Mae ceisiadau ar agor i rieni wneud cais am le Codi'n Dair ar gyfer eu plentyn ar gyfer tymor y gwanwyn a thymor yr haf 2022. Y dyddiad cau yw dydd Gwener 22 Hydref ar gyfer y ddau dymor.
A allwch chi annog rhieni i wneud cais am eu lle gyda chi (neu'r ysgol), os dyna beth maen nhw eisiau, trwy fynd i wefan y Cyngor yn www.caerffili.gov.uk/CeisiadauDerbyn.
Nawr bod y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 newydd yma, roedden ni am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y cymorth ADY rydyn ni’n ei chynnig i'r sector gofal plant yng Nghaerffili:
-
Hyfforddiant - rydyn ni’n parhau i gynnig hyfforddiant llawn y modiwl Cydlynydd ADY, felly os nad ydych chi wedi cadw’ch lle eto, cysylltwch â GGiD@caerffili.gov.uk. Mae hwn yn hyfforddiant hanfodol sy'n amlinellu'r Ddeddf newydd, y derminoleg newydd a'r prosesau newydd y mae'n rhaid eu dilyn yn ogystal ag amlinellu'r hyn y mae'n ofynnol i chi ei wneud o dan y Ddeddf. Mae yna hefyd fodiwl ar-lein y gallwch chi edrych arno, fel Modiwl E-ddysgu ADY Llywodraeth Cymru ond nid yw hyn yn disodli'r cwrs llawn rydyn ni'n ei gynnig, ac rydyn ni'n eich cynghori'n gryf i'w gwblhau cyn gynted â phosibl os nad ydych chi wedi eisoes. Mae Canllaw Deddf ADY Llywodraeth Cymru yn esbonio'r rhaglen trawsnewid, gan gynnwys beth, pam, sut a phryd mae pethau'n newid.
-
Gosod Arolwg Parodrwydd ADY - os nad ydych chi wedi llenwi'r arolwg eto, cysylltwch â'ch swyddog gofal plant a fydd yn trefnu amser i chi ei lenwi.
-
Cyngor a chymorth - Os oes gennych chi blant yn eich gofal ac angen cyngor a chymorth, cysylltwch â ni yn y Blynyddoedd Cynnar. Gallwn ni ddarparu ystod o gymorth yn dibynnu ar anghenion y plentyn, fel modelu strategaethau priodol, cyrsiau hyfforddi neu hyd yn oed gymorth ariannol tymor byr cyfyngedig os ydyn ni’n teimlo bod angen hynny.
-
Sesiynau Galw Heibio ADY - Byddwn ni hefyd yn parhau i gynnig Sesiynau Galw Heibio ADY rheolaidd i chi alw heibio os oes gennych chi unrhyw ymholiadau y mae angen ateb iddynt mewn amgylchedd cefnogol. Cadwch eich llygaid ar agor am y dyddiadau y bydd y rhain yn cael eu cynnal.
Cofiwch, mae hon yn Ddeddf newydd a bydd y prosesau'n teimlo ychydig yn wahanol i chi i gyd, ond rydyn ni yma i helpu a sicrhau bod pob plentyn sydd ag anghenion ychwanegol sydd wedi dod i'r amlwg neu sydd wedi eu nodi yn derbyn gofal ac yn cael ei gynorthwyo yn y ffordd orau bosibl.
Rydyn ni am ddweud wrthych chi am astudiaeth sy'n cael ei chynnal gan Lywodraeth Cymru y bydd gofyn i bob darparwr gofal plant gymryd rhan ynddi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Prifysgol Abertawe i gynnal astudiaeth i gael consensws ymhlith arbenigwyr ac ymarferwyr ar sut i nodi, mynd i’r afael â, neu liniaru unrhyw oblygiadau negyddol y pandemig ar blant o dan 5 oed.
Ddiwedd mis Medi/dechrau mis Hydref, byddwch chi’n cael e-bost gan y tîm ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnwys canfyddiadau penawdau cynnar. Bydd yr e-bost yn cynnwys dolen i arolwg lle bydd gofyn i chi am eich barn ar ddichonoldeb y dulliau sy'n cael eu cynnig. Bydd eich ymatebion yn helpu llunio'r adroddiad terfynol a llywio penderfyniadau polisi.
Bydd y canfyddiadau yn cael eu cyhoeddi ar dudalennau gwe Ymchwil ac Ystadegau Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2021.
Mae disgwyl i'r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 5 mlynedd nesaf gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf. Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn darparu llawer o'r data i'r llywodraeth leol ynghylch nifer y darparwyr cofrestredig, y gwasanaethau maen nhw'n eu cynnig, lefelau ffioedd, nifer o leoliadau llawn, rhestrau aros a gwybodaeth sy'n ymwneud â'u staffio, yn seiliedig ar yr ymatebion i'r Datganiad Hunanasesiad Gwasanaeth.
Am nifer o resymau, ni wnaeth rhai lleoliadau cofrestredig lenwi a dychwelyd y Datganiad Hunanasesiad Gwasanaeth i Arolygiaeth Gofal Cymru (er enghraifft, nid oedd yn ofynnol i leoliadau newydd eu cofrestru wneud hynny). Fodd bynnag, bydd angen rhywfaint o'r wybodaeth hon ar awdurdodau lleol gan leoliadau cofrestredig na chwblhaodd y Datganiad Hunanasesiad Gwasanaeth, a hefyd o leoliadau anghofrestredig (nad yw'n ofynnol iddynt wneud hynny) er mwyn sicrhau bod eu Hasesiadau Digonolrwydd Gofal Plant yn cyflwyno darlun cyflawn a chywir o'r holl ofal plant yn eu hardal.
Am y rheswm hwnnw, bydd Tîm Gofal Plant Caerffili yn cysylltu â rhai lleoliadau gofal plant gyda chyfres o gwestiynau yn ymwneud â’u gwasanaeth er mwyn ‘llenwi’r bylchau’ a sicrhau bod Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant Caerffili yn adlewyrchu’r darlun cyfredol o ofal plant ar draws y Fwrdeistref Sirol yn llawn.
Gan mai'r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant yw'r ddogfen gynllunio strategol allweddol ar gyfer darparu gofal plant, mae'n hanfodol bod y data sylfaenol yn cofnodi’r ystod lawn o wasanaethau sy'n cael eu cynnig yn gywir, gan y bydd hyn yn effeithio ar benderfyniadau cyllido dros y cyfnod 5 mlynedd nesaf.
Os cysylltir â'ch lleoliad, byddem ni wir yn gwerthfawrogi pe gallech chi dreulio peth amser yn gweithio gydag aelodau o'n Tîm Gofal Plant i sicrhau bod gennym ni’r wybodaeth sy'n ofynnol i gynhyrchu Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant cynhwysfawr ac ystyrlon.
Er mwyn creu cysondeb i'n holl ddarparwyr, rydyn ni wedi symleiddio rhai o'r cyfraddau talu gofal plant y Blynyddoedd Cynnar o 3 Medi 2021.
Byddwch chi'n derbyn taliadau fel a ganlyn:
Lleoedd a gynorthwyir
Meithrinfeydd dydd a gwarchodwyr plant: £20 am hanner diwrnod
Darparwyr sesiynau: £13.50 y sesiwn
Lleoedd a gefnogir a chymorth ychwanegol i blant a ariennir drwy Dechrau'n Deg, y Cynnig Gofal Plant, Addysg y Blynyddoedd Cynnar:
Cyfradd staff: £12 yr awr
|
Diolch yn fawr i'r rhai ohonoch chi sydd wedi cymryd yr amser i lenwi ein Harolwg Gweithlu’r Blynyddoedd Cynnar.
Mae'r arolwg hwn yn bwysig oherwydd bydd yn ein helpu ni i ddeall y sgiliau a'r cymwysterau sydd gan ein gweithlu gofal plant, a'r cymwysterau a'r hyfforddiant sydd eu hangen dros y 2 flynedd nesaf.
Os nad ydych chi wedi llenwi'r arolwg eto, byddem ni wir yn gwerthfawrogi pe gallech chi gymryd ychydig funudau i lenwi'r ffurflen ar-lein isod erbyn dydd Gwener 10 Medi.
|
Diolch!
Ym mwletin mis Awst, fe ddywedom ni wrthych chi am Grant Cyfalaf Bach y Cynnig Gofal Plant a ail-agorodd ddydd Llun 6 Medi.
Mae pob lleoliad sydd wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, ac sy'n cynnig lleoedd y Cynnig Gofal Plant i blant 3 a 4 oed, neu sy'n bwriadu cynnig lleoedd, yn gallu gwneud cais. Gellir defnyddio'r grant hwn i brynu offer TG YN UNIG.
Llenwch y ffurflen gais isod a darllen a llofnodi'r telerau ac amodau. Anfonwch y ddwy ddogfen i greenn1@caerffili.gov.uk
Ffurflen gais (fersiwn Word)
Telerau ac amodau (fersiwn Word)
Y dyddiad cau terfynol ar gyfer ceisiadau yw Dydd Gwener 15 Hydref 2021.
Ni fydd ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried. Mae cyllid yn gyfyngedig, felly, rydyn ni'n eich annog chi i wneud cais yn gynnar.
Os nad ydych chi wedi'ch cofrestru ar hyn o bryd i ddarparu lleoedd y Cynnig Gofal Plant ar ran Caerffili, neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y grant hwn, anfonwch e-bost i greenn1@caerffili.gov.uk
|
|