Mae Gweinidogion Cymru wedi dyrannu cyllid i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru er mwyn sicrhau darpariaeth barhaus ar gyfer y sector gofal plant, drwy gynorthwyo darparwyr sy'n wynebu problemau cynaliadwyedd.
Dim ond lle mae'n amlwg bod angen cefnogi cynaliadwyedd y ddarpariaeth gofal plant a bod risg wirioneddol o gau yn yr hirdymor oherwydd effaith niweidiol y pandemig COVID-19 y dylai darparwyr gofal plant wneud cais am y grant.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, os oes angen arweiniad pellach arnoch chi neu os oes angen cymorth arnoch chi i lenwi'ch cais, cysylltwch â'ch Swyddog Gofal Plant penodol.
Llenwch y ffurflen gais a darllen a llofnodi'r telerau ac amodau. Dychwelwch y ddwy ddogfen i GGiD@caerffili.gov.uk.
Byddwn ni'n derbyn ceisiadau trwy gydol y flwyddyn ariannol hon – 2021–2022 – ond mae cyllid yn gyfyngedig, felly, rydyn ni'n eich annog chi i wneud cais yn gynnar os ydych chi'n teimlo eich bod chi'n cwrdd â gofynion y dyfarniad grant.
Ar ddydd Llun 8 Tachwedd, cafodd bwletin arbennig ei anfon atoch chi i roi gwybod i chi fod eich gwasanaeth chi bellach yn cael ei hysbysebu ar Dewis. Mae'n cynnwys rhywfaint o wybodaeth bwysig, gan gynnwys cyfarwyddiadau ar sut i gofrestru'ch cyfrif chi. Mae hyn yn hanfodol i chi barhau i hysbysebu'ch gwasanaeth chi ar Dewis. Mae angen i chi wneud hyn erbyn diwedd mis Rhagfyr.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am hyn, cysylltwch â GGiD@caerffili.gov.uk.
Mae'n ofynnol i Gyngor Caerffili ddatblygu Strategaeth Gymraeg Pum Mlynedd yn unol â gofynion Safon Iaith Gymraeg 145 o dan Reoliadau Safonau Iaith Cymru (Rhif 1) 2015.
Nod y strategaeth yw nodi camau gweithredu ar sut yr ydym yn bwriadu hyrwyddo'r Gymraeg, cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a defnydd y Gymraeg yn y fwrdeistref sirol.
Rydym yn cynnal ymgynghoriad i ofyn eich barn ar y set o gamau drafft a nodir yn y cynllun gweithredu drafft.
Bydd yr arolwg ond yn cymryd ychydig funudau i gwblhau a’r dyddiad cau yw Dydd Mercher 24 Tachwedd 2021.
Rydyn ni'n falch o’ch cyflwyno chi i aelod newydd o’r tîm datblygu gofal plant, Michelle Price, sydd â mwy nag 20 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y sector gofal plant. Mae Michelle yn gweithio ar gyfer absenoldeb mamolaeth Gemma Morgan sydd wedi rhoi genedigaeth i fachgen bach iach yn ddiweddar.
Rydyn ni'n gwybod ei bod wedi bod yn amser hir ers i ni allu ymweld â chi, felly, rydyn ni'n falch iawn o ddweud ein bod ni bellach wedi ailgychwyn ein hymweliadau wyneb yn wyneb ni. Cofiwch hefyd fod y swyddogion datblygu gofal plant ar gael i gynnig cyngor a chymorth dros y ffôn neu e-bost pryd bynnag y mae ei angen arnoch chi.
Glynis Huish HUISHG@CAERFFILI.GOV.UK 07747 445208
Nicola Greenway GREENN1@CAERFFILI.GOV.CO.UK 07717 467374
Michelle Price PRICEMA@CAERFFILI.GOV.UK 07596 887139
|
O haf 2022, mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio i Gynnig Gofal Plant Cymru fynd yn ddigidol!
Ar hyn o bryd, mae gwasanaeth digidol cenedlaethol y Cynnig Gofal Plant yn cael ei ddatblygu a'i brofi gydag awdurdodau lleol, darparwyr gofal plant, a rhieni.
Beth ydy hyn yn ei olygu i ddarparwyr gofal plant?
Os ydych chi'n ddarparwr gofal plant sydd, ar hyn o bryd, yn darparu oriau ar gyfer y Cynnig Gofal Plant neu'n dymuno darparu oriau ar gyfer y Cynnig Gofal Plant o dymor yr hydref 2022, bydd angen i chi gofrestru ar-lein gyda gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd Cynnig Gofal Plant Cymru o ddechrau 2022.
Bydd rhieni yn gwneud cais ar gyfer y Cynnig Gofal Plant ar-lein drwy'r gwasanaeth digidol cenedlaethol yn ystod haf 2022 yn barod i'w plentyn ddechrau ym mis Medi.
Bydd cwestiynau cyffredin i ddarparwyr ar gael i helpu gydag unrhyw ymholiadau. Mae'r rhain ar gael drwy Gynnig Gofal Plant Cymru: Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol a byddan nhw'n cael eu diweddaru wrth i ragor o wybodaeth ddod i law.
|
Cafodd Seremoni Wobrwyo Genedlaethol Mudiad Meithrin ei chynnal ddydd Sadwrn 2 Hydref yn Theatr y Werin, Aberystwyth.
Roedd yn wych gweld staff o'n lleoliadau gofal plant yn cael eu cydnabod am eu cyflawniadau:
- Enillodd Michelle Killey, Cadeirydd ac Unigolyn Cyfrifol Cylch Meithrin Tonyfelin, 3ydd ar gyfer Gwirfoddolydd y Flwyddyn.
- Enillodd Kate Jenkins, Cylch Meithrin Tedi Twt Caerffili, 1af ar gyfer Arweinydd Cylch Meithrin.
Llongyfarchiadau mawr iawn i Michelle a Kate am eu llwyddiannau.
Mae Seremoni Gwobrau Mudiad Meithrin yn ffordd wych o godi proffil staff mewn lleoliadau gofal plant. Mae staff wedi gweithio'n ddiflino yn ystod y pandemig, ac mae hyn wedi dangos pa mor bwysig yw eu gwasanaeth i gymunedau lleol a'r economi.
|
Wrth ymgysylltu'n ddiweddar â darparwyr gofal plant, codwyd pryderon gan ddarparwyr ynghylch y gyfradd a delir am oriau’r Cynnig Gofal Plant.
Pennwyd y gyfradd fesul awr gychwynnol drwy ddefnyddio data o adroddiad Casglu Data'r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) 2017 gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Dengys gwerthusiad o flwyddyn 2 y Cynnig fod 79% o'r lleoliadau yn cytuno bod y gyfradd o £4.50 yr awr yn fasnachol hyfyw. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod pethau wedi symud ymlaen ac yn 2019 dechreuwyd adolygiad i ddeall effaith y gyfradd fesul awr a delir i ddarparwyr o dan y Cynnig. Cafodd hyn ei oedi oherwydd y pandemig ond mae bellach wedi ailddechrau. Ar hyn o bryd rydym yn adolygu'r gyfradd fesul awr ar gyfer gofal plant y telir amdano drwy ein cynllun Cynnig Gofal Plant i Gymru ac rydym yn gobeithio cael canlyniad i'w rannu â rhanddeiliaid ddiwedd yr Hydref.
|
|