Cylchlythyr Diogelwch Adeiladau

Medi 2026

 
 

Croeso i'n newyddlen Diogelwch Adeiladau - a gynlluniwyd i'ch hysbysu yn rheolaidd am gynnydd y Rhaglen Diogelwch Adeiladau a materion diogelwch tân sy'n effeithio ar bobl Cymru.

Y Gweinidog Cabinet yn cyhoeddi Grant Larymau fel Mesur Interim Cymru

Y Gweinidog Cabinet yn cyhoeddi Grant Larymau fel Mesur  Interim Cymru

Mae Siân Gwenllian, y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, wedi cyhoeddi creu Grant Larymau fel Mesur Interim Cymru fel rhan o Raglen Cyweirio Diogelwch Adeiladau Cymru. 

Bydd hyn yn newyddion i'w groesawu i drigolion a lesddeiliaid adeiladau yn y rhaglen sy'n aml yn ysgwyddo costau mesurau interim drud tra bod gwaith i gyweirio diffygion diogelwch tân yn cael ei wneud.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet, Siân Gwenllian wrth y Senedd: 

"Rwyf wedi cael fy nghyffwrdd gan brofiadau lesddeiliaid sy'n talu costau gwylio a larymau drud, er mwyn eu galluogi i aros yn eu cartrefi tra bod gwaith cyweirio diogelwch tân yn digwydd. Rwy'n cyhoeddi creu Grant Larymau fel Mesur Interim Cymru, i roi llwybr i lesddeiliaid allan o'r costau cynyddol sy'n aml yn dod gyda gofynion gwylio effro ('waking watch') hirdymor, a'r pryder a'r straen a ddioddefir o ganlyniad i hynny." 

Er na fydd y Grant newydd yn talu costau gwylio effro, gobeithir y bydd yn lleihau'r angen amdanynt yn sylweddol trwy sicrhau bod lesddeiliaid yn gallu gosod system larwm briodol.

Mae rhagor o wybodaeth am gymhwystra a sut i wneud cais ar gael yma. Gellir gwneud ceisiadau am y Grant o 1 Hydref ymlaen.

Yr wybodaeth ddiweddaraf am Gyweirio

Data

Adroddir ar gynnydd cyweirio diogelwch tân yng Nghymru yn y Dangosfwrdd Cyweirio Diogelwch Adeiladau. Mae'r dangosfwrdd yn dwyn ynghyd wybodaeth am yr holl adeiladau yn Rhaglen Cyweirio Diogelwch Adeiladau Cymru, gan olrhain cynnydd o'r amser pan nodir yr angen i gyweirio, hyd at ei gwblhau.

Ar hyn o bryd mae'r tîm yn gweithio ar nifer o ddiweddariadau o ran ymarferoldeb a sut mae'r data yn cael eu cyflwyno ar y dangosfwrdd. Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno yn ystod y misoedd nesaf, ond yn gryno, byddant yn cynnwys:

  • Delwedd o'r cynnydd a wnaed dros y cyfnod blaenorol o 12 mis
  • Y gallu i weld data ar fap o Gymru ar gyfer pob categori o adeiladau
  • Manylion pellach am y mathau o waith diogelwch tân mewnol ac allanol a nodwyd.

Croesewir eich adborth ar y dangosfwrdd. E-bostiwch sylwadau ac awgrymiadau at: DiogelwchAdeiladau@llyw.cymru

Canllawiau contractau gwaith

Mae gwaith yn cael ei gwblhau ar ganllawiau i gefnogi endidau cyfrifol yng Nghymru i drafod contractau gwaith cyweirio. Bydd y canllawiau hyn yn cael eu cyhoeddi yr hydref hwn.

Bydd y Canllawiau yn helpu partïon i ddeall pwrpas contractau gwaith, y materion sy'n codi'n aml mewn trafodaethau, a'r egwyddorion a ddylai lywio cytundeb rhesymol a chytbwys. Bydd yn darparu cymalau safonol ar gyfer meysydd cynhwysiant cyffredinol. Fodd bynnag, nid disodli'r cyngor cyfreithiol a phroffesiynol pwrpasol sy'n ofynnol wrth drafod a chytuno ar gontractau gwaith penodol y mae'n ofynnol i'r Datblygwyr eu hariannu o dan gontract y datblygwr yw'r bwriad.

Yr wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio

Ar 10 Awst, lansiwyd ymgynghoriad ar reoliadau arfaethedig i ddynodi awdurdodau lleol fel Awdurdodau Diogelwch Adeiladu o dan Ddeddf Diogelwch Adeiladu (Cymru) 2026.

O dan Adran 122 o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru ddynodi un awdurdod lleol ym mhob ardal awdurdod tân ac achub i wasanaethu fel awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer y rhanbarth hwnnw

Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn gwahodd barn ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoliadau fydd yn dynodi'r awdurdodau lleol a fydd yn awdurdodau diogelwch adeiladau at ddibenion Deddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026. Mae'r ymgynghoriad hefyd yn gofyn a ddylid cynnwys unrhyw ddarpariaeth bellach yn y rheoliadau ynghylch arfer swyddogaethau gan awdurdod diogelwch adeiladau.

Gallwch gyflwyno eich sylwadau erbyn 16 Hydref 2022 mewn unrhyw un o'r ffyrdd isod:

  • lawrlwythwch a chwblhewch ein ffurflen ymateb a'i bostio i (dylech gynnwys y cyfeirnod WG54868):

    Tîm Diwygio Diogelwch Adeiladau
    Y Gyfarwyddiaeth Tai ac Adfywio
    Llywodraeth Cymru
    Parc Cathays
    Caerdydd
    CF10 3NQ

Dylunio ac Adeiladu

Rheoliadau newydd

Daeth rheoliadau sy'n cryfhau'r system rheoli adeiladu ar gyfer adeiladau risg uwch yng Nghymru, ochr yn ochr â diweddariadau ehangach i'r rheoliadau adeiladu presennol i rym ar 1 Gorffennaf 2026 ac maent yn cynnwys y diweddariadau allweddol canlynol:

  • Cyfrifoldebau a safonau cymhwysedd clir i'r rhai sy'n ymwneud â gwaith adeiladu (rolau deiliad dyletswydd ar gyfer Cleientiaid, Dylunwyr a Chontractwyr).
  • Hysbysiadau Cydymffurfio a Hysbysiadau Stop sy'n darparu pwerau gorfodi newydd i Awdurdodau Lleol o ran rheoli adeiladu
  • Cyflwyno Pyrth ar gyfer prosiectau adeiladu risg uwch sy'n creu atalfeydd caled lle na all gwaith adeiladu ddechrau heb gymeradwyaeth.
  • Llinyn Aur o wybodaeth adeiladu ar gyfer adeiladau risg uwch, gan sicrhau fod gwybodaeth diogelwch hanfodol o'r cam dylunio ac adeiladu yn cael ei chynnal ac yn hawdd ei chyrraedd.
  • Adrodd gorfodol am unrhyw ddigwyddiadau diogelwch sylweddol yn ystod gwaith ar adeiladau risg uwch.
  • Bydd cymeradwyaeth rheoli adeiladu nawr yn dod i ben yn awtomatig os nad yw'r gwaith yn dechrau o fewn tair blynedd.

Mae'r newidiadau hyn yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i wella diogelwch adeiladu i bawb ledled Cymru. Ceir canllawiau ar y rheoliadau yn y fan hon: Rheoliadau Adeiladu | Is-bwnc | LLYW.CYMRU

 
 
 

AMDANOM NI

Mynd i’r afael â materion diogelwch tân mewn adeiladau canolig ac uchel a diwygio’r system diogelwch adeiladu gyfredol, fel bod pobl yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/tai

 

Cysylltu:

BuildingSafety@llyw.cymru