Mae sgiliau mathemateg a rhifedd yn sgiliau hanfodol ar gyfer dysgu a bywyd yn gyffredinol, ac mae’r Panel Arbenigol Rhifedd wedi bod yn cydweithio i gyfrannu eu harbenigedd i’r gwaith o ddatblygu ein polisi.
Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Chyllideb Ddrafft lawn gyntaf yn nhymor newydd y Senedd – Cyllideb ar gyfer 2027-2028, gyda chynlluniau gwario hyd at 2028-2029 ar gyfer adnoddau a 2029-2030 ar gyfer cyfalaf.
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan, wedi cwrdd â dysgwyr ac athrawon o'r Gogledd i weld drosti'i hun sut mae cynaliadwyedd wedi helpu i siapio adeiladau ysgol newydd, a sut mae cynlluniau yng Ngwynedd yn cefnogi siaradwyr newydd i ddysgu Cymraeg.
Ar 17 Tachwedd, daeth dysgwyr, ymarferwyr addysg a sefydliadau partner o bob cwr o Gymru at ei gilydd ar gyfer digwyddiad gwrthfwlio Llywodraeth Cymru.
Sefydliad Ffiseg a'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol: Diwrnod dysgu i weithwyr proffesiynol ym maes gwyddoniaeth
Dydd Gwener 4 Rhagfyr, 9:30yb i 3:00yp
ArloesiAber, SY23 3EE
Cofrestrwch nawr am ddiwrnod o ddysgu proffesiynol gwyddonol. Bydd gweithdai'n benodol ar gyfer athrawon ysgolion uwchradd sy'n newydd i addysgu cemeg a/neu ffiseg, neu sy'n addysgu y tu allan i'w harbenigedd pwnc, yn ogystal â thechnegwyr gwyddoniaeth.
Mae'r digwyddiad wedi'i ariannu'n llawn fel rhan o raglen Hybu Addysg Wyddoniaeth yng Nghymru, a bydd eich ysgol yn gymwys i gael bwrsari (£300 fesul athro/athrawes, £170 fesul technegydd) i helpu i dalu costau cyflenwi.
Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru. Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.