|
Rydym nawr wedi cyhoeddi deilliannau’r System Genedlaethol ar gyfer
Categoreiddio Ysgolion ar gyfer ysgolion cynradd, canol ac uwchradd yng
Nghymru.
Cyflwynir y
System Genedlaethol newydd ar gyfer Categoreiddio Ysgolion i helpu adnabod yr
ysgolion hynny yng Nghymru sydd angen y cymorth mwyaf i wella. O dan y system newydd asesir ysgolion ar
lefel eu perfformiad a’u gallu i wella, er mwyn sicrhau, mewn partneriaeth â’r awdurdodau lleol a’r consortia, bod
unrhyw gymorth ac adnoddau’n cael ei dargedu’n effeithiol i ddiogelu’r
gwelliannau angenrheidiol hynny yn ein system ysgolion.
Caiff ysgolion eu rhoi mewn un o bedwar categori lliw o
safbwynt cefnogaeth. Mae’r ysgolion yn y
categori gwyrdd yn ysgolion effeithiol iawn, yn y categori melyn mae'r ysgolion
yn effeithiol, yn y categori oren mae’r ysgolion y mae angen eu gwella, a’r
rhai sydd yn y categori coch yw’r ysgolion sydd angen eu gwella mwyaf. Bydd y wybodaeth yn ymwneud â’r deilliannau
categoreiddio, yn cynnwys y grwpiau safonau a’r data perfformiad a
ddefnyddiwyd, yn ogystal â’r capasiti i wella a’r categori cefnogaeth, ar gael
y llawn ar Fy Ysgol Lleol bnawn yfory.
|