Yn yr hydref, mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn lansio ei wasanaeth digidol cenedlaethol newydd, a fydd yn ei gwneud yn haws fyth i ddarparu’r Cynnig.
Cofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd
Mae’n bwysig i bob darparwr gofal plant sy’n darparu Cynnig Gofal Plant Cymru gofrestru ar y gwasanaeth newydd yn yr hydref. Y rheswm am hyn yw oherwydd bydd rhieni sy’n gwneud cais o fis Tachwedd 2022 ymlaen yn gwneud hynny trwy’r gwasanaeth digidol cenedlaethol a bydd taliadau ar gyfer oriau’r Cynnig Gofal Plant a ddarperir i’r plant hynny yn cael eu gwneud trwy’r gwasanaeth newydd yn unig.
Bydd darparwyr gofal plant ledled Cymru yn cael eu gwahodd i gofrestru ar y gwasanaeth digidol fesul cam. Bydd darparwyr yng Nghaerffili yn cael gwahoddiad i gofrestru o ddydd Llun 10 Hydref. Byddwn ni’n cysylltu ynglŷn â hyn yn nes at yr amser.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Cynnig Gofal Plant Cymru: Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol | LLYW.CYMRU
Hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r gwasanaeth newydd
Mae sesiynau Digwyddiad Byw wedi’u cynnal eisoes ar sut mae darparwyr yn cofrestru gyda’r gwasanaeth newydd, ac mae recordiadau o’r sesiynau hyn ar gael yma:
Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu mwy o Ddigwyddiadau Byw am ddim ar y dyddiadau isod. Dim ond un o’r tair sesiwn sydd ar gael y bydd angen i ddarparwyr ei mynychu. Bydd y sesiynau hyn yn edrych ar sut i gadarnhau cytundebau Cynnig Gofal Plant gyda rhieni a sut i hawlio taliadau.
Gytundebau Darparwyr-Rhieni
Dim ond un o’r tair sesiwn sydd ar gael y bydd angen i ddarparwyr ei mynychu:
Hawlio Taliadau
Dim ond un o’r tair sesiwn sydd ar gael y bydd angen i ddarparwyr ei mynychu:
Bydd recordiadau o’r sesiynau uchod ar gael yn y man ar y tudalen isod i ddarparwyr sy ddim yn gallu mynychu unrhyw un o’r sesiynau:
Cynnig Gofal Plant Cymru: Gwasanaeth Cenedlaethol Digidol | LLYW.CYMRU
Hyfforddiant sgiliau digidol
Gallwch hefyd gael hyfforddiant sylfaenol am ddim i ddatblygu eich sgiliau digidol trwy sesiynau hyfforddi byw a rhai a recordiwyd o flaen llaw gyda Chymunedau Digidol Cymru. Gallwch gael at y rhain yma.
Os bydd arnoch angen unrhyw gymorth ychwanegol neu wybodaeth bellach ynglŷn â gwasanaeth digidol cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru, ewch i llyw.cymru/gwasanaethdigidolcynniggofalplant.
Er mwyn rhoi gwybod i chi i gyd, mae pob plentyn 2 a 3 oed yn gymwys i gael brechiad ffliw am ddim ar ffurf chwistrell trwyn LAIV o 31 Awst 2022.
Fodd bynnag, nid yw pob rhiant ddim yn ymwybodol o hyn, nac yn manteisio ar y cynnig. Nid yn unig y mae’r brechlyn LAIV yn amddiffyn y eu hunain, ond mae hi hefyd yn lleihau lledaeniad yr haint gan helpu i amddiffyn aelodau’r teulu, yn enwedig perthnasau oedrannus, ac eraill yn y gymuned leol.
Felly, mae cynyddu’r niferoedd o blant sy’n derbyn y brechlyn yn bwysig i amddiffyn unigolion, ond hefyd oherwydd yr amddiffyniad anuniongyrchol y mae’n ei gynnig i’r boblogaeth ehangach.
Mae plant yn ‘archledaenwyr’ y ffliw ac mae’r brechlyn chwistrell trwyn yn y grŵp oedran yma wedi bod yn effeithlon iawn. Bydd cynyddu’r niferoedd o blant cymwys sy’n derbyn y brechlyn yn cael effaith sylweddol ar leihau’r trosglwyddiad y ffliw ar draws bob grŵp yn y gymuned.
Sut y gallwch chi helpu?
Mae darparwyr gofal plant mewn sefyllfa ddelfrydol i godi ymwybyddiaeth ymhlith rhieni dros bwysigrwydd frechu plant rhag y ffliw. Mae cynyddu’r niferoedd o blant rhwng 2 a 3 oed sy’n cael eu brechu mor bwysig, ac rydyn ni angen eich help chi.
Gall y ffliw fod yn ddifrifol iawn i blant ifanc, ac roedd y niferoedd o blant rhwng 2 a 3 oed ledled Cymru a oedd wedi derbyn y brechlyn yn sylweddol yn is yn 2021/22 na’r niferoedd yn 2020/21. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn disgwyl bydd y ffliw a COVID-19 yn cylchu ar yr un pryd eleni, ac mae hyn yn bryder sylweddol.
Mae cynyddu’r niferoedd sy’n derbyn y brechlyn yn y grŵp hwn yn cynnig amddiffyniad i’r plentyn, ac felly yn lleihau lledaeniad y ffliw'r gaeaf hwn.
Siaradwch gyda’r teuluoedd rydych chi’n gweithio gyda nhw i godi eu hymwybyddiaeth o gymhwysedd eu plant.
Cysylltwch â'r feddygfa i drefnu brechlyn ffliw am ddim eich plentyn.
Rhagor o wybodaeth https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/ffliw
|
O ddydd Iau 29 Medi 2022, ni fydd yn ofynnol i chi roi gwybod am achosion unigol o COVID-19 mwyach. Yn yr un modd â chlefydau heintus eraill, dim ond pan fydd brigiad o achosion COVID-19 y bydd angen i chi wneud hysbysiad. Diffiniad brigiad o achosion yw dau neu fwy o achosion. Wrth inni bontio trwy’r cyfnod adfer ar ôl y pandemig, credwn fod yr amser wedi cyrraedd i ddychwelyd i ofynion adrodd arferol.
Mae cael cyfle i chwarae’n rhan bwysig o blentyndod hapus ac iach i bob plentyn.
Mae rhieni a gofalwyr yn gefnogwyr pwysig o chwarae ar gyfer plant – waeth beth eu hoed.
Mae ymarferwyr sydd mewn cysylltiad â rhieni, teuluoedd a grwpiau rhieni mewn sefyllfa dda i rannu gwybodaeth am chwarae ac i helpu i’w cyfeirio at y wybodaeth sy’n ateb eu gofynion orau ar y pryd.
Mae Plentyndod Chwareus, ymgyrch gan Chwarae Cymru, yn anelu i helpu rhieni a gofalwyr i roi amser, lle a chefnogaeth i blant chwarae adref ac yn eu cymuned. Bydd y gweithdy rhyngweithiol, bywiog hwn yn:
- gwahodd ymarferwyr i rannu materion allweddol sydd o bwys i’r rhieni y maent yn gweithio gyda nhw
- archwilio gwefan Plentyndod Chwareus a’i amrywiaeth o gynghorion defnyddiol ac awgrymiadau anhygoel i rieni.
Anelir y gweithdy at ymarferwyr sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd. Mae hwn ar gyfer cydweithwyr sy’n gweithio ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.
Lawrlwytho poster y digwyddiad
Archebu
Mae canllawiau ar y dyddiad cau ar gymwysterau gwaith chwarae wedi'u cyhoeddi heddiw.
Mae’n cynnwys atebion i gwestiynau fel:
- I bwy mae'r gofyniad hwn yn berthnasol?
- Beth yw'r gofynion?
a
- Beth sy'n digwydd os na all fy staff/lleoliad gwrdd â'r dyddiad cau ym mis Medi 2022?
|
Cynlluniwyd y rhaglen ar gyfer plant 3-4 oed yn y ddau dymor olaf cyn iddynt fynd i’r dosbarth Derbyn. Mae’n canolbwyntio ar gefnogi sgiliau llafaredd, cefnogi rhieni / gofalwyr i fod yn bartneriaid yn addysg eu plant, a chefnogi ysgolion i ddatblygu cysylltiadau cadarnhaol rhwng yr ysgol a’r cartref.
www.booktrust.org.uk/cy-gb/poridrwystori-nursery
Rhaid i chi gofrestru’n flynyddol ar gyfer y rhaglen. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.
Cliciwch yma i gofrestru
Dyddiad Cau: 21ain October 2022
|
Wyddoch chi fod babanod yn gallu clywed synau o’r amser y byddwch chi’n 24 wythnos yn feichiog? Mae siarad â’ch bwmp yn helpu’ch plentyn bach i adnabod eich llais ar ôl iddyn nhw gael eu geni. Beth am roi cynnig ar:
- Siarad a chanu i’ch bwmp yn rheolaidd, gan wneud yn siŵr eich bod chi’n amrywio’r tôn a rhythm eich llais.
- Cynnwys aelodau pwysig o’ch teulu a ffrindiau. Gallen nhw siarad â’ch bwmp yn ystod gweithgareddau pob dydd neu ganu hwiangerdd amser gwely.
- Canu’r un caneuon unwaith y bydd eichbabi wedi cael ei eni. Gall y babanod adnabod y rhain a gall helpu i’w tawelu.
Gwyliwch y fideo yma am ragor o wybodaeth: Siarad â'ch bwmp - Beth yw'r manteision? - BBC Tiny Happy People
Am ragor o wybodaeth ar sut i ryngweithio â phlant ifanc, ewch i https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi
|
|