Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Hydref 2021

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Medi 2021

Croeso i'n e-gylchlythyr mis Hydref, wedi'i ddylunio i'ch hysbysu'n rheolaidd am y newyddion, yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'r sector gofal plant.

Byddem ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro yna rhowch wybod i ni trwy e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk.

Mae ein Swyddogion Gofal Plant yma i roi cymorth i chi!

Hands

Rydyn ni'n gwybod ei bod wedi bod yn amser hir ers i ni allu ymweld â chi, felly, rydyn ni'n falch iawn o ddweud y byddwn ni'n ailgychwyn ein hymweliadau wyneb yn wyneb yn fuan.

Cofiwch hefyd fod eich swyddog gofal plant dynodedig ar gael i gynnig cyngor a chymorth dros y ffôn neu e-bost pryd bynnag y mae ei angen arnoch.

Dyma eu manylion nhw:

Gofynnwn i chi gysylltu â'ch swyddog gofal plant dynodedig yn unig. Os nad ydych chi'n siŵr pwy yw hynny, e-bostiwch GGiD@caerffili.gov.uk.


Coronafeirws – Archebu pecynnau profion llif unffordd a Cardiau Gweithredu

C19

Archebu pecynnau profion llif unffordd cyflym

Yng Nghymru, gall unrhyw un nad oes ganddo symptomau gael profion llif unffordd cyflym rheolaidd (LFTs) i wirio am COVID-19. 

Cynghorir unrhyw un sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal plant i brofi ddwywaith yr wythnos a rhoi gwybod am y canlyniadau. Rhowch wybod am eich canlyniadau yma.

Mae'r profion ar gael yn rhad ac am ddim ac mae manylion ynghylch sut i'w harchebu ar gyfer eich lleoliad ar gael isod:

Cardiau Gweithredu

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Cardiau Gweithredu newydd i gynorthwyo lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae.

Mae'r Cardiau Gweithredu hyn yn amlinellu'r mesurau rhesymol posibl y gall lleoliadau eu cymryd i leihau'r risg o COVID-19.

Dylid eu darllen ochr yn ochr â'r Canllawiau gofal plant a gwaith chwarae: coronafeirws

 


Cynnig Gofal Plant – Gwybodaeth a chymorth i ddarparwyr

CoFW

Hoffai'r tîm Cynnig Gofal Plant ddiolch i chi i gyd am eich gwaith caled a'ch ymroddiad wrth gyflawni'r Cynnig Gofal Plant yng Nghaerffili. Roedden ni'n meddwl y byddem ni'n bachu ar y cyfle i'ch atgoffa chi o'r prosesau allweddol rhaid i chi eu dilyn wrth gyflawni'r Cynnig Gofal Plant yn eich lleoliadau.

Mae'r Broses Ymgeisio ar gyfer Darparwyr (PDF) yn dangos y camau rhaid i chi eu cymryd i gyflawni'r rhaglen yn gywir. Mae hyn yn cynnwys yr amserlen dalu a therfynau amser ar gyfer ffurflenni Lleoli Plentyn Unigol (ICP) a chofrestrau.

Cofiwch, unwaith y byddwch chi wedi cael cadarnhad o'r oriau sydd wedi'u trefnu, bydd cofrestrau'n cael eu cynhyrchu'n awtomatig gan Dîm Cymorth Busnes y Blynyddoedd Cynnar. Byddwch chi'n cael cofrestr a chanllawiau cofrestr newydd ar ddiwedd pob mis. I brosesu'ch taliad, rhaid cyflwyno'r gofrestr erbyn y dyddiad cau ar yr amserlen dalu. Cynhyrchir pob taliad yn awtomatig a phan fydd taliadau'n cael eu prosesu byddwch chi'n cael e-bost awtomatig gan ein system dalu yn nodi'r swm rydyn ni wedi'i dalu i chi. Bydd e-bost ar wahân oddi wrth CynnigGofalPlant@caerffili.gov.uk yn dilyn i egluro dadansoddiad y taliad hwn.

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch chi ynglŷn â'r prosesau neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y Cynnig Gofal Plant, cysylltwch â'r GGiD ar 01443 863232 neu e-bostio CynnigGofalPlant@caerffili.gov.uk

Diweddariad ar Wasanaeth Digidol Cenedlaethol Cynnig Gofal Plant NEWYDD

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol y Cynnig Gofal Plant yn anfon gwybodaeth bwysig at ddarparwyr y Cynnig Gofal Plant ynghylch system genedlaethol newydd Cynnig Gofal Plant Cymru.

Er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth bwysig hon yn eich cyrraedd chi, a wnewch chi sicrhau bod gennym ni'r manylion cyswllt diweddaraf ar gyfer rheolwr eich lleoliad(au). E-bostiwch fanylion at GGiD@caerffili.gov.uk


Rhaglen Hyfforddiant 2021/2022

Training

Mae ein rhaglen hyfforddiant rheoliadol sydd wedi'i diweddaru ar gyfer 2021/2022 bellach wedi'i rhyddhau. Byddwn ni'n parhau i ychwanegu cyrsiau newydd trwy gydol y flwyddyn gan gynnwys Rheoli Ymddygiad a Chodi a Chario felly cadwch lygadagored am y rhain.

Dim ond i'ch atgoffa, y rheol gyffredinol yw dim ond dau aelod o staff o bob lleoliad sy'n gallu cadw lle ar gwrs. Mae hyn yn rhoi cyfle i bob darparwr gadw lle ar yr hyfforddiant.

I weld cyrsiau, ac i gadw lle, ewch i'n gwefan hyfforddiant. Os oes angen i chi ailosod manylion mewngofnodi eich cyfrif neu ychwanegu aelodau o staff, cysylltwch â'r GGiD trwy e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 863232.


Stopio cosbi corfforol yng Nghymru

Ending Physical punishment

Bydd Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 yn dod i rym ddydd Llun 21 Mawrth 2022. Bydd y Ddeddf yn gwahardd cosbi plant yn gorfforol yng Nghymru trwy ddiddymu amddiffyniad cosb resymol.

Gwyliwch y fideo: Stopio cosbi corfforol yng Nghymru

Fel darparwr gofal plant yng Nghymru yn unol â'r rheoliadau perthnasol a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol, rydych chi eisoes yn cydymffurfio â deddfwriaeth sy'n sicrhau:

  • na ddefnyddir cosbau corfforol byth, na'u bygwth;
  • na chaiff plant eu hysgwyd, eu taro, eu bychanu, eu dychryn na'u cywilyddio ac na fydd unrhyw un yn gweiddi arnynt;
  • na wnaiff oedolion ddefnyddio unrhyw fath o ymyrraeth gorfforol, ee dal gafael yn y plant neu eu dal yn ôl yn gorfforol rhag gwneud rhywbeth, oni bai bod angen atal y plentyn, plant eraill neu oedolyn rhag cael anaf, neu atal niwed difrifol i eiddo. Bod unrhyw ddigwyddiad yn cael ei gofnodi a bod y rhiant yn cael gwybod amdano y diwrnod hwnnw

Rhaid i chi fod yn ymwybodol o'r newidiadau i gefnogi partneriaeth â rhieni ac i sicrhau eich bod chi wedi adolygu eich polisïau a'ch gweithdrefnau mewn perthynas â diogelu/amddiffyn plant a rheoli ymddygiad yn benodol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.


Gwobr Byrbryd Iach Safon Aur


Brechlynnau ffliw

Flu

Mae pob plentyn 2 a 3 oed ar 31 Awst 2021 yn gymwys i gael brechiad ffliw am ddim ar ffurf chwistrell drwynol. Fodd bynnag, nid yw pob rhiant yn ymwybodol o hyn nac yn derbyn y cynnig.

Gall staff sy'n gweithio yn y sector blynyddoedd cynnar helpu i godi ymwybyddiaeth o'r rhaglen ymhlith rhieni. Gallwch chi argraffu a lawrlwytho'r poster hwn i'w arddangos yn eich lleoliad neu ei archebu yn rhad ac am ddim o wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru


Dysgu seiliedig ar chwarae: Yn awr yn fwy nag erioed!

Healthy snack

Mae'r bwyd a'r diod a gynigir mewn lleoliadau gofal plant yn chwarae rhan bwysig yn iechyd plant a gall helpu i ddatblygu arferion bwyta da i'w sefydlu ar gyfer y dechrau gorau mewn bywyd.

Mae ymarferwyr gofal plant a lleoliadau blynyddoedd cynnar yn chwarae rhan bwysig wrth gyfrannu at les plant wrth dyfu.

Mae amseroedd byrbryd yn gyfle pwysig i blant ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, annibyniaeth a rhifedd.

Mae'r Wobr Byrbryd Iach Safon Aur yn ffordd wych i chi ddangos eich bod chi wedi ymrwymo i gefnogi'r plant, y teuluoedd a'r cymunedau rydych chi'n gweithio gyda nhw i fwyta'n dda.

Mae'r wobr yn helpu i ddangos eich bod chi'n bodloni'r Canllawiau Arfer Gorau: Bwyd a maeth ar gyfer lleoliadau gofal plant (Llywodraeth Cymru, 2018).

Mae'r safon hefyd yn helpu i fodloni safonau Arolygiaeth Gofal Cymru ac yn caniatáu i rieni a gofalyddion deimlo'n hyderus bod eu plant yn cael maeth da yn eich lleoliad.

Mae rhagor o wybodaeth ac adnoddau ar gael yn y dogfennau canlynol:

Canllawiau Llywodraeth Cymru: Bwyd a maeth ar gyfer lleoliadau gofal plant

Canllawiau Llywodraeth Cymru: Bwydlenni a ryseitiau ar gyfer brecwast, prydau, byrbrydau a diodydd i blant yn eich gofal

Taflen: Gwobr Byrbryd Iach Safon Aur ar gyfer Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant

‘Snack Chat’ Rhifyn yr Hydref (PDF)

Play

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu poster gwych sy'n amlinellu buddion dysgu seiliedig ar chwarae ac yn darparu enghreifftiau o sut mae plant, trwy chwarae a rhyngweithio gartref, yn dysgu.

Dadlwythwch y poster


Arolwg Gweithlu Chwarae Cymru

Play

Mae Arolwg Gweithlu Chwarae Cymru eisiau clywed gan unrhyw un sy'n gweithio gyda phlant neu bobl ifanc sy'n defnyddio dull chwarae neu waith chwarae yn eu gwaith.

Gallai hyn gynnwys ymarferwyr chwarae o fewn gwaith chwarae, gweithwyr gofal plant, gweithwyr blynyddoedd cynnar, gweithwyr ieuenctid, a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n defnyddio chwarae mewn cyd-destunau eraill fel ysbytai, carchardai, llochesau neu ofal preswyl, lle mae chwarae i blant yn cael ei hwyluso. Mae Arolwg Gweithlu Chwarae Cymru ar agor i staff cyflogedig a gwirfoddol sy'n gweithio o fewn y gweithlu chwarae yng Nghymru.

dweud eich dweud

Hoffwch ni ar Facebook

facebook

Am y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, Hoffwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar Facebook.


GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr