1. Newyddion
Grŵp Tai Pennaf yn cofrestru gyda'r GCC
Daeth Grŵp Tai Pennaf, sy’n gweithio mewn partneriaeth â chwe awdurdod lleol ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru, yn sefydliad tai cymdeithasol cyntaf yng Nghymru i gadarnhau y bydd yn defnyddio holl Fframweithiau’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC).
Mae Pennaf, sy’n gweithio ar y Parc Busnes yn Llanelwy ac sy’n cynnwys Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Chymdeithas Tai Tŷ Glas yn rheoli tua 5,900 o unedau tai ar draws y rhanbarth.
Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: “Mae’r Gwasanaeth Caffael yn cynnig cyfle gwych i wneud pethau’n wahanol, i ymwneud â’n gilydd yn fwy cydweithredol a gosod yr agenda at y dyfodol. Rydym yn falch iawn o groesawu Pennaf, cwsmer cyntaf y gwasanaeth o’r sector tai cymdeithasol. Rwy’n gobeithio y bydd mwy o sefydliadau o’r sector yn dilyn eu hesiampl ac yn ymuno â’r gwasanaeth blaengar hwn.”
Dywedodd David Lewis, Cyfarwyddwr Corfforaethol Rheoli Asedau Pennaf: “Fel Grŵp mae Pennaf yn arwain y blaen wrth gefnogi mentrau newydd i sicrhau gwasanaethau effeithlon sy’n cynnig gwerth am arian fel ein bod yn gallu parhau i fuddsoddi a thyfu gan sicrhau cartrefi o ansawdd uchel a bod gwasanaethau rhagorol yn cael eu cynnig i’n preswylwyr a’n cleientiaid.”
“Mae bod yn rhan o’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn un o nifer o gynlluniau blaengar y mae’r Grŵp wedi eu croesawu i ddynodi gwerth am arian, a sicrhau bod preswylwyr a chwsmeriaid yn parhau i gael y gwasanaethau gorau.”
Ar hyn o bryd mae'r GCC yn gweithio gyda nifer o sefydliadau tai sydd wrthi'n gadarnhau eu defnydd o Fframweithiau'r GCC. Dylai unrhyw sefydliadau tai a hoffai wybod mwy am gofrestru gyda'r GCC, gysylltu â Julie Harrison, Pennaeth Rheoli Rhanddeiliaid a Busnes.
|
“Supplier Portfolio Manager” Dun & Bradstreet
I
gefnogi'r gwaith rheoli categorïau parhaus yn y GCC, mae'r tîm Gwybodaeth Busnes yn
sicrhau bod holl gyflenwyr cytundeb fframwaith yn cael eu dosbarthu a'u paru
trwy “Supplier Portfolio Manager” Dun & Bradstreet. Platfform
dadansoddi ar-lein yw hwn, sy'n cael ei ddarparu rhad ac am ddim gan ePS (Llywodraeth Cymru) ar gyfer sefydliadau prynu'r sector cyhoeddus Cymreig.
Mae hyn yn darparu gwybodaeth ddiweddar i'r GCC mewn perthynas â statws SME cywir
cyflenwyr ynghyd â rhybuddion risg cyflenwyr. Mae'r
hysbysiadau rhybudd yn darparu sicrwydd ychwanegol i gwsmeriaid y GCC bod
cyflenwyr y GCC sy'n dangos newidiadau risg negyddol neu gadarnhaol yn dod i
sylw'r tîm categori priodol yn brydlon ar gyfer gweithredu a rheoli. Mae hefyd yn cynnig mynediad at adroddiadau ariannol cwmnïau y gellir eu defnyddio yn y broses cyrchu a chylch oes rheoli contractau.
Gallwch
ddod o hyd i wybodaeth bellach am “Supplier Portfolio Manager” Dun &
Bradstreet yma.
Procurex Cymru - ydych chi wedi cofrestru?
Dim ond 6 wythnos sydd ar ôl nes cynnal cynhadledd gaffael fwyaf Cymru yn y Motorpoint Arena yng Nghaerdydd ddydd Iau 6 Hydref. Mae amser yn brin - cofiwch gofrestru er mwyn bod yn bresennol ar y diwrnod.
Mae'r digwyddiad un-dydd hwn wedi ei gynllunio'n benodol ar gyfer gweithwyr personél y sector preifat a'r sector cyhoeddus sy'n rhan o'r farchnad caffael cyhoeddus. Bydd y diwrnod yn llawn cyflwyniadau, gweithdai ac arddangosfeydd gan gynnwys y canlynol:
- Prif Arena Byw
- 4 Parth
Hyfforddiant
- Pafiliwn
Llywodraeth Cymru
- Arddangosfa
Cynnyrch
- Rhwydweithio
a Chefnogaeth
Am
ragor o wybodaeth, ewch i www.procurexlive.co.uk/cymru
2. Edrych i'r Dyfodol
Er mwyn sicrhau eich bod yn cael cymaint o rybudd â phosibl ymlaen llaw am
ddigwyddiadau'r GCC, rydym wedi creu’r tabl Rhagolwg canlynol. Cysylltwch ag
e-bost y categori perthnasol i gael rhagor o wybodaeth, a chofiwch gadw golwg
ar dudalennau’r GCC ar Twitter a LinkedIn a GwerthwchiGymru i gael cyhoeddiadau
am y digwyddiadau.
Digwyddiadau i Brynwyr
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau uchod, cysylltwch â'r blwch
post cyfatebol isod:
Fflyd a Thrafnidiaeth
TGCh
Gwasanaethau Pobl
Gwasanaethau Proffesiynol
3. Gweithgarwch ar y gweill yn
ôl categori
Mae yna nifer o Hysbysiadau wedi’u rhestru isod. Hysbysebir pob un ohonynt drwy wefan GwerthwchiGymru, ond gofynnir i chi rannu'r
wybodaeth hon gyda chynifer o gyflenwyr â phosibl os ydych yn credu y byddent o
ddiddordeb iddynt.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm perthnasol drwy e-bost.
Adeiladu, Rheoli Cyfleusterau, a Chyfleustodau
Hysbysiadau Contract Arfaethedig
- Cyflenwi Cyfarpar Goleuo Priffyrdd – disgwylir ei gyhoeddi Hydref/Tachwedd 2016.
Hysbysiadau Dyfarnu Contractau Arfaethedig
- Rheoli Cyfleusterau Cyfnod 2 sy'n cynnwys Gwasanaethau Mecanyddol, Cynnal a Chadw Cyfarpar Tân, Gwasanaethau Rheoli Plâu, Cyflenwadau Rheoli Plâu a Gwasanaethau Diogelwch - o ganlyniad i'r toriad cenedlaethol yng nghyflenwad rhyngrwyd BT, a effeithiodd ar rai o'r cynigwyr a chyd-darodd gyda'r dyddiad cau ar gyfer y tendr, cafodd y dyddiad cau ei ymestyn. O ganlyniad, bu rhywfaint o oedi a bydd y fframwaith hwn yn cael ei ddyfarnu ddiwedd mis Medi 2016.
- Prynu Offer Llaw a Chyfarpar Trydanol Bach - i'w ddyfarnu ym mis Medi 2016.
Diweddariadau
- Mae tîm Cyfleustodau'r GCC wedi cynorthwyo pum sefydliad sy'n gwsmer newydd â'u Portffolio Ynni sy'n cynnwys 1,150 safle newydd.
Cysylltu: NPSConstruction&FM@cymru.gsi.gov.uk
Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes
Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw
Hysbysiadau Contract
Diweddariadau
-
Cyflenwi Offer Gwelededd Uchel ac Amddiffyn Personol (PPE) - Lifrai, Dillad Gwaith a Hamdden – mae
cytundeb Consortiwm Prynu Cymru a'r catalogau sy'n gysylltiedig wedi cael eu
hymestyn fel mesur dros dro. Rydym wrthi'n drafftio gwerthusiad opsiynau newydd
ac amserlen ar gyfer ei adolygu gan Grŵp Fforwm y Categori a'r Grŵp Cyflawni.
-
Offer Swyddfa a Phapur Llungopïo – Rydym
eisoes wedi gofyn am enwebiadau ar gyfer gwerthuswyr trwy'r Grŵp Fforwm Categori ac mae angen mwy o wirfoddolwyr. Rydym yn chwilio am o leiaf pedwar gwerthuswr
ychwanegol felly cysylltwch â'r blwch post isod os oes gennych ddiddordeb ac yn
gallu helpu. Bydd gwerthusiadau'n dechrau yn yr wythnos sy'n cychwyn 26 Medi -
7 Hydref 2016. Bydd y fframwaith yn cael ei ddyfarnu ym mis Tachwedd ac yn mynd
yn fyw ar 1 Rhagfyr 2016.
- Gwasanaethau
Argraffu Cymru Gyfan - Mae'r deliwr cyflenwadau swyddfa annibynnol yn y DU, Complete Office Solutions (COS) wedi caffael grŵp SET o Gymru.
Gall cwsmeriaid y GCC barhau i fasnachu â SET o dan y fframwaith GCC fel y saif
ar hyn o bryd heb unrhyw newidiadau.
- Fframwaith Asiantaethau Cyfryngau – rydym yn bwriadu sefydlu Grŵp Fforwm Categori ar gyfer adnewyddu’r fframwaith hwn. Cysylltwch â’r cyfeiriad e-bost isod os hoffech fod yn gysylltiedig, neu os oes gennych chi unrhyw adborth ar y cytundeb presennol.
Cysylltu: NPSCorporateServices@cymru.gsi.gov.uk
|
Fflyd a Thrafnidiaeth
Diweddariadau
- Teiars
- rydym wedi parhau i gydlynu mini-gystadlaethau cydweithredol, a derbyniwyd
adborth cadarnhaol iawn oddi wrth gwsmeriaid mewn perthynas â'r arbedion a
wnaethpwyd hyd yma. Daeth Cyfnod 1 y mini-gystadlaethau i ben ar 30 Mehefin
2016. Dylai unrhyw sefydliadau sy'n gwsmeriaid nad ydynt wedi cadarnhau bwriad
i ddefnyddio'r fframwaith hyd yma gysylltu â'r blwch post isod cyn gynted â
phosibl. Bellach rydym yn ymgymryd â chystadlaethau pellach ar ran Cynghorau
Gwynedd, Powys, Merthyr a Phen-y-bont ar Ogwr.
-
Llogi
Cerbydau a Thanwydd Hylifol - cyhoeddwyd arolwg i gwsmeriaid mewn perthynas â
darparu'r cytundebau GCC canlynol yn y dyfodol, gan eu bod yn agosáu at eu
hadolygiad porth cyntaf:
- NPS-FT-0009-15 Cyflenwi Cerbydau ar Log ar gyfer Ceir a Cherbydau Masnachol
Ysgafn (o dan 3T)
- NPS-FT-0016-15 Cyflenwi Tanwyddau Hylifol
Os yw'ch sefydliad yn defnyddio naill un o'r cytundebau hyn neu'r ddau ohonynt,
rydym yn ceisio eich barn ynglŷn â ph'un a dylid eu hymestyn yn unol â'r
darpariaethau y manylwyd arnynt yn y cytundeb fframwaith, neu ail-dendro.
Gofynnir i gwsmeriaid lenwi'r arolwg/arolygon perthnasol isod erbyn 12pm, dydd
Llun 5 Medi 2016.
- Arolwg Llogi Cerbydau
- Arolwg Tanwyddau Hylifol
Yn dilyn y dyddiad hwn, byddwn yn defnyddio'r adborth a ddefnyddiwyd i wneud
penderfyniadau gwybodus ynglŷn â darpariaeth y cytundebau uchod yn y
dyfodol.
-
Darnau Sbâr Cerbydau - mae gwaith i ddatblygu dogfennaeth
dendr yn mynd rhagddo a bwriedir cael cymeradwyaeth derfynol y Grŵp Fforwm
Categori (GFfC) ar 5 Medi 2016. Rydym yn dal i fod yn aros am ymatebion gofynion
cwsmeriaid sy'n weddill oddi wrth sefydliadau sy'n prynu. Mae'r gwerthusiad
opsiynau wedi cael ei anfon i Grŵp Cyflawni'r GCC ar gyfer cymeradwyaeth y tu
allan i bwyllgor. Yn unol â'r amserlen bydd y prosiect yn cyhoeddi'r gwahoddiad
i dendro ym mis Medi 2016, â bwriad dyfarnu ym mis Rhagfyr 2016, a'r fframwaith
yn mynd yn fyw ym mis Ionawr 2017.
-
Byddwn yn
cyhoeddi arolwg categori ym mis Medi, gan roi cyfle i gwsmeriaid i roi
adborth ar ffurf Piblinell Fflyd yn y dyfodol. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Cysylltu: NPSFleet@cymru.gsi.gov.uk
|
Bwyd
Diweddariadau
-
Yn dilyn adborth gan gwsmeriaid, rydym wedi adolygu'r gofynion maethol a
chytuno i addasu ein piblinell bwyd er mwyn sicrhau ei fod yn cwrdd ag
anghenion ein holl gwsmeriaid ar draws pob sector. Unrhyw gwsmeriaid sy'n dymuno edrych ar ddadansoddiad manwl o'r newidiadau i'r piblinell, cysylltwch â'ch Cynrychiolydd Sector y GCC.
Cysylltu: NPSFood@cymru.gsi.gov.uk
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Hysbysiadau Dyfarnu Contractau
Hysbysiadau Dyfarnu Contractau Arfaethedig
- Gwasanaethau
Sicrwydd Gwybodaeth – y dyddiad cau ar gyfer anfon tendrau oedd 20 Mehefin
2016. Mae’r gwaith o werthuso’r tendrau’n digwydd yn awr a disgwylir iddo
fod yn weithredol ar 30 Medi 2016.
Hysbysiadau Contract Arfaethedig
- Digido,
Storio a Gwaredu – cyhoeddir yn gynnar ym mis Medi 2016. Mae’r gwaith yn parhau i roi System Brynu Ddynamig ar
waith ar gyfer busnesau a gynorthwyir, gyda dyddiad gweithredu yn yr
arfaeth ar gyfer Hydref 2016.
Diweddariadau
-
Dyfeisiadau
Aml Swyddogaeth a Gwasanaethau Argraffu a Reolir yn Fewnol – mae gwaith yn
mynd ymlaen i gwmpasu’r fframwaith posibl. Roedd nifer dda’n bresennol yng
nghyfarfod y Grŵp Fforwm Categori a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2016. Bydd
y penderfyniad i fwrw ymlaen â’r caffael hwn yn ddibynnol ar gymeradwyaeth
Grŵp Cyflawni’r GCC. Cynhelir
grŵp gwaith technegol ar 7 Medi 2016. Oherwydd bydd hyn yn ymwneud a'r gofynion
penodol a manylebau technegol y rhestr Nwyddau Craidd, rydym yn chwilio am
arbenigwyr technegol i wirfoddoli ar gyfer y sesiwn hon. Cysylltwch â'r blwch
post isod i gael gwybodaeth bellach.
Cysylltu: NPSICTCategoryTeam@cymru.gsi.gov.uk
|
Gwasanaethau Pobl
Hysbysiadau Dyfarnu Contractau
Hysbysiadau Dyfarnu Contractau Arfaethedig
- Gwasanaethau
Hyfforddi, Dysgu a Datblygiad Corfforaethol – bydd y fframwaith ar gael i'w ddefnyddio ar 1 Medi 2016.
Diweddariadau
-
Fframwaith Cynlluniau Buddiannau Gweithwyr - mae Cynllun Aberthu Cyflog Sgrinio Iechyd newydd a chynhyrchion eraill sy'n gysylltiedig ag iechyd gan gynnwys Cynlluniau Arian Iechyd ac Yswiriant Bywyd nawr ar gael at ddefnydd bob sefydliad sy'n gwsmer, o dan y Fframwaith Cynlluniau Buddiannau Gweithwyr. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ynghylch y cynlluniau hyn, cysylltwch â Faye Haywood ar y blwch post isod.
Rydym yn edrych i gynnal digwyddiadau cwsmeriaid ymhellach yn ystod mis Hydref gyda'r Darparwr Gwasanaeth a Reolir, iCOM Works Ltd a'u partneriaid aberthu cyflog, i gyflwyno'r portffolio Iechyd newydd a chynnig diweddariadau ar gynlluniau poblogaidd eraill sydd ar gael o dan y fframwaith. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu digwyddiad o'r fath, gofynnir i chi fynegi diddordeb i Faye Haywood ar y blwch post isod.
Cysylltu: NPSPeopleServices&utilities@cymru.gsi.gov.uk
Gwasanaethau Proffesiynol
Hysbysiadau Dyfarnu Contractau Arfaethedig
- Gwasanaethau
Cymorth Yswiriant – disgwylir iddo gael ei ddyfarnu 30 Awst 2016.
|
Diweddariadau
- Gwasanaethau Cyfreithiol gan Fargyfreithwyr – rydym
yn ddiolchgar am y cymorth a
chyfarwyddyd rydym wedi'u cael oddi wrth y Grŵp Fforwm Categori (GFfC) newydd ei
gyfansoddi a gyfarfu yn Llandrindod ar 4 Awst 2016. Mae'r Adroddiad Canlyniadau ar gael ar wefan GwerthwchiGymru. Oherwydd y cyfraniadau
sylweddol a wnaethpwyd, rydym yn parhau i fod yn unol â'r amserlen i gyhoeddi'r
gwahoddiad i dendro ym mis Medi 2016.
- Yswiriant
- rydym wedi bod yn gweithio i adael nifer o gytundebau i gefnogi sefydliadau
wrth gyflawni datrysiadau yswiriant. Bydd System Brynu Ddynamig (DPS)
Yswiriant y GCC yn adnodd sy'n esblygu a
fydd yn cynnwys darparwyr polisi yswiriant ar gyfer eich holl anghenion o ran
yswiriant. Ochr yn ochr, bydd ein fframwaith Gwasanaethau Cymorth Yswiriant yn
caniatáu cwsmeriaid i gael mynediad at wasanaethau broceru yswiriant a rheoli
risg, arbenigwyr ymgyfreitha yswiriant ac arbenigedd delio â hawliadau. Byddwn
yn lansio'r fframweithiau DPS Yswiriant a
Gwasanaethau Cymorth Yswiriant ym mis Medi 2016 ac rydym yn chwilio am
farn aelodau ein GFfC a'r darparwyr llwyddiannus o ran y dull gorau o ymdrin â
lansio. Gallwn gadarnhau y byddwn yn recordio gweminar a ddarperir trwy
Gymdeithas Rheolwyr Risg Awdurdodau Lleol (ALARM) yn ddiweddarach ym mis Medi
2016, yn dwyn sylw at y cytundeb a'i ddefnydd.
-
Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Gontract Gwasanaethau
Proffesiynol NEC 3 - rydym wedi sicrhau nifer o ddigwyddiadau hyfforddiant am
ddim ar gyfer cydweithwyr sector cyhoeddus:
- 15 Medi 2016, Caerdydd - bydd Capital Law yn darparu
cyflwyniad i'r contract, lle bydd nodweddion allweddol y gwaith comisiynu sy'n
defnyddio'r gyfres o gontractau hon yn cael ei ddisgrifio'n glir
- 12 Hydref 2016, De Cymru a'r 13 Hydref 2016, Gogledd Cymru - bydd WSP yn
darparu gweithdy datblygu ymarfer gorau yn y defnydd llwyddiannus o gyfres NEC
3 Proffesiynol. Gan adeiladu ar seminar 15 Medi, bydd y gweithdai'n darparu
canllawiau helaeth ac enghreifftiau o ymarfer gorau. Darperir y sesiynau dros
hanner diwrnod gan roi'r wybodaeth a sgiliau i fynychwyr allu cyflawni
datrysiadau ymarferol trwy'r gyfres hon o gontractau.
Bydd y ddau ddigwyddiad hefyd yn cyfrannu at DPP ar draws nifer o sefydliadau
proffesiynol. I gael gwybodaeth bellach, cysylltwch â'r blwch post isod.
- Hyfforddiant
Cyfreithiol - mae cyflenwyr ar ein fframwaith Gwasanaethau Cyfreithiol gan
Gyfreithwyr yn cynnig amrywiaeth eang o ddigwyddiadau briffio a hyfforddi. Gweler yr amserlen lawn ar-lein yma.
Cysylltu: NPSProfessionalServices@cymru.gsi.gov.uk
|
|
4. Arbedion
Mae’r GCC yn adrodd cyfradd arbedion o 2.29% y flwyddyn ariannol
hon, drwy Gontractau a Chytundebau Fframwaith wedi’u rheoli. Mae hwn
yn cynnwys cytundebau sydd wedi'u trosglwyddo i'r
GCC.
Mae'r arbedion yn hafal i £363, 492 rhwng 1 Ebrill 2016 a 31 Mai 2016.
Os byddwch angen eglurhad pellach o'r arbedion hyn, cysylltwch
â'ch Cynrychiolydd
Sector y GCC
neu'ch Pennaeth Caffael.
|
5. Diweddariad Staffio
Bydd Katie Wilson, Pennaeth Categori Bwyd y GCC, yn gadael y sefydliad ar ddiwedd mis Medi. Mark Grant fydd y cyswllt dros dro yn y Categori Bwyd.
Os
hoffech ddad-danysgrifio o Newyddion y GCC,
e-bostiwch: Bethan.Williams13@cymru.gsi.gov.uk
|