2 Gorffennaf yw Diwrnod Cenedlaethol Diolch. Rydyn ni am ddefnyddio'r cyfle hwn i estyn ein gwerthfawrogiad diffuant am eich gwaith caled a'ch ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau gofal plant o ansawdd ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae eich ymroddiad i greu amgylcheddau diogel a meithringar ar gyfer ein plant yn wirioneddol ganmoladwy. Rydyn ni'n gwerthfawrogi eich amynedd, arbenigedd, a'r effaith gadarnhaol rydych chi'n ei chael ar eu datblygiad. Diolch i chi am chwarae rhan bwysig wrth lywio bywydau ein plant bach ac am fod yn rhan hanfodol o'n cymuned ni.
Mae'r diwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae yn y Deyrnas Unedig, Diwrnod Chwarae Cenedlaethol, yn ddathliad blynyddol o hawl plant i chwarae.
Y thema ar gyfer Diwrnod Chwarae Cenedlaethol eleni yw:
Chwarae am y nesaf peth i ddim - gwneud pob dydd yn antur
Does dim rhaid i gyfleoedd chwarae gynnwys gweithgareddau drud, teganau costus, neu deithio i gyrchfannau sy’n bell i ffwrdd. Yn aml iawn y syniadau symlaf, y cyfleoedd rhad ac am ddim a’r rhai y dewch ar eu traws ar ddamwain, sy’n cynnig fwyaf o hwyl, ac sydd o fwyaf o fudd datblygiadol i blant a phobl ifanc.
- Mae chwarae’n hanfodol i bob oed ac ym mhob cyfnod o blentyndod, ac mae’n arbennig o bwysig yn ystod adegau o argyfwng.
- Mae chwarae’n helpu plant a phobl ifanc i wneud synnwyr o’r byd o’u cwmpas, delio gyda heriau, a chynyddu gwytnwch.
- Mae chwarae’n hwyl, mae’n galluogi plant a phobl ifanc i wneud ffrindiau, gollwng stêm, ac ymdopi gyda straen a phryder.
- Mae chwarae’n hanfodol ar gyfer iechyd, hapusrwydd, a datblygu sgiliau plant a phobl ifanc yn cynnwys creadigedd, dychymyg, a’u synnwyr o antur.
Gwnewch y Diwrnod Chwarae hwn, a phob dydd, yn antur!
Am y newyddion diweddaraf am yr ymgyrch eleni, dilynwch Diwrnod Chwarae ar Facebook a Twitter ac ymunwch yn yr hwyl trwy ddefnyddio’r hashnod #DiwrnodChwarae2023.
Grant bach ar gael
Mae gan Chwarae Caerffili newyddion cyffrous ynglŷn â Diwrnod Chwarae Cenedlaethol 2023!
Mae grant bach gwerth hyd at £250 ar gael i chi gynnal digwyddiad i ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol. Bydd angen i'r digwyddiad fod yn ystod wythnos gyntaf mis Awst i gyd-fynd â Diwrnod Chwarae Cenedlaethol ar 2 Awst.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Becki Miller ar Chwarae@caerffili.gov.uk neu 07720 103858.
Mae'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol diwygiedig ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir (Mai 2023) bellach wedi cael eu cyhoeddi. Mae rhai newidiadau pwysig mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonyn nhw, yn ogystal â rhai safonau wedi'u diwygio i fod yn gliriach, a/neu wedi'u diweddaru.
Mae'r newidiadau allweddol yn ymwneud â:
- Gofynion Cymorth Cyntaf Pediatrig ar gyfer yr holl staff
- Diogelu
- Gwarchodwyr plant sy'n gweithio gyda chynorthwywyr
- Cymwysterau gofal plant ar gyfer darparwyr gofal dydd, ac
- Yr aelod staff ychwanegol.
Mae dechrau'r ddogfen Safonau Gofynnol Cenedlaethol diwygiedig yn tynnu sylw at y newidiadau hyn.
Gwnewch eich hun yn ymwybodol o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol newydd a gwirio sut mae hyn yn gallu effeithio ar eich busnes.
Rydyn ni'n gobeithio eich bod chi'n cytuno bod hyn bellach yn darparu mwy o eglurder, a chofiwch fod ein Swyddogion Gofal Plant yma i'ch helpu a'ch cynorthwyo chi ochr yn ochr â phartneriaid o Cwlwm a Chwarae Cymru.
Ydych chi'n gweithio gyda Phlant sy'n Derbyn Gofal?
Fe wnaeth astudiaeth ddiweddar ganfod bod gan 90% o'r rhai a oedd yn gadael gofal allu ieithyddol is na'r cyfartaledd – fe allai hyn gael effaith gydol oes, ac rydyn ni'n gallu mynd i'r afael â hyn drwy nodi a chynorthwyo'r plant hyn i ddatblygu sgiliau cyfathrebu hanfodol. Po gynharaf rydyn ni'n nodi'r plant sydd angen cymorth gyda'u datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu, gorau oll! Y cam cyntaf yw creu'r amgylchedd cywir i'r sgiliau hyn dyfu.
Am ragor o wybodaeth am hyn ac am ffyrdd o helpu, ewch i: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2022-05/lleferydd-iaith-a-chyfathrebu-mewn-plant-sy-n-derbyn-gofal.pdf
Peidiwch anghofio i fynychu Ffiliffest 2023; mae digon o hwyl i'w gael ac mae e ar garreg eich drws! Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://mentercaerffili.cymru/cy/ffilifest-cy
Mae hi’n Wythnos Genedlaethol Garddio Plant 28ain o Fai – 5ed o Fehefin 2023! Dyma gyfle i fod yn brysur yn yr ardal tu allan; plannwch hadau, addurnwch potiau, a gallech chi fwyta unrhyw gynnyrch rydych chi wedi'i dyfu gyda'ch gilydd yn ystod Amser Snac. Blasus iawn! Dewch i wrando ar stori ‘Supertaten’ yn Gymraeg: Supertaten
Bob blwyddyn, mae Plant yng Nghymru, mewn partneriaeth â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, yn cynnal yr Arolygon Tlodi Plant a Theuluoedd.
Fel gweithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a theuluoedd, treuliwch ychydig funudau yn llenwi'r arolwg isod. Bydd eich profiadau a’ch barn chi'n helpu i ddarparu gwybodaeth am effaith tlodi ar blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru.
Mae canfyddiadau’r llynedd wedi cael eu defnyddio’n eang, yn lleol ac yn genedlaethol, a hefyd i lywio Llywodraeth Cymru wrth adnewyddu’u Strategaeth Tlodi Plant.
Arolwg ar gyfer ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol
Dyddiad cau 16 Mehefin 2023.
|
|