Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Hydref 2022

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Hydref 2022

Croeso i'n e-gylchlythyr mis Hydref, wedi'i ddylunio i'ch hysbysu'n rheolaidd am y newyddion, yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'r sector gofal plant.

Bydden ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac, os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein harolwg byr.

Byddem ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro yna rhowch wybod i ni trwy e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk.

COFW

Mae gwasanaeth digidol cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru ar y ffordd

Yn yr hydref, mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn lansio ei wasanaeth digidol cenedlaethol newydd, a fydd yn ei gwneud yn haws fyth i ddarparu’r Cynnig.

Cofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd

Mae’n bwysig i bob darparwr gofal plant sy’n darparu Cynnig Gofal Plant Cymru gofrestru ar y gwasanaeth newydd yn yr hydref. Y rheswm am hyn yw oherwydd bydd rhieni sy’n gwneud cais o fis Tachwedd 2022 ymlaen yn gwneud hynny trwy’r gwasanaeth digidol cenedlaethol a bydd taliadau ar gyfer oriau’r Cynnig Gofal Plant a ddarperir i’r plant hynny yn cael eu gwneud trwy’r gwasanaeth newydd yn unig.

Bydd darparwyr gofal plant ledled Cymru yn cael eu gwahodd i gofrestru ar y gwasanaeth digidol fesul cam. Bydd darparwyr yng Nghaerffili yn cael gwahoddiad i gofrestru o ddydd Llun 10 Hydref. Byddwn ni’n cysylltu ynglŷn â hyn yn nes at yr amser.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Cynnig Gofal Plant Cymru: Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol | LLYW.CYMRU

Hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r gwasanaeth newydd

Mae sesiynau Digwyddiad Byw wedi’u cynnal eisoes ar sut mae darparwyr yn cofrestru gyda’r gwasanaeth newydd, ac mae recordiadau o’r sesiynau hyn ar gael yma:

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu mwy o Ddigwyddiadau Byw am ddim ar y dyddiadau isod. Dim ond un o’r tair sesiwn sydd ar gael y bydd angen i ddarparwyr ei mynychu. Bydd y sesiynau hyn yn edrych ar sut i gadarnhau cytundebau Cynnig Gofal Plant gyda rhieni a sut i hawlio taliadau.

Gytundebau Darparwyr-Rhieni

Dim ond un o’r tair sesiwn sydd ar gael y bydd angen i ddarparwyr ei mynychu:

Hawlio Taliadau

Dim ond un o’r tair sesiwn sydd ar gael y bydd angen i ddarparwyr ei mynychu:

Bydd recordiadau o’r sesiynau uchod ar gael yn y man ar y tudalen isod i ddarparwyr sy ddim yn gallu mynychu unrhyw un o’r sesiynau:

Cynnig Gofal Plant Cymru: Gwasanaeth Cenedlaethol Digidol | LLYW.CYMRU

Hyfforddiant sgiliau digidol

Gallwch hefyd gael hyfforddiant sylfaenol am ddim i ddatblygu eich sgiliau digidol trwy sesiynau hyfforddi byw a rhai a recordiwyd o flaen llaw gyda Chymunedau Digidol Cymru. Gallwch gael at y rhain yma

Os bydd arnoch angen unrhyw gymorth ychwanegol neu wybodaeth bellach ynglŷn â gwasanaeth digidol cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru, ewch i llyw.cymru/gwasanaethdigidolcynniggofalplant.


Brechlynnau ffliw ar gyfer plant 2 a 3 oed

Flu

Er mwyn rhoi gwybod i chi i gyd, mae pob plentyn 2 a 3 oed yn gymwys i gael brechiad ffliw am ddim ar ffurf chwistrell trwyn LAIV o 31 Awst 2022.

Fodd bynnag, nid yw pob rhiant ddim yn ymwybodol o hyn, nac yn manteisio ar y cynnig. Nid yn unig y mae’r brechlyn LAIV yn amddiffyn y eu hunain, ond mae hi hefyd yn lleihau lledaeniad yr haint gan helpu i amddiffyn aelodau’r teulu, yn enwedig perthnasau oedrannus, ac eraill yn y gymuned leol.

Felly, mae cynyddu’r niferoedd o blant sy’n derbyn y brechlyn yn bwysig i amddiffyn unigolion, ond hefyd oherwydd yr amddiffyniad anuniongyrchol y mae’n ei gynnig i’r boblogaeth ehangach.

Mae plant yn archledaenwyr’ y ffliw ac mae’r brechlyn chwistrell trwyn yn y grŵp oedran yma wedi bod yn effeithlon iawn. Bydd cynyddu’r niferoedd o blant cymwys sy’n derbyn y brechlyn yn cael effaith sylweddol ar leihau’r trosglwyddiad y ffliw ar draws bob grŵp yn y gymuned.

Sut y gallwch chi helpu?

Mae darparwyr gofal plant mewn sefyllfa ddelfrydol i godi ymwybyddiaeth ymhlith rhieni dros bwysigrwydd frechu plant rhag y ffliw. Mae cynyddu’r niferoedd o blant rhwng 2 a 3 oed sy’n cael eu brechu mor bwysig, ac rydyn ni angen eich help chi.

Gall y ffliw fod yn ddifrifol iawn i blant ifanc, ac roedd y niferoedd o blant rhwng 2 a 3 oed  ledled Cymru a oedd wedi derbyn y brechlyn yn sylweddol yn is yn 2021/22 na’r niferoedd yn 2020/21. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn disgwyl bydd y ffliw a COVID-19 yn cylchu ar yr un pryd eleni, ac mae hyn yn bryder sylweddol. 

Mae cynyddu’r niferoedd sy’n derbyn y brechlyn yn y grŵp hwn yn cynnig amddiffyniad i’r plentyn, ac felly yn lleihau lledaeniad y ffliw'r gaeaf hwn.

Siaradwch gyda’r teuluoedd rydych chi’n gweithio gyda nhw i godi eu hymwybyddiaeth o gymhwysedd eu plant.

Cysylltwch â'r feddygfa i drefnu brechlyn ffliw am ddim eich plentyn.

Rhagor o wybodaeth https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/ffliw


Rhoi gwybod am newidiadau COVID-19

C19

O ddydd Iau 29 Medi 2022, ni fydd yn ofynnol i chi roi gwybod am achosion unigol o COVID-19 mwyach. Yn yr un modd â chlefydau heintus eraill, dim ond pan fydd brigiad o achosion COVID-19 y bydd angen i chi wneud hysbysiad. Diffiniad brigiad o achosion yw dau neu fwy o achosion. Wrth inni bontio trwy’r cyfnod adfer ar ôl y pandemig, credwn fod yr amser wedi cyrraedd i ddychwelyd i ofynion adrodd arferol.


Gweithdy magu plant yn chwareus

PLay

Mae cael cyfle i chwarae’n rhan bwysig o blentyndod hapus ac iach i bob plentyn.

Mae rhieni a gofalwyr yn gefnogwyr pwysig o chwarae ar gyfer plant – waeth beth eu hoed.

Mae ymarferwyr sydd mewn cysylltiad â rhieni, teuluoedd a grwpiau rhieni mewn sefyllfa dda i rannu gwybodaeth am chwarae ac i helpu i’w cyfeirio at y wybodaeth sy’n ateb eu gofynion orau ar y pryd. 

Mae Plentyndod Chwareus, ymgyrch gan Chwarae Cymru, yn anelu i helpu rhieni a gofalwyr i roi amser, lle a chefnogaeth i blant chwarae adref ac yn eu cymuned. Bydd y gweithdy rhyngweithiol, bywiog hwn yn:

  • gwahodd ymarferwyr i rannu materion allweddol sydd o bwys i’r rhieni y maent yn gweithio gyda nhw
  • archwilio gwefan Plentyndod Chwareus a’i amrywiaeth o gynghorion defnyddiol ac awgrymiadau anhygoel i rieni.

Anelir y gweithdy at ymarferwyr sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd. Mae hwn ar gyfer cydweithwyr sy’n gweithio ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen. 

Lawrlwytho poster y digwyddiad

Archebu


Dyddiad Cau Cymwysterau Gwaith Chwarae

Training

Mae canllawiau ar y dyddiad cau ar gymwysterau gwaith chwarae wedi'u cyhoeddi heddiw.

Mae’n cynnwys atebion i gwestiynau fel: 

  • I bwy mae'r gofyniad hwn yn berthnasol? 
  • Beth yw'r gofynion?

a

  • Beth sy'n digwydd os na all fy staff/lleoliad gwrdd â'r dyddiad cau ym mis Medi 2022?

Cofrestrwch ar gyfer rhaglen Feithrin 2022-23 Pori Drwy Stori nawr!

Pori

Cynlluniwyd y rhaglen ar gyfer plant 3-4 oed yn y ddau dymor olaf cyn iddynt fynd i’r dosbarth Derbyn. Mae’n canolbwyntio ar gefnogi sgiliau llafaredd, cefnogi rhieni / gofalwyr i fod yn bartneriaid yn addysg eu plant, a chefnogi ysgolion i ddatblygu cysylltiadau cadarnhaol rhwng yr ysgol a’r cartref.

www.booktrust.org.uk/cy-gb/poridrwystori-nursery

Rhaid i chi gofrestru’n flynyddol ar gyfer y rhaglen. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.

Cliciwch yma i gofrestru

Dyddiad Cau: 21ain October 2022


Siarad gyda fi – Dechreuwch siarad â fi cyn i mi gael fy ngeni

Talk with me

Wyddoch chi fod babanod yn gallu clywed synau o’r amser y byddwch chi’n 24 wythnos yn feichiog? Mae siarad â’ch bwmp yn helpu’ch plentyn bach i adnabod eich llais ar ôl iddyn nhw gael eu geni. Beth am roi cynnig ar:

  • Siarad a chanu i’ch bwmp yn rheolaidd, gan wneud yn siŵr eich bod chi’n amrywio’r tôn a rhythm eich llais.
  • Cynnwys aelodau pwysig o’ch teulu a ffrindiau. Gallen nhw siarad â’ch bwmp yn ystod gweithgareddau pob dydd neu ganu hwiangerdd amser gwely.
  • Canu’r un caneuon unwaith y bydd eichbabi wedi cael ei eni. Gall y babanod adnabod y rhain a gall helpu i’w tawelu.

Gwyliwch y fideo yma am ragor o wybodaeth: Siarad â'ch bwmp - Beth yw'r manteision? - BBC Tiny Happy People

Am ragor o wybodaeth ar sut i ryngweithio â phlant ifanc, ewch i https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi


Cyrsiau hyfforddiant sydd ar gael ym mis Hydref

Cooking together

Mae gennym ni llefydd ar gael ar nifer o gyrsiau, felly cliciwch y ddolen i gadw eich lle.

Coginio Gyda Richard Shaw 15/10/22

GaiaYoga – Meithrin ac adeiladu cadernid plant cyn ysgol 17/10/2022

Gwnewch eich gemau a’ch cardiau Ioga eich hun ar gyfer Lles 24/10/2022

Cliciwch yma i weld yr amserlen lawn.


Ewch i’n gwefan newydd

Childcare provider website

Cofiwch gael golwg ar ein gwefan newydd. Mae ganddi lawer o wybodaeth ddefnyddiol a chyngor ynglŷn â’r blynyddoedd cynnar, gofal plant a chymorth i ddarpar rieni neu deuluoedd sydd â phlant rhwng geni a 7 oed. www.blynyddoeddcynnarcaerffili.co.uk  

Mae yna adran benodedig i ddarparwyr gofal plant lle gallwch chi hefyd ddarllen unrhyw e-fwletin blaenorol y byddech chi wedi eu colli. Gadewch i ni wybod sut y byddech chi’n gwella hyn.


Hoffwch ni ar Facebook

facebook

Am y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, Hoffwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar Facebook.

GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr