Mae'r Nadolig yn agosáu'n gyflym, ac rydyn ni'n dod at ddiwedd blwyddyn brysur arall o newid a heriau.
Hoffai Tîm Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili achub ar y cyfle hwn i ddiolch i chi i gyd am eich cymorth parhaus a dymuno iechyd, hapusrwydd a ffyniant i chi a'ch teuluoedd y Nadolig hwn ac yn y Flwyddyn Newydd i ddod.
Rydyn ni ar hyn o bryd yn gweithio ar amserlen hyfforddi misoedd Ionawr, Chwefror a Mawrth a byddwn ni’n anfon yr holl fanylion am hyn atoch chi yn ystod mis Rhagfyr.
Mae pob plentyn 2 a 3 oed ar 31 Awst 2021 yn gymwys i gael brechiad ffliw am ddim ar ffurf chwistrell drwynol. Fodd bynnag, nid yw pob rhiant yn ymwybodol o hyn nac yn derbyn y cynnig.
Gall staff sy'n gweithio yn y sector blynyddoedd cynnar helpu i godi ymwybyddiaeth o'r rhaglen ymhlith rhieni.
Mae creu golygfeydd, siapiau ac wynebau Nadoligaidd yn ffordd wych o annog plant i fwyta ffrwythau a llysiau a gall fod yn ffordd wych o annog plant i roi cynnig ar fwyd newydd.
Beth am droi eich gorsaf ddŵr yn eira rhewllyd Siôn Corn neu gael thema 'Frozen'?
Oeddech chi'n gwybod bod plant yn ei chael hi'n anodd iawn gwrando ar 2 beth ar yr un pryd?
Maen nhw'n gallu gwrando arnoch chi'n siarad gymaint yn haws os nad oes unrhyw wrthdyniadau, felly gall fod o gymorth mawr i ddiffodd y teledu a chael amser chwarae tawel gyda'ch gilydd, gyda llawer o sgwrsio i gymryd rhan ynddo! Os ydych chi'n gwylio sgrin gyda'ch gilydd, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ei mwynhau gyda'ch gilydd trwy:
- Sôn am yr hyn mae'r cymeriadau'n ei wneud.
- Defnyddio teganau go iawn i ymuno yn yr hyn sy'n digwydd ar y sgrin. Paru eitemau ar y sgrin â'ch teganau chi os gallwch chi, ‘Edrychwch – mochyn yw hwn, mochyn yw hwn hefyd’.
- Stopiwch a meddwl beth allai ddigwydd nesaf ‘Rydw i'n meddwl efallai byddan nhw'n mynd yn fwdlyd ar eu taith gerdded!’.
- Eisteddwch mewn man lle gallwch chi weld wynebau eich gilydd.
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cynnwys amser chwarae heb sgrin cyn ac ar ôl amser sgrin.
For more information on interacting with young children, visit https://gov.wales/talk-with-me
Download the Let's Talk poster to display at your setting (PDF)
|