Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Ionawr 2024

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Ionawr 2024

Croeso i'n e-gylchlythyr mis Ionawr, wedi'i ddylunio i'ch hysbysu'n rheolaidd am y newyddion, yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'r sector gofal plant.

Bydden ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac, os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein harolwg byr.

Byddem ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro yna rhowch wybod i ni trwy e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk.

Croeso'n Ôl

Happy New Year

Rydyn ni'n gobeithio bod eich Nadolig chi wedi bod yn fendigedig ac eich bod chi wedi gallu gorffwys a dathlu gyda theulu a ffrindiau fel rydych chi'n ei haeddu.

Wrth i ni baratoi ar gyfer blwyddyn brysur arall, rydyn ni am ddangos ein gwerthfawrogiad diffuant o'ch ymrwymiad parhaus chi. Mae eich ymroddiad yn parhau i wthio ein gwasanaeth yn ei flaen ac rydyn ni'n hyderus y byddwn ni'n gwneud rhagor o welliannau gyda'n gilydd.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch chi, mae ein Tîm Gofal Plant yma i chi. Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Thîm Hwb y Blynyddoedd Cynnar chwaith.

Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda chi dros y 12 mis nesaf.

Sarah Mutch
Rheolwr y Blynyddoedd Cynnar a Phartneriaethau


Digwyddiad Rhwydwaith y Blynyddoedd Cynnar Iach - Ysblander y Gwanwyn

Apple

Ymunwch â ni ar gyfer Ysblander y Gwanwyn ddydd Sadwrn 3 Chwefror 9am-3.30pm yn Ysgol Gynradd Sant Iago lle byddwn ni'n cynnal Digwyddiad Rhwydwaith y Blynyddoedd Cynnar Iach y gwanwyn. 

Yn ystod y dydd, bydd cyfleoedd i rwydweithio gyda chydweithwyr o leoliadau eraill a mynychu amrywiaeth o weithdai sy'n berthnasol i'r Cynllun HEY. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yn ddiwrnod ymlaciol ac ysbrydoledig lle byddwch chi’n casglu llawer o syniadau rydych chi’n gallu eu rhoi ar waith yn eich lleoliadau.    

Cliciwch yma am ragor o fanylion ac i gadw lle


Cliciwch yma am ragor o fanylion ac i gadw lle Nodyn Atgoffa o'r Cyfarfod - Materion Presenoldeb

General

Yn ein bwletin ym mis Rhagfyr, fe wnaethon ni ddweud wrthoch chi am fenter ar gyfer y Fwrdeistref Sirol gyfan sydd ar fin cael ei lansio'r mis hwn, gyda'r nod o wella presenoldeb mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant a ariennir. Cadwch olwg am hyn ar gyfryngau cymdeithasol!

Rydyn ni'n credu'n gryf fod yr addysg yn dechrau yn y Blynyddoedd Cynnar, ac mae plant sy’n mynychu lleoliad gofal plant a ariennir yn gyson yn fwy tebygol o sefydlu arferion da o ran presenoldeb yn yr ysgol.

Erbyn hyn, dylech chi fod wedi cael gwahoddiad i gyfarfod Teams sydd wedi'i drefnu ar gyfer dydd Mawrth 20 Chwefror am 6pm. Yn ystod y sesiwn hon, byddwn ni'n esbonio rhagor am ein Polisi Derbyn, Presenoldeb a Phontio newydd. Byddwn ni hefyd yn amlinellu ein strategaethau ar gyfer gwella presenoldeb mewn lleoliadau gofal plant a ariennir, a'r rôl hollbwysig y byddwch chi'n ei chwarae wrth gynorthwyo'r ymdrechion hyn.

Gwnewch bob ymdrech i fod yn bresennol gan y bydd cyfleoedd hefyd i chi ofyn cwestiynau a deall y polisi a'r gweithdrefnau newydd yn llawn. Bydd eich cyfranogiad gweithredol yn cyfrannu'n sylweddol at lwyddiant y fenter hon.

We need your help

Mae angen eich help chi arnom ni!!!

Rydyn ni wedi datblygu ein set ein hunain o negeseuon i gyd-fynd â'r ymgyrch gorfforaethol o ran presenoldeb, gan ganolbwyntio yn benodol ar bresenoldeb mewn lleoliadau gofal plant wedi'u hariannu.

Yn hytrach na defnyddio delweddau stoc, rydyn ni'n credu byddai'r ymgyrch yn fwy effeithiol pe bawn ni'n defnyddio delweddau o blant yn un o'n lleoliadau gofal plant ein hunain. Y cyfan y byddai ei angen arnom ni fyddai eich caniatâd chi i ffotograffydd ddod i'ch lleoliad ar amser sy'n gyfleus i chi am tua 30 munud.

Os gallwch chi helpu, anfonwch e-bost i Louise ar saddll@caerffili.gov.uk.


Nodyn atgoffa grantiau

Rhag ofn eich bod chi heb ei weld, yn ein bwletin ym mis Rhagfyr, fe wnaethon ni ddweud wrthoch chi am y grantiau newydd sy'n cynnig cyllid ar gyfer Lwfans Gweini Hyfforddiant a chwblhau'r Cymhwyster Cynorthwyydd Gwarchod Plant.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth yma >>

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 22 Mawrth 2024.

Nid oes modd ystyried ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar ôl y dyddiad hwn.

Am unrhyw gwestiynau neu gymorth, cysylltwch â'ch Swyddog Gofal Plant.


Allwch chi ddarparu cyfleoedd chwarae i blant agored i niwed yn ystod hanner tymor?

Play

Cyn y Nadolig, fe wnaethon ni ofyn am ddatganiadau o ddiddordeb gan leoliadau a oedd â diddordeb mewn darparu lleoliadau Play Inc trwy gydol hanner tymor Chwefror.

Diolch i'r rhai sydd wedi ateb hyd yn hyn. Mae amser o hyd i gymryd rhan, felly, cliciwch ar y ddolen i gael rhagor o wybodaeth.

Read more

Ceisiadau Gofal Plant Dechrau'n Deg

Flying Start

Sylwch ein bod ni wedi agor y broses gwneud cais am ofal plant Dechrau'n Deg ar gyfer plant cymwys gyda dyddiad geni rhwng 01/01/2022 a 31/03/2022.

Y cyfnod gorau i wneud cais yw rhwng 8 Ionawr a 26 Ionawr, ond bydd modd gwneud cais ar ôl y cyfnod hwn.

Anogwch unrhyw rieni cymwys rydych chi'n gweithio gyda nhw i wneud cais.


Amserlen hyfforddiant y gwanwyn

Term dates

Mae amserlen hyfforddiant y gwanwyn Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili nawr ar gael ar ein gwefan. Am fanylion ac i gael mynediad at y ffurflen cais am hyfforddiant, cliciwch ar y ddolen isod. 

Cadwch le nawr


Paratoi ar gyfer Diwrnod Calan ar y 1af o Ionawr a Diwrnod Santes Dwynwen ar y 25ain o Ionawr!

Heart

Beth am greu Calennig eich hunan er mwyn dathlu Diwrnod Calan? Gwyliwch y fideo isod am ysbrydoliaeth:

Sut i wneud addurn Calennig – Sut i Wneud (wordpress.com)

Beth am ddarllen Stori Santes Dwynwen gyda’r plant yn ystod Amser Stori? Yn ogystal a creu cerdyn, beth am fwyta bwydydd siap calon er engraifft torri tost neu frechdanau i mewn i siap calon yn ystod Amser Snac, neu gwneud pice siap calon fel gweithgaredd cogino?

Ymadroddion Cymraeg y mis:

  • Dydd Calan Hapus – Happy New Year’s Day
  • Blwyddyn Newydd Dda – Happy New Year
  • Cariad - Love
  • Calon - Heart
  • Caru ti – Love you
  • Nun – Lleian
  • Rhewi – Freeze
  • Eglwys – Church
  • Ynys - Island

Cadwch le nawr Neges y mis Siarad gyda Fi - mudandod dethol

Selective Mutism

Anhwylder gorbryder yw mudandod dethol lle gall plant siarad mewn rhai sefyllfaoedd ond nid mewn sefyllfaoedd eraill.

Gall fod yn anodd nodi a oes gan blentyn fudandod dethol, a gall Therapydd Lleferydd ac Iaith gynorthwyo hyn. Nid yw plant â mudandod dethol yn dewis peidio â siarad, ac nid ydyn nhw'n swil; nid ydyn nhw'n gorfforol yn gallu siarad mewn rhai sefyllfaoedd. Mae’n bwysig peidio â rhoi’r plant hyn dan bwysau i siarad a rhoi digon o gyfleoedd iddyn nhw ymuno â gweithgareddau a sgyrsiau heb siarad, ac yna siarad pan fyddan nhw'n barod.

Fel rhan o gynllun cyflawni Siarad gyda Fi Llywodraeth Cymru, mae nifer o daflenni ffeithiau wedi’u creu. Gallwch chi ddod o hyd i un ar gyfer mudandod dethol yma: Taflen ffeithiau siarad gyda fi am fudandod dethol: help i rieni | LLYW.CYMRU

Am ragor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi


Awgrymiadau diogelu data ar gyfer lleoliadau’r blynyddoedd cynnar

DP

Mae’n hanfodol bod gan leoliadau’r blynyddoedd cynnar arferion diogelu data cadarn ar waith i gadw gwybodaeth plant yn ddiogel.  

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi llunio pum awgrym ymarferol diogelu data ar gyfer meithrinfeydd, lleoliadau cyn ysgol, gwarchodwyr plant a lleoliadau eraill y blynyddoedd cynnar. Os oes angen i chi adnewyddu eich arferion diogelu data neu os ydych chi ar ddechrau eich taith diogelu data, gallan nhw eich helpu chi i wneud hynny'n iawn.

Mae’r pum awgrym yn ymdrin â’r pynciau mae sector y blynyddoedd cynnar yn gofyn amdanyn nhw amlaf, gan gynnwys:

  • beth yw ‘data personol’;
  • sut i ddelio â chais am wybodaeth bersonol;
  • beth i'w wneud gyda'ch lluniau teledu cylch cyfyng;
  • rhannu gwybodaeth pan fo angen; a
  • cadw gwybodaeth yn ddiogel.

Drwy ddilyn ein cyngor ni, byddwch chi nid yn unig yn cadw’r plant yn eich gofal a’u teuluoedd nhw'n ddiogel, ond byddwch chi hefyd yn cadw’ch busnes chi'n ddiogel.  Ewch draw i'r adran advice for small organisations ar eu gwefan nhw i ddarllen yr awgrymiadau.


Newid Enw Facebook y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Facebook followers

Mae tudalen Facebook "Caerphilly Family Information Service" bellach wedi'i hailenwi'n "Caerphilly Early Years & Childcare Service". 

I gyd-fynd â hyn, rydyn ni wedi lansio ein hanimeiddiad newydd sbon sy’n arddangos yr hyn rydyn ni'n ei wneud a’r cymorth rydyn ni'n ei gynnig i deuluoedd. 


Hoffwch ni ar Facebook

Am y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, Hoffwch y "Caerphilly Early Years & Childcare Service" ar Facebook.

Facebook

GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr