Mae Bagloriaeth Cymru yn newid a bydd y fersiwn ddiwygiedig yn cael ei chyflwyno ar gyfer dysgwyr 14 i 19 oed o fis Medi 2015 ymlaen. Darllenwch farn 3 ysgol sy’n treialu Her Dinasyddiaeth Fyd-Eang, Her Menter a Chyflogadwyedd a'r Her Gymunedol yng nghyfnod Allweddol 4.
Canllawiau ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 a 3: Enghreifftio disgrifiadau lefel Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer CA 2/3
Oes yna brosiectau digidol diddorol wedi bod yn digwydd yn eich ysgol neu coleg eleni? A yw rhai o'ch athrawon neu eich disgyblion yn haeddu cydnabyddiaeth am waith ardderchog ym maes dysgu digidol? Gadewch i ni wybod am eich llwyddiannau digidol trwy ymgeisio am Wobr Dysgu Digidol Cenedlaethol 2015.
Cofiwch mai’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 1 Mai 2015.
Rydyn ni eisiau clywed eich barn! Yn dilyn cyhoeddi’r canllawiau diwygiedig, Cadw Dysgwyr yn Ddiogel, rydyn ni am eich gwahodd i lenwi ein harolwg byr ar hyfforddiant diogelu yn eich ysgol. Cliciwch yma i fynd i’r arolwg. Bydd ar agor tan 24 Ebrill
Mae Chwaraeon Cymru bellach yn ceisio eich barn ar chwaraeon mewn ysgolion er mwyn helpu i lywio polisïau lleol a chenedlaethol ym maes chwaraeon.
Mae'r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol, a lansiwyd ar 14 Ebrill, yn gyfle i weithwyr addysg proffesiynol a dysgwyr gael dweud eu dweud er mwyn gwella chwaraeon mewn ysgol
Aeth Llysgenhadon Prentisiaethau o ddiwydiannau allweddol yn ôl i’w cyn-ysgolion i ysbrydoli pobl ifanc yng Nghymru i ddechrau prentisiaeth.
Cynllun gweithredu i Gymru yn ceisio codi lefel cyrhaeddiad drwy greadigrwydd, cynyddu a gwella profiadau celfyddydol mewn ysgolion, a helpu athrawon ac ymarferwyr celfyddydol i ddatblygu eu sgiliau.
Rydym wedi lansio gwefan newydd – Cymraeg, i gynorthwyo a hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg. Mae’r wefan yn cynnig gwybodaeth am yr ystod o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, o gyflwyno’r Gymraeg yn y teulu, i ddarganfod digwyddiadau Cymraeg i blant a phobl ifanc, i’r manteision o ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Byw, dysgu a mwynhau yn Gymraeg – beth am gael golwg?
Mae gofynion sylfaenol newydd ynghylch y defnydd o dybaco mewn ysgolion.
Mae llawer o ysgolion yn gweithio tuag at ddangosyddion Ansawdd Gwobrau Genedlaethol (NQA) Cynlluniau Ysgolion Iach - Cynllun Cymru (WNHSS) ac mae’r 78ain ysgol newydd gael y wobr.
Rydym wedi penderfynu diwygio’r amserlen ar gyfer diddymu cefnogaeth ar gyfer gwefan genedlaethol CLICarlein ac felly bydd y cytundeb yn dod i ben ar 30 Ebrill 2015, 10 mis yn gynharach nag a ragwelwyd.
Crëwyd CGA, sydd wedi'i ffurfio drwy ad-drefnu Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, drwy Ddeddf Addysg Cymru 2014.
I gael gwybod rhagor am CGA a'i waith, ewch i Cyngor y Gweithlu Addysg, dilynwch @ewc_cga ar Twitter, ac ymgofrestrwch i gael yr e-fwletin, Addysg Cymru.
Lansio pecyn cymorth CLlLC ar gyfer plant y lluoedd arfog
Bydd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon yn lansio pecyn cymorth newydd CLlLC ar gyfer plant y lluoedd arfog a’u teuluoedd ar 23 Mehefin 2015 yn adeilad y Pierhead, Caerdydd am 13:00. Cofiwch ddod draw i ddangos eich cefnogaeth!
Cymwysterau TAG a TGAU Cymreig – i’w haddysgu o fis Medi 2016.
Recriwtio athrawon ac aseswyr profiadol i gynorthwyo gyda’r gwaith o achredu nifer o fanylebau newydd - Addysg Gorfforol, Almaeneg, Astudiaethau Crefyddol, Bioleg, Bwyd a Maeth, Celf a Dylunio, Cemeg, Cerddoriaeth, Cymraeg Ail Iaith, Daearyddiaeth, Drama, Ffrangeg, Ffiseg, Gwyddoniaeth, Hanes, Sbaeneg. Bydd tâl dyddiol o £300 a byddai disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus ymgymryd â lleiafswm o 3 diwrnod o waith. Oes gennych ddiddordeb? Anfonwch eich CV i GQAccreditation@wales.gsi.gov.uk. Dyddiad cau 24 Ebrill 2015.