Roeddwn yn meddwl y gallai fod yn ddefnyddiol rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cynlluniau ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru, yng ngoleuni datblygiadau diweddar yn y Senedd.
Roeddwn yn falch iawn yn gynharach yr wythnos hon o gadarnhau buddsoddiad ychwanegol o £60 miliwn mewn ADY yn ystod y flwyddyn ariannol hon, yn dilyn pasio ein cyllideb atodol.
Bydd llaeth yn parhau i fod ar gael i blant oedran cynradd trwy glybiau brecwast ac amser cinio trwy’r rhaglen Prydau Ysgol Am Ddim i bob Plentyn Cynradd. Rhannwch eich barn.
Mae amser o hyd i gofrestru ar gyfer y garfan nesaf: 12 Tachwedd 2026
Mae'r Rhaglen Gymorth Genedlaethol yn rhoi'r eglurder, yr arbenigedd a'r offer ymarferol i ysgolion a lleoliadau er mwyn creu cwricwlwm hyderus a chydlynol.
Mae'r canllawiau Ymarfer sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn ar gyfer ymarferwyr, y blynyddoedd cynnar a theuluoedd, ynghyd ag amrywiaeth o adnoddau (templedi ac enghreifftiau), bellach wedi'u cyhoeddi. Mae animeiddiad Deall system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Cymru hefyd wedi'i gyhoeddi.
Bydd Cymru yn ymuno â TIMSS 2027, gan gyfrannu at dystiolaeth ryngwladol ar gyrhaeddiad dysgwyr Blwyddyn 5 mewn mathemateg a gwyddoniaeth. Fe gysylltir â'r ysgolion a ddewisir i gymryd rhan yn ystod Tachwedd 2026.
Mae'r adroddiad yn rhannu arfer effeithiol ar draws 18 sector, gan annog darparwyr i fyfyrio, dysgu a gyrru gwelliant cyn yr adroddiad llawn ddechrau 2027.
Mae ARWAIN yn rhaglen datblygu arweinyddiaeth genedlaethol a gynlluniwyd i helpu penaethiaid profiadol ledled Cymru i ddatblygu eu harweinyddiaeth, meithrin cysylltiadau â chymheiriaid a dylanwadu ar newid y tu hwnt i'w hysgolion eu hunain.
Mae Cymraeg i Bawb wedi lansio Pecyn Hyrwyddo i Ysgolion newydd i gefnogi ysgolion i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg. Mae'r pecyn yn cynnwys adnoddau, syniadau ac enghreifftiau ymarferol i helpu ysgolion i ymgysylltu â rhieni a chymunedau, ac i godi ymwybyddiaeth o fanteision addysg Gymraeg.
Pecynnau cymorth cyfathrebu: Lles yn ystod y Gaeaf
Mae pecynnau cymorth Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys adnoddau defnyddiol i helpu plant, staff a theuluoedd i aros yn iach drwy gydol yr hydref a'r gaeaf.
Ceisir barn ar gynigion o dan Ddeddf Addysg Uwch 2004 i ymestyn cynllun cwynion Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol (OIA) i gwmpasu addysg bellach a phrentisiaethau, yn ogystal ag addysg uwch. Dyddiad cau: 23 Tachwedd.
Ymunwch ag un o weminarau am ddim y British Council yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr i ddysgu sut mae'r rhaglen yn gweithio, pwy all gymryd rhan a sut i wneud cais. Mae gweminarau newydd yn cael eu hychwanegu bob dydd i gwmpasu ystod o sectorau, gan gynnwys sesiynau i helpu sefydliadau i ddod o hyd i bartneriaid Ewropeaidd.
Gwasanaeth Cofio ac Ymwybyddiaeth ar gyfer ysgolion: 9am, 11 Tachwedd 2026
Ymunwch ag ysgolion ledled Cymru mewn Gwasanaeth Cofio byw ar-lein. Ymunwch o 8:45am ymlaen er mwyn sicrhau dechrau prydlon.
Bydd y Gwasanaeth yn cael ei gyflwyno ar wahân yn Saesneg ac yn Gymraeg gan ddefnyddio dolenni Microsoft Teams penodol:
Mae adnoddau ar gael ar wefan Cefnogi Plant Milwyr mewn Addysg yng Nghymru (SSCE Cymru) i gefnogi addysgu a dysgu am gofio.
Cynhadledd British Council Cymru: Deallusrwydd Artiffisial mewn Addysg
18 Tachwedd 2026. Novotel, Caerdydd
Gallwch glywed yn uniongyrchol gan y rhai sy'n datblygu adnoddau arloesol ac yn archwilio dulliau ymarferol o ddefnyddio AI mewn ysgolion yng Nghymru, yn ogystal ag arferion gorau ym maes AI mewn ysgolion sy’n cael eu datblygu yn Estonia.
Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru. Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.