Bwletin Gwaith Ieuenctid: Medi 2026

Medi 2026

 
 

Astudiaethau achos newydd yn tynnu sylw at gyfraniad gwaith ieuenctid at Gymru decach

Cyhoeddwyd cyfres newydd o astudiaethau achos yn ddiweddar sy'n dangos sut mae gwaith ieuenctid yn cefnogi canlyniadau cadarnhaol i bobl ifanc ac yn cyfrannu at Gymru decach a mwy cynhwysol.

 

Mae'r astudiaethau achos yn dangos enghreifftiau o waith ieuenctid ar draws Cymru sy'n hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, yn herio agweddau ac ymddygiadau gwahaniaethol, ac yn cefnogi pobl ifanc i ddatblygu hyder, gwydnwch ac ymdeimlad cadarnhaol o hunaniaeth.

 

Archwiliwch yr astudiaethau achos drwy Hwb.

Silwetau haniaethol o broffiliau sy'n gorgyffwrdd mewn lliwiau amrywiol, sy'n cynrychioli amrywiaeth a chynhwysiant

Gwaith ieuenctid yng Nghymru: darparu ar gyfer pobl ifanc. Crynodeb i bobl ifanc (Iaith Arwyddion Prydain)

Dylid cynllunio a chyflwyno gwaith ieuenctid mewn partneriaeth â phobl ifanc, gan sicrhau y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau a dwyn y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i gyfrif o ran y gwasanaethau y maent yn eu derbyn.

Byddwn yn ddiolchgar pe gallech rannu Gwaith ieuenctid yng Nghymru: darparu ar gyfer pobl ifanc ar y cyd â’r fideo Iaith Arwyddion Prydain, sy’n dod gydag ef, yn eang ar draws eich rhwydweithiau i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd i gael pobl ifanc i gymryd rhan, ymgysylltu a dweud eu dweud.

Dechrau swydd gyntaf

Gall pobl ifanc sy’n dechrau eu swydd gyntaf fanteisio ar ganllaw newydd a gweithdai am ddim i’w cynorthwyo i fagu hyder, amddiffyn eu llesiant a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lewyrchu yn y gwaith.

Datblygwyd Llewyrchu yn y Gwaith, Canllaw i Bobl Ifanc gyda phobl ifanc a chyflogwyr i adlewyrchu’r profiadau a’r sialensiau go iawn sy’n wynebu pobl sy’n cychwyn yn y gweithle am y tro cyntaf. Mae’n manteisio ar waith ymchwil, gweithdai ac arolygon i sicrhau bod y cyngor yn ymarferol, yn berthnasol ac â’i wreiddiau mewn profiad byw.

Mae’r ‘gweithdai Barod i Lewyrchu’ ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed sydd ar fin dechrau eu swydd gyntaf neu sydd wedi dechrau gweithio’n ddiweddar. Maen nhw’n cynnig arweiniad a hyfforddiant gan Ymgynghorwyr Iechyd yn y Gweithle trwy sesiynau a gynorthwyir. Gellir cadw lle nawr trwy fynd i Cymru Iach ar Waith.

Os oes unrhyw gwestiwn gennych neu os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â iechydynygweithle@wales.nhs.uk

ERYICA

Mae Llywodraeth Cymru yn aelod llawn o Asiantaeth Gwybodaeth a Chwnsela Ieuenctid Ewrop (ERYICA) - sefydliad annibynnol sy'n cynnwys cyrff a rhwydweithiau cydlynu gwybodaeth ieuenctid cenedlaethol a rhanbarthol.

Drwy ei haelodaeth, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr â llywodraethau, sefydliadau gwybodaeth ieuenctid a rhwydweithiau o bob rhan o Ewrop i hyrwyddo hawl pobl ifanc i gael mynediad at wybodaeth ddibynadwy, annibynnol a chynhwysol.

Cenhadaeth ERYICA yw sicrhau bod gan bobl ifanc fynediad at wybodaeth gywir sy'n eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus.

Mae aelodaeth yn rhoi cyfleoedd i Lywodraeth Cymru - a sefydliadau ledled y sector gwaith Ieuenctid yng Nghymru – gydweithio gyda eraill ar draws Ewrop, rhannu dulliau Cymraeg o waith ieuenctid a darparu gwybodaeth i bobl ifanc, a dysgu o fentrau llwyddiannus mewn gwledydd eraill.

Cynhelir Cynulliad Cyffredinol Eithriadol ERYICA yn Nulyn ar 18 a 19 Tachwedd 2026. Bydd cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru yn bresennol ar ran sector gwaith ieuenctid Cymru.

Mae agenda ddrafft ar gyfer y digwyddiad ar gael yma a bydd yn cynnwys trafodaethau ar wybodaeth ieuenctid, cwnsela a democratiaeth; effaith a defnydd moesegol deallusrwydd artiffisial (AI); a gwybodaeth ieuenctid, cwnsela a chynhwysiant.

Os oes unrhyw flaenoriaethau, materion neu bwyntiau allweddol penodol yr hoffech eu codi yn ystod y trafodaethau, anfonwch y rhain at flwch negeseuon e-bost Gwaith Ieuenctid, sef GwaithIeuenctid@llyw.cymru, a byddwn yn ceisio ystyried y pwyntiau hyn yn ystod y trafodaethau lle bo'n briodol.

Casglu effeithiau mewn ffordd greadigol: sesiwn ar lein

Gwahoddir gweithwyr ieuenctid a phobl eraill sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phobl ifanc i sesiwn ryngweithiol ar-lein sy’n edrych ar ddulliau creadigol a chynhwysol o gasglu a thystiolaethu effeithiau. Bydd y sesiwn yn edrych ar ddulliau sy’n mynd y tu hwnt i arolygon a holiaduron traddodiadol, gan gynnwys ffotograffiaeth, fideo, sain, adrodd straeon digidol a gweithgareddau creadigol. Bydd yn archwilio dulliau sy’n cael eu harwain gan bobl ifanc hefyd, gyda chaniatâd, diogelu, hygyrchedd a chynhwysiant wrth galon y cyfan. Bydd y cyfranogwyr yn gadael â syniadau ymarferol y gallant eu haddasu i gryfhau eu gwaith gwerthuso, adrodd a gwella gwasanaethau yn eu lleoliadau gwaith ieuenctid.

Dyddiad: Dydd Mercher 04/11/2026 | Amser: 16:30 i 18:30 BST | Fformat: Ar lein 

I fynychu’r sesiwn yma, cadwch eich lle ar lein.

Modelau RoL: Archwilio’r Rheol Gyfreithiol

Ymgyrch DU-eang newydd wedi ei chreu gan bum Cennad Ieuenctid o Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol yw Modelau rôl. Mae’n rhoi cyfleoedd i bobl ifanc archwilio beth mae’r Rheol Gyfreithiol yn ei olygu iddyn nhw trwy greadigrwydd, trafod ac esiamplau o’r byd go iawn.

Agorodd y Sialens Modelau RoL ar gyfer pobl ifanc 11 i 16 oed ar 21 Medi, a bydd y Gystadleuaeth Modelau RoL i bobl ifanc 16 i 25 oed yn agor ar 14 Hydref. Gall pobl ifanc ymateb yn ysgrifenedig, trwy fideo, cyflwyniadau, gwaith celf a fformatau creadigol eraill. Bydd ceisiadau’n cau ar 4 Rhagfyr 2026, ac nid oes tâl am gymryd rhan.

Am ragor o fanylion: https://rolmodels.com

Troseddau casineb

Gall plant a phobl ifanc sy'n cael eu heffeithio gan droseddau casineb gael mynediad at gymorth cyfrinachol am ddim drwy Ganolfan Cymorth Casineb Cymru. Mae'r Ganolfan yn darparu cymorth emosiynol ac ymarferol, gwasanaethau diogelwch personol, eiriolaeth, a chymorth i lywio'r system cyfiawnder troseddol.

Yn ogystal â darparu cefnogaeth, mae'r Ganolfan yn cynnig gwasanaeth ar gyfer adrodd am droseddau casineb, er eu bod yn pwysleisio y dylai unigolion bob amser gysylltu â'r heddlu ar 999 mewn argyfwng.

Gellir cysylltu â'r Ganolfan 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn drwy eu gwefan, drwy ffonio 0300 3031 982, neu drwy e-bost.

Ydyn ni wir yn gwrando?

Mae ‘The Informed Perspective’ yn gwahodd pobl i gymryd rhan yn ei astudiaeth achos ‘Ydyn ni Wir yn Gwrando’, gan archwilio beth mae cael eich clywed a’ch deall yn ei olygu mewn byd o sgriniau, hysbysiadau ac amserlenni prysur. Mae’r arolwg ar lein dienw yn gofyn am brofiadau o wrando a chael clust i wrando gan deulu, ffrindiau a’r gymdeithas ehangach. Mae’n cymryd tua 7 i 10 munud i’w lenwi, ac mae cymryd ran yn hollol wirfoddol. Bydd y canfyddiadau’n cyfrannu at waith ymchwil sy’n archwilio safbwyntiau a phrofiadau pobl o gael eu clywed.

Peidiwch â cholli’r cyfle i ddweud eich dweud – llenwch yr arolwg heddiw!

Academi Hyfforddiant Gwaith Ieuenctid Cymru

Mae Academi Hyfforddiant Gwaith Ieuenctid Cymru’n cynorthwyo gweithwyr ieuenctid ar bob cam ar eu siwrnai, gan gynnig hyfforddiant, adnoddau a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau a magu hyder. Gan weithio gyda phartneriaid ar draws Cymru, nod yr Academi yw gwneud dysgu’n hwylus, yn ymarferol ac yn berthnasol i’r sialensiau y mae gweithwyr ieuenctid yn eu hwynebu. Mae’r rhaglen yn agored i’r rhai sy’n dechrau yn y byd gwaith ieuenctid yn ogystal ag ymarferwyr profiadol sydd am adeiladu ar eu gwybodaeth a’u harferion.

 

Dyma rhai o’r digwyddiadau a’r cyfleoedd sydd ar y gweill.

Logo Academi Hyfforddiant Gwaith Ieuenctid Cymru

Pasbort Cydymffurfiaeth Bwyd a Diod am Ddim yng Nghymru

Pecyn o hyfforddiant â’r nod o ddarparu gwybodaeth hanfodol i  ddysgwyr ar weithio’n ddiogel yn y sector bwyd a diod yw’r Pasbort Cydymffurfiaeth Bwyd a Diod. Mae’n cwmpasu Diogelwch Bwyd, Iechyd a Diogelwch HACC ac Ymwybyddiaeth am Alergenau, gan helpu’r rhai sy’n cymryd rhan i ddeall sut i drin bwyd yn ddiogel, iechyd a diogelwch yn y gweithle, a rheoli risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd.

Mae’r Pasbort ar gael am ddim yng Nghymru, ac mae yna 350 o drwyddedau wedi eu hariannu gan Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Argymhellir bod y cynllun yn addas ar gyfer pobl ifanc dros 14 oed, ond nid oes yna isafswm oedran swyddogol. Gall yr hyfforddiant gynorthwyo cyflogadwyedd a darparu sgiliau defnyddiol ar gyfer lleoliadau ieuenctid o gylch coginio, paratoi bwyd a bwyta’n iach.  

I ofyn am drwydded am ddim, e-bostiwch: info@nsafd.co.uk

Rhannu straeon am waith ieuenctid o bob rhan o Gymru

Mae tîm Marchnata a Chyfathrebu Youth Cymru yn casglu straeon go iawn sy’n dangos y gwahaniaeth cadarnhaol y mae gwaith ieuenctid yn ei wneud i bobl ifanc a chymunedau ar draws Cymru. Gallai cyfraniadau gynnwys straeon byrion, dyfyniadau, ffotograffau, fideos neu esiamplau o arfer da. Gall rhannu’r profiadau hyn helpu i ddangos effaith ac amrywiaeth gwaith ieuenctid ar draws y sector. Anogir sefydliadau ac ymarferwyr gwaith ieuenctid i gyfrannu straeon ac esiamplau y gellir eu rhannu trwy gysylltiadau yn y dyfodol.

Manylion Cyswllt: GICYWW@youthcymru.org.uk

Ymunwch â grŵp WhatsApp Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Gwahoddir y sector i ymuno â grŵp WhatsApp Gwaith Ieuenctid yng Nghymru i dderbyn diweddariadau a manylion cyfleoedd sy’n codi. Sganiwch y cod QR isod gan ddefnyddio camera WhatsApp i ymuno â’r grŵp.

Cod QR

Sglefrio Hwyrnos 2026: Tocynnau Cyw Cynnar ar gael Nawr

Mae Sglefrio Hwyrnos 2026 ar y gorwel, ac mae tocynnau Cyw Cynnar £12 ar gael nawr am gyfnod cyfyngedig

Bydd yr achlysur yn dod â phobl ifanc o bob rhan o Gymru ynghyd am noswaith o sglefrio, cerddoriaeth, goleuadau, gemau ac adloniant. Mae’n bosibl y bydd y bobl ifanc a fynychodd Sglefrio Hwyrnos 2025 wedi cael mynediad cynnar cyn i’r tocynnau fynd ar werth. Croeso i grwpiau ieuenctid, ac ni chodir tâl ar weithwyr ieuenctid a gwirfoddolwyr nad ydynt yn sglefrio sy’n dod yn gwmni i’w grŵp. Disgwylir i’r tocynnau werthu’n gyflym, felly bwciwch yn gynnar os oes modd.

Archebwch naw

Dyddiad: Dydd Gwener 4/12/2026 | Amser: 22:30pm i 01:30am

Tocynnau cyw cynnar: £12 | Cynulleidfa: Pobl ifanc a grwpiau ieuenctid

Cyfrannu at y Bwletin  

Mae Youth Cymru yn cydweithio â phartneriaid ar draws y sector i ddod o hyd i gynnwys sy’n gynrychioliadol ac yn eang. Anogir sefydliadau i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf berthnasol, cyfleoedd a straeon newyddion da sy'n cefnogi blaenoriaethau gwaith ieuenctid cenedlaethol.   

Bydd rhagor o fanylion am amserlenni a gofynion cyflwyno yn cael eu rhannu cyn pob rhifyn.   

Os hoffech gyfrannu at fwletin yn y dyfodol, cofiwch anfon e-bost atom. Cewch ganllaw arddull a gwybodaeth am y nifer geiriau ar gyfer pob adran.   

Dylid anfon y cynnwys at GICYWW@youthcymru.org.uk     

Gallwch ddilyn y manylion diweddaraf ar Facebook: https://www.facebook.com/GIC.YWW    

Dyddiad cau ar gyfer y bwletin nesaf: A fyddech cystal â chyflwyno cynnwys erbyn 26 Hydref 2026.  

banner

Cysylltwch â ni

Cysylltwch drwy e-bost (gwaithieuenctid@llyw.cymru) os ydych am gyfrannu at y cylchlythyr nesaf. Byddwn yn darparu canllaw arddull ar gyfer cyflwyno erthyglau i ni, gyda gwybodaeth am nifer geiriau erthyglau ar gyfer y gwahanol adrannau.

Cofiwch ddefnyddio #GwaithIeuenctidCymru #YouthWorkinWales wrth drydar i godi proffil Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Dilynwch @ieuenctidcymru ar X a Facebook i gadw i fyny gyda'r holl newyddion.

Ydych chi wedi Tanysgrifio i'r Bwletin Gwaith Ieuenctid? Cofrestrwch yn sydyn yma

 
 
 

AMDANOM NI

Cyhoeddir y cylchlythyr bob 4 mis i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i'r sector gwaith ieuenctid.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/gwaith-ieuenctid-ac-ymgysylltu

 

Cysylltwch â ni:

gwaithieuenctid@llyw.cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@IeuenctidCymru