|
Food Standards Agency science, evidence and research update
|
Dear Subscriber,
The FSA are delighted to share with you a new science update, where we bring you our latest science and evidence, and exciting opportunities to work with us. These updates will provide you with information about our current funding opportunities, latest research publications, areas of research interest, and will highlight FSA science job vacancies and peer reviewer opportunities.
This extra summer bulletin highlights an exciting opportunity to join FSA as our next Chief Scientific Adviser, as we bid farewell to Professor Robin May. Sign up to upcoming Food for Thought webinars on FSA’s food sampling and PATH-SAFE biosurveillance work below, and learn about how FSA is helping extend and expand the Food Safety Research Network.
Opportunities
Join the FSA as Chief Scientific Adviser
FSA’s Chief Scientific Adviser Professor Robin May will be leaving the FSA in September as he prepares to take up a new role as Interim Chief Scientific Officer at the UK Health Security Agency (UKHSA). The FSA has launched an open recruitment campaign to appoint a permanent successor and lead science at the heart of one of the UK’s most trusted public bodies. If you - or someone in your network - are passionate about using science to protect consumers and shape national policy, we encourage you to apply; details on the open recruitment campaign can be found here (applications close 7th September).
|
Highlights
Extension and expansion of the Food Safety Research Network
In partnership, the FSA and the Biotechnology and Biological Sciences Research Council (BBSRC) have awarded £650,000 to the Food Safety Research Network (FSRN), securing the work of this important multi-stakeholder network for the next three years. The FSRN will continue to bridge the gap between research, industry and policy, and help ensure that cutting-edge science is translated into practical solutions to support the safety of the UK’s food system.
|
|
|
|
21st August 2025 13:00-14:00 BST
FSA Food Sampling: Food for Thought Seminar
Join FSA Science colleagues for an overview of the some of the food sampling work funded by the FSA. This seminar will highlight why food sampling is an important part of the FSA’s work, the breadth of sampling undertaken, and how the results are used to improve compliance with food law. Register here.
17th September 2025 10:00am BST
FSA Board Meeting
The September FSA Board Meeting will be live streamed on Wednesday 17th September 2025 at 10:00am (BST) sign up, or catch the recording to hear about the progress and impact of FSA science over the last year and what coming up next.
25th September 2025 12:00-13:00 BST
Spotlight on PATH-SAFE: Food for Thought Seminar
Join FSA Science colleagues as they reveal insights from the Pathogen Surveillance in Agriculture, Food and the Environment (PATH-SAFE) programme which transformed pathogen surveillance across the UK. Register here.
Disclaimer: Food for Thought topics and the opinions expressed within the content do not represent the views of the Food Standards Agency.
|
|
The Pathogen Surveillance in Agriculture, Food and the Environment (PATH-SAFE) Programme was a 4-year (2021-2025), cross government and UK wide programme, led by FSA, that used £24m of funding from the HMT Shared Outcomes Fund and match funding from a range of government and academic delivery partners. The programme piloted the development of a national surveillance network, using the latest DNA-sequencing technology and environmental sampling. It aimed to improve the detection and tracking of foodborne human pathogens and associated AMR through the whole agri-food system from farm-to-fork. The programme has successfully developed new systems and tools, explored novel surveillance approaches and generated knowledge, with the evaluation concluding that the programme achievements and outputs have shown progression towards achieving our long-term impact.
The programme’s most recent publication, led by Cefas, is Realising a global One Health disease surveillance approach: insights from wastewater and beyond in Nature Communications. The publication presents a potential roadmap for developing and imbedding a One Health disease surveillance system, utilising an example of wastewater testing to detect and respond to emerging human health risks. Further information about the programme and its outputs can be found on the programme website.
|
|
|
Subscribe to this newsletter and others
If this email was forwarded to you, you can subscribe below and get future newsletters delivered direct to your inbox.
|
|
Y diweddaraf am wyddoniaeth, tystiolaeth ac ymchwil yr Asiantaeth Safonau Bwyd |
|
 |
Annwyl Danysgrifiwr,
Rydym ni yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn falch o rannu ein diweddariad gwyddoniaeth gyda chi, lle rydym yn sôn am y newyddion a’r dystiolaeth ddiweddaraf ym maes gwyddoniaeth, yn ogystal â chyfleoedd cyffrous i weithio gyda ni. Bydd y diweddariadau hyn yn rhoi gwybodaeth i chi am ein cyfleoedd cyllido cyfredol, y cyhoeddiadau ymchwil diweddaraf a’n meysydd o ddiddordeb ymchwil. Byddant hefyd yn tynnu sylw at swyddi gwag yr ASB ym maes gwyddoniaeth a chyfleoedd i adolygwyr cymheiriaid.
Mae’r bwletin haf ychwanegol hwn yn tynnu sylw at gyfle cyffrous i ymuno â’r ASB fel ein Prif Gynghorydd Gwyddonol nesaf, wrth i ni ffarwelio â’r Athro Robin May. Cofrestrwch ar gyfer gweminarau Cnoi Cil yr ASB ar waith samplu bwyd a gwaith bio-wyliadwriaeth y rhaglen PATH-SAFE, a dysgwch am sut mae’r ASB yn helpu i ymestyn ac ehangu’r Rhwydwaith Ymchwil Diogelwch Bwyd.
Cyfleoedd
Ymunwch â’r ASB fel Prif Gynghorydd Gwyddonol
Bydd Prif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB, yr Athro Robin May, yn gadael yr ASB ym mis Medi wrth iddo baratoi i ymgymryd â rôl newydd fel Prif Swyddog Gwyddonol Dros Dro yn Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA). Mae’r ASB wedi lansio ymgyrch recriwtio agored i benodi olynydd parhaol a fydd yn arwain gwyddoniaeth wrth wraidd un o’r cyrff cyhoeddus y mae pobl yn ymddiried ynddo fwyaf yn y DU. Os ydych chi – neu rywun yn eich rhwydwaith – yn angerddol am ddefnyddio gwyddoniaeth i ddiogelu defnyddwyr a llunio polisi cenedlaethol, rydym yn eich annog i wneud cais; gellir dod o hyd i fanylion am yr ymgyrch recriwtio agored yma (mae ceisiadau’n cau ar 7 Medi).
|
Uchafbwyntiau
Estyn ac ehangu’r Rhwydwaith Ymchwil Diogelwch Bwyd
Mewn partneriaeth, mae’r ASB a’r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) wedi dyfarnu £650,000 i’r Rhwydwaith Ymchwil Diogelwch Bwyd (FSRN), gan sicrhau gwaith y rhwydwaith aml-randdeiliaid pwysig hwn am y tair blynedd nesaf. Bydd yr FSRN yn parhau i bontio’r bwlch rhwng ymchwil, y diwydiant a pholisi, ac yn helpu i sicrhau bod gwyddoniaeth arloesol yn arwain at atebion ymarferol i gefnogi diogelwch system fwyd y DU.
|
|
|
Dyddiadau i’ch dyddiadur
21 Awst 2025, 1pm–2pm BST
Gwaith Samplu Bwyd yr ASB: Seminar Cnoi Cil
Ymunwch â chydweithwyr Gwyddoniaeth yr ASB i gael trosolwg o rywfaint o’r gwaith samplu bwyd a ariennir gan yr ASB. Bydd y seminar hon yn egluro pam mae samplu bwyd yn rhan bwysig o waith yr ASB, ac yn tynnu sylw at ehangder y gwaith samplu a wneir, a sut mae’r canlyniadau’n cael eu defnyddio i wella cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd. Cofrestrwch yma.
17 Medi 2025, 10am BST
Cyfarfod Bwrdd yr ASB
Bydd Cyfarfod Bwrdd yr ASB ym mis Medi yn cael ei ffrydio’n fyw ddydd Mercher 17 Medi 2025 am 10am (BST). Cofrestrwch, neu gwyliwch y recordiad i glywed am gynnydd ac effaith gwyddoniaeth yr ASB dros y flwyddyn ddiwethaf a beth sydd i ddod nesaf.
25 Medi 2025, 12pm–1pm BST
PATH-SAFE dan y chwyddwydr: Seminar Cnoi Cil
Ymunwch â chydweithwyr Gwyddoniaeth yr ASB wrth iddynt ddatgelu mewnwelediadau o’r rhaglen Cadw Gwyliadwriaeth ar Bathogenau mewn Amaethyddiaeth, Bwyd a’r Amgylchedd (PATH-SAFE) a drawsnewidiodd wyliadwriaeth pathogenau ledled y DU. Cofrestrwch yma.
Sylwer: Nid yw’r pynciau a drafodir yn y sesiynau Cnoi Cil nac unrhyw farn a fynegir yn ystod y rhain yn cynrychioli safbwyntiau’r Asiantaeth Safonau Bwyd.
|
|
Roedd y rhaglen ‘Cadw Gwyliadwriaeth ar Bathogenau mewn Amaethyddiaeth, Bwyd a’r Amgylchedd’ (PATH-SAFE) yn rhaglen 4 blynedd (2021–2025), drawslywodraethol a gynhaliwyd ledled y DU, dan arweiniad yr ASB. Defnyddiodd y rhaglen £24m o gyllid o Gronfa 'Canlyniadau a Rennir' Trysorlys Ei Fawrhydi, ac arian cyfatebol gan amrywiaeth o bartneriaid cyflawni llywodraethol ac academaidd. Drwy’r rhaglen, rhoddwyd cynnig ar ddatblygu rhwydwaith gwyliadwriaeth cenedlaethol, gan ddefnyddio’r dechnoleg dilyniannu DNA ddiweddaraf a gwaith samplu amgylcheddol. Nod y rhwydwaith oedd gwella’r gwaith o ganfod ac olrhain pathogenau dynol a gludir gan fwyd, ac ymwrthedd gwrthficrobaidd cysylltiedig, drwy’r system amaeth-fwyd gyfan o’r fferm i’r fforc. Mae’r rhaglen wedi llwyddo i ddatblygu systemau ac offer newydd, archwilio dulliau gwyliadwriaeth newydd a chynhyrchu gwybodaeth, gyda’r gwerthusiad yn dod i’r casgliad bod cyflawniadau ac allbynnau’r rhaglen wedi dangos cynnydd tuag at gyflawni ein heffaith hirdymor.
Cyhoeddiad diweddaraf y rhaglen, dan arweiniad Cefas, yw Realising a Global One Health Disease Surveillance Approach: Insights from Wastewater and Beyond yng nghyfnodolyn Nature Communications. Mae’r cyhoeddiad yn cyflwyno map trywydd posib ar gyfer datblygu a sefydlu system gwyliadwriaeth clefydau sy’n glynu wrth egwyddorion Iechyd Cyfunol, gan ddefnyddio enghraifft o brofion dŵr gwastraff i ganfod ac ymateb i risgiau i iechyd pobl sy’n dod i’r amlwg. Mae mwy o wybodaeth am y rhaglen a’i hallbynnau ar gael ar wefan y rhaglen.
|
|
|
Tanysgrifiwch i'r cylchlythyr hwn a chylchlythyrau eraill
Os anfonwyd yr e-bost hwn ymlaen atoch, gallwch danysgrifio isod a chael cylchlythyrau yn y dyfodol yn syth i’ch mewnflwch.
|
|
|
|
|