Newyddlen Bwyd a Diod Cymru - Tachwedd 2026

Tachwedd 2026 • Rhifyn 046

 
 

Brand dŵr ffynnon o Gymru yn sicrhau cytundeb allforio i Bermwda

Dwr Ffynnon Tumptonics

Mae brand dŵr ffynnon o Gymru, a sefydlwyd i ddiogelu dyfodol fferm deuluol sydd wedi bod yn y teulu ers pum cenhedlaeth, wedi sicrhau ei gytundeb allforio rhyngwladol cyntaf ar ôl gwneud cysylltiad allweddol yn Blas Cymru / Taste Wales 2025.

Mae Tumptonics Ltd, busnes o Sir Fynwy sydd y tu ôl i'r brand dŵr mewn caniau cynaliadwy Soleau, wedi sicrhau cytundeb cyflenwi label preifat gyda'r cyfanwerthwr blaenllaw Diverse Fine Food. Daeth y cytundeb yn sgil presenoldeb y cwmni fel Seren Newydd yn nigwyddiad allweddol Bwyd a Diod Cymru. 

Mae'r bartneriaeth eisoes wedi arwain at archeb o 30 paled ar gyfer yr Hamilton Princess Hotel & Beach Club mawreddog, yn Bermwda, ac mae'r llwyth cyntaf bellach ar ei ffordd ar draws yr Iwerydd. O dan y cytundeb label preifat, bydd Tumptonics Ltd yn cyflenwi ei ddetholiad premiwm o ddŵr ffynnon Cymreig – llonydd a phefriog – o dan yr enw Soleau. Daw'r dŵr o fryniau Sir Fynwy ac mae’n cael ei becynnu mewn caniau alwminiwm y gellir eu hailgylchu.

Parhau i ddarllen...

Yn ôl i'r cynnwys

Velfrey yn creu hanes yn y byd gwin Cymreig gyda buddugoliaeth ryngwladol

Andy a Fiona Mounsey

Gwinllan o Sir Benfro yn ennill tlws mawreddog Glass of Bubbly a medal aur, yn ogystal â dwy fedal arian, wrth gystadlu yn erbyn siampên a gwinoedd pefriog o bob cwr o'r byd.

Mae gwinllan deuluol o Sir Benfro wedi creu hanes yn y byd gwin Cymreig drwy ennill medal aur a thlws categori mawreddog yng Ngwobrau rhyngwladol pwysig Glass of Bubbly 2026.

Enillodd Cuvée Reserve 2022 o Winllan Velfrey fedal aur a'r Tlws Winter Warmer – camp eithriadol mewn cystadleuaeth sy'n denu siampên a gwinoedd pefriog o rai o ranbarthau cynhyrchu gwin enwocaf y byd.

Parhau i ddarllen...

Yn ôl i'r cynnwys

Cydweithrediad tiramisu 'rhydd rhag' cyflenwyr o Gymru'n dathlu eu rhestriad archfarchnad cyntaf yn Asda

Cwmni Ferrari's Coffi Rhost a Cwmni Just Love Food

Mae partneriaeth bwyd gyffrous o Gymru wedi cael ei ffurfio, gydag arbenigedd rhostio coffi Eidalaidd a sgiliau pobi cynhwysol arloesol yn dod ynghyd i greu cynnyrch newydd.

Mae Ferrari's Coffee Roasters a Just Love Food Company wedi dod at ei gilydd er mwyn creu Traybake Tiramisu "rhydd rhag" blasus sy'n llawn coffi wedi'r rostio yng Nghymru ac sy'n addas ar gyfer anghenion deietegol arbennig.

Mae'r bartneriaeth honno wedi'i chydnabod gan Asda, a ddaeth y prif fanwerthwr cyntaf i ddod â chydweithrediad Ferrari's Coffee a Just Love Food Company i gwsmeriaid pan wnaeth lansio'r cynnyrch Ferrari's Coffee Roasters Tiramisu Traybake yn ei siopau yng Nghymru mis diwethaf.

Parhau i ddarllen...

Yn ôl i'r cynnwys

Beth rydyn ni wedi'i ddysgu am gadwyni cyflenwi bwyd a diod Cymru yn ystod yr haf poeth hwn?

Adroddiad Monitro Chwarterol

Pan gododd y tymheredd, ble teimlodd eich busnes chi'r pwysau gyntaf? Ar eich staff, eich systemau oeri, ansawdd eich cynhyrchion, neu'r cynhwysion roeddech chi'n disgwyl eu derbyn?

Mae rhifyn diweddaraf Adroddiad Monitro Chwarterol ar Risgiau Hinsawdd a Chadwyn Gyflenwi i’r Diwydiant Bwyd a Diod, a ddarperir gan Wasanaeth Gwydnwch Hinsawdd Bwyd a Diod Cymru, yn edrych ar yr hyn y gallwn ei ddysgu o'r cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2026 er mwyn paratoi'n well ar gyfer unrhyw darfu yn y dyfodol.

Fe wnaeth yr haf poethaf erioed yn y DU, yn ôl y ffigurau dros dro, dynnu sylw at y materion hyn. Rhoddodd sychder, llai o dyfiant glaswellt a chynaeafau is na'r cyfartaledd bwysau ar amaethyddiaeth. Mewn ffatrïoedd, roedd y gwres yn rhoi systemau oeri, lles staff, diogelwch bwyd ac ansawdd cynhyrchion ar brawf.

Ond beth sy'n digwydd pan fydd y pwysau'n dechrau filoedd o filltiroedd i ffwrdd? Effeithiodd gwres yn Ewrop a sychder yn yr Unol Daleithiau ar ardaloedd tyfu, tra bod gwrthdaro wedi tarfu ar gyflenwadau ynni a llongau. Hyd yn oed os ydych chi'n prynu cynhwysion gan gyflenwr yn y DU, gallant fod wedi teithio o lawer pellach i ffwrdd nag y byddech chi'n ei feddwl – ac wedi wynebu llawer mwy o risgiau ar hyd y ffordd.

Sut byddai cynnydd sydyn arall mewn prisiau'n effeithio ar eich elw? Erbyn mis Medi, roedd pris coco bron 50% yn uwch nag ym mis Ionawr, pris gwenith gaeaf coch caled yr Unol Daleithiau tua 33% yn uwch, a phris gwrtaith DAP 26% yn uwch.

Fel y dywed Linda Grant, arweinydd y gwasanaeth: “Mae gwydnwch hinsawdd yn ymwneud fwyfwy â gwydnwch busnes a gwydnwch ariannol.”

Gyda ffenomen El Niño yn ychwanegu at yr ansicrwydd wrth edrych ymlaen at 2027, tybed a yw'n bryd ailystyried rhai o'ch cyflenwyr, eich lefelau stoc neu'ch cynlluniau wrth gefn?

Y newyddion da yw nad oes rhaid i chi fynd i'r afael â'r heriau hyn ar eich pen eich hun. Mae'r gwasanaeth yn cynnig sesiynau arweinyddiaeth pwrpasol am ddim, hunanasesiad ar-lein i fesur pa mor barod yw eich busnes, a hyfforddiant.

Dywedodd Rob Cumine, Rheolwr Gyfarwyddwr Capestone Organic:

“Fe wnaeth ein gweithdy arweinyddiaeth diweddar ar Wydnwch Hinsawdd ein helpu i edrych ar sut mae risgiau hinsawdd yn gysylltiedig â'i gilydd ar draws ein ffermydd, ein cyflenwad porthiant, ein gweithrediadau prosesu a'n gweithlu. Mae neilltuo amser fel tîm arwain i ystyried y pwysau hyn gyda'n gilydd yn gam pwysig tuag at nodi camau ymarferol a chynlluniau hirdymor a fydd yn cryfhau ein gwydnwch ac yn diogelu ein busnes.”

Ydych chi'n barod i ddechrau cynllunio ar gyfer dyfodol mwy cydnerth?

Darllenwch adroddiad diweddaraf Bwyd a Diod Cymru ar Risgiau Hinsawdd a'r Gadwyn Gyflenwi yma: Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf am y hinsawdd | Food & Drink

Neu cysylltwch â sustainablefd@gov.wales i drefnu Gweithdy Gwydnwch Hinsawdd ar gyfer eich Tîm Arwain, wedi'i ariannu'n llawn.

Yn ôl i'r cynnwys

Rheoliad yr UE ar Ddatgoedwigo: gwybodaeth i fusnesau bwyd a diod

Rheoliad yr UE ar Ddatgoedwigo: gwybodaeth i fusnesau bwyd a diod

Efallai y bydd busnesau bwyd a diod sy’n masnachu â’r Undeb Ewropeaidd am ymgyfarwyddo â Rheoliad yr UE ar Ddatgoedwigo (EUDR) ac ystyried a yw’n berthnasol i’w cynhyrchion a’u cadwyni cyflenwi.

Nod yr EUDR yw sicrhau bod nwyddau a chynhyrchion penodol sy’n cael eu rhoi ar farchnad yr UE, eu darparu ar y farchnad honno, neu eu hallforio ohoni, yn rhydd rhag datgoedwigo. Mae’r nwyddau sydd o fewn cwmpas y Rheoliad yn cynnwys gwartheg, coco, coffi, palmwydd olew, rwber, soia a phren, ynghyd â chynhyrchion penodol sy’n deillio ohonynt. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch yma. (Saesneg yn unig).

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn nodi nad oes rhwymedigaethau ar gynhyrchwyr a chwmnïau y tu allan i’r UE o dan yr EUDR oni bai eu bod nhw eu hunain yn rhoi cynhyrchion ar farchnad yr UE. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gofynnir i fusnesau y tu allan i’r UE ddarparu gwybodaeth i helpu busnesau yn yr UE i gyflawni eu rhwymedigaethau. Gall hyn gynnwys gwybodaeth am ble y cafodd y nwyddau perthnasol eu tyfu, eu cynaeafu neu, yn achos da byw, eu magu.

Felly, efallai y bydd busnesau bwyd a diod yng Nghymru sy’n allforio i’r UE, neu sy’n cyflenwi busnesau sy’n masnachu â’r UE, am adolygu gwybodaeth a chanllawiau’r Comisiwn Ewropeaidd a chanfod a yw’r Rheoliad yn berthnasol i’w gweithgareddau.

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn darparu’r wybodaeth swyddogol ganlynol:

  • Gweithredu’r EUDR a throsolwg ohono Trosolwg o’r Rheoliad a’r modd y caiff ei weithredu, ynghyd â dolenni at adnoddau ategol, gan gynnwys gwybodaeth i fusnesau a sefydliadau y tu allan i’r UE. Y Comisiwn Ewropeaidd: Gweithredu Rheoliad yr UE ar Ddatgoedwigo (Saesneg yn unig).
  • Cwestiynau Cyffredin Mae Cwestiynau Cyffredin y Comisiwn Ewropeaidd ar yr EUDR yn rhoi rhagor o wybodaeth am weithredu’r Rheoliad ac yn ymdrin â chwestiynau a godwyd gan fusnesau a rhanddeiliaid eraill. Y Comisiwn Ewropeaidd: Cwestiynau Cyffredin am yr EUDR (Saesneg yn unig).
  • Cynhyrchion sydd o fewn cwmpas y Rheoliad Mae Atodiad I i’r Rheoliad yn nodi’r nwyddau a’r cynhyrchion sydd o fewn cwmpas yr EUDR, gan gynnwys eu codau dosbarthu perthnasol. Mae tudalen weithredu’r Comisiwn yn rhoi mynediad at y ddeddfwriaeth a gwybodaeth am sut i wirio’r cynhyrchion sydd wedi’u rhestru. Y Comisiwn Ewropeaidd: Deddfwriaeth yr EUDR a gwybodaeth am gynhyrchion (Saesneg yn unig).
  • System Wybodaeth yr EUDR Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn darparu System Wybodaeth ar-lein ar gyfer datganiadau diwydrwydd dyladwy a datganiadau symlach, ynghyd â gwybodaeth a deunydd ategol i ddefnyddwyr. Y Comisiwn Ewropeaidd: System Wybodaeth yr EUDR (Saesneg yn unig)
  • Y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu a newidiadau i gwmpas cynhyrchion Ym mis Gorffennaf 2026, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd ddiweddariad ar newidiadau i gwmpas cynhyrchion penodol a’r adnoddau sy’n cael eu cyflwyno i gefnogi’r gwaith o weithredu’r Rheoliad. Y Comisiwn Ewropeaidd: Diweddariad EUDR Gorffennaf 2026 (Saesneg yn unig).

Dylai busnesau gyfeirio’n uniongyrchol at adnoddau swyddogol y Comisiwn Ewropeaidd i gael gwybodaeth am y Rheoliad a sut mae’n berthnasol iddynt.

Yn ôl i'r cynnwys

Troi eich ôl troed carbon yn gamau gweithredu ymarferol

Cynllun lleihau Carbon

Gall deall eich ôl troed carbon ymddangos yn gymhleth, ond does dim rhaid iddo fod. Mae modiwl hyfforddi ar-lein newydd Bwyd a Diod Cymru ar Gynlluniau Lleihau Carbon wedi'i gynllunio i helpu gweithgynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru i ddeall yr hanfodion, nodi o ble mae eu hallyriadau mwyaf yn dod ac, yn bwysicaf oll, penderfynu beth i'w wneud nesaf.

Mae'r hyfforddiant yn eich tywys gam wrth gam drwy'r broses o gyfrifo eich ôl troed carbon, o ddeall Cwmpasau 1, 2 a 3 a chasglu data gweithgareddau, i ddefnyddio ffactorau allyriadau a nodi'r prif ffynonellau allyriadau yn eich busnes.

Ond dim ond y man cychwyn yw mesur eich ôl troed carbon.

Mae'r hyfforddiant hefyd yn eich helpu i droi'r wybodaeth honno'n Gynllun Lleihau Carbon ymarferol. Byddwch yn dysgu sut i nodi a blaenoriaethu cyfleoedd i leihau allyriadau, pennu targedau realistig, dyrannu cyfrifoldebau a monitro cynnydd dros amser.

I weithgynhyrchwyr bwyd a diod, mae lleihau allyriadau carbon yn gwneud synnwyr busnes da. Gallai'r cyfleoedd gynnwys defnyddio llai o ynni, gwella effeithlonrwydd systemau oeri, lleihau gwastraff bwyd a phecynnu, gwneud trafnidiaeth yn fwy effeithlon neu weithio gyda chyflenwyr i ddefnyddio cynhwysion sydd ag ôl troed carbon is. Gall llawer o'r camau hyn helpu i leihau costau yn ogystal ag allyriadau, gan wella effeithlonrwydd a chynhyrchiant ar yr un pryd.

Mae'r modiwl hefyd yn edrych ar sut i gyfleu eich cynnydd yn glir ac yn gredadwy i gwsmeriaid, gweithwyr, darparwyr cyllid a rhanddeiliaid eraill, gan osgoi gwneud honiadau amgylcheddol nad oes tystiolaeth i'w cefnogi.

P'un a ydych newydd ddechrau mesur eich allyriadau carbon neu'n awyddus i gryfhau'r dull rydych eisoes yn ei ddefnyddio, mae'r hyfforddiant yn cynnig cyflwyniad ymarferol i sut i droi data carbon yn gamau gweithredu sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Gallwch fynd i'r modiwl hyfforddi ar Gynlluniau Lleihau Carbon yma:

https://bwydadiod.cymru/cy/modiwlau-hyfforddiant-cynaliadwyedd

Yn ôl i'r cynnwys

Bwydydd Swyddogaethol: Archwilio Iechyd, Cynaliadwyedd ac Arloesedd yn ArloesiAber

Bwydydd Swyddogaethol

Daeth busnesau, ymchwilwyr a rhanddeiliaid o’r diwydiant ynghyd yn ddiweddar yn ArloesiAber ar gyfer gweithdy Bwydydd Swyddogaethol: Iechyd a Chynaliadwyedd, a gynhaliwyd gan Glwstwr MaethCymru a Bwydydd Swyddogaethol Bwyd a Diod Cymru, i archwilio cyfleoedd arloesi.

Gyda chefnogaeth y Clwstwr Cynaliadwyedd a Rhaglen Twf, bu’r digwyddiad yn edrych ar dueddiadau’r farchnad, ymddygiad defnyddwyr, anghenion maethol a datblygu cynhwysion cynaliadwy.

Tynnodd Sophie Colquhoun, o’r Rhaglen Mewnwelediad Bwyd a Diod Cymru, sylw at ddiddordeb cynyddol defnyddwyr mewn ffyrdd iachach o fyw, a’r cyfleoedd posibl i fusnesau droi manteision iechyd yn fantais gystadleuol.

Roedd yr astudiaethau achos o fyd diwydiant ac academia yn cynnwys cyfraniad gan Dr Jamila La Malfa-Donaldson o Prohempotic, a drafododd gynhwysion cynaliadwy sy’n deillio o gywarch. Cyflwynodd Dr Pilar Martinez Martin o Brifysgol Aberystwyth ymchwil i’r defnydd o fadarch fel cynhwysion swyddogaethol mewn cynhyrchion becws, yn ogystal â chyfansoddion bioactif a lliwiau naturiol.

Dangosodd Grounds for Good y cyfleoedd i drawsnewid gwaddodion coffi wedi’u defnyddio yn gynhwysion swyddogaethol, tra bo BIOVIT wedi archwilio manteision maethol a chynaliadwyedd fitaminau a mwynau sy’n deillio o fwydydd cyflawn.

Cafodd y rhai a oedd yn bresennol gyfle i fynd ar daith o amgylch cyfleusterau ArloesiAber a dysgu mwy am y gwasanaethau arbenigol a’r cymorth sydd ar gael i fusnesau. Cyflwynwyd cyfres o enghreifftiau i ddangos sut mae arbenigwyr ArloesiAber wedi cydweithio â sefydliadau arloesol ledled Cymru.

Yn ystod trafodaeth ryngweithiol, archwiliwyd cyfleoedd i gydweithio yn y dyfodol. Mae Grŵp Diddordeb Arbennig yn cael ei ddatblygu i gefnogi’r gwaith o barhau i rannu gwybodaeth a sbarduno arloesedd.

I gael rhagor o wybodaeth am broteinau amgen a’u priodweddau swyddogaethol, mae taflen ffeithiau newydd ar gael: Adnoddau defnyddiol ar gyfer eich busnes | Food & Drink

I ymuno â Chlwstwr MaethCymru a Bwydydd Swyddogaethol neu’r Clwstwr Cynaliadwyedd, a manteisio ar arbenigedd i gefnogi arloesedd ym maes bwyd sy’n iachach ac yn fwy cynaliadwy, cysylltwch â brandon.ristow-wilson@bic-innovation.com

Yn ôl i'r cynnwys

Y CAE

Y CAE

Ers dros ddegawd, mae The CAE (Saesneg yn unig) wedi bod yn chwalu rhwystrau i entrepreneuriaeth ac yn datgloi potensial entrepreneuraidd ledled Cymru. Wedi’i leoli yn ei Ganolfan Fenter Gymunedol yn Abertawe, mae The CAE wedi cefnogi dros 350 o entrepreneuriaid, yn enwedig y rheini o gefndiroedd mudol, ffoaduriaid a grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli, i ddechrau, cynnal a thyfu eu busnesau drwy gymorth wedi’i deilwra, mentora a rhwydweithiau cymheiriaid.

Wedi’i ysgogi gan ei weledigaeth o Gymru decach a mwy ffyniannus, lle mae pawb yn cael y cyfle i ffynnu, sef y Freuddwyd Gymreig, mae The CAE hefyd yn hyrwyddo lleisiau entrepreneuriaid a’u cyfraniad at economi Cymru.

Fel rhan o’r genhadaeth hon, mae’r Sylfaenydd a’r Prif Weithredwr, Franck Banza, a’r Pennaeth Staff, Kim Mamhende, yn cyflwyno Lleisiau Busnesau Bach Cymru (Saesneg yn unig), podlediad sy’n tynnu sylw at y straeon go iawn y tu ôl i fusnesau Cymru, gan gynnwys entrepreneuriaid bwyd a diod. Trwy sgyrsiau gonest am eu teithiau, eu heriau a’u llwyddiannau, mae’r podlediad yn ysbrydoli entrepreneuriaid y dyfodol, yn hyrwyddo busnesau lleol ac yn cryfhau eu lleisiau er mwyn helpu i lywio polisi ac arferion.

Gyda’i gilydd, mae’r ymdrechion hyn yn dathlu’r amrywiaeth, y creadigrwydd a’r uchelgais sydd wrth wraidd hunaniaeth Wnaed yng Nghymru, gan helpu i adeiladu economi Gymreig gryfach a mwy cynhwysol.

Yn ôl i'r cynnwys

Gweini bwyd diogel dros y Nadolig

Gweini bwyd diogel dros y Nadolig

Mae’r Nadolig yn gallu bod yn un o adegau prysuraf y flwyddyn i fusnesau bwyd ledled Cymru. P’un a fyddwch chi’n ychwanegu prydau arbennig Nadoligaidd at eich bwydlen, yn arlwyo ar gyfer partïon Nadolig, neu’n gweini cwsmeriaid mewn marchnad Nadolig, mae arferion diogelwch bwyd da yn hanfodol i gadw’ch cwsmeriaid yn ddiogel. Cofiwch fod rhai cwsmeriaid – gan gynnwys pobl hŷn, menywod beichiog a’r rhai sydd â systemau imiwnedd gwan – yn fwy agored i salwch a gludir gan fwyd. Mae dilyn arferion hylendid bwyd da yn arbennig o bwysig i helpu i gadw’r cwsmeriaid hyn yn ddiogel.

Cyn i brysurdeb y Nadolig ddechrau, gwnewch amser i adolygu eich trefniadau diogelwch bwyd ac i sicrhau bod eich holl staff – gan gynnwys aelodau tîm dros dro a thymhorol – yn deall eu rôl wrth gadw bwyd yn ddiogel. Os byddwch chi’n cyflwyno prydau newydd, yn newid eich bwydlen, neu’n defnyddio cynhwysion gwahanol yn lle rhai sydd ddim ar gael, gwiriwch yr wybodaeth am alergenau yn ofalus a sicrhewch fod eich staff yn gallu rhoi gwybodaeth gywir i gwsmeriaid am y cynhwysion yn eich bwyd. Rhowch amser i ddiweddaru unrhyw fwydlenni a matricsau alergenau sydd gennych. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cynnig hyfforddiant alergenau ar-lein am ddim, a chanllawiau ymarferol i helpu busnesau a’u staff i ddilyn arferion hylendid bwyd da.

Mae ceginau prysurach, archebion mawr, a newidiadau i fwydlenni’n gallu ychwanegu pwysau. Felly cymerwch gamau syml i baratoi nawr, a bydd hynny’n eich helpu i ddiogelu’ch cwsmeriaid a’ch busnes dros y Nadolig.

Gallwch chi ddod o hyd i ganllawiau ymarferol, hyfforddiant ac adnoddau gan yr ASB: Rhedeg busnes bwyd: Eich cyfrifoldebau - GOV.UK

Yn ôl i'r cynnwys

Hwyl: Dathlu Lletygarwch Cymru

Hwyl: Dathlu Lletygarwch Cymru

 

Mae ymgyrch newydd Hwyl Lletygarwch gan Croeso Cymru yn tynnu sylw at y cynhesrwydd unigryw, y cymeriad a'r profiadau sy'n gwneud Cymru yn lle mor arbennig i ymweld ag ef. Mae gan fusnesau bwyd a diod rôl bwysig i'w chwarae wrth ddod â lletygarwch Cymreig yn fyw, boed hynny drwy gyrchu cynnyrch lleol, rhannu straeon dilys neu arddangos y gorau o gynnyrch Cymru.

Mae'r ymgyrch yn cyd-fynd â gweithgarwch Gwerth Cymreictod Bwyd a Diod Cymru ac yn cynnig adnoddau i helpu busnesau i gymryd rhan wrth ddathlu'r hyn sy'n gwneud lletygarwch Cymru mor arbennig.

Gallwch archwilio'r ymgyrch a gweld sut y gallwch gymryd rhan ar wefan ddiwydiant Croeso Cymru: Lletygarwch Cymru yn y Sbotolau | Diwydiant

Am ragor o ysbrydoliaeth i ddathlu Cymru, ymunwch â gweminar marchnata rhad ac am ddim Croeso Cymru ar 26 Tachwedd. Cewch glywed am y paratoadau ar gyfer Blwyddyn Feicio Croeso Cymru 2027 a'r cyfleoedd i fusnesau ledled y wlad gymryd rhan wrth i Grand Départ y Tour de France ddod i Gymru. Cofrestrwch yma: Gweminar: 26 Tachwedd 2026 – Cynlluniau Marchnata ar gyfer 2027 | Diwydiant.

Yn ôl i'r cynnwys

Cyfieithu Cymraeg am ddim i dy fusnes at y Nadolig? Wel, Helo Blod.

Logo Nadoligaidd Helo Blod

Mae Helo Blod yn wasanaeth cyflym a chyfeillgar sydd yma i dy gynghori di ar sut i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn dy fusnes. Ac mae’r cwbl am ddim!

Canfod mwy yma...

Mae tymor y Nadolig bron â chyrraedd, felly nawr yw’r amser perffaith i baratoi dy ddeunyddiau marchnata a chyfathrebu Nadoligaidd.

P’un a wyt ti’n creu bwydlen Nadolig, yn hyrwyddo partïon Nadolig a Nos Galan ar y cyfryngau cymdeithasol neu’n dylunio posteri Nadoligaidd, mae Helo Blod yma i helpu.

Does dim rhaid newid popeth ar unwaith i ddechrau. Beth am ychwanegu ychydig bach o Gymraeg at rywbeth rwyt ti eisoes yn ei wneud y Nadolig hwn?

Gall defnyddio ychydig bach o Gymraeg wneud gwahaniaeth mawr i dy fusnes.

Mae Helo Blod yn cynnig:

  • Cyfieithu am ddim - Gall Helo Blod gyfieithu hyd at 500 gair y mis i ti, yn gwbl rad ac am ddim
  • Gwirio testun – Gall Helo Blod wirio hyd at 1,000 o eiriau’r flwyddyn am ddim i wneud yn siŵr bod dy Gymraeg yn barod i'w defnyddio.
  • Cyngor ac arweiniad – Mae Helo Blod yn cynnig cyngor ymarferol, arweiniad a chymorth i dy helpu i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn dy fusnes. Os oes angen unrhyw beth arall yn ychwanegol, fe wnaiff Helo Blod dy gyfeirio di at rywun fydd yn gallu helpu.
  • Nwyddau – Mae Helo Blod hefyd yn dosbarthu laniardiau a bathodynnau Iaith Gwaith sy’n nodi bod staff neu wirfoddolwyr yn siarad neu’n dysgu Cymraeg.

Y Nadolig hwn, beth am ddefnyddio’r Gymraeg yn dy:

  • Fwydlenni Nadolig
  • Deunyddiau hyrwyddo partïon Nadolig neu Nos Galan
  • Negeseuon cyfryngau cymdeithasol ac ymgyrchoedd Nadoligaidd
  • Posteri, taflenni a hysbysebion
  • Negeseuon croeso ac arwyddion i gwsmeriaid

Does dim rhaid gwneud popeth ar unwaith. Dewisa un peth rwyt ti eisoes yn ei wneud y Nadolig hwn, ac ychwanega ychydig bach o Gymraeg. Mae Helo Blod yma i helpu: llyw.cymru/HeloBlod

Yn ôl i'r cynnwys

Arddangoswch gyda ni yn Gulfood, Dubai 2027

Gulfood Dubai 2027

Gulfood yw arddangosfa fasnach flynyddol bwyd a diod fwyaf y byd, gyda chyfle rhwydweithio heb ei ail yn rhoi mynediad i gyflenwyr, partneriaid ac arweinwyr diwydiant rhyngwladol.
Am y tro cyntaf, bydd Gulfood yn cael ei gynnal mewn dau leoliad eiconig, Canolfan Masnach y Byd Dubai a Dubai Expo City. Gyda thros 8,500 o arddangoswyr yn arddangos mwy na 1.5miliwn o wahanol gynnyrch, mae pob sector bwyd a diod yn cael ei gynrychioli yn llawn. Mae 2027 yn rhoi’r cyfle i chi arddangos eich cynnyrch o flaen 195 o wledydd ac archwilio cyfleoedd ym marchnadoedd allforio y Dwyrain Canol ac yn fyd-eang.

Taflen Gulfood, Dubai PDF   

Am ffurflen gais neu ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at: shirley.mcgilvray@llyw.cymru

Yn ôl i'r cynnwys

Sioe Siop Fferm a Deli 2027 – Mynegi Diddordeb ar Agor!

Sioe Siop Fferm a Deli 2027

Rydym yn falch o gyhoeddi bod ceisiadau mynegi diddordeb ar agor i fusnesau Bwyd a Diod i arddangos ar stondin Cymru Wales. Mae’r digwyddiad hwn, a gynhelir yn NEC Birmingham ar 12–14 Ebrill, yn gyfle gwych i arddangos y gorau sydd gan Bwyd a Diod Cymru i’w gynnig i gynulleidfa genedlaethol o brynwyr, manwerthwyr a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant.

Mae’r Sioe Siop Fferm a Deli yn enwog am ddenu penderfynwyr o sectorau manwerthu annibynnol, lletygarwch a gwasanaeth bwyd ledled y DU. Drwy arddangos ar stondin Cymru Wales, byddwch yn elwa ar bresenoldeb cryf ar y cyd, brandio pwrpasol, a chymorth i’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch effaith yn y sioe.

Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly peidiwch â cholli’r cyfle i hyrwyddo eich busnes.

Cyflwynwch eich Mynegiant o Ddiddordeb i ian.edwards@llyw.cymru erbyn 11 Rhagfyr 2026. Bydd manylion pellach, gan gynnwys meini prawf cymhwyster a chostau, ar gael yn fuan wedyn.

Ymunwch â ni i ddathlu rhagoriaeth Gymreig yn un o brif ddigwyddiadau Bwyd a Diod y DU!

Yn ôl i'r cynnwys

 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN

Cylchlythyr ar gyfer diwydiant bwyd a diod Cymru gyda newyddion, digwyddiadau a materion yn ymwneud â'r diwydiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/bwydadiodcymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@BwydaDiodCymru

 

Dilynwch ni ar Instagram:

Bwyd_a_Diod_Cymru

 

Dilynwch ni ar Facebook:

@bwydadiodcymru

 

Dilynwch ni ar LinkedIn

Bwyd a Diod Cymru | Food and Drink Wales