Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Mehefin 2023

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Mehefin 2023

Croeso i'n e-gylchlythyr mis Mehefin, wedi'i ddylunio i'ch hysbysu'n rheolaidd am y newyddion, yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'r sector gofal plant.

Bydden ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac, os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein harolwg byr.

Byddem ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro yna rhowch wybod i ni trwy e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk.

Diolch am fod yn wych!!!

Dioch

2 Gorffennaf yw Diwrnod Cenedlaethol Diolch. Rydyn ni am ddefnyddio'r cyfle hwn i estyn ein gwerthfawrogiad diffuant am eich gwaith caled a'ch ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau gofal plant o ansawdd ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae eich ymroddiad i greu amgylcheddau diogel a meithringar ar gyfer ein plant yn wirioneddol ganmoladwy. Rydyn ni'n gwerthfawrogi eich amynedd, arbenigedd, a'r effaith gadarnhaol rydych chi'n ei chael ar eu datblygiad. Diolch i chi am chwarae rhan bwysig wrth lywio bywydau ein plant bach ac am fod yn rhan hanfodol o'n cymuned ni.


Diwrnod Chwarae Cenedlaethol – Dydd Mercher 2 Awst 2023

Children playing

Mae'r diwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae yn y Deyrnas Unedig, Diwrnod Chwarae Cenedlaethol, yn ddathliad blynyddol o hawl plant i chwarae. 

Y thema ar gyfer Diwrnod Chwarae Cenedlaethol eleni yw:

Chwarae am y nesaf peth i ddim - gwneud pob dydd yn antur

Does dim rhaid i gyfleoedd chwarae gynnwys gweithgareddau drud, teganau costus, neu deithio i gyrchfannau sy’n bell i ffwrdd. Yn aml iawn y syniadau symlaf, y cyfleoedd rhad ac am ddim a’r rhai y dewch ar eu traws ar ddamwain, sy’n cynnig fwyaf o hwyl, ac sydd o fwyaf o fudd datblygiadol i blant a phobl ifanc.

  • Mae chwarae’n hanfodol i bob oed ac ym mhob cyfnod o blentyndod, ac mae’n arbennig o bwysig yn ystod adegau o argyfwng.
  • Mae chwarae’n helpu plant a phobl ifanc i wneud synnwyr o’r byd o’u cwmpas, delio gyda heriau, a chynyddu gwytnwch.
  • Mae chwarae’n hwyl, mae’n galluogi plant a phobl ifanc i wneud ffrindiau, gollwng stêm, ac ymdopi gyda straen a phryder.
  • Mae chwarae’n hanfodol ar gyfer iechyd, hapusrwydd, a datblygu sgiliau plant a phobl ifanc yn cynnwys creadigedd, dychymyg, a’u synnwyr o antur.

Gwnewch y Diwrnod Chwarae hwn, a phob dydd, yn antur!

Am y newyddion diweddaraf am yr ymgyrch eleni, dilynwch Diwrnod Chwarae ar Facebook a Twitter ac ymunwch yn yr hwyl trwy ddefnyddio’r hashnod #DiwrnodChwarae2023.

Grant bach ar gael

Mae gan Chwarae Caerffili newyddion cyffrous ynglŷn â Diwrnod Chwarae Cenedlaethol 2023!

Mae grant bach gwerth hyd at £250 ar gael i chi gynnal digwyddiad i ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol. Bydd angen i'r digwyddiad fod yn ystod wythnos gyntaf mis Awst i gyd-fynd â Diwrnod Chwarae Cenedlaethol ar 2 Awst.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Becki Miller ar Chwarae@caerffili.gov.uk neu 07720 103858.


Diweddariad i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol

NMS

Mae'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol diwygiedig ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir (Mai 2023) bellach wedi cael eu cyhoeddi. Mae rhai newidiadau pwysig mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonyn nhw, yn ogystal â rhai safonau wedi'u diwygio i fod yn gliriach, a/neu wedi'u diweddaru.

Mae'r newidiadau allweddol yn ymwneud â:

  • Gofynion Cymorth Cyntaf Pediatrig ar gyfer yr holl staff
  • Diogelu
  • Gwarchodwyr plant sy'n gweithio gyda chynorthwywyr
  • Cymwysterau gofal plant ar gyfer darparwyr gofal dydd, ac
  • Yr aelod staff ychwanegol.

Mae dechrau'r ddogfen Safonau Gofynnol Cenedlaethol diwygiedig yn tynnu sylw at y newidiadau hyn.

Gwnewch eich hun yn ymwybodol o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol newydd a gwirio sut mae hyn yn gallu effeithio ar eich busnes.

Rydyn ni'n gobeithio eich bod chi'n cytuno bod hyn bellach yn darparu mwy o eglurder, a chofiwch fod ein Swyddogion Gofal Plant yma i'ch helpu a'ch cynorthwyo chi ochr yn ochr â phartneriaid o Cwlwm a Chwarae Cymru.


Neges y mis Gadewch i ni Siarad - Plant sy'n Derbyn Gofal

general

Ydych chi'n gweithio gyda Phlant sy'n Derbyn Gofal?

Fe wnaeth astudiaeth ddiweddar ganfod bod gan 90% o'r rhai a oedd yn gadael gofal allu ieithyddol is na'r cyfartaledd – fe allai hyn gael effaith gydol oes, ac rydyn ni'n gallu mynd i'r afael â hyn drwy nodi a chynorthwyo'r plant hyn i ddatblygu sgiliau cyfathrebu hanfodol. Po gynharaf rydyn ni'n nodi'r plant sydd angen cymorth gyda'u datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu, gorau oll! Y cam cyntaf yw creu'r amgylchedd cywir i'r sgiliau hyn dyfu.

Am ragor o wybodaeth am hyn ac am ffyrdd o helpu, ewch i: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2022-05/lleferydd-iaith-a-chyfathrebu-mewn-plant-sy-n-derbyn-gofal.pdf


Neges Gymraeg y mis - Ffiliffest 2023

Ffilifest

Peidiwch anghofio i fynychu Ffiliffest 2023; mae digon o hwyl i'w gael ac mae e ar garreg eich drws! Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://mentercaerffili.cymru/cy/ffilifest-cy

Mae hi’n Wythnos Genedlaethol Garddio Plant 28ain o Fai – 5ed o Fehefin 2023! Dyma gyfle i fod yn brysur yn yr ardal tu allan; plannwch hadau, addurnwch potiau, a gallech chi fwyta unrhyw gynnyrch rydych chi wedi'i dyfu gyda'ch gilydd yn ystod Amser Snac. Blasus iawn! Dewch i wrando ar stori ‘Supertaten’ yn Gymraeg: Supertaten


Arolygon Blynyddol Plant yng Nghymru, Tlodi Plant 2023

Billingual

Bob blwyddyn, mae Plant yng Nghymru, mewn partneriaeth â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, yn cynnal yr Arolygon Tlodi Plant a Theuluoedd.  

Fel gweithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a theuluoedd, treuliwch ychydig funudau yn llenwi'r arolwg isod. Bydd eich profiadau a’ch barn chi'n helpu i ddarparu gwybodaeth am effaith tlodi ar blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru.

Mae canfyddiadau’r llynedd wedi cael eu defnyddio’n eang, yn lleol ac yn genedlaethol, a hefyd i lywio Llywodraeth Cymru wrth adnewyddu’u Strategaeth Tlodi Plant. 

Arolwg ar gyfer ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol

Dyddiad cau 16 Mehefin 2023.


Ewch i’n gwefan Newydd

Cofiwch gael golwg ar ein gwefan newydd. Mae ganddi lawer o wybodaeth ddefnyddiol a chyngor ynglŷn â’r blynyddoedd cynnar, gofal plant a chymorth i ddarpar rieni neu deuluoedd sydd â phlant rhwng geni a 7 oed. www.blynyddoeddcynnarcaerffili.co.uk  

Mae yna adran benodedig i ddarparwyr gofal plant lle gallwch chi hefyd ddarllen unrhyw e-fwletin blaenorol y byddech chi wedi eu colli. Gadewch i ni wybod sut y byddech chi’n gwella hyn.

Childcare provider website

Hoffwch ni ar Facebook

Am y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, Hoffwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar Facebook.

Facebook

GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr