Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Medi 2021

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Medi 2021

Croeso i ail rifyn mis o'n Bwletin Darparwyr Gofal Plant NEWYDD.

Bydd y bwletinau misol hyn yn cael eu defnyddio i ddweud wrthych chi am y newyddion, y wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'ch busnes. 

Gobeithio y bydd yr erthyglau yn ddefnyddiol i chi. Os hoffech chi i unrhyw beth gael ei gynnwys mewn bwletinau yn y dyfodol neu os hoffech chi roi eich barn i ni, e-bostiwch GGiD@caerffili.gov.uk

Derbyniadau Codi'n Dair ar gyfer 2022

Rising 3s

Mae ceisiadau ar agor i rieni wneud cais am le Codi'n Dair ar gyfer eu plentyn ar gyfer tymor y gwanwyn a thymor yr haf 2022. Y dyddiad cau yw dydd Gwener 22 Hydref ar gyfer y ddau dymor.

A allwch chi annog rhieni i wneud cais am eu lle gyda chi (neu'r ysgol), os dyna beth maen nhw eisiau, trwy fynd i wefan y Cyngor yn www.caerffili.gov.uk/CeisiadauDerbyn.

 


Cymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

ALN

Nawr bod y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 newydd yma, roedden ni am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y cymorth ADY rydyn ni’n ei chynnig i'r sector gofal plant yng Nghaerffili: 

  • Hyfforddiant - rydyn ni’n parhau i gynnig hyfforddiant llawn y modiwl Cydlynydd ADY, felly os nad ydych chi wedi cadw’ch lle eto, cysylltwch â GGiD@caerffili.gov.uk. Mae hwn yn hyfforddiant hanfodol sy'n amlinellu'r Ddeddf newydd, y derminoleg newydd a'r prosesau newydd y mae'n rhaid eu dilyn yn ogystal ag amlinellu'r hyn y mae'n ofynnol i chi ei wneud o dan y Ddeddf. Mae yna hefyd fodiwl ar-lein y gallwch chi edrych arno, fel  Modiwl E-ddysgu ADY Llywodraeth Cymru  ond nid yw hyn yn disodli'r cwrs llawn rydyn ni'n ei gynnig, ac rydyn ni'n eich cynghori'n gryf i'w gwblhau cyn gynted â phosibl os nad ydych chi wedi eisoes. Mae Canllaw Deddf ADY Llywodraeth Cymru yn esbonio'r rhaglen trawsnewid, gan gynnwys beth, pam, sut a phryd mae pethau'n newid.  
  • Gosod Arolwg Parodrwydd ADY - os nad ydych chi wedi llenwi'r arolwg eto, cysylltwch â'ch swyddog gofal plant a fydd yn trefnu amser i chi ei lenwi. 
  • Cyngor a chymorth - Os oes gennych chi blant yn eich gofal ac angen cyngor a chymorth, cysylltwch â ni yn y Blynyddoedd Cynnar. Gallwn ni ddarparu ystod o gymorth yn dibynnu ar anghenion y plentyn, fel modelu strategaethau priodol, cyrsiau hyfforddi neu hyd yn oed gymorth ariannol tymor byr cyfyngedig os ydyn ni’n teimlo bod angen hynny.
  • Sesiynau Galw Heibio ADY - Byddwn ni hefyd yn parhau i gynnig Sesiynau Galw Heibio ADY rheolaidd i chi alw heibio os oes gennych chi unrhyw ymholiadau y mae angen ateb iddynt mewn amgylchedd cefnogol.  Cadwch eich llygaid ar agor am y dyddiadau y bydd y rhain yn cael eu cynnal. 

Cofiwch, mae hon yn Ddeddf newydd a bydd y prosesau'n teimlo ychydig yn wahanol i chi i gyd, ond rydyn ni yma i helpu a sicrhau bod pob plentyn sydd ag anghenion ychwanegol sydd wedi dod i'r amlwg neu sydd wedi eu nodi yn derbyn gofal ac yn cael ei gynorthwyo yn y ffordd orau bosibl.

 


Arolwg COVID-19 Llywodraeth Cymru

C19

Rydyn ni am ddweud wrthych chi am astudiaeth sy'n cael ei chynnal gan Lywodraeth Cymru y bydd gofyn i bob darparwr gofal plant gymryd rhan ynddi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Prifysgol Abertawe i gynnal astudiaeth i gael consensws ymhlith arbenigwyr ac ymarferwyr ar sut i nodi, mynd i’r afael â, neu liniaru unrhyw oblygiadau negyddol y pandemig ar blant o dan 5 oed.

Ddiwedd mis Medi/dechrau mis Hydref, byddwch chi’n cael e-bost gan y tîm ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnwys canfyddiadau penawdau cynnar. Bydd yr e-bost yn cynnwys dolen i arolwg lle bydd gofyn i chi am eich barn ar ddichonoldeb y dulliau sy'n cael eu cynnig. Bydd eich ymatebion yn helpu llunio'r adroddiad terfynol a llywio penderfyniadau polisi.

Bydd y canfyddiadau yn cael eu cyhoeddi ar dudalennau gwe Ymchwil ac Ystadegau Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2021. 

 


Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant

CSA

Mae disgwyl i'r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 5 mlynedd nesaf gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf. Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn darparu llawer o'r data i'r llywodraeth leol ynghylch nifer y darparwyr cofrestredig, y gwasanaethau maen nhw'n eu cynnig, lefelau ffioedd, nifer o leoliadau llawn, rhestrau aros a gwybodaeth sy'n ymwneud â'u staffio, yn seiliedig ar yr ymatebion i'r Datganiad Hunanasesiad Gwasanaeth.

Am nifer o resymau, ni wnaeth rhai lleoliadau cofrestredig lenwi a dychwelyd y Datganiad Hunanasesiad Gwasanaeth i Arolygiaeth Gofal Cymru (er enghraifft, nid oedd yn ofynnol i leoliadau newydd eu cofrestru wneud hynny). Fodd bynnag, bydd angen rhywfaint o'r wybodaeth hon ar awdurdodau lleol gan leoliadau cofrestredig na chwblhaodd y Datganiad Hunanasesiad Gwasanaeth, a hefyd o leoliadau anghofrestredig (nad yw'n ofynnol iddynt wneud hynny) er mwyn sicrhau bod eu Hasesiadau Digonolrwydd Gofal Plant yn cyflwyno darlun cyflawn a chywir o'r holl ofal plant yn eu hardal.

Am y rheswm hwnnw, bydd Tîm Gofal Plant Caerffili yn cysylltu â rhai lleoliadau gofal plant gyda chyfres o gwestiynau yn ymwneud â’u gwasanaeth er mwyn ‘llenwi’r bylchau’ a sicrhau bod Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant Caerffili yn adlewyrchu’r darlun cyfredol o ofal plant ar draws y Fwrdeistref Sirol yn llawn.

Gan mai'r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant yw'r ddogfen gynllunio strategol allweddol ar gyfer darparu gofal plant, mae'n hanfodol bod y data sylfaenol yn cofnodi’r ystod lawn o wasanaethau sy'n cael eu cynnig yn gywir, gan y bydd hyn yn effeithio ar benderfyniadau cyllido dros y cyfnod 5 mlynedd nesaf.

Os cysylltir â'ch lleoliad, byddem ni wir yn gwerthfawrogi pe gallech chi dreulio peth amser yn gweithio gydag aelodau o'n Tîm Gofal Plant i sicrhau bod gennym ni’r wybodaeth sy'n ofynnol i gynhyrchu Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant cynhwysfawr ac ystyrlon.

 


Newidiadau i gyfraddau talu

Piggybank

Er mwyn creu cysondeb i'n holl ddarparwyr, rydyn ni wedi symleiddio rhai o'r cyfraddau talu gofal plant y Blynyddoedd Cynnar o 3 Medi 2021.

Byddwch chi'n derbyn taliadau fel a ganlyn:

Lleoedd a gynorthwyir

Meithrinfeydd dydd a gwarchodwyr plant: £20 am hanner diwrnod

Darparwyr sesiynau: £13.50 y sesiwn

Lleoedd a gefnogir a chymorth ychwanegol i blant a ariennir drwy Dechrau'n Deg, y Cynnig Gofal Plant, Addysg y Blynyddoedd Cynnar:

Cyfradd staff: £12 yr awr


Archwiliad Gweithlu'r Blynyddoedd Cynnar 2021

Childcare survey

Diolch yn fawr i'r rhai ohonoch chi sydd wedi cymryd yr amser i lenwi ein Harolwg Gweithlu’r Blynyddoedd Cynnar.

Mae'r arolwg hwn yn bwysig oherwydd bydd yn ein helpu ni i ddeall y sgiliau a'r cymwysterau sydd gan ein gweithlu gofal plant, a'r cymwysterau a'r hyfforddiant sydd eu hangen dros y 2 flynedd nesaf. 

Os nad ydych chi wedi llenwi'r arolwg eto, byddem ni wir yn gwerthfawrogi pe gallech chi gymryd ychydig funudau i lenwi'r ffurflen ar-lein isod erbyn dydd Gwener 10 Medi.

dweud eich dweud

Diolch!


Grant ar gael ar gyfer Offer TG

Laptop

Ym mwletin mis Awst, fe ddywedom ni wrthych chi am Grant Cyfalaf Bach y Cynnig Gofal Plant a ail-agorodd ddydd Llun 6 Medi.

Mae pob lleoliad sydd wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, ac sy'n cynnig lleoedd y Cynnig Gofal Plant i blant 3 a 4 oed, neu sy'n bwriadu cynnig lleoedd, yn gallu gwneud cais. Gellir defnyddio'r grant hwn i brynu offer TG YN UNIG.

Llenwch y ffurflen gais isod a darllen a llofnodi'r telerau ac amodau.  Anfonwch y ddwy ddogfen i greenn1@caerffili.gov.uk

Ffurflen gais (fersiwn Word)

Telerau ac amodau (fersiwn Word)

Y dyddiad cau terfynol ar gyfer ceisiadau yw Dydd Gwener 15 Hydref 2021. 

Ni fydd ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried. Mae cyllid yn gyfyngedig, felly, rydyn ni'n eich annog chi i wneud cais yn gynnar.

Os nad ydych chi wedi'ch cofrestru ar hyn o bryd i ddarparu lleoedd y Cynnig Gofal Plant ar ran Caerffili, neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y grant hwn, anfonwch e-bost i greenn1@caerffili.gov.uk


Hoffwch ni ar Facebook

facebook

Am y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, Hoffwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar Facebook.


GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr