|
National Food Crime Unit (NFCU) industry update: March 2025 |
|
Dear Subscriber,
Welcome to our latest industry update, where we:
- highlight the key risks and issues that may be impacting the food industry
- share best practice to strengthen the industry’s response to food crime
- tell you about our ongoing work
In this edition:
You can contact our Prevention team to feedback, raise a concern or possibly contribute to a future update.
|
|
Report a food crime
Food Crime Confidential: 0800 028 11 80 (0207 276 8787 for non-UK mobiles and calls).
Email: foodcrime@food.gov.uk
|
|
NFCU secure additional powers
Last week, Statutory Instruments (SI) were laid before Parliament that equip the FSA’s National Food Crime Unit (NFCU) with specific investigatory powers under The Police and Criminal Evidence Act (PACE).
These SIs are expected to come into force on 1 May 2025 and will grant enhanced investigatory powers to the FSA.
When granted, our authorised food crime officers in England and Wales will have powers under PACE that relate to the securing of search warrants, aspects of evidence handling and suspect interview. They do not include powers of arrest. Food crime officers will also have access to provisions under the Criminal Justice and Public Order Act 1994 (’CJPOA’) to issue 'special warnings’ to suspects in questioning under caution and for inferences to be drawn in certain situations.
These powers will enable our investigators to apply for and execute search and entry warrants, increasing our ability to respond quickly to intelligence and continuing to ensure that swift action is taken to tackle food fraud, as always helping to protect legitimate businesses and consumers.
|
Exploring new methods to protect honey authenticity in the UK
Read our new blog about new techniques being developed to help businesses, government and local enforcement agencies tackle fraud in honey in the future. Penned by Rick Mumford, FSA Head of Science & Research.
|
|
|
Horizon scanning
Below is a summary of what our horizon scanning has found. We hope you find this useful to help us work together to prevent food fraud.
Supplies are tight. Australian and New Zealand lamb is currently significantly cheaper than lamb produced in Europe.
|
Great British beef prices increased by approximately 20% compared with last year which is likely to have contributed to the UK having the highest beef prices (along with the USA) with South America and Australia among the lowest.
|
Citrus supplies
Adverse weather in Spain, Brazil and the USA (Florida) has put pressure on citrus supplies which may lead to an increase in the price, and orange juice supplies which has contributed to a 130% price increase.
|
Arabica coffee
Brazil’s arabica production for 2025/26 is estimated to be down by 11 million bags. Severe drought is believed to be a major contributing factor.
|
Fraud concerns around blueberries
A fungal disease called Erysiphe vaccinii is devastating blueberry plants in many major producing regions including North America, China, Morocco and Mexico. This is jeopardising the fruit’s future with concerns from experts that the blueberry crop could be wiped out. A major reduction in supply is likely to lead to price increases and increased demand, which in turn may increase the risk of fraud by misrepresentation of organic status and geographic origin.
|
Prevention desktop exercises
The prevention team continue to deliver their food fraud prevention desktop exercises. The latest exercise took place at the Food & Drink Federation, with various participants from across the food industry. The next session is in partnership with the Safe & Local Supplier Approval (SALSA) accreditation scheme and will take place in May. Invite details can be seen here.
|
|
|
Food crime guidance at Food & Drink Expo
The NFCU will be present at the Food & Drink Expo at the NEC in Birmingham 7-9 April, located at Stand HH350H.
Our Food Fraud Prevention Team and Relationship Managers will be available to provide free advice and guidance on protecting your business and products against food crime. If you would like to schedule a meeting with the prevention team during the event, please get in touch.
|
|
|
Food Fraud Resilience Self-Assessment tool
Our tool has been designed to support food businesses in identifying the risk to their business from food crime, and outline steps that they can take to mitigate those risks.
The NFCU’s Prevention team offer an in-depth fraud resilience assessment. Following the completion of the self-assessment tool. The team can provide an assessment which aims to:
- identify the risk level an organisation has to fraud
- get people within an organisation thinking about fraud resilience and how it is approached
- help and assist the food industry in building resilience to food fraud
If you are interested in this, please contact NFCU.prevention@food.gov.uk
|
|
Get in touch with feedback or requests for content
Do you have any thoughts or suggestions about how we could improve our newsletter? If so, we want to hear from you!
If you have any feedback, please let us know at NFCU.Prevention@food.gov.uk
|
|
 |
|
|
Do you need to read our previous newsletter?
|
|
Subscribe to this newsletter and others
If this email was forwarded to you, you can subscribe below and get future newsletters delivered direct to your inbox.
Update your subscriptions, modify your password or email address, or stop subscriptions at any time on your Subscriber preferences page. You will need to use your email address to log in. If you have questions or problems with the subscription service, please visit subscriberhelp.govdelivery.com.
This service is provided to you at no charge by UK Food Standards Agency.
|
|
Diweddariad chwarterol yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) i’r diwydiant: Medi 2024 |
|
Annwyl Danysgrifiwr,
Croeso i’n diweddariad rheolaidd i’r diwydiant, lle rydym yn:
- tynnu sylw at y prif risgiau a phroblemau a allai fod yn effeithio ar y diwydiant bwyd
- rhannu arferion gorau er mwyn cryfhau ymateb y diwydiant i droseddau bwyd
- rhoi gwybod i chi am ein gwaith parhaus
Yn y rhifyn hwn:
Gallwch gysylltu â’n Tîm Atal i roi adborth, codi pryder neu gyfrannu at ddiweddariad yn y dyfodol.
|
|
Rhoi gwybod am drosedd bwyd
Trechu Troseddau Bwyd yn Gyfrinachol: 0800 028 1180 (0207 276 8787 ar gyfer ffonau symudol a galwadau nad ydynt yn dod o’r DU).
E-bost: foodcrime@food.gov.uk
|
|
Pwerau ymchwilio ychwanegol yr NFCU
Yn gynharach y mis hwn, gosodwyd Offerynnau Statudol (OS) gerbron Senedd y DU sy’n rhoi pwerau ymchwilio penodol i Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (PACE).
Disgwylir i’r OSau hyn ddod i rym ar 1 Mai 2025, a byddant yn rhoi pwerau ymchwilio gwell i’r ASB.
Pan roddir y pwerau hyn, bydd gan ein swyddogion troseddau bwyd awdurdodedig yng Nghymru a Lloegr bwerau o dan PACE sy’n ymwneud â sicrhau gwarantau chwilio, agweddau ar drin tystiolaeth a chyfweld ag unigolion sydd dan amheuaeth. Nid ydynt yn cynnwys pwerau arestio. Bydd gan swyddogion troseddau bwyd hefyd fynediad at ddarpariaethau o dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (CJPOA) i roi ‘rhybuddion arbennig’ i unigolion dan amheuaeth sy’n cael eu holi dan rybudd ac i ddod i gasgliadau mewn sefyllfaoedd penodol.
Bydd y pwerau hyn yn galluogi ein hymchwilwyr i wneud cais am warantau chwilio a mynediad a’u defnyddio, gan gynyddu ein gallu i ymateb yn gyflym i gudd-wybodaeth a pharhau i sicrhau bod camau cyflym yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â thwyll bwyd, gan helpu bob amser i ddiogelu busnesau cyfreithlon a defnyddwyr.
|
Archwilio dulliau newydd o ddiogelu dilysrwydd mêl yn y DU
Darllenwch ein blog newydd gan Rick Mumford, Pennaeth Gwyddoniaeth ac Ymchwil yr ASB, am dechnegau newydd sy’n cael eu datblygu i helpu busnesau, y llywodraeth ac asiantaethau gorfodi lleol i fynd i’r afael â thwyll ym maes mêl yn y dyfodol.
|
|
 |
|
|
Sganio’r gorwel
Isod, mae crynodeb o’r hyn y mae ein gwaith sganio’r gorwel wedi’i ganfod. Gobeithiwn y bydd hyn o ddefnydd i chi wrth i ni weithio gyda’n gilydd i atal twyll bwyd.
Cig oen
Mae cyflenwadau’n dynn. Ar hyn o bryd, mae cig oen o Awstralia a Seland Newydd yn rhatach o lawer na chig oen a gynhyrchir yn Ewrop.
|
Prisiau cig eidion
Cynyddodd prisiau cig eidion Prydain Fawr tua 20% o gymharu â’r llynedd sy’n debygol o fod wedi cyfrannu at y ffaith bod gan y DU y prisiau cig eidion uchaf (ynghyd ag UDA) gyda De America ac Awstralia ymhlith y gwledydd â’r prisiau isaf.
|
Cyflenwadau sitrws
Mae tywydd gwael yn Sbaen, Brasil ac UDA (Florida) wedi rhoi pwysau ar gyflenwadau sitrws a all arwain at gynnydd yn y pris. Yn wir, bu pwysau ar gyflenwadau sudd oren ac mae hyn wedi cyfrannu at gynnydd mewn pris o 130%.
|
Coffi arabica
Amcangyfrifir bod cynhyrchiad arabica Brasil ar gyfer 2025/26 wedi gostwng 11 miliwn o fagiau. Credir bod sychder difrifol wedi cyfrannu’n fawr at hyn.
|
Pryderon am dwyll yn ymwneud â llus
Mae clefyd ffwngaidd o’r enw Erysiphe vaccinii yn dinistrio planhigion llus mewn llawer o’r prif ranbarthau cynhyrchu gan gynnwys Gogledd America, Tsieina, Moroco a Mecsico. Mae hyn yn peryglu dyfodol y ffrwyth gyda phryderon gan arbenigwyr y gallai’r cnwd llus gael ei ddifa. Mae gostyngiad mawr yn y cyflenwad yn debygol o arwain at gynnydd mewn prisiau a chynnydd yn y galw, a allai yn ei dro gynyddu’r risg o dwyll drwy gamgyfleu statws organig a tharddiad daearyddol y cynnyrch.
|
Ymarferion bwrdd gwaith ar gyfer atal
Mae’r tîm Atal yn parhau i gyflwyno ei ymarferion bwrdd gwaith ar gyfer atal twyll bwyd. Cynhaliwyd yr ymarfer diweddaraf yn y Ffederasiwn Bwyd a Diod yng nghwmni cyfranogwyr amrywiol o bob rhan o’r diwydiant bwyd. Bydd y sesiwn nesaf yn cael ei chynnal ym mis Mai mewn partneriaeth â’r cynllun ardystio diogelwch bwyd, Cymeradwyo Cyflenwyr Diogel a Lleol (SALSA). Mae manylion y gwahoddiad i’w gweld yma.
|
Cyngor ar droseddau bwyd yn yr Expo Bwyd a Diod
Bydd yr NFCU yn bresennol yn yr Expo Bwyd a Diod yn yr NEC yn Birmingham 7–9 Ebrill, wrth stondin HH350H.
Bydd ein Tîm Atal Twyll Bwyd a’n Rheolwyr Cysylltiadau ar gael i roi cyngor ac arweiniad am ddim ar ddiogelu eich busnes a’ch cynhyrchion rhag troseddau bwyd. Os hoffech drefnu cyfarfod gyda’r tîm atal yn ystod y digwyddiad, cysylltwch â ni.
|
|
|
Adnodd Hunanasesu Gwytnwch yn erbyn Twyll Bwyd
Nod ein hadnodd yw cefnogi busnesau bwyd i nodi’r risg y mae troseddau bwyd yn ei pheri i’w busnes ac mae’n amlinellu camau y gallant eu cymryd i liniaru’r risg honno.
Mae Tîm Atal yr NFCU yn parhau i gynnig asesiad manwl o wydnwch yn erbyn twyll. Ar ôl cwblhau’r adnodd hunanasesu, gall y tîm ddarparu asesiad sydd â’r bwriad o:
- nodi lefel y risg sydd gan sefydliad i dwyll
- annog pobl o fewn sefydliadau i feddwl am wydnwch yn erbyn twyll a sut y dylid ymdrin â hyn
- helpu a chynorthwyo’r diwydiant bwyd i feithrin gwydnwch yn erbyn twyll bwyd
Os oes gennych ddiddordeb yn hyn, cysylltwch ag NFCU.prevention@food.gov.uk
|
|
Cysylltwch â ni gydag adborth neu geisiadau am gynnwys
Oes gennych chi unrhyw syniadau neu awgrymiadau am ffyrdd o wella ein cylchlythyr? Os oes, hoffem glywed gennych chi!
Os oes gennych chi unrhyw adborth, rhowch wybod i ni yn NFCU.Prevention@food.gov.uk
|
|
 |
|
|
Oes angen i chi ddarllen ein cylchlythyr blaenorol?
|
|
Tanysgrifiwch i'r cylchlythyr hwn a chylchlythyrau eraill
Os anfonwyd yr e-bost hwn ymlaen atoch, gallwch danysgrifio isod a chael cylchlythyrau yn y dyfodol yn syth i’ch mewnflwch.
Gallwch ddiweddaru eich tanysgrifiadau, addasu eich cyfrinair neu gyfeiriad e-bost, neu stopio tanysgrifiadau unrhyw bryd ar eich tudalen dewisiadau Tanysgrifiwr. Bydd angen i chi ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost i fewngofnodi. Os oes gennych gwestiynau neu broblemau gyda’r gwasanaeth tanysgrifio, ewch i subscriberhelp.govdelivery.com.
Darperir y gwasanaeth hwn i chi am ddim gan Asiantaeth Safonau Bwyd y Deyrnas Unedig.
|
|
|
|
|