eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 13 Hydref 2014 (Rhifyn 395)

13 Hydref 2014 • Rhifyn 395

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Empty classroom

Yr Athro Donaldson yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Gweinidog ar yr adolygiad o’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu

Ym mis Mawrth, cafodd yr Athro Donaldson ei benodi i gynnal adolygiad sylfaenol o’n cwricwlwm a’n trefniadau asesu o’r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 4.

handpaper130x130

Adroddiad ar y Prosiect Saesneg a Mathemateg TGAU (Rhan III)

Mae’r adroddiad/gwerthusiad diwedd y prosiect Saesneg a Mathemateg TGAU (Rhan III) a gynhaliwyd mewn ysgolion rhwng mis Medi 2013 a mis Mawrth 2014 i wella safonau ysgolion a helpu i ddatblygu ymarferion cynaliadwy nawr.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Y Gweinidog yn gwahodd disgyblion i gymryd rhan mewn cystadleuaeth fideo er mwyn helpu i atal bwlio

Ar 8 Hydref 2014, wrth ymweld ag Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd, wnaeth Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau lansio cystadleuaeth Llywodraeth Cymru eleni ar gyfer creu ffilm gwrth-fwlio.

Adnoddau gwrth-fwlio newydd

Mae cyngor newydd gwrth-fwlio wedi ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant, pobl ifanc a rhieni sy’n pryderu am fwlio. Mae’r taflen a poster ‘’Wyt ti’n cael dy Fwlio?" ar gael ar-lein i rhoi cymorth i ddysgwyr sy’n poeni an fwlio. Yn ogystal, mae’r taflen’ A yw eich plentyn yn cael ei fwlio? yn cynnig cyngor i rieni ar yr hyn i’w wneud os mae eu plentyn yn cael ei fwlio.

Rheoli Digwyddiadau Ymddygiad mewn Ysgolion

Mae’r ddogfen yn rhoi arweiniad clir o ran pryd y gall ysgolion ddefnyddio gwasanaethau Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion (SHCY) ar gyfer ymdrin â digwyddiadau yn yr ysgol sy’n syrthio o dan ymbarél y Protocol Trechu Troseddau Mewn Ysgolion.

Yr arfer presennol ar ddefnyddio adeiladau ysgol gwag

Cafodd y ddogfen wybodaeth hon ei chyhoeddi ar 1 Hydref 2014. Mae’r ddogfen yn rhoi enghreifftiau i awdurdodau lleol ac eraill sydd â diddordeb o’r defnydd a wneir o adeiladau ysgol gwag, lle nad yw’n ymarferol i gael gwared arnynt yn sgil cynlluniau ad-drefnu ysgolion. Mae’r enghreifftiau yn cynnwys: darparu cyfleusterau addysgol gwell, gwasanaethau eraill a chyfleusterau cymunedol.

Cymunedau Dysgu Proffesiynol - gwell adnoddau i ymarferwyr

Cyfle i weld yr adnoddau diweddaraf sydd wedi eu datblygu gan ysgolion sy’n rhan o Gymunedau Dysgu Proffesiynol, a chael eich ysbrydoli i wella eich arferion proffesiynol.

Hyfforddiant Hwb+

Fe fydd arddull hyfforddiant Hwb+ "dethol a dewis" newydd yn cychwyn ym mis Tachwedd. Mae'r arddull hyfforddi naw modiwl newydd yma  wedi cael ei lunio i ganiatáu mwy o hyblygrwydd a mynediad at hyfforddiant penodol ar gyfer ysgolion i ddewis a blaenoriaethu yn ôl eu cynlluniau. Fe fydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal mewn lleoliadau ledled Cymru. I weld y modiwlau ac i archebu lle, ewch i Hwb.

Cafodd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-2016 ei chyhoeddi’n ddiweddar gan Jane Hutt, Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth  

Cafodd £15.3bn ei ddyrannu i Lywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16.

Ein blaenoriaethau yw diogelu ein hysgolion a’r GIG, hybu twf economaidd, creu swyddi, buddsoddi mewn rhaglenni i osgoi problemau yn y dyfodol, ac amddiffyn pobl agored i niwed yng Nghymru. Dyma daflen i blant a phobl ifanc, er mwyn egluro ein cyllideb a sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario.

Adnoddau / Cystadlaethau

Patagonia 150

A hithau’n 150 o flynyddoedd ers i’r Cymry cyntaf ymsefydlu’n y Wladfa, pa well ffordd i ddathlu na chyhoeddi adnodd addysgol newydd i bontio plant Cymru a’r Wladfa?  Mae’r adnodd hwn yn addas ar gyfer disgyblion CA2 a CA3. Mae’n gyfle I gyflwyno traddodiadau’r ddwy genedl mewn cymysgedd o dasgau rhyngweithiol sy’n asio elfennau rhifedd a llythrennedd.

Ein Hiaith: Our Language – Adnodd newydd ar Hwb i athrawon a staff cynorthwyol.

Mae’r adnodd yn cynnwys 3 fidio byr ar hanes, statws a sefyllfa’r Gymraeg heddiw, cwis a chyfres o 20 portread sy’n cyfleu profiad siaradwyr dwyieithog. Nod yr adnoddau  yw sbarduno trafodaeth ymhlith staff a myfyrwyr am agweddau at y Gymraeg a’r defnydd ohoni yn yr ysgol.

Cymerwch olwg ar yr adnoddau diweddaraf mae Uned y Gymraeg mewn Addysg wedi eu comisiynu i gefnogi addysgu a dysgu.

Darnau Gwrando: Casgliad o ymarferion gwrando i'w defnyddio mewn dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion. Ceir CD gyda'r gyfrol yn cynnwys ffeiliau sain (fformat mp3), a fersiwn Word o'r testun.

Cyfres Pen Dafad: Jac:

Dyma'r nofel olaf yng Nghyfres Pen Dafad ar gyfer darllenwyr 11-15 oed. Mae Jac yn darganfod corff marw yn y twyni tywod ac yn benderfynol o fynd at wraidd y llofruddiaeth trwy helpu Jim, y ditectif. Nofel llawn antur, hiwmor ac erchylldra!

Mae Llywodraeth Cymru  wedi comisiynu'r adnodd hwn a llawer mwy. Ewch at gategori Deunydd Addysgol gwales.com am fwy o wybodaeth ar yr adnoddau hyn ac i'w prynu.

Yn Galw Gwneuthurwyr Ffilm!

I ddathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas fis Hydref, y mae Into Film Cymru yn galw ar bobl ifanc Cymru rhwng 5-19 mlwydd oed i gymryd rhan yn eu cystadleuaeth creu ffilm am waith a bywyd yr awdur adnabyddus. Bydd y ceisiadau yn cael eu beirniadu gan yr actorion Matthew Rhys a Sharon Morgan a bydd y ffilm orau yn cael ei dangos yng Ngwyl Ffilm Into Film Cymru. Gellir anfon y ffilmiau at Into Film Cymru erbyn 24 Hydref

Yr ymchwil ac ystadegau diweddaraf

Ystadegau ac Ymchwil Addysg: 2013-2014

Mae ‘ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth’ yn ymadrodd sy’n cael ei ddefnyddio’n rheolaidd erbyn hyn mewn trafodaethau ynghylch gwneud gwelliannau i addysgu a dysgu. Faint ydych chi’n ei wybod am y dystiolaeth ddiweddaraf yn ymwneud ag addysg yng Nghymru?

Newyddion arall

Cyfle i ennill gwerth £300 o offer sglefrio proffesiynol!

Mae’n amser gwobrau Rhagoriaeth mewn Gwaith Ieuenctid unwaith eto ac mae’r bar wedi ei godi.  Unwaith eto mae CLICarlein wedi dod ynghyd â Skates  i gynnig offer i chi!  Am gyfle i ennill, mae’n rhaid i chi gyflwyno clip fideo byr gyda’ch enwebiad ar gyfer gwobr ‘Eich Dewis Chi’.  Nid oes angen i’r ffilm fod o safon uchel – mae defnyddio’ch ffôn yn iawn.  Am fwy o wybodaeth