Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg wedi ymrwymo i ddarparu disgwyliadau cliriach a mwy o gymorth, a bydd yn cyhoeddi'r Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol yr wythnos nesaf.
Mae ymgynghoriad sy’n gofyn am farn ar ganllawiau ar gyfyngu ar ffonau symudol mewn ysgolion wedi cael ei lansio. Dylai ysgolion heb bolisi dechrau cynllunio nawr.
Bydd adnoddau cymorth ac astudiaethau achos yn dilyn. Mae'r ymgynghoriad yn cau 2 Rhagfyr 2026
Mae diweddariad y mis hwn yn tynnu ynghyd ystod o adnoddau, cyfleoedd dysgu proffesiynol ac enghreifftiau ymarferol i helpu gyda gwaith asesu yn y blynyddoedd cynnar.
Cofrestrwch ar gyfer Restart a Heart Live 2026 ar 1 Hydref. Sesiynau CPR ar-lein, am ddim, yn llawn hwyl i ddisgyblion trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Wedi’u cymeradwyo gan Cymwysterau Cymru, mae’r manylebau bellach ar gael i’w lawrlwytho er mwyn eu haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027, gan roi blwyddyn lawn i ysgolion a cholegau gynllunio a pharatoi i’w cyflwyno.
Mae STEM Learning yn chwilio am addysgwyr sy’n gweithio mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru i gael cymhorthdal o £200 am ymuno â'r rhaglen Addysgu Digidol gyda Hyder.
Mae'r arolwg wedi'i anelu at ddefnyddwyr AWCDS mewn ysgolion ac awdurdodau lleol, a'i nod yw cael adborth i'n helpu i ddeall sut y defnyddir yr adroddiadau data a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ac i nodi cyfleoedd i wella. Dylai'r arolwg gymryd tua 10-15 munud i'w gwblhau a bydd ar agor tan 13 Tachwedd 2026
Rydym yn ymgynghori ar gynlluniau i ymestyn cynllun y Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol yng Nghymru, sy'n golygu y byddant yn gallu cyflwyno cwynion sydd heb eu datrys yn yr un modd â myfyrwyr prifysgol. Mae'r ymgynghoriad 12 wythnos yn rhedeg o 1 Medi i 23 Tachwedd 2026
Mae tîm Code Club yn cynnal sesiynau hyfforddi undydd yng Nghaerdydd ac Abertawe i athrawon sydd am sefydlu Clwb Codio, ond nad ydynt yn gwybod ble i ddechrau. Cofrestrwch eich lle:
Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru. Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.