Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Chwefror 2024

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Chwefror 2024

Croeso i'n e-gylchlythyr mis Chwefror, wedi'i ddylunio i'ch hysbysu'n rheolaidd am y newyddion, yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'r sector gofal plant.

Bydden ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac, os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein harolwg byr.

Byddem ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro yna rhowch wybod i ni trwy e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk.


Newidiadau staff

Staff changes

Croeso cynnes i Hannah Flook, ein Harweinydd Gofal Plant newydd yn Dechrau'n Deg Pen-yr-heol. I ddechrau, bydd Hannah yn cyfeillio gyda Dechrau'n Deg Cefn-y-pant i ddysgu'r hanfodion. Croeso Hannah.


Nodiadau atgoffa pwysig!!

Reminder
  • Bydd y Cyfarfod Materion Presenoldeb yn digwydd ddydd Mawrth 20 Chwefror ar Microsoft Teams. Yn ystod y cyfarfod hwn, byddwn ni'n egluro mwy am ein polisi Derbyn, Presenoldeb a Phontio a beth rydyn ni ei angen gennych chi. Gwnewch bob ymdrech i fod yn bresennol. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, cysylltwch â'ch Swyddog Gofal Plant neu Hwb y Blynyddoedd Cynnar.
  • Os nad ydych chi wedi gwneud hyn yn barod, edrychwch ar y ddau grant sydd ar gael, Grant Cymhwyster Cynorthwywyr Gwarchod Plant a'r Lwfans Mynychu Hyfforddiant. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 22 Mawrth 2024.
  • Mae'r amserlen hyfforddi newydd ar gael, felly ewch i'n gwefan am fanylion ac i wneud cais am gadw'ch lle. 

Bydd y Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth yn fyw ar 31 Ionawr

Curriculum

Yn fuan, bydd Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu at yr holl ddarparwyr gofal plant a chwarae am eu Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth 2024.

Os ydych chi'n rhedeg gwasanaeth gofal plant a chwarae, mae'n ofynnol i chi gwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth gan ddefnyddio Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ar-lein erbyn 15 Mawrth 2024. Os nad ydych chi'n cwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth erbyn y dyddiad hwn, bydd yn effeithio ar eich sgôr yn y dyfodol.

Bydd angen i chi fod â chyfrif AGC Ar-lein i gwblhau eich Datganiad Hunanasesu Chwarae.

Os nad oes gennych chi gyfrif AGC Ar-lein, mae angen i chi gymryd camau brys:

  • Ewch i AGC Ar-lein
  • neu ffonio 0300 790 0126 a dewis opsiwn 4

Am ragor o wybodaeth am y Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth, ewch i'r wefan.


Dyddiadau Tymor Gweithredol Lleoliadau sydd dan Gontract Dechrau’n Deg: Ionawr 24 – Pasg 24

Term dates

Ar gyfer Lleoliadau sydd dan gontract Dechrau’n Deg, mae dyddiadau’r tymhorau ar gyfer Ionawr 2024 i Basg 2024 fel a ganlyn:

  • Tymor yn dechrau: Dydd Llun 8 Ionawr 2024
  • Gwyliau hanner tymor yn dechrau: Dydd Llun 12 Chwefror 2024
  • Gwyliau hanner tymor yn gorffen: Dydd Gwener 16 Chwefror 2024
  • Tymor yn gorffen: Dydd Gwener 22 Mawrth 2024

Os oes gennych chi unrhyw ddiwrnodau cau wedi'u cynllunio lle nad ydych chi'n weithredol (mae hyn yn cynnwys diwrnodau HMS ysgolion os ydych chi'n lleoliad sydd wedi'i leoli ar safle ysgol) neu os na allwch chi gynnig eu hawl Dechrau'n Deg llawn i blant ar unrhyw ddiwrnod yn ystod y tymor, mae'n hanfodol eich bod chi'n trafod y dyddiadau cau gyda'ch Swyddog Gofal Plant ac yn diweddaru tîm Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232 neu e-bostio hwbyblynyddoeddcynnar@caerffili.gov.uk


Derbyniadau i ysgolion meithrin

Building Blocks

Mae'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am le mewn dosbarth Meithrin ym mis Medi yn prysur agosáu ar 23 Chwefror.

Helpwch i atgoffa teuluoedd â phlant a fydd yn 3 oed cyn 31 Awst 2024 i wneud cais cyn y dyddiad cau. Dydyn ni ddim am i unrhyw blentyn golli allan!

Mae'r manylion ar gyfer gwneud cais yn www.caerffili.gov.uk/derbyniadauysgol. Am gymorth i wneud cais, gall rhieni ffonio'r Tîm Derbyniadau Ysgol ar 01443 864870.


Dewis Gofal Plant

Choosing Childcare

Ydych chi wedi gweld y llyfryn dewis gofal plant? Gallwch ddod o hyd i’r canllaw syml i helpu rhieni i ddewis gofal plant yng Nghymru yma.

Mae yna hefyd boster defnyddiol, efallai yr hoffech ei arddangos yn eich lleoliad?

Choosing Childcare Poster.pdf


Dweud Eich Dweud - Cofrestru proffesiynol ar gyfer y gweithlu gofal plant a gwaith chwarae

news

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar gofrestru'r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae yn broffesiynol

Mae'r ymgynghoriad yn cynnig y byddai cofrestr gweithlu mewn gofal plant a gwaith chwarae yn orfodol i unigolion sy'n cael eu talu weithio'n uniongyrchol gyda phlant mewn lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae cofrestredig.

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus I ddeall barn ymarferwyr ar rai cwestiynau allweddol, gan gynnwys:

  • Beth ydych chi'n ei feddwl o'r cynnig ar gyfer cofrestr gweithlu?
  • Ydych chi'n credu y dylai'r sector gofal plant a gwaith chwarae fod â chofrestr gweithlu?
  • Os felly, pwy ydych chi'n meddwl ddylai gael ei gynnwys yn y gofrestr honno?

Bydd atebion yr ymgynghoriad yn helpu i lunio'r camau nesaf gydag ymgynghoriad proffesiynol ac felly mae eich barn yn bwysig.

I glywed mwy a rhannu eich barn, dewch draw i un o'r digwyddiadau ymgysylltu (Microsoft Teams) dan arweiniad Llywodraeth Cymru ar:

  • 6 Chwefror 6.30-7.30yp
  • 19 Chwefror 6.30-7.30yp

Am wybodaeth bellach cysylltwch â: 

YmgynghoriadGofalPlantAGwaithChwarae@llyw.cymru


Neges y mis Siarad gyda Fi – Sut i gyfathrebu'n dda â phlant byddar

Recruitment

Mae gan bob plentyn anghenion unigol, gan gynnwys plant byddar.

Gallwch chi roi strategaethau ar waith i gynorthwyo plant â byddardod. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Cael eu sylw nhw drwy chwifio i'w cyfeiriad neu nesáu atyn nhw o'r tu blaen neu'r ochr fel nad ydyn nhw'n cael eu brawychu.
  • Chwarae gyda nhw wyneb yn wyneb. Efallai y byddwch chi'n dal teganau yn agos at eich wyneb i gynorthwyo rhyngweithio wyneb yn wyneb.
  • Gwnewch yn siŵr bod digon o olau yn yr ystafell.
  • Lleihau sŵn cefndir lle bo modd.

Mae rhagor o strategaethau a gwybodaeth ar gael yma: Taflen Ffeithiau Byddardod Siarad Gyda Fi – Fersiwn Cymraeg (llyw.cymru)

Am ragor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi


Paratoi ar gyfer Dydd Miwsig Cymru 10fed o Chwefror a Dydd Gwyl Dewi 1af o Fawrth!

daffs

Awgrymiadau am weithgareddau: 

Pam na wnewch chi chwarae cerddoriaeth Gymraeg yn y lleoliad i bawb fwynhau?  

https://cyw.cymru/en/caru-canu/  

Pam na wnewch chi drafod y wisg draddodiadol Gymreig a'i gymharu i beth mae plant yn gwisgo heddiw? 

Beth am geisio gwneud cawl gyda'r plant gan ddefnyddio llysiau?  

Gallech chi hefyd ddarllen ‘Y Feipen Enfawr’ gan Kaytie Daynes trwy: https://www.youtube.com/watch?v=YQJ35L5_XmA  

Peidiwch ag anghofio'r Pice Ar Y Maen. Gallech chi ei wneud allan o does os yn haws i chi?! 


Hoffwch ni ar Facebook

Am y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, Hoffwch y "Caerphilly Early Years & Childcare Service" ar Facebook.

Facebook

GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr