Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Rydych chi nawr ar Dewis.

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Newyddion gwych. Rydych chi nawr ar Dewis.

Dewis homepage

Byddwch chi'n cofio, o bosibl, yn rhifyn mis Awst o'r e-fwletin Darparwyr Gofal Plant, erthygl am ein cynlluniau ni i gyhoeddi'r manylion am ddarparwyr gofal plant ar Dewis Cymru.

Gwefan genedlaethol yw Dewis Cymru sy'n cynnwys gwybodaeth am dros 6,000 o wasanaethau lleol a chenedlaethol ledled Cymru, ac mae'n cael ei hyrwyddo'n helaeth fel y siop un stop i deuluoedd gael gwybodaeth am sefydliadau a gwasanaethau, gan gynnwys gofal plant.

Rydyn ni'n falch o gadarnhau bod y gwaith hwn wedi'i gwblhau a bod gwybodaeth am eich gwasanaeth chi bellach ar gael ar Dewis.

Bellach, mae yna ychydig o bethau rydyn ni angen i chi eu gwneud.

Gwirio eich cofnod

Tick

Rydyn ni wedi creu eich cofnod ar Dewis gan ddefnyddio gwybodaeth sydd gennym ni yn barod am eich gwasanaeth. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr wybodaeth sy'n cael ei chyhoeddi am eich gwasanaeth yn gywir. I wirio'r cofnod, ewch i wefan Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Cymru.

Rheoli eich cofnod

Register

Wrth symud ymlaen, bydd angen i chi eich hun ddiweddaru eich cofnod ar Dewis. I wneud hyn, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Dewis. Mae cyfarwyddiadau am sut i wneud hyn ar gael isod.

Os ydych chi'n teimlo bod angen cymorth arnoch chi o ran gwneud hyn, anfonwch e-bost i GGiD@caerffili.gov.uk a byddwn ni'n gallu eich helpu chi. Yn y cyfamser, os oes angen gwneud unrhyw newidiadau i'ch cofnod, rydyn ni'n gallu eu gwneud nhw ar eich rhan.

Ar ôl i chi greu eich cyfrif Dewis, byddwch chi'n gallu diweddaru eich cofnod mor aml ag rydych chi eisiau. Fodd bynnag, bydd angen i chi wirio o leiaf bob chwe mis fod yr wybodaeth sy'n cael ei chyhoeddi am eich gwasanaeth yn gywir. Bydd y cofnod yn cael ei guddio o olwg y cyhoedd nes i chi wneud hyn. Mae disgwyl i chi wneud y gwiriad hwn ym mis Ionawr 2022, felly, byddwch cystal â chreu eich cyfrif Dewis erbyn diwedd mis Rhagfyr 2021 i sicrhau bod eich gwasanaeth yn parhau i gael ei hysbysebu.

Cofrestru ar gyfer cyfrif Dewis

Dyma'r camau i gofrestru ar gyfer cyfrif Dewis:

  • Ewch i dewis.cymru
  • Cliciwch ar Cofrestrwch / Mewngofnodi (chwith uchaf y dudalen)
  • Cliciwch ar Cofrestrwch
  • Llenwch y ffurflen gofrestru fer ar y sgrîn, gan sicrhau eich bod chi'n defnyddio'r cyfeiriad e-bost busnes rydyn ni wedi anfon yr e-bost hwn iddo. Mae hyn yn bwysig gan fod y cyfeiriad e-bost hwn yn cael ei ddefnyddio i gysylltu eich cofrestriad â'r cofnod Dewis rydyn ni wedi'i greu ar eich cyfer chi yn barod.
  • Dewiswch ‘Caerffili’ fel yr awdurdod lleol
  • Cliciwch ar Creu cyfrif
  • Byddwch chi'n cael e-bost gan Dewis Cymru i actifadu'r cyfrif. Ni fyddwch chi'n gallu symud ymlaen heb wneud hyn.

Mewngofnodi i Dewis a diweddaru eich cofnod

  • Ar ôl i chi gofrestru ar Dewis, ewch i dewis.cymru
  • Cliciwch ar Cofrestrwch / Mewngofnodi (chwith uchaf y dudalen)
  • Mewngofnodwch gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost a'r cyfrinair.
  • Cliciwch ar Rheoli adnoddau
  • Cliciwch ar Adnoddau rydych chi'n gyfrifol amdanyn nhw
  • Cliciwch ar Golygu i ddiweddaru'r cofnod
  • Mae cyfanswm o 6 tudalen – Amdanom ni, Cysylltu, Mynediad, Lleoliad, Manylion am y gwasanaeth, Cyhoeddi.

Mae canllawiau ar sut i ddiweddaru'r wybodaeth hon ar gael ar wefan Dewis.

Mae hefyd rai cwestiynau cyffredin am Dewis Cymru, os oes eisiau rhagor o wybodaeth arnoch chi.

Rydyn ni wedi diweddaru hysbysiad preifatrwydd darparwyr y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd i adlewyrchu'r newid hwn.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu eisiau rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i GGiD@caerffili.gov.uk


GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr