Ailgyflwyno Gweithdrefnau Cynhyrchu Aerosol ar gyfer Gofal Deintyddol Brys / Re-introduction of Aerosol Generating Procedures for Emergency Dental Care

Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Healthcare Inspectorate Wales
TwitterFacebook iconYoutube

Ailgyflwyno Gweithdrefnau Cynhyrchu Aerosol (GCA) ar gyfer Gofal Deintyddol Brys

Byddwch yn ymwybodol bod deintyddiaeth yng Nghymru yn gweithredu o dan statws rhybudd COCH fel y cadarnhawyd gan Brif Swyddog Deintyddol Cymru ar ddiwedd mis Mawrth 2020. O dan statws rhybudd Coch, gellir ond darparu triniaeth GCA yn y canolfannau deintyddol brys sydd wedi'u sefydlu ledled Cymru. Mae'r cyfyngiadau hyn wedi bod yn angenrheidiol er mwyn diogelu timau deintyddol, cleifion a chymunedau  yng Nghymru mewn ymateb i bandemig COVID-19.

Ar 22 Mai 2019, cyhoeddodd y Prif Swyddog Deintyddol gynllun isgyfeirio a oedd yn cynnwys ailgyflwyno triniaethau sy'n gofyn am GCAau yn ystod y cam OREN. Mae'n bwysig cydnabod y caiff unrhyw benderfyniad i symud i'r cam OREN ei gymryd ar y cyd â chamau Llywodraeth Cymru i lacio cyfyngiadau symud, gyda'r adolygiad nesaf ar 19 Mehefin 2020.

Mae'r oedi cyn rhoi rhai mathau o ofal deintyddol wedi bod yn bosibl am ychydig o fisoedd, ond mae deintyddion a'u cleifion yn cydnabod na ellir ei oedi am gyfnod amhenodol neu gall iechyd y geg ddirywio. Mae COVID-19 wedi effeithio ar ymarfer deintyddiaeth breifat a deintyddiaeth y GIG, a bydd yn parhau i effeithio arnynt am rai misoedd eto. Bydd yr angen i reoli 'risg bosibl' GCAau hefyd yn parhau am ychydig o amser ac mae'r penderfyniad i barhau i ddarparu Canolfannau Deintyddiaeth Brys yn rhan o leihau'r risg honno. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y bydd nifer o ddeintyddfeydd – rhai preifat a'r rhai hynny sydd â chontract â'r GIG – am gyflwyno mwy o driniaethau yn eu deintyddfeydd eu hunain yn ystod y misoedd nesaf, gan gynnwys cynnig gofal i gleifion sydd angen defnyddio GCAau.

Er mwyn rhoi amser i ddarparwyr gofal deintyddol sylfaenol yng Nghymru baratoi ar gyfer isgyfeirio, ac er mwyn sicrhau y gallwch fod yn barod i gyflwyno mwy o driniaethau gan gynnwys GCAau, mae'r Prif Swyddog Deintyddol wrthi'n llunio Prosesau Gweithredu Safonol a fydd yn cynnig cyngor ymarferol i ddeintyddfeydd, gan nodi'n glir y safonau disgwyliedig y bydd angen i chi gydymffurfio â nhw. Bydd y Prosesau Gweithredu Safonol ar gael yn ddiweddarach yr wythnos hon a byddant yn cael eu dosbarthu cyn gynted ag y byddant ar gael.

Mae'r Prif Swyddog Deintyddol wedi rhoi cadarnhad i AGIC mai'r adeg briodol i ddechrau ehangu'r rhwydwaith i gynnwys deintyddfeydd sydd â'r adnoddau ac sy'n barod i gynnig GCAau fyddai pan fyddwn yn symud o'r statws rhybudd COCH gyda chanllawiau clir ar waith yn nodi sut y gellir darparu GCAau yn ddiogel. Bydd cyflenwad o gyfarpar diogelu personol, newidiadau i brosesau a gweithdrefnau i gadw pellter cymdeithasol a threfniadau glanhau ychwanegol yn rhan allweddol o hyn.

Mae AGIC yn gobeithio y bydd y datganiad hwn yn rhoi eglurder i chi ynglŷn â phryd y gallai fod yn bosibl ailgyflwyno GCAau mewn deintyddfeydd ac, wrth wneud hynny, yn gobeithio y bydd yn rhoi digon o amser i chi baratoi eich deintyddfa.

Byddwn yn ysgrifennu atoch eto yn fuan, cyn gynted ag y bydd y Prosesau Gweithredu Safonol ar gael.


Re-introduction of Aerosol Generating Procedures (AGP) for Emergency Dental Care

You will be aware that dentistry in Wales is currently operating under RED alert status as confirmed by the Chief Dental Officer (CDO) for Wales at the end of March 2020. Under Red alert status AGP treatment can only be provided in the urgent dental centres that have been established across Wales. These restrictions have been necessary to protect dental teams, patients and communities in Wales in response to the COVID-19 pandemic

On the 22nd May 2020 the CDO published a de-escalation plan which included the re-introduction of treatments requiring AGPs during the AMBER phase. It’s important to recognise that any decision to move to the AMBER phase will be taken in conjunction with the Welsh Government’s easement of lockdown restrictions with the next review due on 19 June 2020.

Delaying some dental care has been possible for a few months but dentists and their patients recognise it cannot be postponed indefinitely or oral health can deteriorate. COVID-19 has and will continue to affect the practice of both NHS and private dentistry for some months to come. The need to manage the ‘potential risk’ of AGPs will also remain necessary for some time and part of mitigating that risk is the continued provision of Urgent Dental Centres. However, we recognise that many dental practices, private and those with NHS contracts, want to introduce more treatments in their own practices in the coming months, including offering care to patients that requires the use of AGPs.

To give primary dental care providers in Wales time to prepare for de-escalation, and so that you can be ready to introduce more treatments including AGPs, the CDO is currently drawing up Standard Operating Processes (SOP) that will offer practical advice for a practice setting and clearly set out the expected standards you will need to comply with. This SOP will be available later this week and will be circulated as soon as it is available.

The CDO has confirmed to HIW that the appropriate time to begin an expansion of the network to include practices equipped and willing to offer AGPs would be when we move out of the RED alert status with clear guidance in place setting out how AGPs can safely be provided. A key part of this will clearly be the supply of PPE and changes to processes and procedures to implement the necessary social distancing and enhanced cleaning regimes.

HIW hopes that this statement provides you with clarity on when it may be possible to re-introduce AGPs in practice settings and in doing so provides you with sufficient time to prepare your practice.

We will write to you again as soon as the SOP referred to earlier is available.