Newyddlen Bwyd a Diod Cymru - Medi 2026

Medi 2026 • Rhifyn 045

 
 

Sorbed Fire and Ice yn cipio gwobr fawreddog Great Taste Golden Fork Cymru

Sorbed Fire and Ice yn cipio gwobr fawreddog Great Taste Golden Fork Cymru

Mae sorbed sy’n cael ei gynhyrchu yn Sir Benfro wedi ennill gwobr 'Great Taste Golden Fork Cymru’ ar gyfer 2026, sy’n ei gydnabod fel y cynnyrch Cymreig gorau ymhlith enillwyr gorau Gwobrau Great Taste eleni. 

Cafodd 'Golden Fork Cymru' ei dyfarnu i Fire and Ice am eu Sorbed Granadila mewn digwyddiad yn Llundain neithiwr, ar ôl cael ei ddewis o blith yr wyth cynnyrch Cymreig a dderbyniodd sgôr o 3 seren yng Ngwobrau Great Taste 2026. 

Mae Fire and Ice, o Arberth, Sir Benfro, wedi bod yn creu gelato a sorbed crefftus llwyddiannus ers 2011. Mae'r busnes teuluol wedi ennill enw da am wthio ffiniau blas trwy eu creadigaethau sorbed arloesol, tra'n hyrwyddo cynhwysion Cymreig o ansawdd uchel. 

Parhau i ddarllen...

Yn ôl i'r cynnwys

Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2025

Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2025

Rydym am eich atgoffa y bydd Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2025 ar gyfer ysgolion meithrin ac ysgolion cynradd a gynhelir yn dod i rym ar 31 Hydref 2026.

Mae'r Rheoliadau diwygiedig yn cryfhau'r gofynion ar gyfer dewisiadau iachach ar y fwydlen ac yn rhoi mwy o bwyslais ar leihau bwydydd sy'n uchel mewn braster, siwgr a halen, gan sicrhau bod dysgwyr yn cael mynediad at fwyd maethlon sy'n cefnogi eu hiechyd, eu lles a'u cyrhaeddiad.

Fel aelod gwerthfawr o'r gadwyn gyflenwi bwyd mewn ysgolion, bydd eich cefnogaeth yn hanfodol wrth helpu ysgolion a darparwyr arlwyo i sicrhau cydymffurfiaeth â'r safonau newydd.

Yn benodol, rydym am dynnu eich sylw at y gofynion maetholion wedi'u diweddaru ar gyfer siwgrau rhydd a welir yn y ddofgen ganllaw hon. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi comisiynu cyngor arbenigol ar faeth er mwyn helpu i weithredu’r Rheoliadau diwygiedig, sydd wedi canolbwyntio ar ddatblygu dull cyson o gyfrifo a chymhwyso gwerthoedd siwgrau rhydd o fewn dadansoddiad maeth bwydlen ysgol.

Rydym yn annog cyflenwyr i ddechrau trafodaethau gyda gwasanaethau arlwyo ysgolion yn syth i nodi cyfleoedd i gefnogi'r gwaith o gydymffurfio cyn eu gweithredu.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech drafod sut y gallech helpu i weithredu'r Rheoliadau, cysylltwch â BwydMewnYsgolion@llyw.cymru.

Yn ôl i'r cynnwys

Cyflenwyr Bwyd a Diod Cymreig ar gyfer Ysgolion

Cyflenwyr Bwyd a Diod Cymreig ar gyfer Ysgolion

Lawrlwythwch gyfeiriadur Blas Cymru / Taste Wales sy'n cynnwys cyflenwyr a all gefnogi ysgolion i ddod o hyd i gynhyrchion bwyd a diod o Gymru.

Blas Cymru / Taste Wales Cyfeirlyfr Addas i Ysgolion

Yn ôl i'r cynnwys

Paratowch ar gyfer B Corp: Cyfres o weminarau am ddim i fusnesau bwyd a diod yng Nghymru

Paratowch ar gyfer B Corp

A allai ardystiad B Corp helpu i baratoi eich busnes ar gyfer y dyfodol? Ymunwch â'n cyfres gweminarau i ddarganfod sut y gall fframwaith B Corp greu effaith gadarnhaol, creu gwerth parhaol a chefnogi llwyddiant hirdymor.

Mae ardystiad B Corp yn safon a gydnabyddir yn fyd-eang ar gyfer busnes cyfrifol, gan helpu sefydliadau i fesur a gwella eu heffaith gymdeithasol ac amgylcheddol wrth gryfhau atebolrwydd a thryloywder.

Wedi'i gynllunio ar gyfer busnesau bwyd a diod prysur, bydd pob gweminar yn darparu arweiniad ymarferol, enghreifftiau yn y byd go iawn a chamau nesaf clir i'ch helpu i wneud cynnydd ystyrlon.

Mae'r gyfres yn cychwyn ar 23 Medi gyda cyflwyniad i B Corp, sy'n cwmpasu'r broses ardystio, costau a manteision posibl. Mae sesiynau dilynol yn edrych yn fanylach ar feysydd craidd y fframwaith.

Gall busnesau fynychu sesiynau unigol neu ymuno â'r rhaglen lawn, gyda phob sesiwn yn cynnig mewnwelediadau ymarferol y gellir eu cymhwyso o fewn eich sefydliad.

A chofiwch, mae ein harbenigwyr wrth law i'ch cefnogi trwy gydol eich taith B Corp.

Cliciwch YMA i ymuno heddiw.

Yn ôl i'r cynnwys

Ydych chi'n dal i feddwl am ddatblygu Cynllun Lleihau Carbon ar gyfer eich busnes?

Ydych chi'n dal i feddwl am ddatblygu Cynllun Lleihau Carbon ar gyfer eich busnes?

Manteisiwch ar ein cymorth arbenigol AM DDIM a darganfod sut y gall Cynllun Lleihau Carbon fod o fudd i'ch sefydliad. Bydd ein harbenigwyr technegol yn gweithio'n agos gyda chi i ddeall sut mae eich busnes yn gweithredu a datblygu cynllun wedi'i deilwra sy'n nodi cyfleoedd ymarferol i leihau allyriadau, gwella effeithlonrwydd a chefnogi nodau cynaliadwyedd hirdymor.

Oeddech chi'n gwybod y gall Cynllun Lleihau Carbon hefyd helpu i leihau defnydd ynni a chostau gweithredu? Fel rhan o'r broses, bydd ein harbenigwyr yn ymweld â'ch safle, yn dadansoddi eich data ac yn nodi cyfleoedd i wella perfformiad, lleihau allyriadau carbon a chyflawni effeithlonrwydd a allai arbed arian i'ch sefydliad.

Mae mwy na 130 o fusnesau eisoes wedi elwa o ddatblygu Cynllun Lleihau Carbon. Clywch gan ddetholiad o fusnesau sydd wedi bod drwy'r broses a darganfyddwch yr effaith y mae wedi'i chael ar eu taith gynaliadwyedd. Helpu eich busnes bwyd a diod i ddatblygu cynllun lleihau carbon - Food & Drink Wales.

Darganfyddwch sut y gall eich busnes greu Cynllun Lleihau Carbon gyda chefnogaeth cynaliadwyedd arbenigol.

Yn ôl i'r cynnwys

A Wnaethoch Ei Golli? Adroddiad Monitro Risgiau Hinsawdd a Chadwyn Gyflenwi Bwyd a Diod wedi ei gyhoeddi

Adroddiad Monitro Risgiau Hinsawdd a Chadwyn Gyflenwi Bwyd a Diod wedi ei  gyhoeddi

Os wnaethoch ei golli dros yr haf, dyma’r amser i ddal i fyny. Mae’r Rhifyn diweddaraf o’r Adroddiad monitro chwarterol ar risgiau hinsawdd a chadwyn gyflenwi i’r Diwydiant Bwyd a Diod, a gyhoeddwyd drwy Wasanaeth Gwydnwch Hinsawdd Bwyd a Diod Cymru ac ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn darparu mewnwelediad hanfodol i’r heriau sy’n siapio’r sector.

Mae’r adroddiad yn archwilio’r prif risgiau o hanner cyntaf 2026, gan gynnwys effeithiau hinsawdd, ansicrwydd geopoliticaidd, anwadalrwydd prisiau nwyddau a tharfu ar gadwyni cyflenwi. Mae’n dangos sut mae digwyddiadau byd-eang yn effeithio’n gynyddol ar gostau bwyd, argaeledd cynhwysion a gweithrediadau busnes ledled Cymru.

Yn bwysicach fyth, mae’n cynnig camau ymarferol i helpu busnesau i adeiladu gwydnwch, cryfhau perthnasoedd â chyflenwyr a rheoli risgiau hinsawdd a chadwyn gyflenwi yn well.

Wedi’i amlygu yn Sioe Frenhinol Cymru, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at pam mae cynllunio rhagweithiol yn dod yn hanfodol i fusnesau bwyd a diod. Mae sefydliadau fel Castell Howell eisoes wedi defnyddio’r Gwasanaeth Gwydnwch Hinsawdd i ddeall risgiau yn well a chryfhau eu cadwyni cyflenwi.

Lawrlwythwch yr adroddiad heddiw a dechreuwch ddiogelu dyfodol eich busnes.

Bydd y rhifyn nesaf yn cael ei gyhoeddi ym mis Hydref, gan ddod â’r wybodaeth ddiweddaraf am risgiau a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg.

I ddysgu mwy am y Gwasanaeth Gwydnwch Hinsawdd, cysylltwch â bwyd-food@bic-innovation.com.

Yn ôl i'r cynnwys

Beth Wnaeth Tonnau Gwres yr Haf Hwn Ei Ddatgelu Am Eich Busnes?

Beth Wnaeth Tonnau Gwres yr Haf Hwn Ei Ddatgelu Am Eich Busnes?

Roedd tonnau gwres yr haf hwn yn atgoffa bod newid hinsawdd eisoes yn effeithio ar y sector bwyd a diod. O bwysau ar gnydau a anifeiliaid fferm  i heriau yn ymwneud â dŵr, cynhwysion a chludiant, mae tywydd eithafol yn creu risgiau wirioneddol i fusnesau heddiw.

Pa mor barod yw eich busnes?

Mae Gwasanaeth Gwydnwch Hinsawdd Bwyd a Diod Cymru yn annog cynhyrchwyr i gwblhau ei Hunanasesiad Cynaliadwyedd a Gwydnwch Hinsawdd rhad ac am ddim. Wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer busnesau bwyd a diod, mae’n darparu ffordd gyflym ac ymarferol o fesur eich gwydnwch i risgiau hinsawdd a chynaliadwyedd.

Drwy gwblhau’r asesiad gallwch:

  • Deall eich prif risgiau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd.
  • Sefydlu llinell sylfaen ar gyfer parodrwydd eich busnes i effeithiau hinsawdd.
  • Nodi camau blaenoriaeth i gryfhau gwydnwch a pharhad busnes.
  • Cefnogi cynllunio ar gyfer y dyfodol a phenderfyniadau buddsoddi.
  • Cael mynediad at gymorth wedi’i deilwra drwy’r Gwasanaeth Gwydnwch Hinsawdd.

Os ydych newydd ddechrau eich taith gynaliadwyedd neu eisoes yn gweithredu, bydd yr asesiad yn eich helpu i ddeall lle rydych yn sefyll a beth i’w wneud nesaf.

Mae tonnau gwres diweddar wedi dangos pa mor gyflym y gall tarfu ddigwydd. Treuliwch ychydig o funudau yn cwblhau’r asesiad heddiw a cymerwch y cam cyntaf tuag at adeiladu busnes mwy gwydn.

👉 Cymerwch yr Hunanasesiad Cynaliadwyedd a Gwydnwch Hinsawdd rhad ac am ddim nawr: Cwblhewch yr asesiad

Yn ôl i'r cynnwys

Trawsnewid bwyd dros ben yn gymorth i’r gymuned

Trawsnewid bwyd dros ben yn gymorth i’r gymuned

 

Gall busnesau bwyd a diod yng Nghymru helpu i leihau gwastraff bwyd a chefnogi cymunedau drwy roi bwyd dros ben i FareShare Cymru.

Mae FareShare Cymru yn casglu bwyd dros ben o ansawdd da gan fusnesau ac yn ei ailddosbarthu i elusennau, grwpiau cymunedol a phrosiectau bwyd ledled Cymru.

Gall rhoddion gynnwys cynnyrch ffres, cynnyrch llaeth, nwyddau becws a bwyd arall a allai gael ei wastraffu fel arall.

Gall busnesau gymryd rhan drwy gysylltu â FareShare Cymru i drafod y math a’r swm o fwyd dros ben sydd ar gael, trefniadau casglu a pha mor aml y gellir gwneud rhoddion. Gall FareShare Cymru helpu i nodi dull addas, boed rhoddion rheolaidd neu gyfraniadau pan fydd bwyd dros ben ar gael.

Mae Surplus with Purpose Cymru Fund yn helpu i ddileu’r rhwystrau ariannol sy’n gysylltiedig â rhoi bwyd dros ben, drwy dalu costau fel staffio, pecynnu a chludiant. Mae hyn yn galluogi busnesau bwyd cymwys yng Nghymru i roi bwyd dros ben am ddim.

Mae Surplus with Purpose Cymru Fund yn helpu i ddileu’r rhwystrau ariannol sy’n gysylltiedig â rhoi bwyd dros ben, drwy dalu costau fel staffio, pecynnu a chludiant. Mae hyn yn galluogi busnesau bwyd cymwys yng Nghymru i roi bwyd dros ben am ddim.

 

Rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026, helpodd y gronfa i achub dros 58 tunnell o gynnyrch Cymreig, gan gefnogi 186 o Aelodau Bwyd Cymunedol a darparu’r hyn sy’n cyfateb i 138,795 o brydau i tua 21,390 o bobl.

Surplus with Purpose Cymru Fund

Drwy weithio gyda FareShare Cymru, gall busnesau leihau gwastraff, dangos eu hymrwymiad i gynaliadwyedd a sicrhau bod bwyd da yn cyrraedd pobl a chymunedau ledled Cymru.

Mae’r gronfa bellach wedi’i hadnewyddu am dair blynedd arall, gan greu mwy o gyfleoedd i gynhyrchwyr Cymreig roi bwyd dros ben.

Dysgwch fwy yn Cydweithio i leihau gwastraff bwyd - Food & Drink Wales / FareShare Cymru , neu cysylltwch â swp@fareshare.cymru.

Yn ôl i'r cynnwys

Contractau Technoleg Amaeth-fwyd ar gyfer Her Innovation Cymru Prosiect arloesi sy'n llunio'r dyfodol yng Nghymru

Pennog Cyfyngedig

Adfer Maetholion ar gyfer Amaeth

Adfer Maetholion ar gyfer Amaeth

Mae Pennog wedi dangos technoleg sy'n berthnasol yn fasnachol ac sy'n gallu adfer mwy o faetholion o ffrydiau gwastraff, cynhyrchu cynhyrchion amaethyddol gwerthfawr a gwella ansawdd dŵr yn sylweddol.

Mae dŵr gwastraff o gynhyrchu bwyd, a slyris o ffermydd yn ffynonellau werthfawr o faetholion. Ond mae'r cyfeintiau uchel a gynhyrchir yn eu gwneud yn ddrud i'w storio a'u dosbarthu. Byddant yn aml yn cael eu gwahanu trwy ddefnyddio cemegau a/neu eu dargyfeirio i gynhyrchu ynni (e.e. treuliad anaerobig, bio-olosg) gyda cholled ganlynol yn eu potensial maetholion.

Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru ac mewn cydweithrediad â Contracts for Innovation Cymru, bu Pennog Ltd (t/a Pennotec) gyda Hufenfa De Arfon ac Arwerthwyr Bryncir i ddatblygu ac arddangos y defnydd o'r cynnyrch naturiol gwahanu solet/hylif 'chitosan' gyda chynnyrch arsugnydd newydd o gragen i droi dŵr gwastraff o gweithgynhyrchu caws a dŵr slyri yn wrteithiau sy'n llawn o faetholion a dŵr eithaf glân.

Mae technoleg Pennog i adfer maetholion fferm a bwyd, yn cynnwys flocculation efo chitosan, ac yna gwahanu solet/hylif trwy Dissolved Air Floatation (DAF) a peiriant dad-ddyfrio tonnau ac yn cynhyrchu cacen efo solidau uchel, cynnwys maetholion uchel.

Cafodd y dechnoleg hon ei arddangos yn llwyddiannus ar raddfa fasnachol yng ngwaith trin dŵr gwastraff Hufenfa De Arfon a gyda dŵr golchi lorïau ym Mart Bryncir. Roedd cynnwys Nitrogen a Ffosfforws solidau tail fferm wedi'u hadfer gan chitosan yn 70% a 40% yn uwch na heb chitosan. Roedd solidau a adferwyd o’r ffatri gaws wedi'u hadfer yn llawn o protein, braster a charbohydrad.

Gan weithredu mewn system colofn ar raddfa beilot, roedd adsorbant unigryw Pennog, wedi'i cynhyrchu o gregyn yn gallu lleihau COD, ffosffad a nitrogen yn sylweddol mewn all-lif dŵr ar wahân i lefelau ansawdd ymdrochi. Roedd maetholion yn adferadwy o'r golofn a gellid ailddefnyddio'r adsorbant sawl gwaith.

Mae gan yr ateb Economi Gylchol hwn, sydd i'w ddarparu i'r farchnad gan y chwaer-cwmni Pennosan Ltd., y potensial i leihau costau rheoli dŵr gwastraff a slyri yn sylweddol ar gyfer gweithgynhyrchwyr bwyd, ffermydd a marchnadoedd. Mae Pennog bellach yn ceisio codi buddsoddiant i gynyddu gweithgynhyrchu a defnyddio mewn systemau colofn ar raddfa fasnachol.

I ddysgu mwy, cysylltwch â enquiries@pennotec.com or  ContractsforInnovationCymru@wales.nhs.uk

Yn ôl i'r cynnwys

Cyfieithu am ddim i dy fusnes? Wel, Helo Blod.

Helo Blod

Mae Helo Blod yn wasanaeth cyflym a chyfeillgar sydd yma i dy gynghori di ar sut i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn dy fusnes. Ac mae’r cwbl am ddim!

Gyda'n gilydd gallwn weithio ar ddefnyddio mwy o Gymraeg yn dy fusnes.

Gall hynny fod yn gyngor ymarferol ar sut i farchnata a hyrwyddo dy fusnes, neu help i wneud y Gymraeg yn fwy gweledol yn dy siop, caffi, gweithdy neu ar dy wefan – mae Helo Blod yma i dy helpu!

Mae Helo Blod yn cynnig y gwasanaethau canlynol:

  • Cyfieithu am ddim – Gall Helo Blod gyfieithu hyd at 500 gair i’r Gymraeg bob mis, yn rhad ac am ddim.
  • Gwirio testun – Mae Helo Blod yn gallu gwirio 1,000 o eiriau bob blwyddyn am ddim, felly byddi di’n hyderus bod y deunydd rwyt ti’n ei ddefnyddio yn Gymraeg yn gywir. Rho gynnig arni!
  • Cyngor ac arweiniad – Mae Helo Blod yn cynnig cyngor ymarferol, arweiniad a chymorth i dy helpu i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn dy fusnes. Ac os oes angen unrhyw beth arall yn ychwanegol, fe wnaiff Helo Blod dy gyfeirio di at rywun fydd yn gallu helpu.
  • Nwyddau– Mae Helo Blod hefyd yn dosbarthu laniardiau a bathodynnau Iaith Gwaith sy’n nodi bod staff neu wirfoddolwyr yn siarad neu’n dysgu Cymraeg, yn ogystal ag arwyddion drws Ar Agor/Ar Gau dwyieithog.

Dod â phobl at ei gilydd.

Creu ewyllys da.

Cadw cwsmeriaid ffyddlon.

Mae defnyddio ychydig o Gymraeg yn mynd yn bell. Cer draw i’r wefan i ddarganfod mwy! gov.wales/heloblod/cy

Yn ôl i'r cynnwys

Rhannu diwylliant. Croesawu ac ysbrydoli. Dod yn Lysgennad Diwylliannol.

Llysgenhadon Diwylliannol

Mae’r cwrs Llysgenhadon Diwylliannol yn gyfle gwych i unrhyw un sy’n gweithio ym maes bwyd, diod a lletygarwch yng Nghymru ddatblygu eu sgiliau, ehangu eu rhwydwaith a chwarae rhan wrth hyrwyddo’r Gymraeg, diwylliant Cymru a’r hyn sy’n gwneud ein cymunedau yn unigryw. Mae’r cwrs ar gael ar-lein ac am ddim!

Mae busnesau bwyd a diod wrth galon ein cymunedau, gan gynnig profiadau sy’n adlewyrchu hanes, diwylliant a chymeriad lleol Cymru. Bydd y cwrs yn rhoi’r wybodaeth a’r hyder i chi rannu’r straeon hynny gyda chwsmeriaid ffyddlon, ac yn helpu i greu profiadau gwerth chweil a chofiadwy i ymwelwyr.

Gall y sgiliau hyn hefyd helpu busnesau i groesawu pobl sy’n symud i’n cymunedau, gan eu cyflwyno i’r Gymraeg, i ddiwylliant lleol ac i’r straeon sy’n gwneud pob ardal yn arbennig. Drwy wneud hynny, gall busnesau helpu pobl newydd i deimlo’n rhan o’r gymuned a chreu cysylltiadau cryfach rhwng trigolion, cwsmeriaid ac ymwelwyr.

Mae’r cwrs Llysgenhadon Diwylliannol yn cynnig:

  • Hyfforddiant am ddim – Dysgwch sut i hyrwyddo diwylliant lleol, ymgysylltu â chwsmeriaid ac arddangos yr hyn sy’n gwneud eich ardal yn arbennig.
  • Adeiladu hyder – Datblygwch yr hyder i rannu straeon am eich cymuned, y Gymraeg a threftadaeth ddiwylliannol Cymru.
  • Cyfle i rwydweithio – Dewch â phobl ynghyd drwy ddathlu ein diwylliant.

Gall pob busnes chwarae rhan wrth hyrwyddo’r hyn sy’n gwneud Cymru yn arbennig. Beth am ddod yn Lysgennad Diwylliannol a helpu i rannu stori eich cymuned â’r byd?

Ewch i’r wefan i ddarganfod mwy a chofrestru heddiw.

Cwrs Llysgenhadon Diwylliannol – Llysgenhadon Cymru

Yn ôl i'r cynnwys

Digwyddiadau

Cwrdd â'r Prynwr

Dydd Mercher 14eg - Dydd Iau 15 Hydref - Gwesty'r Tower of London, St Katherine's Way, Llundain.

Mae'r Gymdeithas Allforwyr Bwyd a Diod yn falch o gyflwyno digwyddiad prynwyr personol rhyngwladol bwyd a diod mwyaf y flwyddyn yn y DU!

Dyma'ch cyfle unigryw i gwrdd â 75 o brynwyr rhyngwladol o safon uchel wedi'u dewis yn ofalus o farchnadoedd byd-eang allweddol – i gyd yn hedfan i Lundain am ddau ddiwrnod llawn o gyfarfodydd 1:1 effaith uchel.

Bydd cwmnïau bwyd a diod gorau'r DU yn cysylltu mewn mwy na 2,000 o gyfarfodydd wedi'u targedu – gan greu partneriaethau newydd, sicrhau rhestrau a chyflymu twf allforio.

Darganfyddwch eich porth i 75+ o brynwyr byd-eang yn The Big Meet the Buyer, Llundain (14-15 Hydref 2026). Darganfyddwch fwy.(Saesneg yn unig)

Lawrlwythwch daflen y digwyddiad i gael manylion llawn y rhaglen, prynwyr a chyfleoedd rhwydweithio. (Saesneg yn unig)

Yn ôl i'r cynnwys

Gwefan Bwyd a Diod Cymru

Mae gwefan newydd Bwyd a Diod Cymru bellach yn fyw

Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod gwefan newydd Bwyd a Diod Cymru bellach yn fyw!

Mae'r wefan newydd yn darparu cartref ar-lein ffres i Fwyd a Diod Cymru, gan helpu ymwelwyr i ddarganfod mwy am ein gwaith a'u cadw mewn cysylltiad â'r diweddaraf o'r sector.

Bydd nodweddion a gwelliannau pellach hefyd yn cael eu hychwanegu dros yr wythnosau nesaf, gan gynnwys oriel dreigl sy'n gysylltiedig â'n porthiant cyfryngau cymdeithasol.

Dyma Bwyd a Diod. Gwlad, Gwlad. | Bwyd a Diod

Yn ôl i'r cynnwys

 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN

Cylchlythyr ar gyfer diwydiant bwyd a diod Cymru gyda newyddion, digwyddiadau a materion yn ymwneud â'r diwydiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/bwydadiodcymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@BwydaDiodCymru

 

Dilynwch ni ar Instagram:

Bwyd_a_Diod_Cymru

 

Dilynwch ni ar Facebook:

@bwydadiodcymru

 

Dilynwch ni ar LinkedIn

Bwyd a Diod Cymru | Food and Drink Wales