Newyddion gan Croeso Cymru

Cadw mewn cysylltiad gyda’r diwydiant yng Nghymru
Croeso Cymru
                                     
                                     
Technoleg

Digital Tourism Exhibition

3 Tachwedd 2014 yn Stadiwm Liberty, Abertawe

Bydd y digwyddiad AM DDIM hwn yn gyfle i weld sut gall technoleg helpu’r sector twristiaeth.  Mae’n cael ei drefnu gan Raglen Fframwaith Busnes Twristiaeth Ddigidol sy’n cael ei ariannu gan ERDF a’i gefnogi gan Croeso Cymru.

Pam dod?

Bydd cyfleoedd gwych i chi ddysgu mwy am amrywiaeth eang o dechnolegau digidol sydd ar gael heddiw drwy arddangosfeydd, siaradwyr a gweithdai a bydd modd ichi gael adolygiad diagnosteg o’ch busnes twristiaeth hefyd.  

Dewch draw i ddysgu sut i ddefnyddio’r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf i wella profiad eich ymwelwyr.  Bydd arbenigwyr wrth law fydd yn cynrychioli prosiectau, cwmnïau a chyflenwyr i ddangos i chi sut gall eich busnes elwa.

Cofrestrwch nawr

I archebu lle, llenwch y ffurflen gofrestru ar-lein 

Dilynwch ni ar Twitter

twitter icon

Newyddion diweddaraf, cyfleoedd, ymchwil @croesocymru

Hoffech chi gael y newyddlen hon yn Saesneg?

Diwygio’ch opsiynau tanysgrifio

Hydref

Ymgyrch Hydref

Ymgyrch yr hydref Croeso Cymru y DU ac Iwerddon yw ail gam ymgyrch Does unman tebyg i Gymru a lansiwyd ar 1 Fawrth 2014.  Mae cam yr hydref yn rhoi blas o'r hyn sy'n gwneud yr hydref mor arbennig, gan ganolbwyntio'n arbennig ar fwyd.  

Conwy Castle

£1.5 miliwn i farchnata Cymru yn yr Almaen

Ymgyrch newydd gwerth £1.5 miliwn i ddenu rhagor o ymwelwyr o’r Almaen i Gymru. Bydd nifer o ymgyrchoedd marchnata eraill yn cael eu datblygu gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys cwmnïau hedfan, cwmnïau fferi a chwmnïau trefnu teithiau.

 


Caws

Oes gennych chi ddiddordeb mewn twristiaeth bwyd?  Mae angen eich help arnom ni!

Ydych chi’n gynhyrchydd bwyd, ydych chi’n rhedeg bwyty, caffi neu dafarn neu ydych chi’n ymddiddori mewn twristiaeth bwyd?  Rydym yn cydweithio â’n cyfeillion yn yr Is-adran Bwyd ar Gynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd Cymru 2014-2020 fydd yn cael ei lansio fis Rhagfyr.  Mae bwyd yn rhan hanfodol o sector twristiaeth Cymru a hoffem glywed eich barn chi ynghylch sut gallwn ni gydweithio i godi proffil Cymru fel cyrchfan twristiaeth bwyd o ansawdd uchel.

Diddordeb?  Allwch chi roi awr o’ch amser i ni? Dydd Mawrth 4 Tachwedd 11am.

Rydym yn trefnu sesiwn ryngweithiol ar-lein i gasglu eich adborth a’ch syniadau.  Yr unig beth sy’n rhaid i chi ei wneud i gymryd rhan yw cael llinell ffôn a chyfrifiadur a mynediad i’r rhyngrwyd.  Ni fydd rhaid ichi lawrlwytho unrhyw raglenni arbennig ac os byddai’n well gennych,  gallwch anfon eich sylwadau atom yn ddi-enw.  I gymryd rhan, e-bostiwch jane.owen@cymru.gsi.gov.uk ac fe gysylltwn â chi gyda rhagor o wybodaeth.

 


Swyddi lletygarwch yn cael eu cynnig ar longau mordeithio 5 seren

Mae Croeso Cymru yn cydweithio â Viking Recruitment i gynnal diwrnodau agored i roi gwybod i bobl am y cyfleoedd sydd ar gael i weithio mewn swyddi lletygarwch ar longau mordeithio. Y nod yw rhoi cyfle i fyfyrwyr sy'n astudio lletygarwch yng Nghymru a phobl 21 oed neu hŷn sy'n gweithio yn y sector lletygarwch weithio yn y diwydiant mordeithio.   

Mae Viking Recruitment wedi'i leoli yn Dover ac mae'n recriwtio i swyddi lletygarwch ar ran cwmni 5 seren Seabourn Cruise Line. Bydd y diwrnodau agored yn cael eu cynnal ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Abertawe ar 20, 21 a 22 Hydref. Bydd y diwrnod yn rhedeg o 9:30am i 3pm ar 20 a 22 Hydref ac o 9:30 i 1pm ar 21 Hydref. Dylid anfon unrhyw ymholiadau at Suzanne.thomas36@wales.gsi.gov.uk


Celtic Manor

Hybu Cymru fel cyrchfan ddigwyddiadau busnes

Yn dilyn llwyddiant rhagorol Uwchgynhadledd NATO, a’r sylw enfawr y mae Cymru wedi’i chael ar hyd a lled y byd yn ei sgil, rydym yn trefnu ymgyrch i hybu Cymru fel cyrchfan digwyddiadau busnes.  Mae Gwesty Hamdden y Celtic Manor (CMR) a Rhwydwaith Twristiaeth Busnes De-ddwyrain Cymru (SEWBTN) wedi cael contract i ddatblygu a chynnal ymgyrch gwaddol Uwchgynhadledd NATO ar ein rhan, ar y cyd â phartneriaid ledled Cymru.

Mae’r ymgyrch yn cynnwys rhaglen bell-gyrhaeddol o weithgareddau, sy’n manteisio ar gyfleoedd NATO gyda neges Gymreig arbennig.

Noswaith rhwydweithio gwaddol NATO Cymru

16 Hydref, 6pm - 8pm, Twenty Ten Clubhouse, Gwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd

Dysgwch sut i gymryd rhan yn yr ymgyrch a chodi ymwybyddiaeth am Gymru fel cyrchfan busnes i gynnal cyfarfodydd, cynadleddau a digwyddiadau.  Os gofrestru, e-bostiwch: lkeirle@celtic-manor.com neu ffoniwch 01633 410530.  

Os ydych yn rhestru’ch busnes ar wefan www.businessevents.visitwales.com, mae’n rhoi llwyfan perffaith i chi hybu eich gwasanaethau, cynyddu ymwybyddiaeth a gwerthiant.  Cofiwch wneud yn siŵr bod manylion eich busnes yn gywir, ein hysbysu am unrhyw newidiadau ac ychwanegu mwy o fanylion fel enwau ystafelloedd cyfarfodydd unigol a faint o bobl y maen nhw’n gallu eu dal.  Po fwyaf o fanylion a roddwch i ni, y mwyaf fydd eich  cyfle i ateb gofynion eich cleientiaid.  

 


Traeth

Ydyn ni’n cyfleu ein negeseuon yn llwyddiannus?

Rydym yn chwilio am ffyrdd i gyfathrebu â’r diwydiant twristiaeth ac fe hoffem i chi dreulio pum munud yn rhoi adborth i ni.  Beth yw eich barn chi am ein newyddlenni?  Ydych chi’n mynd i ddigwyddiadau’r diwydiant?  A oes yna unrhyw beth yr hoffech chi wybod mwy amdano?  Bydd eich atebion yn ein helpu i wella’r ffordd y byddwn yn cyfathrebu â chi yn y dyfodol.

 


Y diweddaraf am Gysylltiadau Cyhoeddus (PR)

Mae ein timau PR yn chwilio am wybodaeth am y canlynol.  Cysylltwch â ni os ydych chi’n trefnu digwyddiadau neu becynnau

  • Gwyliau diolchgarwch
  • Hanner tymor mis Hydref
  • Calan Gaeaf
  • Noson Tân Gwyllt
  • Y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

Defnyddiwch y cyfeiriad e-bost arferol - productnews@cymru.gsi.gov.uk 

 

Sir Benfro

Sioeau teithiol marchnata a chysylltiadau cyhoeddus 2014

Byddwn yn teithio ar ddiwedd mis Tachwedd gyda chyfres o sioeau i rannu ein cynlluniau ar gyfer marchnata  yng Nghymru yn 2015.  Bydd cydweithwyr o VisitBritain gyda ni, fydd yn egluro'r gwaith y maent yn ei wneud ar Gysylltiadau Cyhoeddus, a sut y mae hyn yn cysylltu â'n timau Cysylltiadau Cyhoeddus yn Croeso Cymru. 

24/11/14 - Marriott St Pierre Resort, Cas-Gwent

25/11/14 - Clwb Golff Machynys, Llanelli

26/11/14 - Gwesty yr Elephant & Castle, Y Drenewydd

27/11/14 - Gwesty'r Quay, Deganwy

Beicio

Y newyddion diweddaraf gan Lywodraeth Cymru 

Ewch i ystafell newyddion ar-lein Llywodraeth Cymru i ddarllen y newyddion diweddaraf

 


Hufen ia

Ymgynghoriadau

Cael dweud eich dweud ar yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru

 


Busnes Cymru

Ydych chi angen help gyda’ch busnes? 

Mae Busnes Cymru yn helpu bobl sy’n dechrau, cynnal neu ehangu busnes.  Mae gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar gael ganddyn nhw.

Ffoniwch 03000 6 03000

 

 


Gwobrau Dewi Sant

Mae Gwobrau Dewi Sant yn dathlu ac yn cydnabod llwyddiannau eithriadol pobl Cymru.  Cynhelir y seremoni yng Nghaerdydd ddydd Iau 19 Mawrth 2015.  Gallwch enwebu eich hun neu rywun eraill  sydd, yn eich barn chi yn haeddu cael Gwobr Dewi Sant.  Y dyddiad cau ar gyfer derbyn yr enwebiadau yw 28 Hydref 2014.

 

Gwobrau Dewi Sant
Llywodraeth Cymru,
Croeso Cymru,
Canolfan QED,
Ystad Diwydiannol Trefforest,
Trefforest,
Pontypridd,
Rhondda Cynon Taf,
CF37 5YR