Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Mawrth 2024

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Mawrth 2024

Croeso i'n e-gylchlythyr mis Mawrth, wedi'i ddylunio i'ch hysbysu'n rheolaidd am y newyddion, yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'r sector gofal plant.

Bydden ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac, os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein harolwg byr.

Byddem ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro yna rhowch wybod i ni trwy e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk.

Costau Lleoliadau Gofal Plant a Chymorth Ychwanegol o 1 Ebrill 2024

Finance

Bydd costau lleoliadau wedi'u hariannu yn cynyddu o 1 Ebrill 2024.

  • Bydd cyfradd ddyddiol Lleoliad Gofal Plant (Dechrau'n Deg a Lleoedd â Gynorthwyir) yn cynyddu i £16 fesul plentyn fesul sesiwn 2.5 awr.
  • Bydd Darpariaeth wedi'i Chyfoethogi (Cymorth Ychwanegol) yn cael ei hariannu ar gyfradd o £14.00 yr awr, gweler y dadansoddiad isod ar gyfer y sesiwn 2.5 awr:
Anghenion y plentyn Cost sesiwn
Cymhleth e.e. symudedd £35
Uchel £28
Canolig £17.50
Isel £10.50

Croesawu lleoliadau newydd

Childcare survey

Hoffai Gwasanaeth Gofal Plant y Blynyddoedd Cynnar roi croeso cynnes i ddarparwyr gofal plant newydd sydd wedi agor y drysau i'w lleoliadau gofal plant newydd y tymor hwn, Clwb y Ddraig a Sunshine Flying Start Childcare.

  • Clwb y Ddraig, sydd wedi agor 2 leoliad gofal plant newydd sbon y tymor hwn yn Ysgol Gynradd y Bryn ac Ysgol Gynradd Nant-y-Parc. Mae'r ddau leoliad yn cynnig gwasanaeth cofleidiol i gynorthwyo teuluoedd yn eu hardal leol gyda'u hanghenion gofal plant. Mae perchennog Clwb y Ddraig, Rebecca Bennett, yn credu'n gryf mewn erthyglau 31 a 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, ac yn eu hyrwyddo nhw, sef bod gan bob plentyn yr hawl i chwarae a bod gan bob plentyn yr hawl i'w farn a'i safbwynt gael eu cymryd o ddifrif. Mae Clwb y Ddraig yn sicrhau bod gan bob plentyn fynediad at gyfleoedd chwarae gyda dewis rhydd, er mwyn cyfoethogi eu profiadau ac i gael cyfle i archwilio eu lleisiau'n rhydd drwy ymgynghoriadau sy'n cael eu harwain gan y plant yn ystod eu hamser yng Nghlwb y Ddraig.
  • Sunshine Flying Start Childcare, sydd wedi ei leoli yng Nghanolfan Blant Caerffili, Eneu'r-glyn. Mae'r lleoliad hwn yn cynnwys darpariaeth gynhwysol Dechrau'n Deg sy'n darparu cyfleoedd a phrofiadau dysgu sy'n cael eu harwain gan y plant. Mae eu hamgylchedd nhw'n llifo'n rhydd felly bydd y plant sy'n mynychu yn cael mynediad rhydd i amgylchedd dan do ac awyr agored hyfryd.

Gwefan Diogelu Iechyd

Health Protection Website

Mae'r Gwasanaeth Ymateb Acíwt Cymru Gyfan/Tîm Diogelu Iechyd, yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn falch o gyhoeddi lansio'u gwefan newydd.

Ewch i wefan newydd Diogelu Iechyd yma

Treuliwch amser yn dod yn gyfarwydd â'r wefan, gan y bydd yn cynnwys y canllawiau, yr wybodaeth a'r hyfforddiant mwyaf diweddar sydd ar gael i leoliadau gofal plant.

Mae'r wefan hon yn darparu gwybodaeth am bwy yw'r Gwasanaeth Ymateb Acíwt Cymru Gyfan/Tîm Diogelu Iechyd a sut i gysylltu â nhw.

Yn ogystal, mae'r tîm wedi cyhoeddi y bydd canllawiau newydd yn cael eu rhyddhau ar Ddiogelu Iechyd mewn Lleoliadau Plant a Phobl Ifanc (yn cynnwys Addysg). Mae'r rhain yn disodli'r hen Ganllawiau Rheoli Heintiau mewn Lleoliadau Gofal Plant. Gallwch chi weld y canllawiau hyn yn yr adran o'r enw ‘Cyngor ac Arweiniad ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant, cyn ysgol ac addysgol


Nodiadau atgoffa pwysig!!

Reminder

Os nad ydych chi wedi gwneud hyn yn barod, edrychwch ar y ddau grant sydd ar gael, Grant Cymhwyster Cynorthwywyr Gwarchod Plant a'r Lwfans Mynychu Hyfforddiant. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 22 Mawrth 2024.


Dyddiadau Tymor Gweithredol Lleoliadau sydd dan Gontract Dechrau’n Deg: Ionawr 24 – Pasg 24

Flying Start

Ar gyfer Lleoliadau sydd dan gontract Dechrau’n Deg, mae dyddiadau’r tymhorau ar gyfer Ionawr 2024 i Basg 2024 fel a ganlyn:

  • Tymor yn dechrau: Dydd Llun 8 Ionawr 2024
  • Gwyliau hanner tymor yn dechrau: Dydd Llun 12 Chwefror 2024
  • Gwyliau hanner tymor yn gorffen: Dydd Gwener 16 Chwefror 2024
  • Tymor yn gorffen: Dydd Gwener 22 Mawrth 2024

Os oes gennych chi unrhyw ddiwrnodau cau wedi'u cynllunio lle nad ydych chi'n weithredol (mae hyn yn cynnwys diwrnodau HMS ysgolion os ydych chi'n lleoliad sydd wedi'i leoli ar safle ysgol) neu os na allwch chi gynnig eu hawl Dechrau'n Deg llawn i blant ar unrhyw ddiwrnod yn ystod y tymor, mae'n hanfodol eich bod chi'n trafod y dyddiadau cau gyda'ch Swyddog Gofal Plant ac yn diweddaru tîm Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232 neu e-bostio hwbyblynyddoeddcynnar@caerffili.gov.uk


E-byst penderfynu lleoedd Dechrau'n Deg wedi'u hanfon

Flying Start

Mae teuluoedd a wnaeth gais am ofal plant Dechrau'n Deg erbyn 26 Ionawr bellach wedi cael e-bost yn cadarnhau a yw eu plentyn yn gymwys. Mae'r e-bost hwn yn eu cyfarwyddo nhw i gysylltu â'r darparwr Gofal Plant Dechrau'n Deg o'u dewis i drefnu'r lleoliad. Mae dolen i restr o ddarparwyr gofal plant Dechrau'n Deg cymeradwy ar Dewis wedi'i chynnwys yn yr e-bost, felly gwnewch yn siŵr bod eich adnoddau ar Dewis yn gyfredol a heb ddod i ben. I drefnu'r lleoliad, bydd angen i chi lenwi'r ffurflen Lleoliad Plentyn Unigol. Mae'r ffurflen hon ar gael ar ein tudalen ffurflenni a dolenni yma.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232 neu anfon e-bost i HwbyBlynyddoeddCynnar@caerffili.gov.uk.


Neges y mis Siarad gyda Fi – Awgrymiadau i Adeiladu Geirfa

Recruitment

Y Pasg yw'r amser perffaith i fodelu amrywiaeth o eiriau i wella geirfa plant. Mae The Hanen Centre yn trafod pwysigrwydd modelu amrywiaeth o fathau o eiriau i blant. Mae'n demtasiwn canolbwyntio ar liwiau a siapiau ond mae plant yn elwa ar glywed geiriau gwahanol sy'n cyflawni swyddogaeth. Dyma'r erthygl gan Hanen: Tips to Build Vocabulary: Repeat Words That Match Your Child's Interests (hanen.org)

Dyma rai enghreifftiau o eirfa thema'r Pasg.

  • Enwau: Cwningen y Pasg
  • Geiriau sy'n disgrifio: blasus, hapus
  • Geiriau Gwneud: canu caneuon, bwyta siocled
  • Geiriau am deimladau: hapus, llawn cyffro
  • Geiriau lleoli (lle mae pethau): mae wyau yn y gwair, edrychwch o dan
  • Geiriau cymdeithasol: helo, bore da
  • Geiriau sy'n mynegi eiddo: fy siocled, dy ginio
  • Geiriau cwestiynau: pam, pryd

Am ragor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi


Paratoi ar gyfer Diwrnod Y Llyfr 7fed o Fawrth a Pasg 31ain o Fawrth! 

World Book Day

Geirfa a ymadroddion Cymraeg y mis: 

  • Pasg Hapus - Happy Easter 
  • Wyau Pasg – Easter Eggs 
  • Iesu – Jesus
  • Croes - Cross
  • Darllen - Reading 
  • Cymeriad - Character 
  • Llyfrau - Books

Awgrymiadau am weithgareddau: 

Gallwch chi wrando ar amrywiaeth o storiau Cymraeg yn cael eu darllen trwy: 

https://www.booktrust.org.uk/what-we-do/programmes-and-campaigns/bookstart/families/bookstart-in-wales/listen-to-bookstart-stories/  

Gwnewch yn siwr bod eich ardal chwarae rol wedi'i lenwi gyda nifer o ddefnyddiau a dillad a gadewch i ddychymyg y plant fynd yn wyllt! 


Gweithgareddau'r Pasg

Easter

Gyda'r Pasg ar y gorwel, dyma rai dolenni a allai fod yn ddefnyddiol wrth gynllunio gweithgareddau yn eich lleoliad:


Hoffwch ni ar Facebook

Am y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, Hoffwch y "Caerphilly Early Years & Childcare Service" ar Facebook.

Facebook

GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr