![Thank you and Merry Christmas](https://content.govdelivery.com/attachments/fancy_images/UKCAERPHILLY_CY/2021/12/5255836/4474559/49304796-1678583838912565-6490609965613449216-n_crop.jpg) Mae'r Nadolig yn agosáu'n gyflym, ac rydyn ni'n dod at ddiwedd blwyddyn brysur arall o newid a heriau.
Hoffai Tîm Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili achub ar y cyfle hwn i ddiolch i chi i gyd am eich cymorth parhaus a dymuno iechyd, hapusrwydd a ffyniant i chi a'ch teuluoedd y Nadolig hwn ac yn y Flwyddyn Newydd i ddod.
![training](https://content.govdelivery.com/attachments/fancy_images/UKCAERPHILLY_CY/2022/11/6786452/nannying-and-childcare-course_original.jpg) Rydyn ni ar hyn o bryd yn gweithio ar amserlen hyfforddi misoedd Ionawr, Chwefror a Mawrth a byddwn ni’n anfon yr holl fanylion am hyn atoch chi yn ystod mis Rhagfyr.
Mae pob plentyn 2 a 3 oed ar 31 Awst 2021 yn gymwys i gael brechiad ffliw am ddim ar ffurf chwistrell drwynol. Fodd bynnag, nid yw pob rhiant yn ymwybodol o hyn nac yn derbyn y cynnig.
Gall staff sy'n gweithio yn y sector blynyddoedd cynnar helpu i godi ymwybyddiaeth o'r rhaglen ymhlith rhieni.
Mae creu golygfeydd, siapiau ac wynebau Nadoligaidd yn ffordd wych o annog plant i fwyta ffrwythau a llysiau a gall fod yn ffordd wych o annog plant i roi cynnig ar fwyd newydd.
Beth am droi eich gorsaf ddŵr yn eira rhewllyd Siôn Corn neu gael thema 'Frozen'?
![xmas](https://content.govdelivery.com/attachments/fancy_images/UKCAERPHILLY_CY/2022/11/6788012/4474560/snacks-cy_crop.jpg)
![talk with me](https://content.govdelivery.com/attachments/fancy_images/UKCAERPHILLY_CY/2022/11/6788030/4474562/beth-am-droi-amser-sgrin-yn-amser-ti-a-fi_crop.jpg) Oeddech chi'n gwybod bod plant yn ei chael hi'n anodd iawn gwrando ar 2 beth ar yr un pryd?
Maen nhw'n gallu gwrando arnoch chi'n siarad gymaint yn haws os nad oes unrhyw wrthdyniadau, felly gall fod o gymorth mawr i ddiffodd y teledu a chael amser chwarae tawel gyda'ch gilydd, gyda llawer o sgwrsio i gymryd rhan ynddo! Os ydych chi'n gwylio sgrin gyda'ch gilydd, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ei mwynhau gyda'ch gilydd trwy:
- Sôn am yr hyn mae'r cymeriadau'n ei wneud.
- Defnyddio teganau go iawn i ymuno yn yr hyn sy'n digwydd ar y sgrin. Paru eitemau ar y sgrin â'ch teganau chi os gallwch chi, ‘Edrychwch – mochyn yw hwn, mochyn yw hwn hefyd’.
- Stopiwch a meddwl beth allai ddigwydd nesaf ‘Rydw i'n meddwl efallai byddan nhw'n mynd yn fwdlyd ar eu taith gerdded!’.
- Eisteddwch mewn man lle gallwch chi weld wynebau eich gilydd.
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cynnwys amser chwarae heb sgrin cyn ac ar ôl amser sgrin.
For more information on interacting with young children, visit https://gov.wales/talk-with-me
Download the Let's Talk poster to display at your setting (PDF)
|