Mae prydau ysgol am ddim yn cael eu cyflwyno ledled Cymru ar gyfer dysgwyr ym mlynyddoedd 7 ac 8 o aelwydydd sy'n cael Credyd Cynhwysol, waeth beth yw incwm yr aelwyd.
Cofrestrwch i fynychu ein cynhadledd flynyddol, Llunio Dyfodol Cymru: Un system gysylltiedig i bob dysgwr ar 19 Tachwedd 2026 yn ICC Cymru, Casnewydd. Cadwch eich lle erbyn 16 Tachwedd 2026
Mae Gwobr Dewi Sant yn dathlu cyfraniadau eithriadol ledled Cymru ac mae enwebiadau bellach ar agor ar gyfer gwobrau Er Lles ein Plant a Gwasanaethu’r Cyhoedd. Mae'r enwebiadau'n cau ar 4 Rhagfyr 2026
Ffonau symudol mewn ysgolion: llai na mis ar ôl i ymateb
Mae llai na mis ar ôl i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ganllawiau drafft i gyfyngu ar ddefnydd disgyblion o ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol. Darllenwch gefndir yr ymgynghoriad a’r canllawiau ddraft, ac yna cyflwynwch y ffurfeln ymateb ar-lein erbyn 2 Rhagfyr 2026.
Gwybodaeth a sgiliau sy'n hanfodol i’r pedwar diben – gwerthusiad o’r Cwricwlwm i Gymru
Mae cam diweddaraf gwerthusiad Cwricwlwm i Gymru ar y gweill. Cliciwch yma i gofrestru eich diddordeb mewn cymryd rhan, neu cysylltwch â Brett Duggan i drafod yr astudiaeth.
Cyfle i archwilio adnoddau ymarferol, astudiaethau achos ac adnoddau dysgu proffesiynol i ddyfnhau dealltwriaeth o ddatblygiad plant a chefnogi ymarfer ymatebol, sy'n canolbwyntio ar y plentyn.
Canllawiau diwygiedig ar gynllunio ac ymateb i argyfyngau ar gyfer lleoliadau addysg a gofal plant
Estyn: Gwrth-hiliaeth mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion ledled Cymru.
Rhannwch gyda’ch rhieni a gofalwyr, cyfle i lywio ein hadroddiad yn archwilio gwrth-hiliaeth mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion ledled Cymru. Llenwch yr arolwg erbyn 18 Rhagfyr 2026
E-sgol: Hybiau Ieithoedd Rhyngwladol
Rydym yn edrych ar gyfle cyffrous i ddatblygu Hybiau Ieithoedd Rhyngwladol rhanbarthol ledled Cymru, gyda'r nod o ehangu mynediad at gyrsiau Safon Uwch Sbaeneg, Ffrangeg ac Almaeneg drwy ddarpariaeth ar-lein a hybrid. Os yw hyn o ddiddordeb i'ch ysgol neu'ch canolfan, byddem yn falch iawn o glywed gennych erbyn dydd Gwener, 27 Tachwedd 2026. Cwblhewch eich mynegiant o ddiddordeb ar y ffurflenhon.
Mae Bwrsariaeth Gareth Pierce yn cefnogi myfyrwyr israddedig sy'n astudio Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cynllun bwrsari yn cefnogi 3 myfyriwr yn flynyddol ac yn cael ei weinyddu gyda chefnogaeth garedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Medr: OB3 Research i gynnal ymchwil i ddarpariaeth Safon Uwch gydweithredol ledled Cymru
Hyfforddiant Adoption UK ar gyfer ysgolion a lleoliadau
Archwilio’r rhesymau pam y gall dysgwyr sydd â phrofiad o ofal wynebu anawsterau wrth reoleiddio eu hymddygiad, a’r strategaethau sydd ar gael i’w cefnogi’n effeithiol ac yn dosturiol drwy ddefnyddio dull sy’n cael ei lywio gan drawma. Cofrestrwch ar wefan Adoption UK. Os oes gennych chi gwestiynau Julie.moseley@adoptionuk.org.uk.
Children’s Participation in Schools: Beth all plant dan 7 oed ei ddweud wrthym am gyfranogiad yn yr ysgol y gallai oedolion ei anwybyddu fel arall?
Mae enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid 2027 y Sefydliad Dysgu a Gwaith, yn dathlu’r tiwtoriaid a’r mentoriaid rhagorol sy’n ysbrydoli, cefnogi a thrawsnewid bywydau oedolion sy’n ddysgwyr ar draws Cymru. Mae enwebiadau yn cau ar 15 Ionawr 2027
Lleisiau plant yn dylanwadu ar ddyfodol chwaraeon yng Nghymru
Mae canlyniadau cenedlaethol Arolwg Chwaraeon Ysgol 2026 ar gael bellach. Darganfyddwch beth ddywedodd mwy na 120,000 o blant a phobl ifanc ledled Cymru wrthym ni, a sut gall eu barn helpu fel sail i benderfyniadau yn y dyfodol.
Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru. Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.