Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Ionawr 2021

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Ionawr 2021

Croeso i'n e-gylchlythyr mis Ionawr, wedi'i ddylunio i'ch hysbysu'n rheolaidd am y newyddion, yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'r sector gofal plant.

Byddem ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro yna rhowch wybod i ni trwy e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk.

Tiny Happy People

Tiny Happy People

Mae Tiny Happy People y BBC yn ymgyrch sy’n ceisio helpu rhieni i gynorthwyo datblygiad iaith eu plentyn nhw.

Mae tua un o bob tri phlentyn (31%) yn dechrau ysgol gynradd heb gyrraedd lefel dda o ddatblygiad cynnar, ffigwr sy’n codi i un o bob dau wrth sôn am blant o gefndiroedd tlawd (46%). Yn anffodus, erbyn i blentyn ddechrau’r ysgol, mae’n aml yn rhy hwyr i’r plant hyn ddal i fyny.

Ond mae yna ateb syml iawn.  Mae siarad mwy, canu mwy a chwarae mwy gyda phlentyn yn y blynyddoedd cynnar hynny yn rhoi hwb mawr i’r ffordd y mae ymennydd babanod yn tyfu ac yn datblygu – sef nod ymgyrch newydd wych y BBC, Tiny Happy People.

 


Nodyn atgoffa pwysig – Grantiau Blynyddoedd Cynnar ar gael o hyd

Money

Grantiau COVID-19 – y dyddiad cau yw dydd Gwener 4 Mawrth 2022!

Mae Gweinidogion Cymru wedi dyrannu cyllid i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru er mwyn sicrhau darpariaeth barhaus ar gyfer y sector gofal plant, drwy gynorthwyo darparwyr sy'n wynebu problemau cynaliadwyedd. Mae'r cyllid sydd ar gael yn gyfyngedig a bydd y cyfle i wneud cais yn dod i ben yn fuan.

Byddwn ni'n derbyn ceisiadau drwy gydol y flwyddyn ariannol hon – 2021-2022 – yn unig, felly rydyn ni'n eich annog chi i wneud cais cyn gynted â phosibl os ydych chi'n teimlo eich bod chi'n bodloni gofynion y dyfarniad grant.

Darllenwch y ffurflenni cais a'r telerau ac amodau yn drylwyr cyn i chi wneud cais. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu os oes angen rhagor o arweiniad neu gymorth arnoch chi i lenwi eich cais chi, cysylltwch â'ch Swyddog Gofal Plant penodol.

  • Grant Ailgychwyn ac Adfer COVID-19 – Darparu cyllid cynaliadwyedd er mwyn helpu lleoliadau gofal plant i barhau i weithredu drwy gydol heriau COVID-19, a thu hwnt i hynny, lle nad oes unrhyw arian cyhoeddus arall yn cael ei ddarparu i dalu'r un costau. Nid yw'r grant hwn wedi'i fwriadu i gymryd lle unrhyw elw sydd wedi cael ei golli yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Llenwch y ffurflen gais a darllen a llofnodi'r telerau ac amodau. Dychwelwch y ddwy ddogfen i GGiD@caerffili.gov.uk
  • Grant Cynaliadwyedd Tymor Byr – Diben y cymorth y gallwn ni, o bosibl, ei gynnig i'ch lleoliad chi yw eich helpu chi i aros yn gynaliadwy a pharhau i weithredu tra bod nifer y plant sy'n dod i'ch lleoliad chi yn is nag o'r blaen. Gallai hyn fod oherwydd y pandemig neu ffactorau eraill sydd allan o'ch rheolaeth chi.  Bydd y grant hwn yn eich helpu chi yn y tymor byrrach tuag at gostau rhentu a bydd yn cael ei ddyfarnu yn sail unigol am uchafswm o un tymor. Llenwch y ffurflen gais a darllen a llofnodi'r telerau ac amodau. Dychwelwch y ddwy ddogfen i GGiD@caerffili.gov.uk

Grant Cyfalaf Bach y Cynnig Gofal Plant – Yn cau'n fuan!

Bydd Grant Cyfalaf Bach ar gyfer y Cynnig Gofal Plant ar agor tan 31 Ionawr 2022 i bob darparwr a hoffai wneud cais am bryniannau monitro TG a CO2 yn unig.

Mae pob lleoliad sydd wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, ac sy'n cynnig lleoedd y Cynnig Gofal Plant i blant 3 a 4 oed neu sy'n bwriadu cynnig lleoedd, yn gymwys i wneud cais. Mae hyn yn cynnwys gwarchodwyr plant, darparwyr yn y sectorau preifat a gwirfoddol, a lleoliadau a gynhelir sy'n cynnig gofal dydd, gofal cofleidiol, darpariaeth ar ôl ysgol, cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau ac ati. Hefyd, gall ceisiadau gan ddarparwyr gofal plant sydd wrthi'n gwneud cais am gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru a bron wedi'i gwblhau gael eu hystyried. Rhaid i'r lleoliad gofal plant fod wedi'i leoli ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Os nad ydych chi wedi'ch cofrestru ar hyn o bryd i ddarparu lleoedd y Cynnig Gofal Plant ar ran Caerffili, neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y grant hwn, anfonwch e-bost i greenn1@caerffili.gov.uk cyn cyflwyno'ch cais am grant.

Darllenwch y ffurflen gais a'r telerau ac amodau yn drylwyr cyn i chi wneud cais.

Llenwch y Ffurflen gais a darllen a llofnodi'r telerau ac amodau. Dychwelwch y ddwy ddogfen i greenn1@caerffili.gov.uk.

Mae'r cyllid hwn yn cau yn fuan ac mae cyllid yn gyfyngedig, felly, rydyn ni'n eich annog chi i wneud cais cyn gynted â phosibl.     

 


Llafaredd a Darllen Plant

Reading

mae adnoddau darllen ar gael drwy Ymddiriedolaeth Lyfrau Cymru a rhaglen Pori Drwy Stori - rhaglen sydd â'r nod o gefnogi sgiliau llythrennedd, rhifedd, siarad a gwrando yn y Cyfnod Sylfaen.  Mae cofrestru ar gyfer y rhaglen hon yn agored i bob meithrinfa a gynhelir ac nas cynhelir sy'n gweithio gyda phlant cyn iddynt ddechrau yn y Dosbarth Derbyn.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Kate Cubbage yn Ymddiriedolaeth Lyfrau Cymru Kate.Cubbage@booktrust.org.uk.

 


Brechiad ffliw am ddim i blant 2 a 3 oed yng Nghymru

Flu

Mae pob plentyn sy'n 2 a 3 oed ar 31 Awst 2021 yn gymwys i gael brechiad ffliw am ddim ar ffurf chwistrell trwyn. Fodd bynnag, nid yw pob rhiant yn ymwybodol o hyn nac yn manteisio ar y cynnig.

Mae darparwyr gofal plant mewn sefyllfa ddelfrydol i godi ymwybyddiaeth rhieni o bwysigrwydd brechu rhag y ffliw i blant. Gallwch argraffu a lawrlwytho’r poster hwn i’w arddangos yn eich lleoliad chi neu ei archebu am ddim o wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 


Y Cwricwlwm Newydd i Gymru yn cael ei gyhoeddi'r mis hwn!

Curriculum

Fel y gwyddoch efallai, mae cwricwlwm newydd i Gymru ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gydag ymarferwyr y Cyfnod Sylfaen a’r blynyddoedd cynnar i ddatblygu cwricwlwm newydd yn benodol ar gyfer lleoliadau gofal plant nas cynhelir. Mae’r dolenni i’r cwricwlwm, sydd wedi'i gyhoeddi ar Ionawr 10 2022, isod.

Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir - Hwb (gov.wales)

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ailddatblygu rhai adnoddau hyfforddi i helpu gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru. Bydd y rhain ar gael ar-lein ac yn cynnwys y pynciau canlynol:

  • Datblygiad plentyn
  • Dysgu yn yr awyr agored
  • Pontio
  • Arsylwi
  • Chwarae a dysgu seiliedig ar chwarae
  • Profiadau go iawn

Cadwch eich llygaid chi ar agor gan y byddwn ni'n cynnig cymorth i chi gael mynediad at y modiwlau hyfforddi hyn pan fyddan nhw ar gael.


Hoffwch ni ar Facebook

facebook

Am y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, Hoffwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar Facebook.

GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr