Byddwn yn dod â'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am drethi datganoledig Cymru, cofrestru llety ymwelwyr a'r Ardoll Ymwelwyr, yn ogystal â dyddiadau cau allweddol ac adnoddau defnyddiol.
Ymunwch â Bwrdd ACC a helpwch ni i ysgrifennu ein pennod nesaf
Rydym yn recriwtio 2 Aelod Anweithredol o'r Bwrdd i ymuno â ni yn Awdurdod Cyllid Cymru. Rydym yn chwilio am syniadau, safbwyntiau a phrofiad newydd, ar adeg pan rydyn ni’n esblygu fel awdurdod treth modern ac yn lansio gwasanaethau newydd.
Erioed wedi bod yn aelod o fwrdd o'r blaen? Byddem yn dal i fod wrth ein boddau’n clywed gennych chi.
Mae’r rhain yn Benodiadau Cyhoeddus a wneir gan y Gweinidog Cabinet dros Gyllid.
Paratowch ar gyfer Ardoll Ymwelwyr: ymunwch â sesiwn wyneb-yn-wyneb neu sesiwn ar-lein
Dim ond mis sydd nes bydd rhaid i ddarparwyr llety yng Nghaerdydd ddechrau rhoi cyfrif am yr Ardoll Ymwelwyr. Gan ddechrau ar 28 Medi, bydd yr ardoll yn berthnasol i bob archeb newydd yn ogystal ag unrhyw nosweithiau neu ymwelwyr sy’n cael eu hychwanegu at archebion sydd eisoes wedi’u gwneud ar gyfer arosiadau o 1 Ebrill 2027 ymlaen.Mae Cyngor Caerdydd ac Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn cynnal sesiynau rhad ac am ddim ym mis Medi i helpu darparwyr llety ymwelwyr baratoi ar gyfer Ardoll Ymwelwyr.
Bydd y sesiynau hyn yn rhoi:
trosolwg o'r hyn y mae'r Ardoll Ymwelwyr yn ei olygu i'ch busnes chi
canllawiau ymarferol ar yr hyn sydd angen i chi ei wneud er mwyn paratoi
Roedd gennym ni stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Benfro eleni, a oedd yn dathlu 850 mlynedd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf. Dyma ein hail flwyddyn ar y Maes, a'n presenoldeb mwyaf hyd yma.
Diolch yn fawr i bawb a ddaeth i’n gweld ar y stondin yn ystod yr wythnos. Gwych oedd sgwrsio yn Gymraeg â chynifer o bobl, a chael rhannu gwybodaeth am ein gwasanaethau a chlywed eich barn.
Digwyddiad treth am ddim yng Nghaerdydd
Rydym yn cynnal fforwm treth rhad ac am ddim ar gyfer cyfreithwyr, trawsgludwyr, a'u timau. Cynhelir y digwyddiad yng Nghaerdydd ddydd Mawrth 22 Medi. Byddwn yn ymdrin â phynciau’n ymwneud â’r Dreth Trafodiadau Tir gan gynnwys addas i'w ddefnyddio, trosglwyddo ecwiti a gwallau cyffredin mewn trafodiadau cyfraddau uwch.
Dysgu a gweithredu, ein taith ymchwil defnyddwyr Ardoll Ymwelwyr
Rydym yn datblygu gwasanaeth i alluogi darparwyr llety ymwelwyr ffeilio a thalu Ardoll Ymwelwyr.
Cyn iddo gael ei lansio, mae ein tîm ymchwil defnyddwyr wedi bod yn siarad yn uniongyrchol â darparwyr llety i ddeall eu hanghenion ac i greu gwasanaeth sy'n gweithio iddyn nhw. Mae’n Ymchwilydd Defnyddwyr Sarah wedi rhannu'r hyn y mae hi wedi'i ddysgu hyd yn hyn, a pham fod symlrwydd wedi dod yn egwyddor canolog yn nyluniad y gwasanaeth.
Ymunodd Manon a Claire o ACC â Chyngor Caerdydd i ddosbarthu taflenni i fusnesau lleol ac i wella ymwybyddiaeth pobl o'r Ardoll Ymwelwyr.
Buom siarad â darparwyr llety ymwelwyr er mwyn dysgu am eu profiadau ac ateb eu cwestiynau am yr ardoll. Mae gwrando ar fusnesau yn ein helpu i ddarparu'r wybodaeth a'r gefnogaeth y mae arnyn nhw eu hangen i baratoi.
Ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi: Ebrill i Fehefin 2026
Rydym wedi cyhoeddi’r ystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi diweddaraf, ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill a Mehefin 2026.
Roedd £6.9 miliwn o dreth yn ddyledus ar gyfer y chwarter – 28% yn is na'r un adeg y llynedd, a'r ffigwr isaf mewn 5 mlynedd ar gyfer chwarter Ebrill i Fehefin. Y prif reswm dros hyn oedd gostyngiad yn faint o wastraff cyfradd safonol a anfonwyd i safleoedd tirlenwi.
“Yn Ebrill i Fehefin, y Dreth Gwarediadau Tirlenwi a oedd yn ddyledus oedd £6.9 miliwn. Mae’r dreth a oedd yn ddyledus 28% yn is na’r un cyfnod flwyddyn ynghynt a'r ffigur isaf a welwyd ar gyfer chwarter Ebrill i Fehefin yn y 5 mlynedd diwethaf. Gostyngiad ym mhwysau gwarediadau cyfradd safonol y chwarter hwn ers blwyddyn ynghynt oedd yn bennaf gyfrifol am y gostyngiad yn y dreth a oedd yn ddyledus.”
Mae ein tîm yn tyfu, ac mae sawl swydd wag i’w chael ar draws y sefydliad. Os ydych yn awyddus i ddechrau gyrfa newydd neu i ddefnyddio eich profiad mewn her newydd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.