Lansiodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, a’r Dirprwy Weinidog Iechyd ganllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfergyd heddiw (29 Medi). Mae’r canllawiau’n cynnwys gwybodaeth bwysig am sicrhau bod pobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon o fewn ysgolion a chwaraeon yn y gymuned yn ddiogel os cânt anaf i’w pen neu gyfergyd.
Hoffem glywed sylwadau pobl ifanc am Brentisiaethau. Rydym hefyd am glywed syniadau cyflogwyr ar ddatblygu gweithlu amrywiol a'u dealltwriaeth o'r cyngor a'r gwasanaethau sydd ar gael i'w helpu i wneud hynny. Cofrestrwch nawr!
Grantiau i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf
Mae pob ysgol uwchradd yng Nghymru yn cael y cyfle i wneud cais am £1,000 i ddatblygu prosiectau creadigol ac arloesol i goffáu’r rhyfel ac i annog trafodaeth. Ysgolion fydd yn penderfynu ar y ffordd orau i goffáu a bydd hi’n bosibl i ysgolion ddod at ei gilydd ac ymgymryd â phrosiectau ar y cyd i nodi’r cofio. E-bostiwch grantcofioRhBc@cymru.gsi.gov.uk i gael pecyn cais am y grant.
Ceir yn y ddogfen hon ganllawiau ar sut i reoli penaethiaid yng Nghymru a allai fod yn destun gweithdrefnau o ran eu medrusrwydd. Mae’n canolbwyntio ar y camau ymarferol i’w cymryd wrth ddilyn y gweithdrefnau a’r arferion gorau wrth wneud hynny. Fe’u cyflwynir yn unol â’r sefyllfa gyfreithiol gyfredol ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw ofynion newydd. Crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad.
Gwnewch bob taith yn un dda!
Mae diogelwch yn bwysig inni i gyd, ac yn fwy felly wrth deithio rhwng y cartref a’r ysgol. Darllenwch ein herthygl ar y cod teithio i gael gwybodaeth a dysgu am adnoddau a all eich helpu i gynnwys y cod yn eich gwersi.
Mae arolwg yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i gasglu barn penaethiaid ysgolion a cholegau fel rhan o werthusiad y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.
Lansio gwefan Dysgu Cymru ar ei newydd wedd ar 7 Hydref 2014
Yn ogystal â bod yn haws ei harchwilio, bydd rhan newydd benodol yn canolbwyntio ar ôl-16, ac adnoddau o ansawdd ar gael AM DDIM; astudiaethau achos; canllawiau allweddol Llywodraeth Cymru a llawer mwy. Cadwch lygad ar agor am Dysg yr wythnos nesaf a’r lansiad swyddogol!
Yn y pum mlynedd diwethaf, mae presenoldeb mewn ysgolion uwchradd wedi gwella’n raddol. Er gwaethaf y gwelliant, mae absenoliaeth yn destun pryder mewn bron i draean o ysgolion uwchradd a arolygwyd ers 2010. Mae absenoldebau parhaus yn cyfrif am ychydig dros chwarter o’r holl absenoldebau mewn ysgolion uwchradd erbyn hyn. Ymateb Llywodraeth Cymru.