|
National Food Crime Unit (NFCU) quarterly industry update: September 2024 |
|
Dear Subscriber,
Welcome to our latest industry update, where we:
- highlight the key risks and issues that may be impacting the food industry
- share best practice to strengthen the industry’s response to food crime
- tell you about our ongoing work
In this edition:
You can contact our Prevention team to feedback, raise a concern or possibly contribute to a future update.
Food Crime Strategic Assessment
The FSA and Food Standard Scotland (FSS) have published their 2024 Food Crime Strategic Assessment.
The report has found that in the UK, the majority of food is safe and authentic, but factors such as recent geopolitical events have caused disruptions in the food chain which in turn have contributed to the changing threat of food crime. We also share that more is now known about the individuals who are involved in committing crime within food supply chains.
The report is the organisations’ assessment of the threat facing the UK from criminals who seek to profit from serious fraud within the food chain. It is shared with local authorities, government partners and industry to better inform collective work in protecting legitimate businesses and consumers from this threat.
Andrew Quinn, Head of the FSA’s National Food Crime Unit said:
“We’re confident that in the UK most food is what it says it is, but even small levels of food fraud are unacceptable. Although it’s our view that food fraud is low, the risks are changing, and that is why we’ve worked with FSS to develop and publish the Food Crime Strategic Assessment today.
Food businesses are the first line of defence in ensuring food is safe and authentic; the Food Crime Strategic Assessment encourages food businesses to know their supply chains and manage fraud risks within them. We’re sharing what they need to look out for and we’re encouraging businesses to take up our free support.
The more we know about food crime, the better we can tackle it together with both the industry itself and our Local Authority partners to protect legitimate businesses and consumers.”
The report concludes with a forward look considering the new and existing issues that might have an impact on the future threat landscape over the coming period. Read the full story.
- Misrepresentation of red meat and poultry, with regards to status or origin
- Waste diversion, including redating, and Animal By-Product handling within red meat and poultry supply chains
- Food crime servicing demand for culturally preferred products in pork and lamb supply chains
- Specific supply chains presenting high levels of authenticity risk to the UK
Share your views on the Food Crime Strategic Assessment here
|
|
|
Report a food crime
Food Crime Confidential: 0800 028 11 80 (0207 276 8787 for non-UK mobiles and calls).
Email: foodcrime@food.gov.uk
|
|
Counterfeit vodka
We have been made aware of the production and distribution of counterfeit vodka labelled as Glen’s Vodka. The counterfeit vodka may have a strange smell and taste differently to genuine vodka, so our advice to consumers is if the vodka smells differently, do not drink it.
Samples were found to contain an industrial solvent, isopropyl alcohol. This is not intended for human consumption and can quickly lead to alcohol poisoning and in severe cases, death. Symptoms include nausea, vomiting, and abdominal pain, intoxication, respiratory depression and coma. Cardiovascular collapse is also possible.
|
Every genuine bottle of Glen's Vodka has a laser etched lot code applied to the bottle between the rear label and the base of the bottle
Bottle mould number, may vary, do not use this as a unique identifier
Store any suspect product it in a safe place and report it to your local authority for further instruction and advice.
If you have any information on the manufacture or sale of counterfeit alcohol, then please contact our freephone confidential National Food Crime Unit hotline: 0800 028 1180.
Consumer and food business notice Glen's Vodka
Premium Sustainable goods: We need your input
Whether you are new to the food industry or have been working in this area for a significant amount of time, we need your help.
We are currently expanding our knowledge around sustainability claims on food and drink and the ingredients being used to create such products. The market for these types of goods has grown exponentially in the UK and globally, evidenced by consumer demand.
- issues in tracing stages of sustainable supply chains
- false claims relating to ingredients
- products being incorrectly sold as “sustainably produced” or bearing spurious logos indicative of green or sustainable status
|
Spotlight on: good practice for 'goods in' stock
Recent intelligence has highlighted the importance of ensuring a robust checking system is in place when receiving stock. This is to ensure the food you sell is safe and accurately labelled for consumers. It is important to be confident that the product you are selling is legal and in line with regulations.
Excellent communication between technical teams and ‘goods in’ staff have proved to be effective in creating a strong traceability structure to ensure businesses comply with UK trading standards. Discussions around labelling, what to expect from trusted suppliers and how to spot anomalies can help to protect against food crime.
Anomalies that should be raised by goods in, to senior teams for review include:
- New packaging that could be plain or not display the usual branding
- Spelling mistakes on product name or address etc.
- Incorrect company address displayed on packaging
- Evidence of stock having been repackaged/Information covered up
- Changes to how date or batch codes are printed on packaging
- Absence of key information on labelling e.g. product name
Remember that goods in is the first chance to identify any potential fraud, so it is important to consider that goods in operatives are aware of:
- Agreed specifications: Does the product coming in match the specification, especially if there is a product claim such as organic or halal?
- For products of animal origin: Do the health marks match with the approved supplier?
-
Is the origin declared, and does it match with what you have agreed?
Incorrect labelling could be a genuine mistake, or it could be a way to disguise food fraud which could affect your business. Creating awareness and an anti-fraud culture within your business can help protect your business. This should include reviewing risk assessments when ‘goods in’ colleagues leave, and new starters begin to allow for any increased risk during initial training periods where vigilance may be lower.
For free help and advice on how to avoid receipt of incorrectly labelled food products and to protect your business against food crime, why not book a call with one of our Prevention team? Email NFCU.Prevention@food.gov.uk
|
|
|
Food Fraud Resilience Self-Assessment tool
Our tool has been designed to support food businesses in identifying the risk to their business from food crime, and outline steps that they can take to mitigate those risks.
The NFCU’s Prevention team offer an in-depth fraud resilience assessment. Following the completion of the self-assessment tool. The team can provide an assessment which aims to:
- identify the risk level an organisation has to fraud
- get people within an organisation thinking about fraud resilience and how it is approached
- help and assist the food industry in building resilience to food fraud
If you are interested in this, please contact NFCU.prevention@food.gov.uk
|
|
Meat composition and labelling
Surveillance sampling results available to the FSA have identified issues with a variety of aspects of chicken products, particularly frozen products. This includes issues linked with the declared presence or quantity of added water in line with regulatory requirements on this practice.
Issues were also identified with the meat and fat levels of frozen beefburgers being incorrect. Partners are advised that offal content in some products (which did feature on the ingredient list) potentially contributed to analytical results of protein content appearing to be compliant with the declared meat content, when in fact this was not the case.
Industry partners are invited to assure processes being applied with regards to chicken and beefburger processing and labelling, and to raise any concerns identified through further scrutiny of this area to NFCU.
|
Horizon scanning
Below is a summary of what our horizon scanning has found. We hope you find this useful to help us work together to prevent food fraud.
UK lamb prices remain high, with fewer new season lambs coming through. New-season lambs averaged at 645.6p/kg deadweight in July, with trade still slightly above last year’s levels. Tighter supplies and higher prices so far this year have led to increased competition from imports, with larger volumes coming from both Australia and New Zealand.
|
UK pork remains at a significant premium compared to key EU imported origins, being approximately 58p/kg more expensive than the Netherlands and 28p/kg more expensive than the EU during July. Businesses may wish to assure the integrity of country of origin declarations and that incoming meat has been supplied via legitimate channels. We’d also welcome any insight on identified fraud issues linked to these pricing factors.
|
The price of branded and own-label tea bags in supermarkets has gone up by up to 30% year on year. Supply chain problems resulting from conflict in the Red Sea may be a casual factor, alongside increased fertiliser costs due to the Russia-Ukraine war. Harvests in Kenya and India, which together supply half the UK’s tea, have recently been disrupted by heatwave, drought and flooding. In May, tea production in India was down 30% compared to May 2023. While our intelligence does not point to identified issues in this area, we recognise the pricing pressures and suggest vigilance.
|
Cocoa prices are triple their level of a year ago and continue to experience significant volatility and price fluctuations, with a decline in exports from West African producers. This could incentivise the undeclared reduction of cocoa content in products, or substitution with cocoa from different origins or of different production standards.
|
Fraud concerns around edible oils:
A recently published academic review whose authors include Prof. Chris Elliott of the Institute for Global Food Security at Queen's University Belfast, provides an overview of global food fraud in vegetable oils, with a particular focus on sunflower oil. Fraud risk factors include the ease of blending (substitution) with cheaper oils during processing, and shortages caused by the effects of climate change and the Russia-Ukraine war. Analytical techniques for identification and mitigation are recommended.
|
There are reports that this year’s South African lemon crop is down by around 60% With supplies from Spain and Egypt now reducing, and Argentinian supplies delayed due to rain and also a good local and US market, shortages and price rises are anticipated. Concerns in this area could include dilution or replacement with products from less desirable origins, or the use of synthesised citric acid instead.
|
Get in touch with feedback or requests for content
Do you have any thoughts or suggestions about how we could improve our newsletter? If so, we want to hear from you!
If you have any feedback, please let us know at NFCU.Prevention@food.gov.uk
|
|
|
Do you need to read our previous newsletter?
|
|
Subscribe to this newsletter and others
If this email was forwarded to you, you can subscribe below and get future newsletters delivered direct to your inbox.
Update your subscriptions, modify your password or email address, or stop subscriptions at any time on your Subscriber preferences page. You will need to use your email address to log in. If you have questions or problems with the subscription service, please visit subscriberhelp.govdelivery.com.
This service is provided to you at no charge by UK Food Standards Agency.
|
|
Diweddariad chwarterol yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) i’r diwydiant: Medi 2024 |
|
Annwyl Danysgrifiwr,
Croeso i’n diweddariad rheolaidd i’r diwydiant, lle rydym yn:
- tynnu sylw at y prif risgiau a phroblemau a allai fod yn effeithio ar y diwydiant bwyd
- rhannu arferion gorau er mwyn cryfhau ymateb y diwydiant i droseddau bwyd
- rhoi gwybod i chi am ein gwaith parhaus
Yn y rhifyn hwn:
Gallwch gysylltu â’n Tîm Atal i roi adborth, codi pryder neu gyfrannu at ddiweddariad yn y dyfodol.
Asesiad Strategol o Droseddau Bwyd
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) wedi cyhoeddi eu Hasesiad Strategol o Droseddau Bwyd ar gyfer 2024.
Mae’r adroddiad wedi canfod bod y rhan fwyaf o fwyd yn y DU yn ddiogel ac yn ddilys, ond bod ffactorau fel digwyddiadau geowleidyddol diweddar wedi achosi aflonyddwch yn y gadwyn fwyd sydd, yn ei dro, wedi cyfrannu at y newid yn y bygythiad o droseddau bwyd. Rydym hefyd yn rhannu bod mwy o wybodaeth am yr unigolion sy’n ymwneud â throseddu o fewn cadwyni cyflenwi bwyd.
Mae’r adroddiad yn cyflwyno dadansoddiad y sefydliad o’r bygythiad sy’n wynebu’r DU gan droseddwyr sy’n ceisio elwa ar dwyll difrifol yn y gadwyn fwyd. Caiff ei rannu ag awdurdodau lleol, partneriaid yn y llywodraeth a’r diwydiant i lywio gwaith ar y cyd yn well, a hynny er mwyn diogelu busnesau a defnyddwyr cyfreithlon rhag y bygythiad hwn.
Dywedodd Andrew Quinn, Pennaeth Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yr ASB:
“Rydym yn hyderus bod y rhan fwyaf o fwyd y DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, ond mae hyd yn oed lefelau bach o dwyll bwyd yn annerbyniol. Rydym o’r farn bod lefelau twyll bwyd yn isel, ond mae’r risgiau’n newid, a dyna pam rydym wedi gweithio gydag FSS i ddatblygu’r Asesiad Strategol o Droseddau Bwyd a’i gyhoeddi heddiw.
Busnesau bwyd yw’r amddiffyniad cyntaf o ran sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn ddilys; mae’r Asesiad Strategol o Droseddau Bwyd yn annog busnesau bwyd i ymgyfarwyddo â’u cadwyni cyflenwi a rheoli risgiau twyll ynddynt. Rydym yn rhannu’r hyn y mae angen iddyn nhw gadw llygad amdano ac rydym yn annog busnesau i fanteisio ar ein cymorth rhad ac am ddim.
Y mwyaf rydym yn ei wybod am droseddau bwyd, y gorau y gallwn ni fynd i’r afael â nhw ar y cyd â’r diwydiant ei hun a’n partneriaid yn yr awdurdodau lleol i ddiogelu busnesau a defnyddwyr cyfreithlon.”
Mae’r adroddiad yn cloi wrth edrych tuag at y dyfodol, gan ystyried y materion newydd a phresennol a allai effeithio ar y dirwedd fygythiadau yn y dyfodol. Darllenwch y stori lawn.
Ar sail Asesiad Strategol o Droseddau Bwyd 2024, byddwn yn canolbwyntio ar y meysydd blaenoriaeth canlynol tan fis Mawrth 2025:
- Camgyfleu cig coch a dofednod, o ran statws neu darddiad
- Dargyfeirio gwastraff, gan gynnwys ailddyddio, a thrin sgil-gynhyrchion anifeiliaid o fewn cadwyni cyflenwi cig coch a dofednod
- Troseddau bwyd sy’n gwasanaethu’r galw am gynhyrchion a ffefrir yn ddiwylliannol mewn cadwyni cyflenwi porc a chig oen
- Cadwyni cyflenwi penodol sy’n peri lefelau uchel o risg dilysrwydd i’r DU
Rhannwch eich barn ar yr Asesiad Strategol o Droseddau Bwyd yma.
|
|
|
Rhoi gwybod am drosedd bwyd
Trechu Troseddau Bwyd yn Gyfrinachol: 0800 028 1180 (0207 276 8787 ar gyfer ffonau symudol a galwadau nad ydynt yn dod o’r DU).
E-bost: foodcrime@food.gov.uk
|
|
Fodca ffug
Rydym wedi cael gwybod am achos o gynhyrchu a dosbarthu fodca ffug â’r label Glen’s Vodka. Efallai y bydd gan y fodca ffug arogl rhyfedd a blas gwahanol i fodca go iawn, felly ein cyngor i ddefnyddwyr yw os yw’r fodca’n arogli’n wahanol, peidiwch â’i yfed.
Canfuwyd bod samplau’n cynnwys hydoddydd diwydiannol, yn benodol alcohol isopropyl. Nid yw hwn wedi’i fwriadu i’w yfed gan bobl, a gall yfed y sylwedd hwn arwain yn gyflym at wenwyn alcohol ac, mewn achosion difrifol, farwolaeth. Ymhlith y symptomau mae teimlo’n gyfoglyd, chwydu, a phoen yn yr abdomen, meddwdod, tananadlu a choma. Mae llewyg cardiofasgwlaidd hefyd yn bosib.
Dylai unrhyw un sydd â symptomau geisio sylw meddygol.
Rhybudd Bwyd er Gweithredu: Defnyddwyr a Busnesau Bwyd sydd wedi prynu Glen’s Vodka (35cl)
Cyngor i ddefnyddwyr a busnesau bwyd
Os ydych chi wedi prynu unrhyw gynhyrchion Glen’s Vodka nad oes ganddynt god lot wedi’i argraffu â laser ar y botel rhwng y label cefn a gwaelod y botel, peidiwch â’u gwerthu na’u hyfed. Mae delweddau o gynhyrchion dilys i’w gweld isod neu gallwch eu gweld yma (PDF yn agor mewn ffenestr newydd).
|
Mae gan bob potel wirioneddol o Glen’s Vodka god lot wedi’i argraffu â laser ar y botel rhwng y label cefn a gwaelod y botel
Gall rhif mowld potel amrywio – peidiwch â defnyddio hwn fel dynodwr unigryw
Storiwch unrhyw gynnyrch amheus mewn lle diogel a rhowch wybod i’ch awdurdod lleol i gael cyfarwyddyd a chyngor pellach.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am weithgynhyrchu neu werthu alcohol ffug, cysylltwch â llinell gymorth gyfrinachol yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd am ddim: 0800 028 1180.
Hysbysiad defnyddwyr a busnesau bwyd: Glen’s Vodka
Nwyddau cynaliadwy premiwm: Mae angen eich help arnom ni
P’un a ydych yn newydd i’r diwydiant bwyd neu wedi bod yn gweithio yn y maes hwn ers cryn amser, mae angen eich help arnom ni.
Ar hyn o bryd, rydym yn ehangu ein gwybodaeth am honiadau cynaliadwyedd mewn perthynas â bwyd a diod a’r cynhwysion sy’n cael eu defnyddio i greu cynhyrchion o’r fath. Mae’r farchnad ar gyfer y mathau hyn o nwyddau wedi tyfu’n gyflym iawn yn y DU ac yn fyd-eang, fel y gwelir yn y galw gan ddefnyddwyr.
Ydych chi wedi nodi unrhyw:
- broblemau wrth olrhain camau cadwyni cyflenwi cynaliadwy
- honiadau ffug sy’n ymwneud â chynhwysion
- cynhyrchion sy’n cael eu gwerthu’n anghywir fel rhai a “gynhyrchwyd yn gynaliadwy” neu sydd â logos ffug sy’n dynodi statws gwyrdd neu gynaliadwy
I gyflwyno eich ymatebion a’ch sylwadau ar yr uchod, anfonwch e-bost atom yn NFCU.Prevention@food.gov.uk
|
Golwg ar: arferion da ar gyfer stoc ‘nwyddau sy’n dod i mewn’
Mae gwybodaeth ddiweddar wedi tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod system wirio gadarn ar waith wrth dderbyn stoc. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y bwyd rydych chi’n ei werthu yn ddiogel ac wedi’i labelu’n gywir ar gyfer defnyddwyr. Mae’n bwysig bod yn hyderus bod y cynnyrch rydych chi’n ei werthu yn gyfreithlon ac yn cyd-fynd â rheoliadau.
Mae cyfathrebu rhagorol rhwng timau technegol a staff ‘nwyddau sy’n dod i mewn’ wedi bod yn effeithiol wrth greu strwythur olrheiniadwyedd cryf i sicrhau bod busnesau’n cydymffurfio â safonau masnach y DU. Mae cynnal trafodaethau am labelu, beth i’w ddisgwyl gan gyflenwyr dibynadwy a sut i sylwi ar anghysondebau yn gallu helpu i ddiogelu rhag troseddau bwyd.
O ran yr anghysondebau y dylid eu codi gan staff ‘nwyddau sy’n dod i mewn’, mae’r rhain yn cynnwys:
- Deunydd pecynnu newydd a allai fod yn blaen neu nad yw’n dangos y brandio arferol
- Camsillafu ar enw neu gyfeiriad y cynnyrch ac ati.
- Cyfeiriad anghywir y cwmni ar y pecyn
- Tystiolaeth bod stoc wedi’i ail-becynnu/bod gwybodaeth wedi’i gorchuddio
- Newidiadau i’r ffordd y mae’r dyddiad neu god y swp wedi’u hargraffu ar ddeunydd pecynnu
- Diffyg gwybodaeth allweddol ar labeli, er enghraifft enw’r cynnyrch
Cofiwch mai’r cyfle cyntaf i nodi unrhyw dwyll posib yw drwy archwilio ‘nwyddau sy’n dod i mewn’, felly mae’n bwysig ystyried bod gweithredwyr ‘nwyddau sy’n dod i mewn’ yn ymwybodol o’r canlynol:
- Manylebau y cytunwyd arnynt: A yw’r cynnyrch sy’n dod i mewn yn cyd-fynd â’r fanyleb, yn enwedig os oes honiad am y cynnyrch fel ei fod yn gynnyrch organig neu halal?
- Ar gyfer cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid: A yw’r nodau iechyd yn cyd-fynd â’r cyflenwr cymeradwy?
- A yw’r tarddiad wedi’i ddatgan, ac a yw’n cyd-fynd â’r hyn yr ydych wedi cytuno arno?
Gallai labelu anghywir fod yn gamgymeriad gwirioneddol, neu gallai fod yn ffordd o guddio twyll bwyd a allai effeithio ar eich busnes. Gall sicrhau ymwybyddiaeth a chreu diwylliant gwrth-dwyll yn eich busnes helpu i ddiogelu eich busnes. Dylai hyn gynnwys adolygu asesiadau risg pan fydd cydweithwyr sy’n gyfrifol am ‘nwyddau sy’n dod i mewn’ yn gadael a staff newydd yn dechrau, a hynny er mwyn caniatáu ar gyfer unrhyw gynnydd mewn risg yn ystod cyfnodau hyfforddiant cychwynnol pan all staff fod yn llai gwyliadwrus.
I gael cymorth a chyngor am ddim ar sut i osgoi derbyn cynhyrchion bwyd sydd wedi’u labelu’n anghywir ac ar ddiogelu eich busnes rhag troseddau bwyd, beth am drefnu galwad gyda’n tîm Atal? E-bostiwch NFCU.Prevention@food.gov.uk
Mae’r NFCU wedi cyhoeddi canllaw o’r enw Gweithio gyda’r Diwydiant sy’n esbonio ein rôl wrth ymladd yn erbyn troseddau bwyd, sut y gallwn gefnogi’r diwydiant, a sut y gall y diwydiant ein cefnogi ni. Efallai y bydd ein canllawiau i fusnesau ar droseddau bwyd yn ddefnyddiol i chi hefyd.
|
|
|
Adnodd Hunanasesu Gwytnwch yn erbyn Twyll Bwyd
Nod ein hadnodd yw cefnogi busnesau bwyd i nodi’r risg y mae troseddau bwyd yn ei pheri i’w busnes ac mae’n amlinellu camau y gallant eu cymryd i liniaru’r risg honno.
Mae Tîm Atal yr NFCU yn parhau i gynnig asesiad manwl o wydnwch yn erbyn twyll. Ar ôl cwblhau’r adnodd hunanasesu, gall y tîm ddarparu asesiad sydd â’r bwriad o:
- nodi lefel y risg sydd gan sefydliad i dwyll
- annog pobl o fewn sefydliadau i feddwl am wydnwch yn erbyn twyll a sut y dylid ymdrin â hyn
- helpu a chynorthwyo’r diwydiant bwyd i feithrin gwydnwch yn erbyn twyll bwyd
Os oes gennych ddiddordeb yn hyn, cysylltwch ag NFCU.prevention@food.gov.uk
|
|
Cyfansoddiad cig a labelu cig
Mae canlyniadau gwaith samplu gwyliadwriaeth sydd ar gael i’r ASB wedi tynnu sylw at broblemau gydag amrywiaeth o agweddau ar gynhyrchion cyw iâr, yn enwedig cynhyrchion wedi’u rhewi. Mae hyn yn cynnwys problemau sy’n gysylltiedig â phresenoldeb neu faint o ddŵr ychwanegol sydd wedi’i ddatgan, yn unol â’r gofynion rheoleiddiol ar gyfer yr arfer hon.
Nodwyd problemau hefyd o ran datgan y lefelau anghywir ar gyfer faint o gig a braster oedd mewn byrgyrs cig eidion wedi’u rhewi. Dyma roi gwybod i bartneriaid ei bod hi’n bosib bod cynnwys offal mewn rhai cynhyrchion (a oedd i’w weld ar y rhestr gynhwysion) wedi cyfrannu at ganlyniadau profion dadansoddol o gynnwys protein, gan roi’r argraff bod y cynnyrch yn cydymffurfio o ran y cynnwys cig datganedig, pan nad oedd hyn yn wir mewn gwirionedd.
Gwahoddir partneriaid yn y diwydiant i sicrhau bod prosesau’n cael eu defnyddio mewn perthynas â phrosesu a labelu byrgyrs cig eidion a chyw iâr, ac i godi unrhyw bryderon a nodir drwy graffu pellach ar y maes hwn i’r NFCU.
|
|
|
Sganio’r gorwel
Isod, mae crynodeb o’r hyn y mae ein gwaith sganio’r gorwel wedi’i ganfod. Gobeithiwn y bydd hyn o ddefnydd i chi wrth i ni weithio gyda’n gilydd i atal twyll bwyd
Cyflenwad cig oen y DU
Mae prisiau cig oen y DU yn parhau i fod yn uchel, gyda llai o ŵyn tymor newydd yn dod drwodd. Roedd pwysau marw ŵyn y tymor newydd ar gyfartaledd yn 645.6c/kg ym mis Gorffennaf, gyda lefelau masnachu’n dal i fod ychydig yn uwch na lefelau’r llynedd. Mae cyflenwadau cyfyngedig a phrisiau uwch hyd yn hyn eleni wedi arwain at fwy o gystadleuaeth gan fewnforion, gyda mwy o gynhyrchion yn dod o Awstralia a Seland Newydd.
|
Prisiau porc y DU
Mae premiwm sylweddol i’w dalu o hyd ar borc y DU o gymharu â tharddiadau allweddol a fewnforir o’r UE. Roedd porc y DU tua 58c/kg yn ddrytach na’r Iseldiroedd a 28c/kg yn ddrytach na’r UE yn ystod mis Gorffennaf. Efallai y bydd busnesau am wirio cywirdeb datganiadau gwlad tarddiad a sicrhau bod cig sy’n dod i mewn wedi’i gyflenwi drwy sianeli cyfreithlon. Byddem hefyd yn croesawu unrhyw wybodaeth am broblemau o ran twyll a nodwyd sy’n gysylltiedig â’r ffactorau prisio hyn.
|
Cynnydd mewn prisiau te
Mewn archfarchnadoedd, mae pris bagiau te brand a bagiau te â label yr archfarchnad ei hun wedi codi hyd at 30% flwyddyn ar ôl blwyddyn. Gall problemau yn y gadwyn gyflenwi o ganlyniad i wrthdaro yn ardal y Môr Coch fod yn ffactor anfwriadol, ochr yn ochr â chostau uwch gwrtaith oherwydd y rhyfel rhwng Rwsia ac Wcráin. Mae tywydd poeth, sychder a llifogydd wedi tarfu ar gynaeafau yn Kenya ac India, sydd, at ei gilydd, yn cyflenwi hanner te’r DU. Ym mis Mai, roedd cynhyrchiant te yn India wedi gostwng 30% o gymharu â mis Mai 2023. Er nad yw ein cudd-wybodaeth yn cyfeirio at broblemau amlwg yn y maes hwn, rydym yn cydnabod y pwysau prisio ac yn awgrymu gwyliadwriaeth.
|
Prisiau coco
Mae prisiau coco wedi treblu ers y llynedd ac maent yn parhau i fod yn newidiol iawn, gyda gostyngiad mewn allforion gan gynhyrchwyr Gorllewin Affrica. Gallai hyn annog unigolion i ostwng faint o goco sydd mewn cynhyrchion heb ddatgan hynny, neu gyfnewid coco am gynhwysion o darddiad gwahanol neu o safonau cynhyrchu gwahanol.
|
Pryderon am dwyll ynghylch olewau bwytadwy
Mae adolygiad academaidd a gyhoeddwyd yn ddiweddar, y mae ei awduron yn cynnwys yr Athro Chris Elliott o’r Sefydliad Diogelwch Bwyd Byd-eang ym Mhrifysgol Queen’s Belfast, yn rhoi trosolwg o dwyll bwyd byd-eang mewn olewau llysiau, gan ganolbwyntio’n benodol ar olew blodau’r haul. Mae ffactorau risg twyll yn cynnwys pa mor hawdd yw cymysgu (amnewid) ag olewau rhatach wrth brosesu, a phrinder a achosir gan effeithiau newid yn yr hinsawdd a rhyfel Rwsia-Wcráin. Argymhellir technegau dadansoddol ar gyfer canfod a lliniaru’r rhain.
|
Prinder lemonau
Mae adroddiadau bod cnwd lemonau De Affrica eleni wedi gostwng tua 60%. Gyda chyflenwadau o Sbaen a’r Aifft bellach yn lleihau, a chyflenwadau’r Ariannin wedi’u gohirio oherwydd glaw a hefyd farchnad dda yn lleol ac yn yr Unol Daleithiau, rhagwelir prinder a chynnydd mewn prisiau. Gallai pryderon yn y maes hwn gynnwys gwanhau sudd lemwn neu ei amnewid am gynhyrchion o darddiad llai dymunol, neu ddefnyddio asid sitrig wedi’i syntheseiddio yn lle hynny.
|
Cysylltwch â ni gydag adborth neu geisiadau am gynnwys
Oes gennych chi unrhyw syniadau neu awgrymiadau am ffyrdd o wella ein cylchlythyr? Os oes, hoffem glywed gennych chi!
Os oes gennych chi unrhyw adborth, rhowch wybod i ni yn NFCU.Prevention@food.gov.uk
|
|
|
Oes angen i chi ddarllen ein cylchlythyr blaenorol?
|
|
Tanysgrifiwch i'r cylchlythyr hwn a chylchlythyrau eraill
Os anfonwyd yr e-bost hwn ymlaen atoch, gallwch danysgrifio isod a chael cylchlythyrau yn y dyfodol yn syth i’ch mewnflwch.
Gallwch ddiweddaru eich tanysgrifiadau, addasu eich cyfrinair neu gyfeiriad e-bost, neu stopio tanysgrifiadau unrhyw bryd ar eich tudalen dewisiadau Tanysgrifiwr. Bydd angen i chi ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost i fewngofnodi. Os oes gennych gwestiynau neu broblemau gyda’r gwasanaeth tanysgrifio, ewch i subscriberhelp.govdelivery.com.
Darperir y gwasanaeth hwn i chi am ddim gan Asiantaeth Safonau Bwyd y Deyrnas Unedig.
|
|
|
|
|