 £1 miliwn o fuddsoddiad yn ennill gwaith a swyddi newydd i BAIE
Mae British Airways Interior Engineering (BAIE) o’r Coed Duon wedi ennill cymeradwyaeth i atgyweirio llithrennau dianc mewn argyfwng ar fflyd newydd BA o awyrennau A380 ar ôl buddsoddiad o £1m gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.
Yn draddodiadol, caiff llithrennau awyrennau eu cynnal a’u cadw gan gynhyrchwyr gwreiddiol yr offer a’u cynhyrchodd ar gyfer Airbus ac felly BA yw’r cwmni awyrennau cyntaf i gael cymeradwyaeth y cynhyrchwr i wneud y gwaith hwn.
Darllenwch fwy.
 |
|
Gwaith yn dechrau ar safle cyflogaeth strategol mwyaf Gogledd Cymru
Mae’r gwaith wedi dechrau ar ddatblygu’r safle cyflogaeth strategol mwyaf yng Ngogledd Cymru – gyda’r potensial i greu hyd at 5000 o swyddi.
Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu ac yn adeiladu’r brif ffordd ar draws safle 420 erw Porth y Gogledd yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy. Mae hyn yn ogystal â’r £2.2m y mae Llywodraeth yn ei wario ar hyn o bryd ar welliannau atal llifogydd ar ran o lan yr afon sy’n rhedeg hyd ffin ddeheuol y safle.
Darllenwch fwy.
|
 |
|
Prosiect mewnfuddsoddi newydd o Japan i greu 100 o swyddi
Mae Calbee, Inc - cynhyrchwr mwyaf tameidiau sawrus yn Japan yn buddsoddi yn Ewrop am y tro cyntaf gan agor cyfleuster newydd yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy gan greu dros 100 o swyddi.
Cyhoeddwyd y newyddion yn Japan gan Weinidog yr Economi Edwina Hart ac Akira Matsumoto, Cadeirydd a Phrif Weithredwr Calbee, yn dilyn cyfarfod i daro’r fargen yn derfynol. Daw’r buddsoddiad sylweddol, a gefnogir gan gyllid busnes gan Lywodraeth Cymru, o ganlyniad uniongyrchol i gyfarfod y gweinidog ag uwch swyddogion Calbee y llynedd pan arweiniodd hi daith fasnach i Japan.
Darllenwch fwy.
|
 |
|
Ffatri ac offer newydd yn rhoi hwb i drosiant arbenigwr pecynnu
Mae dyfodol disglair i’r arbenigwr pecynnu Sarpack gan fod ei drosiant ar fin cynyddu i dros £2m ar ôl iddo agor ail ffatri gweithgynhyrchu.
Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi cynorthwyo Sarpack, sy’n gweithredu o ddwy uned ym Maesteg ac yn cyflogi 25 o bobl, i agor ffatri newydd ym Margam i gwrdd â’r galw cynyddol o gyfeiriad ei amrywiol gleientiaid.
Darllenwch fwy.
|
 |
|
£1m o fuddsoddiad yn hybu busnes ar gyfer Consort Equipment Products
Mae buddsoddiad o £1miliwn yn yr offer technolegol diweddaraf a mwyaf blaenllaw sydd ar gael eisoes yn cyflawni canlyniadau ar gyfer Consort Equipment Products – gan gynyddu ei gapasiti a’i allu, a chan gefnogi ei ymgyrch allforio i Tsieina.
Mae’r buddsoddiad, gyda chefnogaeth £385,000 o Gronfa Twf Economaidd Cymru, eisoes wedi creu tair ar ddeg o swyddi newydd a diogelu 37 swydd arall yn y pencadlys yn Aberdaugleddau, o fewn Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau. Ar hyn o bryd mae’r busnes yn cyflogi 100 o bobl, gan gynnwys rhai staff tymhorol.
Darllenwch fwy a dysgu mwy am Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau.
|
 |
|
Y Boeing 747 gyntaf yn glanio yn Sain Tathan
Yn ddiweddar glaniodd y Boeing 747 gyntaf yn Sain Tathan – ar ôl taith o chwe awr a hanner o Faes Awyr Rhyngwladol Gogledd Kentucky. Yn ystod cyfnod diweddaraf ei bywyd, bu’r awyren, sef y milfed Boeing 747 i’w chynhyrchu, yn cael ei defnyddio fel awyren cludo nwyddau gan y cwmni Americanaidd Southern Air Transport. Cafodd ei hedfan i Sain Tathan i gael ei datgymalu gan E Cube Solutions Ltd. Mae’r cwmni’n arbenigo mewn prosiectau "diwedd bywyd" awyrennau ac wedi derbyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru i dyfu'r busnes a mynychu cynhadledd ac arddangosfa’r diwydiant awyrennau, MRO Europe, yn 2014 a 2013, gan eu galluogi i ehangu eu rhwydweithiau rhyngwladol yn y diwydiant awyrennau.
Darllenwch fwy am y cwmni a chael gwybodaeth am Sain Tathan.
|
 |
|
Rhaglen Cadetiaid Diwydiannol 2014 Airbus i fenywod yn unig yn dechrau
Mae Gweinidog yr Economi Edwina Hart wedi croesawu lansiad ail raglen Cadetiaid Diwydiannol Airbus ym Mrychdyn. Ei nod yw cyflwyno menywod i beirianneg a gweithgynhyrchu sylfaenol a chynyddu’r rhai sy’n ymgymryd â phynciau gwyddoniaeth a thechnoleg.
Yr oedd yr adborth o’r cynllun cyntaf i fenywod yn unig a noddwyd gan Lywodraeth Cymru ym Mrychdyn y llynedd yn gadarnhaol iawn, yn ôl y Gweinidog, gan ychwanegu bod rhaglen 2014 – eto dan nawdd Llywodraeth Cymru – yn ôl gan fod cymaint o alw amdani.
Darllenwch fwy.
|
 |
|
Digwyddiad STEM – Ymwybyddiaeth o Ddiwydiant
Cafodd y digwyddiad STEM a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru ar y cyd â Sir y Fflint ac International Motorsport, ei gynnal eto eleni yn y Parc Gwasanaethau ar Lannau Dyfrdwy i gyd-daro â Rali Cymru Prydain Fawr 2014.
Cefnogwyd y digwyddiad gan 35 o gwmnïau a sefydliadau academaidd yng Nghymru gydag arddangosfeydd ymarferol yn dangos y berthynas rhwng meysydd astudio STEM a gyrfaoedd ym myd peirianneg.
Cynhelir y digwyddiad eto i gyd-daro â Rali Cymru Prydain Fawr 2015.
Canfod mwy am y digwyddiad yma.
Gwyliwch y fideo ar Vimeo o ddigwyddiad y llynedd.
|
 |
|
Advances Wales, rhifyn 74 allan nawr
A ydych chi wedi derbyn eich copi o Advances Wales? Mae'r rhifyn newydd o'r cylchgrawn gwyddoniaeth a thechnoleg allan nawr.
Darllenwch am yr ystod amrywiol o ymchwil, datblygu ac arloesi yng Nghymru; o’r biodanwydd fflamadwy solet ar gyfer poptai dognau’r fyddin ac ar gyfer glanhau’r dwylo heb ddŵr gan BCB International, i ddatblygu technoleg newydd gan Markes International, sy’n galluogi gwyddonwyr i ganfod cemegolion yn haws ym mhob dim o olew crai i’r aer yr ydym yn ei anadlu.
Cymerwch gip ar ein rhifyn ar-lein a thanysgrifiwch am ddim ar Expertise Wales.
|
Canolfan newydd cwmni pecynnu byd-eang Essentra
Ar fore agoriadol Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU yng Nghymru yng Nghasnewydd, cynhaliwyd lansiad swyddogol cyfleuster newydd cwbl fodern cwmni pecynnu byd-eang Essentra yn y ddinas.
Cefnogwyd y ffatri becynnu a gweithgynhyrchu newydd bwrpasol 52,000 troedfedd sgwâr o ran maint ym Mharc Imperial, Casnewydd â £290,000 o gyllid busnes gan Lywodraeth Cymru, ac mae wedi creu bron i ugain o swyddi newydd.
Darllenwch fwy.
Cefnogaeth yn yr Awyr yn rhanbarth De Cymru yn symud i NPAS
Mae’r Gefnogaeth yn yr Awyr i Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent ar y cyd wedi symud i Wasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu (NPAS), sydd wedi ymestyn ei weithrediadau i gynnwys Cymru.
Bydd yn defnyddio’r maes awyr presennol yn RAF Sain Tathan, sydd ddim ond ychydig funudau o amser hedfan o Gaerdydd, ac mae ganddo hofrennydd EC135 a fydd yn gwasanaethu cymunedau De Cymru a Gwent, gan ddarparu cefnogaeth bellach yn yr awyr lle bynnag a phryd bynnag y bo angen.
Mae Parc Busnes Awyrofod Sain Tathan – sy’n rhan o Ardal Fenter Sain Tathan a Chaerdydd – yn eiddo i Lywodraeth Cymru a chwaraeodd ran bwysig i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei gadw yn Sain Tathan, gan ddiogelu’r holl swyddi yn y ganolfan a chan olygu’r lleiaf posibl o amharu ar y gwasanaeth.
Darllenwch fwy.
Ehangiad mwyaf KK Fine Foods i greu 90 o swyddi
Mae KK Fine Foods yn creu 90 o swyddi newydd yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, sef ei fuddsoddiad mwyaf hyd yma, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Chyllid Cymru.
Mae’r buddsoddiad £4.2miliwn yn creu 10,000 troedfedd sgwâr o ofod gweithgynhyrchu ychwanegol ac yn ariannu pryniant offer newydd a fydd yn cynyddu’r gallu i gynhyrchu gwerth dros £30m o fwyd wedi’i rewi bob blwyddyn.
Darllenwch fwy a dysgu mwy am Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy.
Cwmni a sefydlwyd gan gyn-weithwyr Remploy yn mynd y tu hwnt i dargedau gwerthiant ac yn ehangu
Mae R2 Furniture Solutions – busnes newydd a sefydlwyd gan staff Remploy a gollodd eu swyddi pan gaeodd ffatri Baglan – wedi mynd y tu hwnt i’w dargedau gwerthiant yn ei flwyddyn gyntaf o fasnachu ac yn ehangu i eiddo mwy, gyda lle ar gyfer twf i'r dyfodol.
Darllenwch fwy.
Gwyddonwyr o Gymru yn helpu i ddarganfod Beagle 2 ar y blaned Mawrth
Mae gwyddonwyr y gofod ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddarganfod olion Beagle 2 Mars Lander, y robot a aeth ar goll ar y blaned Mawrth ar Ddydd Nadolig 2003.
Gan ddefnyddio arbenigedd o’r Brifysgol, llwyddwyd i adfer a dadansoddi delweddau o’r blaned Mawrth i ganfod ei leoliad. Yna canfuwyd Beagle 2, a oedd dan arweiniad y DU, wedi agor yn rhannol ar wyneb Mawrth, gan ddangos fod y drefn ‘Mynediad, Disgyniad a Glanio’ wedi bod yn llwyddiannus. Mae’r gwaith yn adeiladu ar yr ymchwil gofod helaeth sy’n digwydd yng Nghymru ac sy’n cael ei dwyn ynghyd fel rhan o Bartneriaeth Academaidd y Gofod Cymru (WASP), a gydlynir gan sector Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch Llywodraeth Cymru, y bu gwyddonwyr y gofod ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ymwneud llawer â hi.
Darllenwch fwy.
Reflex & Allen yn ehangu ac yn bwriadu dyblu trosiant
Mae Reflex & Allen UK (R&A UK) yn ehangu ym Modelwyddan drwy adleoli i eiddo llawer mwy ar gyn-safle Hotpoint – elfen allweddol yn ei strategaeth twf er mwyn dyblu trosiant o £80miliwn o fewn pum mlynedd.
Darllenwch fwy.
Safleoedd Qioptiq yn ‘hysbyseb wych’ i arbenigedd Cymreig
Mae’r cynnyrch hynod arloesol a’r dechnoleg o safon fyd-eang sy’n cael eu datblygu ar ddau safle Qioptiq yng Ngogledd Cymru yn enghraifft wych o'r gallu a'r arbenigedd o safon fyd-eang y gall Cymru eu cynnig i gwmnïau tramor sy’n meddwl am fuddsoddi yn y DU.
Dyna’r neges gan Weinidog yr Economi Edwina Hart wrth iddi ymweld â safle Qioptiq yn Llanelwy – wythnos yn unig cyn Uwchgynhadledd Fuddsoddi'r DU yng Nghymru yn 2014 a fydd yn ffenestr siop fyd-eang i arloesedd a sgiliau Cymru.
Darllenwch fwy.
Deunydd newydd KV Roller am wneud diwydiant yn fwy diogel
Gallai’r diwydiant pecynnu ac argraffu fod yn llawer mwy diogel yn y dyfodol diolch i ddeunydd newydd arloesol a grëwyd gan gwmni o Dde Cymru, KV Rollers, ac a gefnogwyd gan gyllid Llywodraeth Cymru.
Wedi’i leoli yng Nghwmbrân, mae’r cwmni yn un o brif gynhyrchwyr rholeri rwber a pholymerau rwber i’w defnyddio yn y diwydiannau argraffu, pecynnu, trin bwyd a pheirianneg uwch. Mae eu cynnyrch newydd, Kalexite, yn orchudd rholeri sydd â nodweddion gwrthstatig uwchraddol, y credir ei fod yn gostwng yn sylweddol y risg o dân mewn ffatrïoedd drwy leihau’r risg o wreichioni a thanio, gan hefyd hybu cynhyrchiant ei ddefnyddwyr.
Darllenwch fwy.
SIOE AWYR PARIS 2015 – Le Bourget, 15-21 Mehefin
Mae Sioe Awyr Paris yn gyfle i fusnesau a leolir yng Nghymru arddangos eu cynnyrch / gwasanaethau a’u gallu.
Sioe Awyr Paris yw un o brif ddigwyddiadau Awyrofod Byd-eang ac felly mae’n cynnig i’r cynrychiolwyr sy’n cymryd rhan gyfle i rwydweithio â chysylltiadau dylanwadol ym maes awyrofod sy’n bresennol yn y digwyddiad a chwrdd ag arweinwyr allweddol y diwydiant.
Darllenwch fwy.
MRO Europe, ExCel Llundain 14-15 Hydref 2015
MRO Europe yw’r prif ddigwyddiad ar gyfer cwmnïau sy’n ymwneud ag unrhyw agwedd ar gynnal a chadw, atgyweirio ac archwilio awyrofod. Bu gan Lywodraeth Cymru bresenoldeb yn y digwyddiad am y ddwy flynedd diwethaf (Llundain 2013 a Madrid 2014), ac mae wedi cynorthwyo 14 o gwmnïau i arddangos fel rhan o gynnig ehangach Cymru i gefnogi cryfder y gallu cynhenid. Mae tîm y sector Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch unwaith eto’n bwriadu cydweithio â busnesau Cymreig yn nigwyddiad 2015 i arddangos eu harbenigedd ac i annog mewnfuddsoddwyr i ddod i Gymru.
Darllenwch fwy.
Cynhadledd Fuddsoddi Ryngwladol yn cael ei chynnal yng Nghymru
Yn dilyn Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru ym mis Medi, cynhaliwyd cynhadledd drwy wahoddiad yn unig o’r enw ‘Mabwysiadu technoleg newydd i sicrhau mantais gystadleuol' yn y Celtic Manor, Casnewydd
Yn bresennol yn y gynhadledd yr oedd y Prif Weinidog, David Cameron; Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones; Gweinidog yr Economi, Edwina Hart ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb, a dygodd ynghyd 250 o fuddsoddwyr, arweinwyr busnes a gweinidogion. Yr oedd amrywiaeth eang o dechnoleg Gymreig hynod arloesol yn cael ei harddangos, gan amlygu’r gallu o ran ymchwil a datblygu yng Nghymru a chodi proffil y wlad fel cyrchfan ar gyfer mewnfuddsoddi. Yr oedd y cynhyrchion uwch-dechnoleg yn cynnwys cwch cyflym perfformiad uchel tebyg i’r un y byddech yn disgwyl i James Bond ei yrru ac sy’n trawsnewid yn gwch tanddwr effeithlon, a ddatblygwyd gan gwmni o Ynys Môn, a’r print 3D cyntaf o ffrâm beic metel o Gaerdydd.
Ewch yma i wylio uchafbwyntiau’r digwyddiad.
Dilynwch ni ar @WG_economy
Nawr gallwch gael y diweddaraf am Adran Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru ac ymgysylltu â hi drwy ein dilyn ni ar Twitter.
|