Ymateb AGIC i COVID 19 a threfniadau sicrwydd ac arolygu / HIW COVID 19 response and approach to assurance and inspection

Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Healthcare Inspectorate Wales
TwitterFacebookYoutube

Saesneg yn isod / English below


Ymateb AGIC i COVID 19 a threfniadau sicrwydd ac arolygu

Yn ystod pandemig COVID-19, ein nod a'n hymrwymiad parhaus yn Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yw sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael gofal o ansawdd da, a ddarperir yn ddiogel ac yn effeithiol, yn unol â safonau cydnabyddedig. Gwnaethom gyhoeddi datganiad sefyllfa yn ddiweddar sy'n nodi'r egwyddorion sy'n ategu ein dull gweithredu yn ystod y cyfnod hwn, ynghyd â'r camau rydym wedi eu cymryd mewn ymateb i COVID-19. Mae hefyd yn nodi'r ffordd rydym yn addasu ein dull o gyflawni ein swyddogaethau wrth i ni symud drwy'r pandemig, ac wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio, er mwyn sicrhau ei fod yn gymesur ac yn briodol.

Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn ystyried ffyrdd newydd o weithio a fydd yn rhoi hyblygrwydd ac ystwythder i ni wrth gyflawni ein rôl dros y flwyddyn i ddod, ac rwyf bellach mewn sefyllfa lle gallaf rannu mwy o fanylion am y dull hwn.

Rydym yn cynllunio ac yn caboli ein rhaglen waith arferol yn barhaus a byddwn yn treialu ein ffordd newydd o weithio dros y tri mis nesaf, rhwng mis Awst a mis Hydref. Erbyn tua diwedd y cyfnod hwn, byddwn yn gwerthuso'r dull er mwyn sicrhau ei fod yn briodol ac yn bodloni ei nodau a'i amcanion.

Rydym yn ymwybodol ein bod wedi gorfod symud yn gyflym i addasu fel sefydliad ac nid yw hyn wedi ein galluogi i ymgysylltu â chi am ein dull yn y ffordd y bydden wedi dymuno. Wedi dweud hynny, mae ein rôl graidd o gadarnhau a yw safonau a rheoliadau yn cael eu bodloni yn parhau i fod wrth wraidd ein dull gweithredu. Bydd y fethodoleg a'r dull arolygu newydd yn ein galluogi i ddefnyddio ein hadnodd mewn ffordd fwy ystwyth, gan ymateb i risgiau a materion penodol wrth ystyried modelau gweithredu diwygiedig yn ystod y pandemig.

Nodwedd allweddol o'n dull newydd fydd defnyddio model sicrwydd ac arolygu tair haen sy'n lleihau'r ddibyniaeth ar weithgarwch arolygu ar y safle fel ein prif ddull o gael sicrwydd.

Cynhelir gweithred Haen 1 yn gyfan gwbl oddi ar y safle a chaiff ei ddefnyddio at nifer o ddibenion ond, ar hyn o bryd, yn bennaf lle na ellir datrys materion drwy ein proses pryderon safonol a lle mae'r risg o gynnal arolygiad ar y safle yn dal i fod yn uchel. Bydd Haen 2 yn cyflwyno cyfuniad o weithgarwch oddi ar y safle a gweithgarwch cyfyngedig ar y safle, tra bydd Haen 3 yn arolygiad mwy traddodiadol ar y safle.

Rydym yn rhagweld y bydd ysbytai cofrestredig annibynnol iechyd meddwl ac acíwt, lle nad ydynt yn disgwyl arolygiad rheolaidd wedi'i seilio ar amlder eleni, yn cael eu cysylltu ac yn derbyn gweithred sicrhau Haen 1 rhwng mis Awst a mis Hydref. Gall lleoliadau cofrestredig a fyddai wedi bod yn disgwyl arolygiad rheolaidd wedi'i seilio ar amlder eleni ddisgwyl cael eu cysylltu ac yn derbyn gweithred sicrwydd Haen 2 o fis Tachwedd ymlaen. Mae'n bosibl y ceir rhywfaint o amrywiant o ran y bwriad hwn, yn enwedig ynglŷn â gweithredoedd sicrwydd i ddeintyddion cofrestredig. Byddwn yn datblygu ein dull gweithredu ar gyfer y grŵp hwn o wasanaethau cofrestredig dros yr haf. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cynlluniau cyn gynted ag y gallwn.

Sut bynnag, rydym bob amser yn cadw'r hawl i gynnal arolygiad llawn ar unrhyw adeg.

Ar gyfer gweithreddoedd o fewn Haen 1, pan gaiff gwaith ei gyhoeddi, bydd llai o amser i baratoi (o leiaf 7 diwrnod gwaith), tîm arolygu llai o faint a bydd rhan fwyaf o'r gwaith sicrwydd yn cael ei gwblhau drwy gais am wybodaeth, a galwad ffôn neu alwad fideo ddilynol gyda gweithwyr allweddol. Ar ôl cyfnod byr o gwblhau gwiriad cywirdeb ffeithiol, caiff crynodeb ysgrifenedig a, lle bo angen, cynllun gwella eu llunio. Byddwn yn cyhoeddi'r adroddiad cryno cyn gynted â phosibl ar ôl cynnal y gweithgarwch ac ar ôl cwblhau'r gwiriad cywirdeb.

Bydd y dull hwn yn ein galluogi i gael sicrwydd gan wasanaethau ar adeg pan fo ymweliadau arolygu ar y safle yn llawer mwy heriol i leoliadau gofal iechyd ac i ninnau. Mae hefyd yn darparu dull cynyddrannol a fydd yn darparu mwy o hyblygrwydd yn y dyfodol drwy gynnig ystod ehangach o ddulliau ar gyfer cyflawni ein gwaith.

Bydd manylion am ein dull diwygiedig yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan yn ystod yr wythnosau nesaf. Os hoffech gysylltu â ni ynghylch ein dull diwygiedig, anfonwch e-bost at HIW@llyw.cymru.


HIW COVID 19 response and approach to assurance and inspection

During the COVID-19 pandemic it is our continued commitment and goal at Healthcare Inspectorate Wales (HIW) to check that people in Wales are receiving good quality care, which is provided safely and effectively, in line with recognised standards. We recently published a position statement that sets out the principles that underpin our approach during this period and the actions we have has taken in response to the outbreak. It also sets out how we are adapting our approach to delivering our functions as we move through the pandemic, and as restrictions are eased, to ensure it is both proportionate and appropriate.

Over the past few months we have been considering new ways of working which will give us flexibility and agility in delivering our role over the coming year and I am now at a point where I can share more detail of this approach.

We are planning and refining our routine work programme on an ongoing basis and will be piloting our new way of working for the three month period from August to October. Towards the end of this period we will evaluate the approach to ensure it is appropriate and is meeting its aims and objectives.

We’re aware that we have had to move quickly to adapt as an organisation and this has not allowed us to engage with you about our approach in the way we would have wished. That said, our core role of checking whether standards and regulations are being met continues to be central to our approach. The new methodology and inspection approach will allow us to deploy our resource in a more agile way, responding to specific risks and issues whilst taking account of revised operating models during the pandemic.

A key feature of our new approach will be the use of a three-tiered model of assurance and inspection that reduces the reliance on onsite inspection activity as our primary method of gaining assurance.

Tier 1 activity will be conducted entirely offsite and will be used for a number of purposes but, at this stage, primarily where issues cannot be resolved via our standard concerns process and where the risk of conducting an onsite inspection remains high. Tier 2 will introduce a combination of offsite and limited onsite activity, whilst Tier 3 will represent a more traditional onsite inspection.

We envisage that registered independent mental health and acute hospitals, that are not due a routine frequency-based inspection this year, will be contacted and subject to a Tier 1 assurance activity between August and October. Registered settings that would have been expecting a routine frequency-based inspection this year can expect to be contacted and subject to a Tier 2 assurance activity from November onwards. There may be some variance from this intent, particularly in relation to assurance activity for registered dentists and we will be developing our approach for this group of registered services over the summer. We will update you on our plans as soon as we are able to.

However, we always reserve the right to conduct a full inspection at any time.

For Tier 1 activity, where work is announced, there will be a shorter lead in time (at least 7 working days), a smaller inspection team with most of the assurance work being completed through a request for information, and a follow-up phone or video call with key personnel. Following a short period of factual accuracy checking, there will be a written summary and, where required, an improvement plan. We will publish the summary report as soon as possible after the activity has taken place and the accuracy checking has been completed.

This approach will enable us to seek assurance from services at a time when on-site inspection visits are far more challenging for both healthcare settings and ourselves. It also provides an incremental approach that in future will provide more flexibility by offering a wider range of methods for conducting our work.

We will be updating our website with the details of our revised approach over the coming weeks. If you would like to contact us about our revised approach, please e-mail: HIW@gov.wales.