eCylchlythyr Dysg: 26 Tachwedd 2026 • Rhifyn 833

26 Tachwedd 2026 • Rhifyn 833

Yn y cylchlythyr hwn

CAL:ON Cymru

Canllaw i Ffoneg i Ysgolion yng Nghymru a gyhoeddir gan CAL:ON Cymru 

Mae’r Canllaw hwn a ddaw o’n canolfan ragoriaeth llythrennedd, CAL:ON Cymru, yn cyfuno gwybodaeth i helpu ysgolion ddewis adnoddau yn ogystal â chyngor ymarferol ar gyflwyno ffoneg synthetig systematig (FfSS) yn yr ystafell ddosbarth. 

teachers

Rhaglen Gymorth Genedlaethol ar gyfer Cynllunio'r Cwricwlwm a'r Trefniadau Asesu

Gallwch gofrestru ar gyfer y Rhaglen Gymorth Genedlaethol ar gyfer Cynllunio’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu drwy lenwi'r ffurflen gofrestru ar gyfer carfan 10 neu'r ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb ar gyfer carfanau 11 a 12 yn y dyfodol.

mobile phone

Ffonau symudol mewn ysgolion: llai nag wythnos ar ôl i ymateb

Mae llai nag wythnos ar ôl i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ganllawiau drafft i gyfyngu ar ddefnydd disgyblion o ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol. Darllenwch gefndir yr ymgynghoriad a’r canllawiau ddraft, ac yna cyflwynwch y ffurflen ymateb ar-lein erbyn 2 Rhagfyr 2026

Nôl i’r brig

Newyddion Addysg Llywodraeth Cymru

Safonau Proffesiynol Diwygiedig

Os ydych yn athro neu athrawes newydd gymhwyso sy'n ymgymryd â chyfnod sefydlu statudol, dylech ddefnyddio'r fersiwn o'r Safonau Proffesiynol oedd mewn grym pan ddechreuoch eich cyfnod sefydlu:

  • Os dechreuoch eich cyfnod sefydlu cyn 1 Medi 2026, dylech barhau i ddefnyddio'r Safonau Proffesiynol oedd mewn grym pan ddechreuoch eich cyfnod sefydlu.

Y cyfle olaf i enwebu athro neu ysgol

Mae Gwobr Dewi Sant yn gyfle i chi dynnu sylw at gydweithiwr neu dîm eithriadol. Ystyriwch y categori Er Lles ein Plant ar gyfer rhywun sy’n gwneud gwahaniaeth parhaol i fywydau plant, neu Wasanaethu Cyhoedd ar gyfer unigolyn neu dîm sy’n mynd y filltir ychwanegol. Mae’r enwebiadau’n cau ddydd Gwener 4 Rhagfyr. Rhagor o wybodaeth ac enwebu

"Pawb ar y bws!" - cludiant am ddim i ysgolion i safleoedd hanesyddol Cymru

Datganiad Ysgrifenedig: Erasmus+ a dyfodol Taith 

Platfform addysg ysgolion Cymru wedi'i ailwampio, gyda mynediad am ddim i Microsoft 365 

Archwilio disgwyliadau rhieni a gofalwyr o rôl ysgolion a’r cartref mewn datblygiad ac ymddygiad plant 

Datganiad Ysgrifenedig: Terfynau ffioedd dysgu i fyfyrwyr addysg uwch ar gyfer blwyddyn academaidd 2027/28 

Nôl i’r brig

Diweddariadau partneriaid

E-sgol: aelodau newydd corff llywodraethol

Mae e-sgol yn chwilio am bum unigolyn ymrwymedig i ymuno â’i Gorff Llywodraethol. Dyma gyfle i gyfrannu at gyfeiriad strategol e-sgol wrth iddo ddatblygu cyfleoedd dysgu ar-lein a hybrid, a hyrwyddo mynediad teg at addysg o ansawdd uchel ledled Cymru. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Chlerc y Corff Llywodraethol, Siwan Richards ar siwan.richards@e-sgol.cymru.

Estyn: Arolygydd Ei Fawrhydi (AEF)

Mae Estyn yn recriwtio AEF yn y sectorau canlynol: Addysg gynradd, Addysg uwchradd, Addysg ôl-16, Addysg arbennig / UCD a Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol. Gwnewch gais erbyn 6 Ionawr 2027 am gyfle i ymuno ag Estyn i gyflawni rhagoriaeth i bob dysgwr yng Nghymru.

Adnodd: Gan ysgolion, ar gyfer ysgolion, cyllid ar gyfer prosiectau adnoddau athrawon

Lleisiau ymarferwyr a dysgwyr sy'n chwarae rhan bwysig mewn adnodd a ariennir gan Adnodd.

Nôl i’r brig

Ymgyngoriadau ac arolygon

Helpwch i lunio cymorth diogelwch ar-lein ar gyfer lleoliadau addysg yng Nghymru yn y dyfodol

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ymarferwyr i helpu i lywio cymorth diogelwch ar-lein ar gyfer lleoliadau addysg yng Nghymru yn y dyfodol. Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw ddydd Gwener 4 Rhagfyr

Neges Atgoffa am Gasgliad Data Ysgolion Cynradd y Rhwydwaith

Neges i atgoffa’r ysgolion sy’n cymryd rhan bod Casgliad Data Ysgolion Cynradd y Rhwydwaith 2026 ar agor tan 18 Rhagfyr 2026

Nôl i’r brig

Digwyddiadau

Astudiaeth ymchwil genedlaethol ar beth mae disgyblion ysgol uwchradd yn ei feddwl am ddysgu, presenoldeb a lles

Mae'r arolwg yn digwydd rhwng mis Chwefror 2027 tan ddiwedd tymor y gwanwyn. Ymunwch â'n sesiwn ar-lein ar gyfer ysgolion uwchradd am 3:30yp ar 7 Rhagfyr 2026. Byddwch chi’n clywed am ein canfyddiadau diweddaraf, dod i wybod beth allai eich ysgol ei ennill drwy gymryd rhan, gofyn cwestiynau a gwneud awgrymiadau yn uniongyrchol i'r tîm ymchwil. I gofrestru ar gyfer y sesiwn, gofyn am ragor o wybodaeth neu fynegi diddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â ni drwy ebostio WMCS@caerdydd.ac.uk.

Cyngor Llyfrau Cymru: Mae’r Ornest Lyfrau a BookSlam yn ôl!

Cystadleuaeth ddarllen genedlaethol i ddisgyblion Blynyddoedd 3+4, 5+6 a 7+8, sy’n ennyn angerdd dros ddarllen ac yn dod â byd llyfrau yn fyw trwy heriau hwyliog a chreadigol. Gall ysgolion cofrestru arlein. Os hoffech fwy o wybodaeth, e-bostiwch plant@llyfrau.cymru

Big Ideas: Digwyddiadau STEM a Mathemateg Am Ddim i Ysgolion

Beaver Trust: cystadleuaeth farddoniaeth am ddim i blant gyda gwobrau hyfryd!

Mae'r gystadleuaeth ar agor o 1 Tachwedd i 31 Rhagfyr a gellir cyflwyno ceisiadau drwy ein gwefan addysg, lle byddwch hefyd yn dod o hyd i lawer mwy o wybodaeth, gan gynnwys adnoddau y gellir eu lawrlwytho a chynllun gwers llawn a sleidiau.

Nôl i’r brig

Adnoddau

Esboniadau ‘Educate Against Hate’ ar gael i ysgolion yng Nghymru

Mae canllawiau dwyieithog bellach ar gael i helpu ymarferwyr i ddeall ac ymateb i naratifau eithafol a chasineb a all effeithio ar blant a phobl ifanc.

Adnoddau lles am ddim a chymorth gan Education Support

Darganfyddwch gymorth datblygu diwylliant, pecynnau cymorth lles ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu a Chynorthwywyr Cymorth Dysgu gweithdai am ddim, adnoddau Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd a gweminar arweinyddiaeth ar oruchwyliaeth.

Nôl i’r brig

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Addysg Cymru: Blog

Hwb

Dilynwch ni ar Facebook:

Addysg Cymru

 

Dilynwch ni ar LinkedIn:

Addysg Cymru

 

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

 

Dilynwch ni ar YouTube:

Addysg Cymru