agencies. Ed engaged with representatives from across the sector, encouraging open dialogue around food crime concerns and promoting the appropriate channels for reporting such matters to the NFCU. During the event, Ed also met with Ulster Farmers’ Union President William Irvine at the National Farmers Union Mutual stand, as well as representatives from Pilgrims Europe (Moy Park), the Livestock and Meat Commission, and officers from the Police Service of Northern Ireland, including wildlife and rural crime specialists.
The event proved highly productive, with attendees eager to share insights, promote their organisations, and discuss specific food crime challenges relevant to their businesses and areas of responsibility.
|
Spotlight on: Food Authenticity Network (FAN)
The Food Authenticity Network (FAN) curate an online repository of resources, training and best practice for food authenticity analysis and fraud risk mitigation. Resources include a monthly email bulletin of news and updates. This global network of food industry professionals, regulators, and service providers is free to join. FAN is funded by support from public and private partner organisations, including the FSA.
|
|
|
Food Fraud Resilience Self-Assessment tool
Our tool has been designed to support food businesses in identifying the risk to their business from food crime, and outline steps that they can take to mitigate those risks.
The NFCU’s Prevention team offer an in-depth fraud resilience assessment. Following the completion of the self-assessment tool. The team can provide an assessment which aims to:
- identify the risk level an organisation has to fraud
- get people within an organisation thinking about fraud resilience and how it is approached
- help and assist the food industry in building resilience to food fraud
If you are interested in this, please contact NFCU.prevention@food.gov.uk
|
|
Get in touch with feedback or requests for content
Do you have any thoughts or suggestions about how we could improve our newsletter? If so, we want to hear from you!
If you have any feedback, please let us know at NFCU.Prevention@food.gov.uk
|
|
 |
|
|
Do you need to read our previous newsletter?
|
|
Subscribe to this newsletter and others
If this email was forwarded to you, you can subscribe below and get future newsletters delivered direct to your inbox.
Update your subscriptions, modify your password or email address, or stop subscriptions at any time on your Subscriber preferences page. You will need to use your email address to log in. If you have questions or problems with the subscription service, please visit subscriberhelp.govdelivery.com.
This service is provided to you at no charge by UK Food Standards Agency.
|
|
Diweddariad yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) i’r diwydiant: Mehefin 2025 |
|
#AQWAnnwyl Danysgrifiwr,
Croeso i’n diweddariad rheolaidd i’r diwydiant, lle rydym yn:
- tynnu sylw at y prif risgiau a phroblemau a allai fod yn effeithio ar y diwydiant bwyd
- rhannu arferion gorau er mwyn cryfhau ymateb y diwydiant i droseddau bwyd
- rhoi gwybod i chi am ein gwaith parhaus
Yn y rhifyn hwn:
Gallwch gysylltu â’n tîm Atal i roi adborth, codi pryder neu gyfrannu at ddiweddariad yn y dyfodol.
|
|
Rhoi gwybod am drosedd bwyd
Trechu Troseddau Bwyd yn Gyfrinachol: 0800 028 1180 (0207 276 8787 ar gyfer ffonau symudol a galwadau nad ydynt yn dod o’r DU).
E-bost: foodcrime@food.gov.uk
|
|
Blog cerrig milltir yr NFCU
Mae Andrew Quinn, Pennaeth yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd, wedi cyhoeddi blog yn ddiweddar yn dathlu cerrig milltir yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd wrth i’r uned ddathlu ei degfed flwyddyn, a’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn troi’n 25 oed. Gallwch ddarllen y blog yma.
|
Diogelwch llaeth buwch i’w yfed yn amrwd (RCDM)
Mae adroddiadau wedi dod i law am weithredwyr busnesau bwyd yn defnyddio llwybrau answyddogol i werthu RCDM trwy’r cyfryngau cymdeithasol. Hoffem atgoffa aelodau’r diwydiant o’r rheoliadau llym sy’n ymwneud â’r cynnyrch hwn er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd. Rhaid i ffermwyr a dosbarthwyr gydymffurfio â’r gofynion swyddogol hyn a nodir gan yr ASB.
Mae cofrestru’n orfodol. Rhaid i bob fferm laeth gael ei chofrestru gan yr ASB cyn gwerthu RCDM. Mae gwerthu heb gofrestru yn anghyfreithlon, ac mae’n peri risgiau iechyd i’r cyhoedd. Gellir dod o hyd i sefydliadau llaeth cofrestredig sy’n cynhyrchu RCDM yn y DU yma.
Gall cynhyrchydd RCDM werthu ei laeth yn gyfreithlon i’r defnyddiwr terfynol mewn sawl ffordd, gan gynnwys:
- I ddosbarthwr (e.e. llaethwr) sy’n gwerthu’n uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol
- Siop fferm o fewn cwrtil y fferm
- Peiriant gwerthu o fewn cwrtil y fferm
- Gwely a brecwast o fewn cwrtil y fferm
- Gwerthu ar y we o’r daliad cynhyrchu
- O giât y fferm
Mae stondin mewn marchnad ffermwyr yn cael ei hystyried yn estyniad o giât y fferm, felly gall stondin werthu llaeth i’w yfed yn amrwd i’r defnyddiwr terfynol. Ni all ffermwyr werthu eu RCDM eu hunain ar rowndiau llaeth y maent yn eu rhedeg. Mae angen i’r busnes dosbarthu fod ar wahân i’r fferm.
Mae’n bwysig cofio y gall RCDM gynnwys bacteria niweidiol, ac ni ddylai grwpiau agored i niwed, fel menywod beichiog, pobl hŷn, plant ifanc a’r rhai â systemau imiwnedd gwan, yfed y math hwn o laeth.
Os ydych chi’n cynhyrchu neu’n gwerthu RCDM yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol priodol.
- Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006
- Rheoliadau Diogelwch a Hylendid Bwyd (Lloegr) 2013
- Rheoliadau Hylendid Bwyd (Gogledd Iwerddon) 2006
Darllenwch y canllawiau busnes am ragor o wybodaeth.
|
|
|
Sganio’r gorwel
Dyma grynodeb o’n canfyddiadau. Gobeithiwn y bydd hyn yn ein helpu i gydweithio i atal twyll bwyd.
Chwyddiant bwyd
Mae cylchgrawn The Caterer yn adrodd bod costau eitemau craidd ar y fwydlen yn sector lletygarwch y DU wedi codi’n sydyn. Adroddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod chwyddiant ar gyfer bwyd a diodydd di-alcohol wedi codi i 3.4% ym mis Ebrill o 3% ym mis Mawrth. Disgwylir y bydd prisiau cig eidion, dofednod, tatws a chynhyrchion llaeth yn cynyddu ymhellach dros yr haf, gan roi busnesau lletygarwch y DU dan bwysau ariannol pellach.
Mae’r Bwletin Manwerthu yn adrodd bod chwyddiant prisiau bwyd wedi codi am y pedwerydd mis yn olynol, ac mae’n priodoli hyn i gynnydd ym mhrisiau cyfanwerthu cig eidion, sydd wedi arwain at brisiau stêc uwch mewn archfarchnadoedd. Mae’r Herald yn adrodd ar y cynnydd hwn mewn prisiau ac yn nodi bod prisiau bwyd wedi codi i 2.8% yn uwch na’r adeg hon y llynedd. Adroddodd y Financial Times (mae’r erthygl y tu ôl i wal dalu) fod prisiau bwyd byd-eang wedi cynyddu ar gyfradd flynyddol o 7.6% ym mis Ebrill, yn ôl mynegai Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig, gydag olew llysiau a chynhyrchion llaeth yn codi mwy nag 20% flwyddyn ar ôl blwyddyn.
|
Cnau pistasio
Mae erthygl ar wefan Food Navigator yn canolbwyntio ar gynhyrchion fel siocled Dubai sy’n achosi prinder cyflenwad pistachio byd-eang ac yn gwthio prisiau i fyny o $7.65 y pwys y llynedd i $10.30 eleni. Effeithir yn arbennig ar gyflenwad cnau pistasio’r Unol Daleithiau, lle mae’r cyflenwad wedi gostwng 20% dros y 12 mis diwethaf.
|
Yr NFCU yn Sioe Balmoral
Ar 14 Mai, aeth Ed McDonald, un o Swyddogion Cudd-wybodaeth Rhanbarthol yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) i Sioe Balmoral yng Ngogledd Iwerddon i godi ymwybyddiaeth o linell rhoi gwybod am Droseddau Bwyd yn Gyfrinachol yr NFCU (ffôn: 0800 028 1180).
Sioe Balmoral yw’r digwyddiad amaethyddol mwyaf yng Ngogledd Iwerddon, y mae nifer sylweddol o randdeiliaid yn y diwydiant ac asiantaethau’r llywodraeth yn ymwneud ag ef. Bu Ed yn ymgysylltu â chynrychiolwyr o bob cwr o’r sector, gan annog deialog agored ynghylch pryderon am droseddau bwyd a hyrwyddo’r sianeli priodol ar gyfer rhoi gwybod i’r NFCU am faterion o’r fath. Yn ystod y digwyddiad, gwnaeth Ed hefyd gyfarfod â Llywydd Undeb Ffermwyr Ulster, William Irvine, ar stondin Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, yn ogystal â chynrychiolwyr o Pilgrims Europe (Moy Park), y Comisiwn Da Byw a Chig, a swyddogion o Wasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon, gan gynnwys arbenigwyr bywyd gwyllt a throseddau gwledig.
Roedd y digwyddiad yn un hynod gynhyrchiol; roedd y rhai a oedd yn bresennol yn awyddus i rannu mewnwelediadau, hyrwyddo eu sefydliadau, a thrafod heriau troseddau bwyd penodol sy’n berthnasol i’w busnesau a’u meysydd cyfrifoldeb.
|
Golwg ar waith y Rhwydwaith Dilysrwydd Bwyd (FAN)
Mae’r Rhwydwaith Dilysrwydd Bwyd (FAN) yn curadu storfa ar-lein o adnoddau, hyfforddiant ac arferion gorau ar gyfer dadansoddi dilysrwydd bwyd a lliniaru risg twyll. Mae e-bost misol sy’n cynnwys newyddion a diweddariadau yn un o’r adnoddau sydd ar gael. Gellir ymuno â’r rhwydwaith byd-eang hwn o weithwyr proffesiynol, rheoleiddwyr a darparwyr gwasanaethau yn y diwydiant bwyd yn rhad ac am ddim. Mae’r FAN yn cael ei ariannu gan sefydliadau partner cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys yr ASB.
|
|
|
Adnodd Hunanasesu Gwytnwch yn erbyn Twyll Bwyd
Nod ein hadnodd yw cefnogi busnesau bwyd i nodi’r risg y mae troseddau bwyd yn ei pheri i’w busnes ac mae’n amlinellu camau y gallant eu cymryd i liniaru’r risg honno.
Mae Tîm Atal yr NFCU yn parhau i gynnig asesiad manwl o wydnwch yn erbyn twyll. Ar ôl cwblhau’r adnodd hunanasesu, gall y tîm ddarparu asesiad sydd â’r bwriad o:
- nodi lefel y risg sydd gan sefydliad i dwyll
- annog pobl o fewn sefydliadau i feddwl am wydnwch yn erbyn twyll a sut y dylid ymdrin â hyn
- helpu a chynorthwyo’r diwydiant bwyd i feithrin gwydnwch yn erbyn twyll bwyd
Os oes gennych ddiddordeb yn hyn, cysylltwch ag NFCU.prevention@food.gov.uk
|
|
Cysylltwch â ni gydag adborth neu geisiadau am gynnwys
Oes gennych chi unrhyw syniadau neu awgrymiadau am ffyrdd o wella ein cylchlythyr? Os oes, hoffem glywed gennych chi!
Os oes gennych chi unrhyw adborth, rhowch wybod i ni yn NFCU.Prevention@food.gov.uk
|
|
 |
|
|
Oes angen i chi ddarllen ein cylchlythyr blaenorol?
|
|
Tanysgrifiwch i'r cylchlythyr hwn a chylchlythyrau eraill
Os anfonwyd yr e-bost hwn ymlaen atoch, gallwch danysgrifio isod a chael cylchlythyrau yn y dyfodol yn syth i’ch mewnflwch.
Gallwch ddiweddaru eich tanysgrifiadau, addasu eich cyfrinair neu gyfeiriad e-bost, neu stopio tanysgrifiadau unrhyw bryd ar eich tudalen dewisiadau Tanysgrifiwr. Bydd angen i chi ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost i fewngofnodi. Os oes gennych gwestiynau neu broblemau gyda’r gwasanaeth tanysgrifio, ewch i subscriberhelp.govdelivery.com.
Darperir y gwasanaeth hwn i chi am ddim gan Asiantaeth Safonau Bwyd y Deyrnas Unedig.
|
|
|
|
|