Mae gan Ysgol Gynradd Tir-y-berth leoliad gofal plant sydd wedi'i hen sefydlu, mewn cyfleuster gofal plant dros dro sydd wedi’i leoli ar safle’r ysgol, i helpu darparu lleoedd gofal plant i blant a theuluoedd yr ardal leol. Mae'r ysgol yn chwilio am ddarparwr newydd i ailsefydlu'r cylch chwarae/gofal cofleidiol, y clwb ar ôl ysgol a’r clwb yn ystod y gwyliau.
Mae Corff Llywodraethu'r ysgol yn gwahodd Datganiadau o Ddiddordeb gan ddarparwyr gofal plant sydd wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i ailsefydlu'r ddarpariaeth hon. Mae'r broses Datganiadau o Ddiddordeb yn agored i ddarparwyr presennol sy'n dymuno datblygu darpariaethau lloeren newydd, darparwyr newydd, a gwarchodwyr plant sy'n dymuno cofrestru fel darpariaeth grŵp i blant 2 oed neu'n hŷn.
Bydd angen i’r darparwr newydd gynnig lleoedd gofal plant a ariennir o dan rhaglenni fel Dechrau’n Deg a Chynnig Gofal Plant Cymru yn ogystal ag ar gyfer rhieni sy'n talu ffioedd. Hefyd, bydd yn gyfrifol am ddarparu Lleoedd a Gynorthwyir a Lleoedd â Chymorth.
Mae'n cael ei ragweld y bydd y ddarpariaeth hon yn cael ei chofrestru erbyn mis Mehefin 2025. Ni ddylai Datganiadau o Ddiddordeb fod yn hwy na 1,000 o eiriau a dylen nhw roi sylw i’r pwyntiau canlynol:
-
Gwasanaeth o ansawdd di-dor: Esbonio sut rydych chi'n bwriadu cynnig gwasanaeth o ansawdd yn ddi-dor.
-
Cydweithio gyda’r ysgol: Esbonio sut byddwch chi'n gweithio'n agos gyda'r ysgol.
-
Partneriaeth gyda rhieni a gweithwyr proffesiynol: Amlinellu eich dull o roi’r wybodaeth ddiweddaraf i rieni, staff yr ysgol a gweithwyr proffesiynol eraill am brofiad y plant yn y ddarpariaeth gofal plant.
-
Gweledigaeth ar gyfer amgylchedd cynhwysol: Rhannu eich gweledigaeth i greu amgylchedd cynhwysol o ansawdd uchel dan do ac yn yr awyr agored.
Cofiwch hefyd gynnwys Cynllun Busnes sy’n cynnwys cyllid, cynaliadwyedd, marchnata ac agweddau perthnasol eraill.
Gwahoddiad am Ddatganiadau o Ddiddordeb
Dylai datganiadau o ddiddordeb gael eu cyfeirio er sylw Leanne Lloyd, Pennaeth, drwy e-bost yn lloydl36@hwbcymru.net erbyn 3pm, 31 Ionawr 2025.
|