|
Stakeholder update: science and research
|
Dear Subscriber,
The FSA are delighted to share with you our latest science update, where we bring you our latest science and evidence and exciting opportunities to work with us. These quarterly updates will provide you with information about our current funding opportunities, latest research publications, areas of research interest, and will highlight FSA science job vacancies and peer reviewer opportunities.
In this edition:
Highlights
Catch up on all the action from British Science Week 2025!
We also published the following blog posts:
|
|
|
Food for Thought seminars
Our monthly seminars encourage collaborative learning and networking on topics across the food industry that align with our research priorities.
|
You can watch recordings of past seminars on our YouTube channel
Disclaimer: Food for Thought topics and the opinions expressed within the content do not represent the views of the Food Standards Agency.
|
|
Food for Thought seminar recordings
Beefing up safety: Understanding the risks of avian flu in beef and dairy With the news of avian flu being recently detected in cows, our Microbiological Risk Assessment Team discuss their work in assessing the food safety risks of avian flu in beef and dairy.
Watch this space for invitations to the following webinars:
-
Wednesday 14 May: Celebrating the FSAs 25-year anniversary with a session with the FSA’s Chief Scientific Advisor Robin May.
-
Thursday 10 July: Reflections on the PATH-SAFE programme and lessons learnt from this ground-breaking collaborative programme.
|
Recent publications
We collaborate with a range of stakeholders on research projects to ensure our work is underpinned by the latest science and evidence. Our publications are available on our new publications website science.food.gov.uk. You can see our latest research highlighted below, categorised by research and evidence programme.
|
Peer reviewed publications with FSA authors
The use of antimicrobial resistance terminology in Food Standards Agency research and surveillance publications was reviewed by the independent Advisory Committee on the Microbiological Safety of Food (ACMSF). This article details the recommendations made. Threlfall, E.J., La Ragione, R., Manuel, R., Teale, C., Cook, P., Kainth, B., Nicholls, H. and Callaghan, K. (2024), Advisory Committee on the Microbiological Safety of Food recommendations for standardisation of antimicrobial resistance terminology. Veterinary Record, 195: 414-417. https://doi.org/10.1002/vetr.4937
A groundbreaking UK method for quantifying horsemeat DNA in raw beef meat using real-time PCR has been published as a European Standard (EN18033:2024).The work, which included development, validation and standardisation of the method at CEN (European standardisation) was funded by the FSA and Defra and carried out in collaboration with the Laboratory of Government Chemist at NML. Publication of this CEN standard has set a benchmark for standardising similar methods for meat DNA speciation and promotes UK leadership in authenticity.
|
|
|
Market authorisations newsletter
|
|
PATH-SAFE programme
The Pathogen Surveillance in Agriculture, Food and the Environment (PATH-SAFE) programme is a 4-year, UK wide, cross government bio-surveillance programme which is working to develop a pilot national surveillance network, using the latest DNA-sequencing technology and environmental sampling, to improve the detection, and tracking of foodborne human pathogens and antimicrobial resistance (AMR) through the whole agri-food system from farm-to-fork.
As we approach the end of the programme (31st March), our March newsletter takes a look at some of our key achievements and a look forward to what the future holds.
In addition to our newsletter, you can find out more by visiting our website or contact the programme team directly at pathsafe@food.gov.uk.
|
|
Do you need to read our previous newsletter?
|
|
Subscribe to this newsletter and others
If this email was forwarded to you, you can subscribe below and get future newsletters delivered direct to your inbox.
|
|
Diweddariad rhanddeiliaid: gwyddoniaeth ac ymchwil
|
|
 |
Annwyl Danysgrifiwr,
Rydym ni yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn falch o rannu ein diweddariad gwyddoniaeth gyda chi, lle rydym yn sôn am y newyddion a’r dystiolaeth ddiweddaraf ym maes gwyddoniaeth, yn ogystal â chyfleoedd cyffrous i weithio gyda ni. Bydd y diweddariadau chwarterol hyn yn rhoi gwybodaeth i chi am ein cyfleoedd cyllido cyfredol a’n cyhoeddiadau ymchwil diweddaraf. Byddant hefyd yn tynnu sylw at swyddi gwag yr ASB ym maes gwyddoniaeth a chyfleoedd i adolygwyr cymheiriaid.
In this edition:
Uchafbwyntiau
Dyma’ch cyfle i ddal i fyny ar yr holl gyffro o Wythnos Wyddoniaeth Prydain 2025!
Gwnaethom hefyd gyhoeddi’r blogiau canlynol:
|
|
|
Seminarau Cnoi Cil
Mae ein seminarau misol yn annog cyd-ddysgu a rhwydweithio ar bynciau ar draws y diwydiant bwyd sy’n cyd-fynd â’n hegwyddorion ymchwil.
|
Gallwch weld recordiadau o seminarau blaenorol ar sianel YouTube ‘Cnoi Cil’.
Sylwer: Nid yw’r pynciau a drafodir yn y sesiynau Cnoi Cil nac unrhyw farn a fynegir yn ystod y rhain yn cynrychioli safbwyntiau’r Asiantaeth Safonau Bwyd.
|
|
Recordiadau o’r seminarau Cnoi Cil
‘Beefing up safety: Understanding the risks of avian flu in beef and dairy’ Wrth i’r newyddion sôn bod ffliw adar wedi’i ganfod yn ddiweddar mewn gwartheg, mae ein Tîm Asesu Risg Microbiolegol yn trafod eu gwaith o asesu’r risgiau i ddiogelwch bwyd mewn perthynas â chig eidion a llaeth sy’n dod o wartheg sydd â ffliw adar.
Cadwch lygad am wahoddiadau i’r gweminarau canlynol:
-
Dydd Mercher, 14 Mai: Dathlu pen-blwydd yr ASB yn 25 oed gyda sesiwn gyda Phrif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB, Robin May.
-
Dydd Iau, 10 Gorffennaf: Myfyrdodau ar y rhaglen PATH-SAFE a gwersi a ddysgwyd o’r rhaglen gydweithredol arloesol hon.
|
Cyhoeddiadau diweddar
Rydym yn cydweithio ag amrywiaeth o randdeiliaid ar brosiectau ymchwil i sicrhau bod ein gwaith yn seiliedig ar yr wyddoniaeth a’r dystiolaeth ddiweddaraf. Mae ein cyhoeddiadau ar gael ar ein gwefan cyhoeddiadau newydd, science.food.gov.uk. Mae ein hymchwil ddiweddaraf wedi’i hamlygu isod, ac mae wedi’i chategoreiddio yn ôl rhaglen ymchwil a thystiolaeth.
|
Clefydau a gludir gan fwyd ac ymwrthedd gwrthficrobaidd
Cyfraddau achosion campylobacteriosis yn y DU: Ymarfer ysgogiad arbenigol Gwnaethom berfformio ysgogiad arbenigol i gynhyrchu a graddio damcaniaethau sy’n archwilio pam nad yw achosion o campylobacteriosis dynol wedi gostwng er gwaethaf gostyngiad yn lefelau Campylobacter mewn cyw iâr mewn lleoliadau manwerthu.
Asesiad o’r risg y mae ffliw adar yn ei pheri mewn cig eidion a llaeth
Asesiad risg diweddaredig: Risg i ddefnyddwyr y DU o ffliw adar pathogenaidd iawn, H5N1 straen B3.13, mewn cynhyrchion llaeth a chig eidion UDA Asesiad risg diweddaredig yn seiliedig ar boblogaeth i bennu’r risg o H5N1, cytras 1.3.4.4b, genoteip B3.13, i ddefnyddwyr y DU o laeth, cynhyrchion llaeth a chig eidion a fewnforir o’r Unol Daleithiau.
Risg ddamcaniaethol i ddefnyddwyr y DU o ffliw adar pathogenaidd iawn, H5N1 straen B3.13, mewn gwartheg llaeth, llaeth, cynhyrchion llaeth, colostrwm a chynhyrchion sy’n seiliedig ar golostrwm, sydd oll yn dod o’r DU. Asesiad risg damcaniaethol fesul dogn i bennu’r risg o H5N1, cytras 1.3.4.4b, genoteip B3.13, i ddefnyddwyr y DU o laeth wedi a heb ei basteureiddio, cynhyrchion llaeth, colostrwm a chynhyrchion sy’n seiliedig ar golostrwm.
Risg i ddefnyddwyr y DU o gig, briwgig ac offal o gig eidion, yn y senario damcaniaethol bod ffliw adar pathogenaidd iawn, H5N1 straen B3.13, yn cael ei ddarganfod mewn gwartheg cig eidion a llaeth y DU Asesiad risg damcaniaethol fesul dogn i bennu risg H5N1, cytras 1.3.4.4, genoteip B3.13, i ddefnyddwyr y DU o gig eidion ac offal.
|
Cyhoeddiadau a adolygwyd gan gymheiriaid
Cynhaliodd y Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Microbiolegol Bwyd (ACMSF) adolygiad o’r defnydd o derminoleg ynghylch ymwrthedd gwrthficrobaidd yng ngwaith ymchwil a chyhoeddiadau gwyliadwriaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Mae’r erthygl hon yn manylu ar yr argymhellion a wnaed. Threlfall, E.J., La Ragione, R., Manuel, R., Teale, C., Cook, P., Kainth, B., Nicholls, H. a Callaghan, K. (2024), ‘Advisory Committee on the Microbiological Safety of Food recommendations for standardisation of antimicrobial resistance terminology.’ Veterinary Record, 195: 414-417. https://doi.org/10.1002/vetr.4937
Mae dull arloesol yn y DU o feintioli DNA cig ceffyl mewn cig eidion amrwd gan ddefnyddio PCR amser real wedi’i gyhoeddi fel Safon Ewropeaidd (EN18033:2024). Cafodd y gwaith, a oedd yn cynnwys datblygu, dilysu a safoni’r dull ar lefel CEN (y Pwyllgor Ewropeaidd dros Safoni), ei ariannu gan yr ASB a Defra a’i gynnal ar y cyd â Labordy Cemegydd y Llywodraeth yn NML. Mae cyhoeddi’r safon CEN hon wedi gosod meincnod ar gyfer safoni dulliau tebyg ar gyfer rhywogaethu DNA cig ac mae’n hyrwyddo arweinyddiaeth y DU ym maes dilysrwydd.
|
|
|
Cylchlythyr awdurdodiadau’r farchnad
|
|
Y Rhaglen PATH-SAFE
Rhaglen fio-wyliadwriaeth 4 blynedd drawslywodraethol ledled y DU yw PATH-SAFE (sef Cadw Gwyliadwriaeth ar Bathogenau mewn Amaethyddiaeth, Bwyd a’r Amgylchedd). Nod y rhaglen yw datblygu rhwydwaith gwyliadwriaeth cenedlaethol peilot, gan ddefnyddio’r dechnoleg dilyniannu DNA ddiweddaraf a samplu amgylcheddol i wella’r gwaith o ganfod ac olrhain pathogenau dynol a gludir gan fwyd ac ymwrthedd gwrthficrobaidd ym mhob rhan o’r system bwyd-amaeth, o’r fferm i’r fforc.
Wrth i ni nesáu at ddiwedd y rhaglen (31 Mawrth), mae ein cylchlythyr ar gyfer mis Mawrth yn edrych ar rai o’n cyflawniadau allweddol ac yn edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod.
Yn ogystal â’n cylchlythyr, gallwch ddysgu mwy trwy fynd i’n gwefan neu drwy gysylltu’n uniongyrchol â thîm y rhaglen yn pathsafe@food.gov.uk.
|
|
Hoffech chi ddarllen ein cylchlythyr blaenorol?
|
|
Tanysgrifiwch i'r cylchlythyr hwn a chylchlythyrau eraill
Os anfonwyd yr e-bost hwn ymlaen atoch, gallwch danysgrifio isod a chael cylchlythyrau yn y dyfodol yn syth i’ch mewnflwch.
|
|
|
|
|