"...Gyda'n gilydd, rydyn ni'n llunio system sgiliau sy'n ymateb i anghenion ein heconomi a'n cymunedau, ac sy'n rhoi cyfle i bob dysgwr lwyddo, beth bynnag yw'r llwybr y mae'n ei ddewis..."
Gwyliwch ein fideo newydd sy’n cyflwyno’r safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer cynorthwyo addysgu, addysgu ac arweinyddiaeth. Dysgwch am strwythur y safonau diwygiedig a sut y gallant gefnogi sgyrsiau proffesiynol, myfyrio a datblygiad proffesiynol parhaus.
Diweddariad am ddyfodol y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)
Yn dilyn sefydlu Dysgu, ein corff cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth, rydym wedi penderfynu y bydd cyfrifoldeb am y PDP yn trosglwyddo o Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA) i Dysgu o fis Medi 2028. Gwelwch y cynllun prosiect lefel uchel drafft ar gyfer y trosglwyddiad. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â IsadranYmarferwyrYsgolion@llyw.cymru
Cwis Cymru: Y Siarter Iaith
Cyfle i ysgolion cynradd Cymru i ddysgu, cystadlu a chael hwyl drwy'r Gymraeg i weld pwy fydd yn ennill teitl Pencampwyr Cwis Cymru Y Siarter Iaith ar 22 Hydref 2026. I gofrestru, ewch i dudalen we e-sgol.
Arolwg Estyn: adolygiad o sgiliau digidol disgyblion
Mae Estyn yn gwahodd penaethiaid, arweinwyr ac athrawon mewn ysgolion cynradd, uwchradd a phob oed a gynhelir i lywio ein hadolygiad o fedrau a chymwyseddau digidol disgyblion.
Cwblhewch yr arolwg 15 i 20 munud perthnasol erbyn 6 Tachwedd 2026:
Bydd eich safbwyntiau yn helpu i amlygu arfer effeithiol a heriau ledled Cymru. Diolch am gymryd rhan.
Cwrs Preswyl Dysgu Cymraeg i Gynorthwy-wyr Dysgu - Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
19 – 23 Hydref 2026 Lefel Mynediad, Campws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan.
Mae hwn yn gwrs preswyl sy’n cynnwys lluniaeth a llety wedi’i gyllido’n llawn. Mae grant ar gael tuag at gostau cyflewni. I gofrestru ar gyfer y cwrs ebostiwch addysg@nantgwrtheyrn.org
Hyfforddiant, arweiniad ac adnoddau i helpu ymarferwyr sy'n gweithio gyda theuluoedd a phlant ac yn eu cefnogi, i ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r gyfraith sy'n gwahardd cosbi plant yn gorfforol yng Nghymru.
Cystadleuaeth microbioleg MiSAC 2027 ar gyfer ysgolion
Gwahoddir dysgwyr 11 i 16 oed i gymryd rhan yng Nghystadleuaeth MiSAC ar gyfer ysgolion y flwyddyn nesaf, sy'n cefnogi dysgu gwyddoniaeth drwy bynciau byd go iawn sy'n gysylltiedig â'r Cwricwlwm i Gymru. Thema 2027 fydd brechu plant yn erbyn clefydau heintus. Mae gwobrau ariannol ar gael i fyfyrwyr ac ysgolion. Mae rhagor o fanylion am y gystadleuaeth a ffurflenni cais ar gael ar wefan MiSAC (Saesneg yn unig). Cofrestrwch erbyn 19 Mawrth 2027.
Cynhadledd Deallusrwydd Artiffisial (AI) mewn Addysg
18 Tachwedd 2026, Ffordd y Sgwner, Caerdydd
Cynhadledd undydd ar AI mewn Addysg i ymarferwyr yng Nghymru. Gallwch glywed yn uniongyrchol gan y rhai sy'n datblygu adnoddau arloesol ac yn archwilio dulliau ymarferol o ddefnydd AI mewn ysgolion.
Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru. Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.